Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via WebEx

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Oherwydd ymateb coronafeirws mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth frys yn galluogi cynghorau i ohirio’r cyfarfod blynyddol. Mewn cydnabyddiaeth o’r anawsterau a achoswyd gan gyfarfodydd o bell fod deddfwriaeth frys hefyd yn caniatáu i Gynghorau ymestyn cyfnod swyddogion hyd fis Mai 2021 os bydd angen. Cynigir, gyda’u cytundeb, y dylai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd barhau mewn swydd hyd fis Mai 2021 pan ddylai fod yn bosib cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r lefel o seremoni briodol. Byddai hyn yn caniatáu i’r deiliaid swydd newydd gael blwyddyn lawn mewn swydd pan obeithir y bydd amgylchiadau yn caniatáu cynnal digwyddiadau dinesig.

 

Cofnodion:

Oherwydd yr ymateb i’r coronafeirws, pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth frys i alluogi cynghorau i ohirio’r cyfarfod blynyddol. Er mwyn cydnabod yr anawsterau a achoswyd gan gyfarfodydd o bell, roedd y ddeddfwriaeth frys hefyd yn caniatáu i Gynghorau ymestyn cyfnod dal swyddi tan fis Mai 2021 os dymunir.

 

CYNIGWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler ac EILIWYD gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

Cymerwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i ymestyn deiliadaeth swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor hyd fis Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD ymestyn deiliadaeth swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor hyd fis Mai 2021.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor:

 

Sut mae’r Awdurdod Lleol yn ymateb i’r wybodaeth ddiweddaraf a dderbynnir bob dydd ynglŷn â COVID gan y Tîm Arwain Strategol?

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr – Rydym yn derbyn adroddiadau dyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ôl ardal a chyfraddau heintio a chanran canlyniadau cadarnhaol profion.  Cesglir gwybodaeth hefyd drwy’r tîm olrhain cysylltiadau ac olrhain y cysylltiadau rheiny.  Y broblem yw fod y data yn hynod sensitif ac wedi dod gan swyddogion gwarchod y cyhoedd ac Iechyd y Cyhoedd, ac maen nhw’n edrych ar unrhyw lefydd gyda chyfraddau uchel a pha gamau y dylid eu cymryd.

Rydym hefyd yn defnyddio mapiau crynhoad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Byddwn yn rhoi gwybod i aelodau ynglŷn ag unrhyw glystyrau.

 

Cynghorydd Mabon ap Gwynfor – fyddwch chi’n ystyried rhyddhau unrhyw ffigurau yn lleol i ni fesul Ward?  Mae llai o bobl bellach yn cadw at y rheolau gan nad ydynt yn gweld rhesymeg yn y rheolau. Faint o ran oedd gan yr Awdurdod Lleol yn y clo sirol?  Dyna pam mae tryloywder yn allweddol.

 

Prif Weithredwr – nid oes ardaloedd lleol â chyfraddau uchel ac mae’r achosion mewn ysgolion yn dangos hynny.  Bydd yn sicr o gymorth cael mapiau crynhoad i’w rhannu.

 

5.

Cofnodion pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020.

 

Materion sy’n Codi -

 

Tudalen 13 – Eitem 7 Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/2021 a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 - 2022/2023 – gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am restrau o’r banciau cysylltiedig.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Alan James dderbyn y cofnodion, EILWYD gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Pleidleisiwyd a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

6.

TACLO NEWID HINSAWDD AC ECOLEGOL MEWN GWNEUD PENDERFYNIAD Y CYNGOR pdf eicon PDF 213 KB

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd ar y diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor i gefnogi'r Cyngor i ystyried mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac ecolegol wrth wneud penderfyniadau (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, adroddiad ar Fynd i'r Afael â Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol Wrth Wneud Penderfyniadau.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor a’r a’r prosesau a’r dogfennau ategol, ynghyd â llinell amser ar gyfer gwneud y newidiadau hynny os caent eu cymeradwyo gan y Cyngor, gan gynnwys cynnal Hyfforddiant Llythrennedd Carbon.

 

Roedd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio wedi ystyried y cynigion hyn ar 9 Medi 2020 a chytuno’n unfrydol y dylid cyflwyno'r argymhellion i’r Cyngor eu cymeradwyo. 

 

Yn dilyn ymgynghori gyda’r Swyddog Monitro, cynigir newid Adran 13.2 o’r Cyfansoddiad - Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau.  Cynigir ychwanegu pwynt bwled canlynol dan “Bydd holl benderfyniadau'r Cyngor yn cael eu gwneud yn unol â'r egwyddorion canlynol": “gan ystyried trechu newid hinsawdd ac ecolegol”. Mae manylion llawn y newid ar gael yn Atodiad C.

 

Roedd nifer o aelodau wedi dweud y dylai’r Adran Gynllunio ystyried newid hinsawdd a newid ecolegol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.  Eglurodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad yn cyfeirio at gynnwys “ystyried” yn y cyfansoddiad ond y gall y gyfraith ddiystyru hwnnw.  Nid oes unrhyw wybodaeth wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru o ran canllawiau cynllunio cenedlaethol.

 

Roedd yr aelodau yn croesawu’r adroddiad gan ddiolch i Helen Vaughan-Evans, Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd, a’i thîm am eu holl waith hyd yma ar y mater.

 

Hefyd, diolchodd y Prif Weithredwr i’r staff sydd wedi gweithio ar y prosiect.  Dywedwyd wrth yr aelodau, os caiff yr adroddiad ei gymeradwy, mai Cyngor Sir Ddinbych fyddai’r Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd y bydd yn mynd i gyfarfod Grŵp CDLl.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad yw’r adroddiad yn rhoi sylw i bartneriaid gwaith a bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Brian Mellor y dylid cymeradwyo’r adroddiad ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Brian Blakeley.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn:

(a)  Cymeradwyo i newid Adran 13.2 Cyfansoddiad y Cyngor - Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau i gynnwys pwynt bwled ychwanegol dan “Bydd holl benderfyniadau'r Cyngor yn cael eu gwneud yn unol â'r egwyddorion canlynol" sef: “gan ystyried trechu newid hinsawdd ac ecolegol”.

(b)  Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les  (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

7.

ADOLYGU PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019 I 2020 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad oddi wrth y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd y Cyngor wrth gyflawni canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol fel y saif pethau ar chwarter 4, 2019 i 2020 a chwarter 1, 2020 i 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol 2019 i 2020 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'w gymeradwyo yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Yn 2019, cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf ac roedd yn cynnwys ein diweddariad chwarter 4 ar y Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan Covid-19, cafwyd oedi gyda’r adroddiad hwn, felly mae bellach yn cynnwys chwarter 1 lle mae’r wybodaeth ar gael, ac yn ceisio dangos yn benodol sut mae’r cyngor wedi cynnal gwasanaethau allweddol, a mwy, er budd ein trigolion yn ystod y pandemig.

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau corfforaethol o bortffolio ehangach y Cyngor.    Roedd hyn yn cydnabod bod gwasanaethau yn gwneud gwaith pwysig y tu allan i'r Cynllun Corfforaethol sydd o fudd i drigolion.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, er gwaethaf Covid-19, parhaodd y Cyngor i wneud cynnydd da gyda’i flaenoriaethau gan nodi’r hyblygrwydd sylweddol yn y modd roedd prosiectau a gwasanaethau wedi addasu i newid.  Bu ychydig o oedi gyda rhai amserlenni, ond ar y cyfan, roedd prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni manteision i gymunedau.

 

Arweiniodd y Cyngor drwy’r adroddiad a darparu gwybodaeth fanwl am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol. 

 

Roedd y pum blaenoriaeth fel a ganlyn:

·         Tai – Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion;

·         Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da;

·         Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid;

·         Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a

·         Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Isadeiledd Digidol a phroblemau mynediad i 4G – Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod problemau cysylltedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd gwledig. Bydd Bargen Dwf Gogledd Cymru yn edrych ar gysylltiad digidol.  Roedd Swyddog Digidol Sir Ddinbych wedi gweithio gyda chymunedau i roi cymaint o wybodaeth â phosibl iddynt.  Roedd cysylltiad digidol yn rhan o flaenoriaethau’r Cyngor.

·         Trafodion ar-lein – o ran y preswylwyr nad oedd â mynediad at gyfleusterau ar-lein, yn enwedig pobl ddiamddiffyn a’r henoed, roedd llyfrgelloedd a siopau un alwad a chanolfannau galw wedi gallu cynorthwyo’r preswylwyr hynny.

·         Ffyrdd – Roedd Covid wedi cael effaith sylweddol ar grynodeb y sir o waith atgyweirio.  Roedd gwaith wedi gallu ailddechrau ar atgyweirio ac roedd meysydd yn cael eu blaenoriaethu.

·         Cadarnhawyd y penodwyd Swyddog Rhostiroedd ers tân Llantysilio ac maent yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir.

·         Gofal preswyl - codwyd cwestiynau am ba mor hir roedd preswylwyr mewn cartrefi preswyl, ac a fu yna gynnydd mewn marwolaethau yn sgil Covid.   Cadarnhawyd bod gofal preswyl wedi cael ei fonitro ac roedd gwybodaeth ar gael ynghylch pam fod preswylwyr wedi eu derbyn a pham eu bod wedi gadael.  Roedd rhai preswylwyr wedi marw ac roedd rhai eraill wedi cael eu symud i gael lefel uwch o ofal.  Cynigiwyd gofal amgen i nifer o breswylwyr.  Bu cynnydd mewn marwolaethau mewn cartref ac yn y gymuned yn sgil Covid.

·         Cymunedau Cryf – Roedd gwirfoddolwyr yn y sir wedi bod yn gymorth mawr yn ystod pandemig Covid a chadarnhaodd swyddogion y byddant yn cysylltu â phob banc bwyd yn y sir i gael gwybod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

 

Ar y pwynt hwn (12.25 p.m.) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailymgynnull y cyfarfod am 12.40 p.m.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2019/2020 pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu i'r Cyngor ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar Bwyllgorau Craffu 2019/2020 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor 2019/20 (a gylchredwyd ymlaen llaw) ar eu gweithgareddau yn ystod 2019/20.

 

Ar y pwynt hwn, talodd y Cynghorydd Timms deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Huw Jones a oedd wedi bod yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad. Roedd wedi gwneud cyfraniad enfawr, nid yn unig i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ond i’r Cyngor cyfan a byddai colled fawr ar ei ôl.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol i gydymffurfio ag Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y Cyngor a oedd yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith gydag argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith at y dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol.

 

Cyflwynwyd ffurflenni ceisiadau craffu gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw pwyllgor craffu.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran cefnogi gwaith y Cyngor i ddarparu ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd.

 

Hefyd yn yr adroddiad blynyddol nodwyd gwybodaeth ar y grwpiau tasg a gorffen/gweithgorau sy’n gweithredu dan nawdd Pwyllgorau Craffu’r Cyngor.

 

Dim ond unwaith oedd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu y BGC wedi cyfarfod yn ffurfiol ac roedd yr ail gyfarfod wedi bod heb gworwm. Conwy oedd i Gadeirio’r Cyd-bwyllgor am ddwy flynedd ac yna byddai’r rôl yn cael ei throsglwyddo i Sir Ddinbych. Roedd trefnu cyfarfodydd wedi bod yn anodd.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Emrys Wynne am ei waith a’i gefnogaeth.

 

Bachodd y Cynghorydd Huw Irving ar y cyfle i nodi mai pleser a braint oedd bod yn Is-Gadeirydd i’r diweddar Huw Jones ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Timms ac Aelodau eraill eu diolch i’r Swyddog Craffu,

Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i gwaith campus drwy gydol y flwyddyn.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Graham Timms y dylid cymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Cafwyd pleidlais ac fe gytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.

 

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd sy’n ceisio penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, y Cynghorydd Richard Mainon, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor i ystyried newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol yn unol â’r gofynion statudol a bod yn ymwybodol o sut mae trefniadau cadeirio a thaliadau cydnabyddiaeth yn gweithio.

 

Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried adroddiad tebyg yn ei gyfarfod ar 2 Hydref a chaiff sylwadau perthnasol eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor llawn. Ymgynghorir â'r grwpiau gwleidyddol ar aelodaeth pwyllgorau a materion cydbwysedd gwleidyddol pryd bynnag y bydd materion yn codi, er enghraifft i lenwi swyddi gwag ar bwyllgorau.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Richard Mainon i gymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)            ail-benodi cadeirydd ac aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2020 / 2021 y Cyngor;

(ii)          ystyried y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor.

 

10.

AMSERLEN Y PWYLLGORAU 2021 pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Gweinyddwr Pwyllgorau i gymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi Aelodau i gymeradwyo amserlen ddrafft y Pwyllgorau ar gyfer 2021.

 

Fel arfer byddai’r amserlen ar gyfer y flwyddyn ganlynol wedi cael ei chymeradwyo’n gynt er mwyn cadw at amserlen 18 mis. Oedwyd hyn oherwydd pandemig coronafeirws COVID-19 a arweiniodd at ohirio cyfarfodydd y Cyngor.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2021 yn unol â phenderfyniad y Cyngor i gynnal amserlen 18 mis er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth a mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei siom i nodi nad oedd dim cyfarfodydd min nos wedi eu trefnu.  Gofynnodd hefyd pam nad oedd cyfarfodydd wedi eu trefnu yn ystod gwyliau’r ysgol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod arolwg wedi ei chynnal gyda’r Cynghorwyr ar ddechrau eu tymor ac roedd y mwyafrif yn cytuno gydag amseroedd y cyfarfodydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mainon i Kath Jones, Gweinyddwr Pwyllgorau am baratoi’r amserlen a chysylltu gyda swyddogion gan fod angen trefnu’n ofalus iawn.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Richard Mainon i gymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James.

 

Cynhaliwyd pleidlais ac roedd y mwyafrif o aelodau o blaid yr adroddiad a phleidleisiodd un aelod yn erbyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2021.

 

11.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 88 KB

Y Cyngor I ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 ‘Bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r ddeiseb ganlynol wedi’i rhoi ar y wefan deisebau seneddol:

 

Ar gyfer y flwyddyn gyntaf mae’n rhaid i yrwyr ifanc fod wedi gosod blwch du yn eu car cyn y gallan nhw yrru. Ar ben hynny, dim ond un teithiwr y dylen nhw gario, a rhaid i’r unigolyn hynny fod yn yrrwr profiadol. Byddai’r newidiadau hyn yn lleihau’r cyfanswm o farwolaethau mewn damweiniau ffordd yn sylweddol ac yn annog pobl i yrru’n fwy diogel.’

 

Mynegodd pob aelod eu cefnogaeth i'r Rhybudd o Gynnig.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r ddeiseb ganlynol wedi’i rhoi ar y wefan deisebau seneddol:

 

Ar gyfer y flwyddyn gyntaf mae’n rhaid i yrwyr ifanc fod wedi gosod blwch du yn eu car cyn y gallan nhw yrru. Ar ben hynny, dim ond un teithiwr y dylen nhw gario, a rhaid i’r unigolyn hynny fod yn yrrwr profiadol. Byddai’r newidiadau hyn yn lleihau’r cyfanswm o farwolaethau mewn damweiniau ffordd yn sylweddol ac yn annog pobl i yrru’n fwy diogel.

 

12.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 112 KB

Y Cyngor I ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Joe Welch (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Paul Penlington i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Yn unol ag ymrwymiad yr awdurdod i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol, o heddiw ymlaen, bydd holl ddatblygiadau adeiladu cynghorau yn ymgorffori priffyrdd draenogod ac yn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod. 

 

I'w gyflawni drwy; ddefnyddio gwrychoedd brodorol yn unig fel ffiniau lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, a defnyddio planhigion brodorol mewn unrhyw dirlunio. Bydd unrhyw ffiniau waliau solet neu ffensys angenrheidiol yn ymgorffori twneli draenogod ar lefel y ddaear.

 

Yn ogystal, bydd yr awdurdod yn annog datblygwyr preifat i fabwysiadu'r un arfer.”

 

Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd i gyfeirio'r Rhybudd o Gynnig at CCA.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gyfeirio'r Rhybudd o Gynnig at CCA.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor llawn yn cefnogi'r Rhybudd o Gynnig i'w gyflwyno i'r Grŵp Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

 

13.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 88 KB

Y Cyngor I ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young yr Hysbysiad o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

Bod Cyngor Sir Ddinbych yn:

 

(i)            cydnabod ymdrechion y cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hyrwyddo ynni adnewyddadwy;

(ii)          cydnabod hefyd:  

·         bod y costau rhedeg a sefydlu ariannol sylweddol sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol i gwsmeriaid lleol yn golygu ei fod yn amhosibl i gynhyrchwyr trydan adnewyddadwy lleol wneud hynny, 

·         y byddai gwneud y costau ariannol hyn yn gymesur â graddfa gweithrediad y cyflenwr trydan adnewyddadwy yn galluogi ac yn annog busnesau lleol newydd, neu gynghorau, i ddarparu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn uniongyrchol i gwsmeriaid lleol, ac

·         y gellir defnyddio’r refeniw a dderbynnir gan ddarparwyr trydan adnewyddadwy lleol newydd i wella’r economi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn ogystal â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr lleol;

 

(iii)         yn unol â hyn, penderfynu cefnogi'r Ddeddf Drydan Lleol, a gefnogir gan 187 o Aelodau Seneddol, a fyddai, os caiff ei wneud yn gyfraith, yn sefydlu Hawl i Gyflenwad Lleol a fyddai'n hyrwyddo cwmnïau a chydweithrediadau cyflenwi trydan adnewyddadwy lleol drwy wneud y costau rhedeg a sefydlu sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy i gwsmeriaid lleol yn gymesur â maint gweithrediad y cyflenwad; a

(iv)         phenderfynu hefyd i:

·         roi gwybod i’r cyfryngau lleol am y penderfyniad hwn,

·         ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn gofyn iddynt gefnogi'r Ddeddf, ac

·         ysgrifennu at drefnwyr yr ymgyrch am y Ddeddf, Power for People, (8 Delancey Passage, Camden, London NW1 7NN neu info@powerforpeole.org.uk) yn mynegi ei gefnogaeth.

 

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor llawn yn cefnogi'r Rhybudd o Gynnig -

 

(i)            cydnabod ymdrechion y cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hyrwyddo ynni adnewyddadwy;

 

(ii)          cydnabod hefyd:  

·         bod y costau rhedeg a sefydlu ariannol sylweddol sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol i gwsmeriaid lleol yn golygu ei fod yn amhosibl i gynhyrchwyr trydan adnewyddadwy lleol wneud hynny, 

·         y byddai gwneud y costau ariannol hyn yn gymesur â graddfa gweithrediad y cyflenwr trydan adnewyddadwy yn galluogi ac yn annog busnesau lleol newydd, neu gynghorau, i ddarparu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn uniongyrchol i gwsmeriaid lleol, ac

·         y gellir defnyddio’r refeniw a dderbynnir gan ddarparwyr trydan adnewyddadwy lleol newydd i wella’r economi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn ogystal â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr lleol;

 

(iii)         yn unol â hyn, penderfynu cefnogi'r Ddeddf Drydan Lleol, a gefnogir gan 187 o Aelodau Seneddol, a fyddai, os caiff ei wneud yn gyfraith, yn sefydlu Hawl i Gyflenwad Lleol a fyddai'n hyrwyddo cwmnïau a chydweithrediadau cyflenwi trydan adnewyddadwy lleol drwy wneud y costau rhedeg a sefydlu sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy i gwsmeriaid lleol yn gymesur â maint gweithrediad y cyflenwad; a

(iv)         phenderfynu hefyd i:

·         roi gwybod i’r cyfryngau lleol am y penderfyniad hwn,

·         ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn gofyn iddynt gefnogi'r Ddeddf, ac

·         ysgrifennu at drefnwyr yr ymgyrch am y Ddeddf, Power for People, (8 Delancey Passage, Camden, London NW1 7NN neu info@powerforpeole.org.uk) yn mynegi ei gefnogaeth.

 

14.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 378 KB

Ystried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Waith Ymlaen y Cyngor (a gylchredwyd yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Ymlaen y Cyngor.

 

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 1.50 p.m.