Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol yn eitem 3 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o'r un clwb rhedeg â’r ymgeisydd.

 

3.

PENODI PENNAETH GWASANAETH CYLLID AC EIDDO pdf eicon PDF 3 MB

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Pennaeth Gwasanaeth Cyllid ac Eiddo. Bydd panel penodi arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld.

 

Cofnodion:

Bu i ymgynghorydd recriwtio’r Cyngor adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd, a arweiniodd at nifer o geisiadau a rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y broses asesu. Cynghorwyd Aelodau bod Panel Penodiadau Arbennig o gynghorwyr wedi nodi un ymgeisydd gyda’r potensial i gael ei benodi, ac fe'i gwahoddwyd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw. 

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau.

 

Wedi i’r ymgeisydd adael y Siambr, trafododd yr aelodau ei gyflwyniad, ymatebion i’r cwestiynau a’i berfformiad yn ystod y broses asesu.

 

PENDERFYNWYD – penodi Steve Gadd i swydd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo.