Agenda and draft minutes
Lleoliad: yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 24 Mai
2022. PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion
cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 yn gofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 336 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer
Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Sesiynau Briffio'r Cyngor. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol ag Adran
100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 y dylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r
cyfarfod tra bydd yr eitemau busnes canlynol yn cael eu hystyried oherwydd ei
bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig (fel y diffinnir ym Mharagraff 12 a
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf) yn cael ei datgelu. Dogfennau ychwanegol: |
|
PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: LLYWODRAETHU A BUSNES Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried gwneud penodiad i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes. Bydd nifer yr ymgeiswyr i’w cyfweld yn cael ei bennu gan Banel Penodiadau Arbennig. Cofnodion: Hysbysodd Arweinydd y Cyngor
a'r Rheolwr Gwasanaethau AD yr aelodau o'r Panel Penodiadau Arbennig a
gweithgareddau'r ganolfan asesu a ddefnyddiwyd i werthuso'r ymgeiswyr. Roedd y
Panel wedi nodi un ymgeisydd a allai fod yn addas i'w benodi ac a oedd felly
wedi'i wahodd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw. Rhoddodd yr ymgeisydd
gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau. PENDERFYNWYD – penodi Gary
Williams i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes. |
|
PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: ECONOMI A'R AMGYLCHEDD Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried gwneud penodiad i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd. Bydd nifer yr ymgeiswyr i’w cyfweld yn cael ei bennu gan Banel Penodiadau Arbennig. Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor
yr eitem hon ac adroddodd fod y Panel Penodiadau Arbennig wedi nodi dau
ymgeisydd i'w rhoi ar y rhestr fer a'u gwahodd i fynychu'r Cyngor heddiw. Rhoddodd y ddau ymgeisydd
gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau; cafodd y
ddau ymgeisydd yr un cwestiynau. PENDERFYNWYD – penodi Tony
Ward i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi. |