Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Ar y pwynt hwn, talodd y Cadeirydd deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Huw Jones, a fu farw’n ddiweddar.

 

Cafwyd teyrngedau gan y Cynghorydd Joe Welch ar ran y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Joan Butterfield ar ran y Grŵp Llafur a'r Cynghorydd Martyn Holland ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r Cynghorydd Jones ac, i ddangos parch, fe safodd pawb a oedd yn bresennol mewn tawelwch yn deyrnged iddo.

 

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd hefyd â’r Barnwr Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a gollodd ei wraig, Jennifer Ann Trigger, yn ddiweddar.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

Cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd, Sue Lewis, Bodfari -  

 

“Bu i Gronfa Bensiynau Clwyd, a gynhelir gan Sir y Fflint, ymgynghori’n ddiweddar ag aelodau’r Gronfa, gan gynnwys Sir Ddinbych, ar ddatblygu ei Pholisi Buddsoddi Cyfrifol.  Ymysg pethau eraill, mae hwn yn edrych ar ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil.  Wnaeth Sir Ddinbych ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac os felly, fyddech chi cystal â rhannu eich ymateb â ni?

 

Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

 

Mae Sir Ddinbych yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir y Fflint.  Y diweddar Gynghorydd Huw Jones oedd yr aelod etholedig ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd (“y Pwyllgor”), a gwasanaethodd arno am nifer o flynyddoedd.  Mae’r Pwyllgor hwn yn goruchwylio’r Gronfa Bensiynau.   Yn ogystal, mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn rhyngweithio’n rheolaidd gyda swyddogion Cronfa Bensiynau Clwyd. 

 

 Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd strategaeth fuddsoddi, a’i phrif amcan, yn amlwg, yw sicrhau y gellir diwallu’r rhwymedigaethau pensiwn presennol a rhai’r dyfodol yn llawn.  Mae’r Gronfa’n diweddaru’r polisïau hyn yn rheolaidd ac mae eu strategaeth fuddsoddi yn nodi y byddant yn gwneud buddsoddiadau dethol mewn meysydd amgylcheddol fel ynni glân, seilwaith amgylcheddol a phrosiectau coedwigaeth.

 

Ar hyn o bryd, mae tua 1.2% o asedau’r Gronfa wedi’u buddsoddi mewn meysydd tanwyddau ffosil.   Mynychodd Pennaeth Cyllid ac Eiddo Cyngor Sir Ddinbych gyfarfodydd y Grŵp Llywio yn yr hydref a dechrau gaeaf 2019, gan roi adborth i'r Grŵp hwnnw ar y trafodaethau yr oeddem ni wedi bod yn cael yn fewnol am ddatblygu ein polisïau i ddod yn garbon niwtral.  Cafodd y trafodaethau hynny i gyd eu bwydo i fersiwn ddrafft Polisi Buddsoddi Cyfrifol Cronfa Bensiynau Clwyd.  Roedd y Polisi drafft yn adlewyrchu trafodaethau mewnol Sir Ddinbych i raddau helaeth, mewn perthynas â blaenoriaethu pwysigrwydd newid hinsawdd a rhoi ystyriaeth i hynny yn eu penderfyniadau wrth symud ymlaen. 

 

Felly rydym yn cefnogi mabwysiadu’r Polisi drafft fel yr oedd yn unol â thrafodaethau mewnol Sir Ddinbych. 

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y darn canlynol o’r Polisi:

 

Nid dyletswydd ar y Gronfa yn unig yw ystyried newid hinsawdd, mae hefyd yn gyson â natur hirdymor y Gronfa.  Mae angen i fuddsoddiadau’r Gronfa fod yn gynaliadwy er mwyn bod o’r budd gorau i’w holl fudd-ddeiliaid.  Ymgysylltiad yw’r dull gorau o alluogi’r newid y mae ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng gyda'r hinsawdd.  Fodd bynnag, mae dadfuddsoddi ar sail risg dethol yn briodol i hwyluso’r newid i economi rhad-ar-garbon.

 

 Mae gan y Gronfa dri phrif faes blaenoriaeth, ac mae un o’r rheiny yn y blaenoriaethau buddsoddwr cyfrifol yn nodi eu bod yn bwriadu mesur a deall yr agwedd garbon o fewn y portffolio buddsoddi, ac ar ôl ei asesu, byddant yn cytuno ar darged lleihau carbon o fewn deuddeng mis, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cwestiwn atodol gan Sue Lewis -

 

Fyddai Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill fel Cyngor Caerdydd a Sir Caerfyrddin, ac yn pasio cynnig yn nodi eu bod yn dymuno i’w Cronfa Bensiynau ddadfuddsoddi’n llwyr o danwyddau ffosil o fewn cyfnod penodol.

 

Deallir na all y cyngor ond cynghori rheolwyr y Gronfa, ond serch hynny, byddai’n cyfleu neges rymus iawn i'r cyhoedd, i'w buddiolwyr, eich bod o ddifrif, a byddai'n cyd-fynd â’ch polisi lleihau carbon.

 

Dyma ymateb pellach y Cynghorydd Julian Thompson-Hill - 

 

Mae’n bosib y gallai Cyngor Sir Ddinbych wneud cynnig o’r fath.  O ran y strwythur llywodraethu, un bleidlais ydym ni ymysg pump ar y Pwyllgor, felly byddai’n dibynnu ar safbwynt tebyg gan yr awdurdodau lleol eraill.  Nid  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 480 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 19 Tachwedd 2019 a 28 Ionawr 2020 (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.

 

PENDERFYNWYD y byddai cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir, a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020.

 

Materion yn Codi - 

 

Tudalen 6 – gofynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yn dilyn datblygiadau yn Ysgol Annibynnol Rhuthun ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Llawn, oedd y Cyngor yn fodlon bod y mater diogelu wedi cael ei ddatrys?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gan ddweud, yn dilyn datblygiadau diweddar, y gallai sicrhau’r aelodau bod swyddogion yr awdurdod lleol yn cydweithio ag Estyn a CIW ar bob argymhelliad, a bod diogelu’r myfyrwyr yn hollbwysig.

 

Tudalen 7 - District Enforcement Limited 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Rhys Thomas bod Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel wedi dosbarthu’r ystadegau gweithgarwch i bob aelod.  Mynegodd bryder gan mai dim ond 22 o’r 147 o droseddau oedd yn ymwneud â baw cŵn neu gŵn yn rhedeg yn rhydd ar gaeau.  Gofynnwyd i’r Aelod Arweiniol gysylltu â District Enforcement i ganfod a oedd troseddau taflu bonion sigaréts yn ddewis haws ar gyfer rhoi rhybuddion cosb benodedig.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y byddai cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr  2020 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

TRETH Y CYNGOR 2020/2021 A MATERION CYSYLLTIEDIG pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) i bennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2020/2021

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2020/2021.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at y canlynol yn benodol:

·         Prif nodweddion y gyllideb a gymeradwywyd ar 28 Ionawr 2020

·         Sylwadau’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn

·         Dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

·         Argymhellion ar gyfer lefelau Treth y Cyngor 2020/2021

·          Setliad cadarnhaol o +4.3% yn refeniw Llywodraeth Leol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd am ddata hanesyddol, gan gynnwys praeseptau Cynghorau Cymuned, Gwasanaethau Tân a’r Heddlu, er mwyn gallu cymharu.  Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r holl aelodau.

 

Cododd y Cynghorydd Mark Young y mater o lifogydd.  Adroddwyd y bydd cartrefi y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn Lloegr yn cael 100% o ostyngiad Treth y Cyngor.  Gofynnodd a fyddai hyn yn digwydd yng Nghymru.  Hefyd, bydd deiliaid tai yr oedd llifogydd wedi effeithio arnynt yn Lloegr yn cael £5,000, ond yng Nghymru, £500 fydd y ffigwr hwnnw.  Mynegodd y Cynghorydd Young ei anfodlonrwydd â’r gwahaniaeth yn y symiau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru.  Mae Sir Ddinbych yn cydweithio’n agos â’r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i helpu trigolion hawlio unrhyw gyllid sydd ar gael.  Bydd datganiad sy’n cynnwys yr holl rifau cyswllt perthnasol a dolen i’r we yn cael ei ddosbarthu i bob aelod er gwybodaeth.

 

O ran Gostyngiad i Dreth y Cyngor, byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hyn, gan mai o’u cyllideb nhw y byddai’r arian yn cael ei dynnu.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd ar Fformiwla Barnett, ac eglurwyd ei bod yn fformiwla gymhleth iawn; roedd un bloc yn llunio rhan o’r hyn y mae’r cyngor yn ei dderbyn fel grant cynnal refeniw.  Pe byddai arian ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn, byddai hynny'n cael effaith gynyddol ar gyllideb y flwyddyn ddilynol. 

 

Yn dilyn y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn:

(i)            Nodi bod rhaid i'r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned, a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.

(ii)          Cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A.

(iii)         Cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel Atodiad A adran 4.

(iv)         Sicrhau bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u cyflwynir yn Atodiad C.

(v)          Cymeradwyo bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B ac C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol.

 

6.

CYNLLUN CYFALAF 2019/2020 - 2022/23 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig) i ddarparu Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu’r Cynllun Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol. 

 

Rhoddwyd yr adroddiad diwethaf i’r Cyngor ar y Cynllun Cyfalaf llawn ym mis Chwefror 2019.  Mae’r Cabinet wedi cael diweddariadau misol.   Roedd y Cynllun Cyfalaf Amcangyfrifedig bellach yn £33.86 miliwn.  Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers adrodd arno i'r Cabinet ar 18 Chwefror 2020.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad.

 

 Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo i gwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau ar y Cynllun Cyfalaf.    Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:

·         Cais Cyfalaf Atal Traffig 2020-21 – arwyddion brown i ddangos y Gymraeg uwch ben y Saesneg.

Byddai cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd yn cynnwys arwyddion ar gyfer Castell Rhuthun, Castell Dinbych ac Eglwys Gadeiriol Llanelwy.  Byddai hefyd yn cynnwys teitl Dyffryn Clwyd ac felly’n codi ymwybyddiaeth o’r Dyffryn.  Holodd yr Aelodau am amserlen ar gyfer yr arwyddion a chadarnhawyd y bydd “Strategaeth Arwyddion Twristiaeth Sir Ddinbych” yn cael ei chyflwyno ger bron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 12 Mawrth 2020.

·         Holwyd a fyddai ysgolion nad oeddent yn yr adroddiad yn cael eu moderneiddio yn y dyfodol. 

 Eglurwyd bod band A Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cael ei gwblhau a bod y Cyngor bellach yn cychwyn ar fand B.  Roedd oedi gydag ysgolion nad oeddent ym Mand A na B oherwydd cyfyngiadau ariannol.  Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y byddai’n edrych ar yr amserlenni.

·         Nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei bod wedi cael adborth negyddol mewn perthynas ag adeilad newydd Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl, gan fod yna nifer o fân broblemau i'w datrys. 

Cadarnhaodd nifer o aelodau bod mân broblemau’n codi gyda phob adeilad newydd.  Bu iddynt sicrhau’r Cyngor bod yr adeilad o safon dda, gan annog yr aelodau i ymweld â’r ysgol i weld yr adeilad.

·         Croesawyd cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pontydd, ond roedd gwerth £11m o waith yn aros i'w wneud. 

Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a fyddai yna gyllid pellach ar gyfer atgyweirio pontydd, yn enwedig yn dilyn y tywydd garw a gafwyd dros y misoedd diwethaf. Cadarnhawyd y byddai rhywun yn cysylltu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ychwanegol.

·         Codwyd pryderon mewn perthynas â thyllau yn y ffyrdd. 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod gwaith ar y gweill i ganfod ateb mwy parhaol, ac yn ogystal â’r ymweliadau blynyddol sydd ar ddod i Grwpiau Ardal yr Aelodau i drafod cynnal a chadw ffyrdd, bydd gweithdy aelodau hefyd yn cael ei drefnu ar faterion priffyrdd.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones bod swyddogion yn edrych ar dechnoleg newydd ac atebion mwy cost effeithiol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y tywydd garw diweddar, gan ddiolch i’r staff am eu gwaith caled gyda hynny.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms y dylid dod â’r drafodaeth i ben a symud i’r bleidlais.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Felly cynhaliwyd pleidlais ar p’un ai y dylid symud i’r bleidlais ai peidio drwy godi dwylo.  Roedd yr holl aelodau o blaid dod â’r drafodaeth i ben a symud i’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Aelodau yn:

(i)            Nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2019/2020 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr.

(ii)          Cefnogi argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 ac y crynhoir yn Atodiad 6.

(iii)         Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2020/2021.

(iv)         Cymeradwyo’r Adroddiad Strategaeth Cyfalaf ar gyfer 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad 7.

(v)          Gofyn i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI’R TRYSORLYS 2020/2021 A DANGOSYDDION DARBODUS 2020/2021 - 2022/2023 pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi yn amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategol Rheoli Trysorlys 2020/2021 a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 – 2022/2023

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor  ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMSS) 2020/2021 a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 i 2022/2023.

 

Mae Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli’r Trysorlys yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r TMSS a'r Dangosyddion Darbodus bob blwyddyn.

 

Cadarnhawyd y buddsoddwyd gyda banciau bob tro.  Roedd buddsoddiadau dros dro yn cael eu gwneud yn y tymor byr ac nid oedd gan y Cyngor unrhyw fuddsoddiadau eraill.

 

Wrth fuddsoddi, blaenoriaethau'r Cyngor yw:

·         cadw arian yn ddiogel (diogelwch);

·         Sicrhau bod yr arian yn dod yn ôl pan fydd ei angen (hylifedd)

·         Sicrhau ein bod yn cael cyfradd elw dda (arenillion)

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am restr o’r Banciau y buddsoddwyd ynddynt. 

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn:

(i)            Cymeradwyo'r TMSS ar gyfer 2020/2021 (Atodiad 1).

(ii)          Cymeradwyo’r gwaith o osod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/2021, 2021/2022 a 2022/2023 (Atodiad 1 Ychwanegiad A).

(iii)         Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Atodiad 1 Adran 6).

(iv)         Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 406 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Gwahoddwyd yr aelodau i gynnig enwebiadau am Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd i ddod, yn cychwyn ym mis Mai 2020.

 

PENDERFYNWYD y byddai Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor yn cael eu cymeradwyo a’u nodi. 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:05 p.m.