Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys Thomas gysylltiad personol ag eitem rhif 10 ar y rhaglen, (Penodi Cyfarwyddwr i Fwrdd Hamdden Sir Ddinbych) gan eu bod yn aelodau o’r Bwrdd.

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 207 KB

Penodi Cadeirydd y Cyngor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes adroddiad penodi Cadeirydd y Cyngor Sir (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd ethol Cadeirydd yn angenrheidiol yn dilyn marwolaeth drist Cadeirydd y Cyngor, Pete Prendergast.

 

Enwebodd y Cynghorydd Hugh Irving y Cynghorydd Peter Scott i fod yn Gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023-2024 , ac fe eiliodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Ni chafwyd rhagor o enwebiadau.

 

Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r Cynghorydd Peter Scott.

 

Datganodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod yn derbyn swydd y Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Peter Scott yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023- 2024.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Ar y pwynt hwn, talodd Aelodau Grwpiau deyrnged i’r diweddar Gadeirydd, y Cynghorydd Pete Prendergast fu farw’n ddiweddar.  

 

Talodd y Cynghorydd Diane King deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Pete Prendergast hefyd, gan ei bod yn ffrind iddo ers sawl blwyddyn, a’i gymar yn ystod ei amser fel Cadeirydd i’r Cyngor.

 

Talodd y Cynghorydd Peter Scott deyrnged dwymgalon i’r diweddar Gynghorydd Prendergast, yn arbennig gan iddo golli ei wraig yn ddiweddar hefyd, a diolchodd i’r Cynghorydd Prendergast am ei garedigrwydd tuag ato a’i wraig yn ystod yr amser anodd iawn hwnnw.

 

Cynhaliwyd myfyrdod tawel er cof am y Cynghorydd Pete Prendergast.

 

5.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott am enwebiadau ar gyfer penodi Is-gadeirydd newydd i’r Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023 - 2024.

 

Cynigodd y Cynghorydd Gill German y Cynghorydd Diane King, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Delyth Jones,

 

Ni chafwyd rhagor o enwebiadau.

 

Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r Cynghorydd Diane King.

 

Datganodd y Cynghorydd Diane King ei bod yn derbyn swydd yr Is-gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Diane King yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023- 2024.

 

6.

Cofnodion pdf eicon PDF 420 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 5 Medi 2023 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023.

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 23 - Nododd y Cynghorydd Huw Williams, yn dilyn ei Rhybudd o Gynnig yn y cyfarfod, ei fod wedi siomi nad oedd camau gorfodi wedi cael eu cymryd, a nad oedd y Rhybuddion o Gynnig sy’n cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd yn cael eu dilyn.  Mae llawer o waith ymchwilio yn cael ei gynnal ar gyfer Rhybudd o Gynnig, ac os yw’n cael ei basio yn y Cyngor, mae angen dilyn ar hyn. 

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 12 - Gofynnodd y Cynghorydd Terry Mendies a oedd ymateb ysgrifenedig wedi cael ei ddarparu i’r Cynghorydd Chris Evans yn dilyn ei gwestiwn a’i gwestiwn ategol a ofynnwyd yn y cyfarfod.  Os na anfonwyd ymateb, pryd y dylid ei ddisgwyl?

 

Ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, yn anffodus, roedd wedi cymryd amser i gael y wybodaeth gan y swyddogion priodol yn Llywodraeth Cymru.  Ymddiheurodd y Cynghorydd McLellan i’r Cynghorydd Evans am yr oedi i’w ymateb.

 

Anfonwyd ymateb i’r Cynghorydd Evans a oedd yn amlinellu’r safle mewn perthynas â’r arian a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ar gyfer mesurau Covid, a’r arian a ddefnyddiwyd drwy gydol y pandemig ar gyfer y prosiectau refeniw a chyfalaf.  Yn anffodus, hysbysodd Llywodraeth y DU Lywodraeth Cymru, na fyddai’r swm dan sylw, £155 miliwn yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf, megis pont Llannerch, a thynnodd yr arian yn ôl.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023 fel cofnod cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) i’w gyflwyno i’r Cyngor Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, David Stewart, Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w adrodd i’r Cyngor, mewn perthynas â gwaith y Pwyllgor ar gyfer blynyddoedd dinesig 2020/21, 2021/22 a 2022/23.

 

Roedd gofyn statudol i'r Cyngor, dan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011, fel y’i diwygiwyd fod â Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Y Pwyllgor yw pwyllgor dynodedig y Cyngor at y diben hwn. 

 

Y Pwyllgor hefyd oedd y corff a oedd yn gyfrifol am adolygu’r Cyfansoddiad.

 

Cyn mis Mai 2022, roedd y Pwyllgor yn cynnwys chwe aelod etholedig ac aelod lleyg.  Cadeirydd y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw oedd Barry Mellor.  Diolchodd y Cadeirydd presennol, David Stewart, i’r Cynghorydd Mellor am ei waith yn ystod ei amser fel Cadeirydd.

 

Fe ddiwygiodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y safle, ac mae gofyn cyfreithiol bod traean o aelodau’r Pwyllgor yn aelodau lleyg erbyn hyn.  O ganlyniad, mae angen chwe aelod etholedig ar y Pwyllgor a thri aelod lleyg.  Roedd gofyniad statudol bod Cadeirydd y Pwyllgor yn aelod lleyg, sef David Stewart.

 

Yn ystod y drafodaeth gryno honno, cadarnhawyd y byddai’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ar raglen y Grŵp Panel Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn y dyfodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd David Stewart i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am ei gwaith i gyd.

 

PENDERFYNWYD

(i)            Bod y Cyngor yn parhau i ystyried pwysigrwydd llywodraethu corfforaethol da, ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, yn enwedig -

·         Effeithiolrwydd parhaus y gofrestr risg gorfforaethol

·         Pryderon y Pwyllgor ynghylch effeithiau posib ar ddarpariaeth gwasanaeth a swyddogaethau llywodraethu allweddol o ran anawsterau yn y maes recriwtio a chadw staff.

·         Pwysigrwydd y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol.

 

8.

DATGANIAD O EGWYDDORION TRWYDDEDU DEDDF GAMBLO 2005 DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Trwyddedu (copi ynghlwm), i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu Deddf Gamblo 2005 Diwygiedig Arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, y Cynghorydd Win Mullen-James, adroddiad Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu Deddf Gamblo 2005 Diwygiedig Arfaethedig (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i wneud cais i aelodau fabwysiadu’r Egwyddorion yn ffurfiol.

 

Gall gamblo fod yn gaethiwus ac arwain at unigolion yn dod yn gamblwyr â phroblem, lle byddai’r gweithgaredd yn amharu neu’n cyfaddawdu eu bywydau a bywydau eu teuluoedd.  Roedd gamblo problemus yn cael effaith ar deuluoedd, cymunedau a gwasanaethau iechyd.

 

Yn gyfreithiol, ac yn unol â’r Canllawiau a rannwyd gan y Comisiwn Gamblo, roedd gofyn i’r Cyngor ymgynghori ar, a rhannu Datganiad o Egwyddorion Gamblo bob tair blynedd.

 

Ar 7 Rhagfyr, 2022, cymeradwywyd y Datganiad diwygiedig o Egwyddorion Gamblo gan aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer ymgynghoriad statudol.  O ganlyniad i’r ymgynghoriad, ni dderbyniwyd sylwadau, ac felly fe’i gyfeiriwyd at y Cyngor Llawn am gymeradwyaeth.

 

Nid oedd y Cyngor wedi cael unrhyw her gyfreithiol i’r Egwyddorion presennol, ac nid oedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi cael unrhyw sylwadau negyddol gan y Diwydiant Trwyddedig Gamblo neu Broffesiwn Cyfreithiol ynglŷn â’r cynnwys.  Felly ni chynigiwyd newidiadau sylweddol i’r Egwyddorion diwygiedig, rhywbeth a gefnogwyd gan y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Yn ystod y trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol –

(i)            Cadarnhawyd bod y trwyddedau wedi cael eu hadnewyddu’n flynyddol, a roddodd gyfle i nodi’r peiriannau gamblo ymhob safle. 

(ii)          O fewn yr Adroddiad Asesiad o’r Effaith, marciwyd Sir Ddinbych Ffyniannus a Sir Ddinbych Iachach yn Gadarnhaol.  Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young a oedd hyn yn briodol, yn arbennig o wybod y problemau y mae dibyniaeth gamblo wedi’i achosi.

Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Emlyn Jones, gan ddweud fod ystyriaeth ofalus wedi cael ei chymryd mewn perthynas â risgiau ac effeithiau andwyol gweithgareddau gamblo pan nad oeddent yn cael eu rheoli’n dda.   Cadarnhawyd y byddai’n nodi pwynt y Cynghorydd Young ac adolygu’r WBIA.

(iii)         O fewn y Polisi, un o’r amcanion oedd lleihau trosedd neu osgoi gweithgarwch troseddol i warchod pobl ddiamddiffyn.  Dan “gwarchod pobl ddiamddiffyn” roedd yn nodi, “pobl nad ydynt efallai’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus neu gytbwys am gamblo oherwydd amhariad meddyliol, alcohol neu gyffuriau”.  Codwyd cwestiwn ynghylch pam fyddai peiriannau gamblo yn cael eu lleoli mewn safleoedd sy’n gwerthu alcohol, a pham ddylai’r math hwn o sefydliad gael caniatâd i ddefnyddio peiriannau o’r fath?

Cadarnhawyd bod yr Awdurdod Lleol wedi cael ei lywio gan y ddeddfwriaeth a chod ymarfer a oedd wedi eu gosod gan Lywodraeth y DU.   Yr eiddo unigol sydd â’r cyfrifoldeb o reoli’r peiriannau gamblo.  Roedd gofyn iddynt sicrhau bod arwyddion priodol yn cael eu harddangos ac nad oedd plant dan 18 oed yn cael mynediad at y peiriannau.

(iv)         Yr Asiantaeth Adfer Caethiwed oedd yr elusen a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan i ddarparu cymorth a chefnogaeth brys i bobl sy’n dioddef o ddibyniaeth gamblo a’r effeithiau a allai achosi.  Roedd lles preswylwyr yn hollbwysig ac fe gadarnhaodd swyddogion y byddant yn trafod gydag Asiantaethau i sicrhau y byddai cymorth ar gael.

 

Yn dilyn cytundeb unfrydol i’r adroddiad - 

 

PENDERFYNWYD

(i)            Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Datganiad o Egwyddorion Gamblo Diwygiedig Drafft yn ffurfiol (Atodiad 1).

(ii)          Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

9.

DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 312 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Trwyddedu (copi ynghlwm), i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Trwyddedu Diwygiedig Arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, y Cynghorydd Win Mullen-James, yr adroddiad o Ddatganiad Polisi Trwyddedu Diwygiedig Arfaethedig (dosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn i aelodau fabwysiadu’r Polisi’n ffurfiol.

 

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn rheoleiddio gwerthiant a chyflenwad alcohol, darparu adloniant wedi'i reoleiddio a gwerthiant a chyflenwad lluniaeth hwyr y nos.  Yr Awdurdod Trwyddedu, sef y Cyngor, oedd yn gyfrifoldeb am weinyddu a gorfodi trwyddedu’r gweithgareddau uchod, ac roedd yn cael eu cyflawni trwy’r gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.

 

Mae deddfwriaeth, ynghyd â’r Datganiad Polisi Trwyddedu, yn anelu i ostwng niwed a niwsans wrth sicrhau tegwch i fusnesau. 

 

Fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, ac yn unol â’r Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 182 o’r Ddeddf, roedd yn ofyniad ar y Cyngor i ymgynghori ar, a pharatoi Datganiad o Bolisi Trwyddedu bob pum mlynedd.

 

Cadarnhaodd Swyddogion bod gwiriadau ar y safle yn cael eu cynnal i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei dilyn.   Estynnwyd gwahoddiad i aelodau fynychu gwiriadau ar y safle yn y dyfodol, a oedd fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod nosweithiau, fel bod modd asesu’r broses.

 

Yn dilyn trafodaeth -

 

PENDERFYNWYD

(i)            Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft diwygiedig yn ffurfiol (Atodiad 1).

(ii)          Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

10.

HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG - PENODI CYFARWYDDWR pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) yn gofyn i'r Cyngor benodi Cyfarwyddwr newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr DLL yn dilyn marwolaeth drist y cyn Gynghorydd Peter Prendergast.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys Thomas gysylltiad personol yn yr eitem hon gan eu bod yn aelodau o’r Bwrdd.

 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad Penodi Cyfarwyddwr - Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes, Gary Williams, wrth y Cyngor: yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Pete Prendergast, bod angen llenwi sedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych gan aelodau etholedig nad ydynt yn aelod o’r Cabinet.

 

Enwebodd y Cynghorydd Julie Matthews y Cynghorydd Diane King, ac fe eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday.

 

Enwebodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y Cynghorydd Bobby Feeley, ac eiliodd y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn -

Y Cynghorydd Diane King - 24

Y Cynghorydd Bobby Feeley - 19

 

Felly

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Diane King yn cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych (HSDd).

 

11.

PENODI AELOD I BANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Aelod etholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews, adroddiad Penodi Aelod i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes fod penodi cynrychiolydd i fod yn aelod o’r Panel yn swyddogaeth sydd gan y Cyngor.  Penodiad blaenorol y Cyngor i’r Panel oedd y diweddar Gynghorydd Pete Prendergast.

 

Gall pob un o chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru enwebu aelod neu aelodau i eistedd ar y Panel.  Mae nifer y seddi a ddyrennir i bob awdurdod lleol yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol a gwasgariad y boblogaeth ar draws gogledd Cymru gyfan. Defnyddir methodoleg D’Hondt i bennu sawl sedd a ddyrennir i bob awdurdod lleol ac i ba grŵp/grwpiau gwleidyddol y maent yn berthnasol.

 

Yn seiliedig ar y boblogaeth, byddai Sir Ddinbych yn penodi 1 aelod o’r Grŵp Llafur.

 

Enwebodd yr Arweinydd sef y Cynghorydd Jason McLellan y Cynghorydd Diane King ar ran y Grŵp Llafur, ac eiliodd y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Cytunwyd yn unfrydol bod y Cynghorydd King yn cael eu phenodi i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Diane King i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar gyfer tymor hwn y Cyngor.

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 411 KB

Ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol (copi ynghlwm) y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Gweithdy’r Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, Gary Williams Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor, a Gweithdy Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.30AM.