Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via Zoom

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol yn eitem 5, Cyllideb 2021/22 – Cynigion Terfynol gan ei fod ar Fwrdd yr Awdurdod Tân.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Ar y pwynt hwn, ar ran y Cyngor Llawn, gwnaeth y Cadeirydd longyfarch Ann Jones, Aelod o’r Senedd a Chyn-gynghorydd gyda Sir Ddinbych, ar ennill OBE.

 

 

Cwestiwn a ofynnwyd gan Ceri Mair Davies ar ran Cyfeillion y Ddaear Rhuthun:

 

 “A all Cyngor Sir Ddinbych ddarparu rhestr lawn o’r holl eiddo, tir, ystafelloedd ac asedau mae Cynghorau Sir a  Thref Sir Ddinbych yn berchen arnyn nhw ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu tanddefnyddio neu heb eu meddiannu?

 

A all Cyngor Sir Ddinbych amlinellu beth yn union yw’r broses a ddefnyddir wrth Drosglwyddo Asedau Cymunedol a beth yw’r cylch gwaith ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais? (byddem yn hapus i dderbyn copi o’r ddogfen hon ar ôl y cyfarfod os hoffech chi ein rhoi mewn cysylltiad â’r adran a’r bobl sy’n gyfrifol am hyn)”

 

Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

 

Gellir darparu rhestr o eiddo gwag yn ein portffolio eiddo a rhestr gyfredol o eiddo gwag yn y portffolio masnachol. <0}

Dywed ein Strategaeth Asedau na ddylid cadw unrhyw adeilad nac eiddo nad oes eu hangen at ein dibenion gweithredol neu fasnachol.

Adeiladau Cynghorau Tref a Chymuned – ni allwn ddarparu’r rhain gan nad yw’r data gennym.  Mae data ar gael am asedau Cyngor Sir Ddinbych yn unig.

 

Tanddefnyddio o ran portffolio swyddfeydd – rydym yn ymwybodol o'r lleoliadau gwag sydd gennym ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid.  Mae’r GIG a’r Crwner yn gweithio yn Neuadd y Sir ac rydym yn y broses o symud grwpiau eraill i Neuadd y Sir hefyd.  Mae’r holl adeiladau’n cael eu tanddefnyddio ar hyn o bryd oherwydd Covid a newidiadau i batrymau gwaith dros y 12 mis diwethaf.  Bydd hyn cael ei ailasesu pan fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

 

O ran y portffolio Masnachol, sy’n cynnwys pethau fel ffermydd ac unedau diwydiannol, mae’r rhain yn cael eu rhedeg fel eiddo masnachol sy’n creu incwm.  Mae’r gyfradd feddiannu yn uchel.

 

Ail gwestiwn yn ymwneud â pholisïau – nid oes polisi ffurfiol wedi’i fabwysiadu ar gyfer hyn.  Ymdrinnir â nhw fesul achos, gan gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau lleol.  Fel arfer, bydd sefydliadau’n cysylltu â’r Cyngor i brynu eiddo.  Bydd yn seiliedig ar gynllun busnes i esbonio sut defnyddir yr adeiladau, gwaith cynnal a chadw a chostau rhedeg ac fe’u gwneir fel arfer ar drosglwyddiad hirdymor.

 

Rydym yn mynd drwy broses gyflawn i sicrhau bod pobl wedi gwneud cais gyda chaniatâd gwaredu’r Ddeddf Llywodraeth Leol, yn ogystal â phroses fewnol i lunio penderfyniadau.

 

 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, ddatganiad am y llifogydd diweddar fel a ganlyn:

 

 “Roedd y llifogydd a welwyd yn dilyn storm Christophe yr wythnos diwethaf wedi achosi llawer o ddinistr i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a hoffem fynegi ein cydymdeimlad â'r rhai hynny sy'n cychwyn ar y daith hir i ailadeiladu eu bywydau.

 

Rwyf wedi ymweld â nifer o’r ardaloedd a gafodd lifogydd a'r wythnos nesaf byddaf yn ymweld ag ardaloedd gwledig a gafodd lifogydd.

 

Hoffwn dalu teyrnged i staff y priffyrdd a weithiodd oriau maith i baratoi ar gyfer y llifogydd ac, mewn rhai achosion, y cynghorwyr a phawb arall a fu’n ymwneud â’r gwaith.

 

Mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud fel awdurdod lleol a’r ffordd orau i ddiogelu cymunedau wrth symud ymlaen.

 

Yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn ddiweddar, soniwyd am gael Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar ardaloedd llifogydd.   Rydym eisoes wedi cael cytundeb y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 484 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Alan James y dylid derbyn y cofnodion, EILIWYD gan Ann Davies.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunodd mwyafrif yr Aelodau i dderbyn y cofnodion, gydag un Aelod yn pleidleisio yn ei erbyn.

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

CYLLIDEB 2021/2022 – CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Tân.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, adroddiad Cyllideb 2021-22 – Cynigion Terfynol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor er mwyn caniatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Derbyniodd y Cyngor y Setliad Drafft Llywodraeth Leol ar gyfer 2021/22 ar 21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o +3.6% o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 3.8%.  Disgwylir y Setliad Terfynol ar 2 Mawrth ond mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd llawer o newidiadau o gwbl.

 

Fel rhan o’r setliad roedd yna 'drosglwyddiadau i mewn' o £1.280m a oedd wedi eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol fel yn y blynyddoedd blaenorol:

·         Grant Cyflog Athrawon 2020/21 - £0.135m

·         Y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol £1.145m

 

Mae’r cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb 2021/22 wedi eu dangos yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1. Y prif feysydd o ran twf a phwysau yw:

·         Pwysau tâl o £0.870m

·         Chwyddiant prisiau ac ynni £250,000

·         Ardoll y Gwasanaeth Tân o £162,000

·         Lwfans ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor o £350,000.

·         Pwysau chwyddiant ysgolion yn cael eu cydnabod yn swm o £1.205m

·         Buddsoddiad ysgolion mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol £1.192m

·         Buddsoddiad ysgolion yng nghynaliadwyedd ysgolion bach £161,000

·         Pwysau demograffig ysgolion o £718,000

·         £2.4m i gydnabod pwysau’r galw a’r rhagolygon ym maes Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fel rhan o strategaeth hirdymor y cyngor i reoli cyllidebau gofal.

·         £0.750m i gydnabod y pwysau presennol ym maes Addysg a Gwasanaethau Plant sy’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac Adennill.

·         Mae'r pwysau o £250,000 ym maes Gwasanaethau Gwastraff wedi ei gydnabod yn seiliedig ar amcangyfrifon o bwysau yn ystod y flwyddyn.

·         Effaith penderfyniadau blaenorol gan y Cyngor/Cabinet (e.e. Cynllun Llifogydd y Rhyl, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru):

£0.276m

·         Pwysau o £389,000 am fuddsoddi yn y Targed Di-garbon sydd ei angen er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer 2030 a gytunwyd gan y Cyngor.

·         Buddsoddiad o £250,000 ym mhroblem y Clefyd Coed Ynn. Byddai hyn yn gwneud taliad untro parhaol a nodwyd yng nghyllideb y llynedd.

·         Yn sgil graddfa'r pwysau, a’r ffaith nad yw effaith Covid a Brexit wedi eu datrys, mae £683,000 o arian at raid wedi ei gynnwys.

 

Cyfanswm y pwysau a nodwyd uchod yw £9.903m. Mae effaith defnyddio £685,000 o arian yn 20/21 (a gafodd yr effaith o ohirio’r angen i nodi arbedion yn unig) yn golygu bod cyfanswm y diffyg yn £10.588m. Byddai angen setliad drafft o tua 8% er mwyn ariannu’r pwysau hyn i gyd. Mae’r setliad net +3.6% yn cynhyrchu £5.42m o refeniw ychwanegol, gan adael bwlch cyllido o £5.167m.  Mae’r eitemau canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn cau’r bwlch hwnnw:

·         Mae Cyllidebau Incwm Ffioedd a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r polisi Ffioedd a Thaliadau a gytunwyd, sy’n gweld cynnydd o £0.462m mewn incwm allanol.

·         Mae arbedion effeithlonrwydd gweithredol sy’n gyfanswm o £690,000 wedi eu nodi yn bennaf gan wasanaethau drwy gydol y flwyddyn ac o fewn cyfrifoldeb a ddirprwywyd i Benaethiaid Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol.

·         Mae arbedion o £0.781m hefyd wedi eu nodi sy’n newid darpariaeth gwasanaeth mewn ryw ffordd a chawsant eu rhannu mewn manylder gyda'r Cabinet a'r Cyngor yn sesiynau briffio mis Rhagfyr.

·         1% (£0.733m) Targed effeithlonrwydd ysgolion o Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion. Gan fod cyllidebau ysgolion wedi eu datganoli, y cyrff llywodraethu fydd yn penderfynu sut  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2021/2022 pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2021/2022 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd Deddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor ar ei ffurf bresennol ar draws y DU. Ar 31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y cyngor i ben a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor, a'r cyllid sy'n gysylltiedig â hynny, i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r ddwy set o reoliadau ar 2 Rhagfyr 2019, ac roedd angen mabwysiadu’r Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor newydd a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a diwygiadau i Reoliadau 2020 erbyn 31 Ionawr 2021.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid derbyn adroddiad Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2021/2022, eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Aelodau yn:

·         mabwysiadu Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygiad) 2021, o ran blwyddyn ariannol 2021/22.

·         cymeradwyo elfennau dewisol y cynllun, a ddangosir yn adran 4.4, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

 

Ar y pwynt hwn (11.25am) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am.

 

 

7.

CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’r Arbenigwr Cyflog a’r Arbenigwr Tâl a Gwobrwyon (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, adroddiad y Cyflog Byw Gwirioneddol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Gwnaeth y Cyngor Sir ystyried goblygiadau talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn Rhagfyr 2018 yn wreiddiol ac yna yn Ionawr 2020 yn dilyn y trafodaethau tâl cenedlaethol.  Yna gofynnodd y Cyngor am adroddiad pellach yn Ionawr 2021 i ystyried y sefyllfa bresennol ac, os oedd gwahaniaeth rhwng y Dyfarniad Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, a ddylid talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ceir dwy lefel o gyflog byw. Y Cyflog Byw Cenedlaethol a osodir gan y Llywodraeth ac sy’n ofynnol i bob cyflogwr ei dalu yn ôl y gyfraith, a’r Cyflog Byw Gwirioneddol sy’n cael ei asesu a’i osod gan Sefydliad y Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

 

Roedd y dyfarniadau cyflog diweddar ym maes llywodraeth leol wedi ceisio sicrhau y byddai’r graddau cyflog isaf yn cael eu talu’n uwch na chyfradd y cyflog byw gwirioneddol. Mae cynnydd pellach yn lefel y cyflog byw gwirioneddol wedi golygu bod Gradd 1 a phwynt isaf Gradd 2 o dan y gyfradd honno. Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd 725 aelod o staff sy’n derbyn cyflog is na lefel bresennol y cyflog byw gwirioneddol.

 

Roedd gan gyflogwyr chwe mis ar ôl y cyhoeddiad ym mis Tachwedd i weithredu'r cynnydd yn lefel y cyflog byw gwirioneddol, a chan ystyried sefyllfa ariannol ehangach y Cyngor yn sgil Covid, byddai’n gosod pwysau ychwanegol pe bai’n cael ei roi ar waith eleni.  Felly, nodwyd y byddai’n fanteisiol i ddefnyddio’r cyfnod chwe mis a’i roi ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan ystyried y dyfarniad cyflog cenedlaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth fer, cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms argymhellion pellach fel a ganlyn:

(i)            Ôl-ddyddio swm y Cyflog Byw Gwirioneddol i Ebrill 2020 i’r rhai a fethodd yn y fargen gyflogau ddiwethaf, ar gost o tua £17,000 y flwyddyn

(ii)          Ym mlwyddyn ariannol 2021/2022 bod Cyngor Sir Ddinbych yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel y’i gosodwyd ym mis Tachwedd 2020 i’r holl staff a fyddai’n is nag ef a byddai hynny’n costio £37,500.

(iii)         Cynnig bod yr Aelod Arweiniol Cyllid yn dod ag adroddiad i'r Cyngor gyda chostau a map cynllun o sut gallai'r Cyngor fod yn Gyflogwr Achrededig y Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms yr argymhellion ychwanegol, eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Esboniodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol y gallai’r ail argymhelliad godi problemau rhwng Graddau gan y byddai'n effeithio ar berthynoledd cyflogau a gallai greu goblygiadau posibl o ran cyflogau cyfartal. Byddai'n rhaid gwneud gwaith i asesu'r risg i'r Cyngor cyn cytuno ar hyn.

 

Cytunodd yr Aelodau fod angen i'r swyddogion gyfrifo beth fyddai'r goblygiadau ariannol yn 2021/2022 a fyddai'n dibynnu ar ddyfarniadau cyflog, y gellid dod i gytundeb yn eu cylch yn ystod y cyfnod hwnnw, neu beidio.   

 

Felly, cytunwyd y dylid cynnal pleidlais ar y ddau argymhelliad canlynol:

 

(i)            Holl weithwyr y cyngor i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 a fyddai’n golygu ôl-ddyddio cyflog y rhai sydd ar bwynt 1 y golofn gyflog sy’n derbyn £9.25 yr awr, i fyny i £9.30 yr awr, a byddai hyn yn costio £17,500, a

(ii)          Bod yr Aelod Arweiniol yn dod ag adroddiad yn ôl i'r Cyngor gyda chostau a map cynllun o sut gallai'r Cyngor ddod yn gyflogwr achrededig y cyflog byw gwirioneddol.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Graham Timms a Barry Mellor, y cynigydd a’r eilydd gwreiddiol, gytuno ar hyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y diwygiad i’r argymhelliad a chytunwyd arno yn unfrydol.

 

Felly, ar ôl cytuno ar y diwygiad,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 93 KB

Cyflwynodd y Cynghorydd Glenn Swingler y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Glenn Swingler y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran Grŵp Plaid ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn:

 

Bod Cyngor Sir Ddinbych yn:

Galw am ohirio dyddiad y penderfyniad ar y bwriad i ailstrwythuro’r Gwasanaeth Digartrefedd a cholli 9 swydd o 1 Chwefror 2021 nes bydd un o Bwyllgorau Craffu y cyngor wedi archwilio’r rhesymau dros y gwaith ailstrwythuro mewnol sylweddol hwn sydd wedi ei gynnig.

 

Yn dilyn trafodaeth, cadarnhaodd y Cynghorydd Glenn Swingler y byddai’n tynnu’r Rhybudd o Gynnig yn ei ôl.

 

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 323 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd raglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cyfarfodydd i’w cadarnhau yn y dyfodol:

 

(i)            Cyflogwr Achrededig y Cyflog Byw Gwirioneddol

(ii)          Llifogydd – Adroddiad yr Ymchwiliad

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.10pm.