Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd Peter Prendergast – eitem 9 – gysylltiad personol gan ei fod yn un o Gyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Ltd.

 

Datganodd Huw Hilditch-Roberts – eitem 9 – gysylltiad personol  gan ei fod yn Aelod o Fwrdd Denbighshire Leisure Ltd.

 

Datganodd Bobby Feeley – Eitem 9 – gysylltiad personol gan ei bod yn Aelod o Fwrdd ac yn Gadeirydd Denbighshire Leisure Ltd.

 

Ar y pwynt hwn estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â’r Cynghorydd Christine Marston a gollodd ei gŵr yn ddiweddar.

 

Estynnwyd cydymdeimlad hefyd â’r Cynghorydd Brian Blakeley a oedd wedi colli ei frawd yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Brian Blakely ar ddathliad ei ben-blwydd yn 80 ddoe.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

 

(a)  Deiseb wedi’i derbyn gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, yn ymwneud â’r galw am ddarpariaeth meithrin yng nghymuned Llandrillo.  Roedd dros 600 o lofnodion ar y ddeiseb. 

 

Rhoddwyd y ddeiseb yn nwylo’r Cadeirydd a gadarnhaodd y byddai’n ei throsglwyddo i’r adran berthnasol.

 

 

(b)  Cyflwynwyd cwestiwn gan Rhys Thomas – nid yw  Ysgol Annibynnol Rhuthun yn dod o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol. 

 

Pe bai, byddai ein swyddogion wedi gweithredu ar unwaith a,  phe bai angen, byddai gwaharddiadau a diswyddiadau wedi digwydd yn yr ysgol.  Nid ydynt yn diwallu eu cyfrifoldebau diogelu.  Mae ein swyddogion ni ein hunain yn ofalgar ac yn alluog yn eu gwaith.  Allwn ni os gwelwch yn dda gael gwybod beth yw ein cyfrifoldebau corfforaethol o ran diogelu plant sy’n mynd i Ysgol Annibynnol Rhuthun a pha gamau yr ydym wedi'u cymryd hyd yma?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae deddfwriaeth yn bodoli sy'n cyfarwyddo gweithrediad ysgolion annibynnol, sydd yn amlwg yn wahanol i'r ddeddfwriaeth ar gyfer ein hysgolion awdurdod lleol ein hunain.  Mae rheoliadau’n bodoli dan Ddeddf Addysg 2002 sy’n gosod y safonau y mae’n rhaid i bob ysgol annibynnol gadw atynt.  Mae hyn yn berthnasol i les, iechyd a diogelwch disgyblion a’r amodau cysylltiedig ag addasrwydd y rhai sy’n rhedeg yr ysgol a’r staff.

 

Mae’n rhaid i bob ysgol annibynnol fod wedi’i chofrestru gyda Llywodraeth Cymru.  Os bydd ysgol annibynnol yn methu â chwrdd ag amodau'r cofrestriad, Llywodraeth Cymru, nid yr awdurdod lleol, sydd a'r pŵer i ddiddymu'r cofrestriad.

 

Ni all unrhyw ysgol annibynnol weithredu’n gyfreithlon yng Nghymru heb ddiwallu amodau’r cofrestriad.

 

Caiff ysgolion annibynnol eu harolygu gan Estyn ac os oes ganddynt ddarpariaeth breswyl, gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Os bydd ysgol annibynnol yn methu â chwrdd ag amodau eu cofrestriad, bydd Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yr ysgol yn cymryd camau penodol i fynd i’r afael â'r pryderon.  Gallai’r broses gynnwys ymgynghoriad gydag Estyn ac AGC a gall y ddau gorff gynnal arolygiad.  Os bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn anfodlon, rhoddir rhybudd o ddileu'r cofrestriad, yn amodol ar apêl.  Felly, mewn gwirionedd, gellir cau'r ysgol. 

 

Mae’n rhaid i ysgolion annibynnol gadw at ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.  Mae ar yr awdurdod lleol ddyletswydd i reoli’r broses sy’n gysylltiedig â hyn ac i weithredu mewn partneriaeth â chyrff eraill mewn perthynas â phryderon diogelu ac amddiffyn plant.  Fodd bynnag,  dim ond rhoi ystyriaeth i argymhellion yr awdurdod lleol y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei wneud, nid yw ysgolion annibynnol yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol.     Rydym yn siarad am ein swyddogion a’u rhan yn hyn ac  mae hi wedi bod yn anodd dros ben siarad am hyn yn gyhoeddus tan rŵan.

 

Rydym wedi bod yn ymwneud ag Ysgol Rhuthun ers Ebrill 2018.  Uwch gyfeiriwyd pryderon diogelu am yr ysgol i Lywodraeth Cymru, Estyn ac AGC ym mis Ebrill 2018.  Rydw i, Karen I Evans a Nicola Stubbins wedi bod yn rhan o'r broses.  Arweiniodd hyn at archwiliad dirybudd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 192 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Rhagfyr 2019 ac 20 Ionawr 2019 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu mynychu.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 339 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 15 Hydref 2019.

 

Materion yn Codi - tudalen 8 - diolchodd y Cynghorydd Peter Scott i'r Swyddog Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Diogelach, y Cynghorydd Mark Young am ganiatáu estyniad o wythnos i’r ymgynghoriad ar y safle sipsiwn.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

CYLLIDEB 2020/21 – CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am broses y gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a chymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2020/21, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar Gyllideb 2020-21 – adroddiad Cynigion Terfynol (eisoes wedi’i ddosbarthu).

 

Mae’n ofyniad cyfreithiol i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol ac yn sgil hynny benderfynu ar lefel Treth y Cyngor er mwyn galluogi anfon biliau at breswylwyr.

 

Derbyniodd y cyngor y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2020/21 ar 16 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o +4.3%, sef y setliad cyfartalog ar gyfer Cymru.   Disgwylir y Setliad Terfynol ar 25 Chwefror ond mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi na fydd llawer o newidiadau. 

 

Fel rhan o’r setliad roedd ‘trosglwyddiadau i mewn’ o £1.794 miliwn,  yn bennaf yn ymwneud â throsglwyddo grant am ran o’r flwyddyn ar gyfer Tâl Athrawon a Grant Pensiwn Athrawon.   Mae angen ariannu effaith blwyddyn lawn y grantiau hyn o’r setliad cyffredinol.

 

Roedd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2020/21 i’w gweld yn y detholiad o Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn Atodiad 1 o'r adroddiad.   Roedd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

·         Pwysau tâl o £1.124 miliwn

·         Chwyddiant prisiau ac ynni £250k

·         Ardoll y Gwasanaeth Tân £93k

·         Lwfans ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor - £350k.

·         Pwysau chwyddiant ysgolion yn cael ei gydnabod yn swm o £2.852miliwn

·         Pwysau demograffeg ysgolion £716k

·         £2.6miliwn i gydnabod pwysau’r galw a rhagolygon mewn Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fel rhan o strategaeth tymor hir y cyngor i reoli cyllidebau gofal

·         £1.546miliwn i gydnabod y pwysau presennol mewn Addysg a Gwasanaethau Plant sy’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac Adennill.

·         £1.4miliwn o bwysau mewn Gwasanaethau Gwastraff wedi’u cydnabod yn seiliedig ar bwysau yn ystod y flwyddyn

·         £600k o bwysau pellach wedi’i gydnabod yn ymwneud â chludiant i’r ysgol

·         £529k o bwysau wedi’i gynnwys i ariannu Blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol

·         Oherwydd graddau’r pwysau, mae arian wrth gefn gwerth £358miliwn wedi’i gynnwys

 

Oherwydd y defnyddiwyd £2 miliwn o arian yn 2019/20 (a gafodd yr effaith o ohirio’r angen i ddod o hyd i arbedion) roedd cyfanswm y diffyg yn £14.418 miliwn.

 

Mae’r setliad o 4.3% wedi cynhyrchu £6.219 miliwn o refeniw ychwanegol gan adael bwlch cyllido o £8.199 miliwn.   I gau’r bwlch, cynhwyswyd yr eitemau canlynol yn y cynigion:

·         £2 miliwn o arbedion wedi’u cynnwys o ganlyniad i'r adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd a gynhelir bob tair blynedd.

·         Cafodd cynigion i wneud arbedion ar wasanaethau eu craffu arnynt yn fanwl gan y Bwrdd Cyllideb a'u rhannu gyda’r aelodau etholedig ym mis Rhagfyr 2019. Byddai'r holl gynigion yn gofyn am benderfyniadau dirprwyedig, naill ai gan benaethiaid gwasanaeth neu aelodau arweiniol, felly nid oes angen unrhyw benderfyniadau Cabinet neu Gyngor penodol. 

Mae’r cynigion yn cyfrannu cyfanswm o £1.756 miliwn.

·         Gofynnwyd i’r ysgolion ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o 1% - £692k

·         Argymhellir bod £685k mil o’r arian parod, sydd eisoes wedi’i glustnodi i helpu i leddfu’r gostyngiadau yn y gyllideb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 2020/21.  Y ffigwr gwreiddiol oedd  £1.085 milwn. 

·         Cynnydd o 4.3%  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR 2020/21 pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Budd-daliadau a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i fabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd Deddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor ar ei ffurf bresennol ar draws y DU.  Ar 31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y cyngor i ben a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n gysylltiedig ag ef, i Lywodraeth Cymru.  Cyflwynodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, gynllun newydd i ddarparu cymorth gyda threth y cyngor, a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r ddwy set o reoliadau ar 2 Rhagfyr 2019 ac roedd yn ofynnol mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostwng Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygio 2020 erbyn 31 Ionawr 2020.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod yr aelodau’n mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a  Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Diwygio Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/2021..

·         Bod yr aelodau’n cymeradwyo’r 3 elfen ddewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran 4.2, ar gyfer 2020/2021.

 

 

8.

CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’r Arbenigwr Tâl a Gwobrwyon (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ac ystyried goblygiadau talu’r Cyflog Byw Go Iawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol adroddiad ar y Cyflog Byw Gwirioneddol (a  ddosbarthwyd eisoes).

 

Ystyriodd y Cyngor oblygiadau talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2018 a gofynnwyd bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno fis Rhagfyr 2019.  Bwriad yr adroddiad hwnnw oedd rhoi gwybod i’r Cyngor beth oedd argymhelliad y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol a chanlyniadau’r trafodaethau cenedlaethol ar gyflogau ac, os oedd gwahaniaeth rhwng y ddau, penderfynu a ddylid talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff yn y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Codwyd y Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Tachwedd 2019 i £9.30 yr awr ar gyfer gweithwyr dros 18 oed. Byddai’n ofynnol talu cyfradd uwch yn Llundain i adlewyrchu’r costau byw uwch.  Mae’r gyfradd yn cael ei gosod yn flynyddol gan y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol a Chanolfan Ymchwil Prifysgol Loughborough.

 

Ers 1 Ebrill 2019, mae’r cyngor wedi bod yn talu cyflog cyfwerth â’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr ar Bwynt Colofn Gyflog (PCG) o £9.00 yr awr.  Fel y dywedwyd uchod, adolygir y Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Tachwedd bob blwyddyn, felly ar hyn o bryd telir 30c yr awr o dan y Cyflog Byw Gwirioneddol presennol.

 

Mae’r Cyflogwyr Cenedlaethol dros Wasanaethau Llywodraeth Leol ac Undebau Llafur mewn trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch y codiad costau byw ar gyfer Ebrill 2020, a'r arwyddion yw ei bod yn annhebygol y ceir unrhyw ddiweddariadau tan ar ôl mis Ebrill 2020.

 

Mae bod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig yn golygu bod dyletswydd ar y sefydliad i dalu unrhyw godiadau cyflog o fewn chwe mis i bennu'r cynnydd, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol na'u gallu i wneud hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Cadarnhawyd bod gwasanaethau sy’n cael eu prynu i mewn e.e.

Civica a Denbighshire Leisure Ltd, yn diwallu gofynion polisïau cyflogau a chyflogaeth Cyngor Sir Ddinbych.

·         Cytunwyd y byddai angen cyllid i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a’r Arweinydd y byddent yn cyflwyno’r pwynt hwn i CLlLC.

 

Bydd adroddiad pellach ar gynnydd yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y dyfodol.  Mae’n ofynnol cyflwyno’r Polisi Cyflogau llawn yn y Cyngor Llawn cyn diwedd mis Mawrth ond nid oedd sicrwydd a fyddai'r trafodaethau cyflogau wedi’u terfynu erbyn hynny.  Os nad yw’r trafodaethau ar gyflogau wedi’u terfynu erbyn hynny, byddai adroddiad ar wahân yn cael ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod y Cyngor yn nodi’r goblygiadau o ran cost amcangyfrifedig talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol.

(ii)          Cytunodd y Cyngor i aros am y Cytundeb Cyflogau Cenedlaethol yn Ebrill 2020 neu hyd nes y ceir cytundeb terfynol.

 

 

 

9.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU / SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: PENODI CYFARWYDDWYR ANNIBYNNOL pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi dau Gyfarwyddwr annibynnol i Fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd Peter Prendergast – eitem 9 – gysylltiad personol gan ei fod yn un o  Gyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Ltd.

 

Datganodd Bobby Feeley – eitem 9 – gysylltiad personol gan ei bod yn Aelod o Fwrdd ac yn Gadeirydd Denbighshire Leisure Ltd.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiddordeb personol am ei fod yn Aelod o Fwrdd Denbighshire Leisure.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley weithrediad Model Darparu Amgen ar gyfer amrywiol wasanaethau/swyddogaethol perthnasol i hamdden. Adroddiad ar benodiad Cyfarwyddwyr Annibynnol (wedi’u dosbarthu eisoes).

 

Penododd y Cyngor y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving a Graham Timms i eistedd ar y panel recriwtio.  Yn anffodus nid oedd y Cynghorwyr Brian Blakely a Graham Timms yn gallu mynychu’r cyfweliadau a cheiswyd enwebiadau drwy arweinwyr grwpiau, ar fyr rybudd cymharol, am aelodau eraill i eistedd ar y panel cyfweld.  O ganlyniad i hyn, enwebwyd y Cynghorydd Mark Young a mynychodd y cyfarfodydd gyda’r Cynghorydd Hugh Irving, gyda chefnogaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol ac AD.  Arsylwodd y Cynghorydd Bobby Feeley yn y cyfweliadau yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni.

 

Cafodd tri ymgeisydd ei ddethol am gyfweliad ond tynnodd un yn ôl.  Roedd dau ymgeisydd ar ôl felly.

 

Y ddau ymgeisydd a argymhellwyd am benodiad oedd Paul McGrady ar gyfer y rôl Cyfarwyddwr Annibynnol gyda phrofiad cyllid a masnach, a Sian Rogers ar gyfer y rôl Cyfarwyddwr Annibynnol gyda phrofiad datblygu cymunedol.

 

Cafodd yr aelodau weld crynodeb o brofiad y ddau ymgeisydd.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi Paul McGrady a Sian Rogers yn ffurfiol fel Cyfarwyddwyr Annibynnol i eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Ltd.

 

 

10.

OSGOI A LLEIHAU’R DEFNYDD O BLASTIG YN SWYDDFEYDD CYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i ystyried sut gall y Cyngor leihau faint o blastig mae'n ei ddefnyddio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Hugh Irving ac Emrys Wynne yr adroddiad Osgoi a Lleihau’r Defnydd o Blastig yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Yn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2018, o ganlyniad i Hysbysiad o Gynnig, penderfynwyd cefnogi egwyddor y Cyngor o leihau ei ddefnydd o blastig a bod Grŵp Tasg a Gorffen o Aelodau'n ystyried y materion ac yn adrodd i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad cyn adrodd yn ôl i'r Cyngor.

 

Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ystyried gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen fel y’i cefnogir gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

Fel ymateb cychwynnol i leihau’r defnydd o blastig yn adeiladau’r Cyngor cytunwyd ar y camau canlynol:

·         Cael gwared ar y peiriannau oeri dŵr - hidlyddion carbon i’w gosod ar y tapiau dŵr.

·         Cael gwared ar yr holl beiriannau te/coffi yn swyddfeydd y cyngor.

·         Cael gwared ar beiriannau gwerthu yn gyfan gwbl

 

Gofynnwyd pam bod angen cael gwared ar y peiriannau te/coffi yn hytrach na gallu defnyddio o fygiau tsieina/teithio.  Cadarnhawyd mai cael gwared ar gynwysyddion llefrith bach unigol a llwyau plastig oedd nod y Cyngor.

 

Os cymeradwyir yr argymhellion yn Atodiad 1, byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen wedyn yn edrych yn fanwl ar leihau plastig mewn arlwyo mewn ysgolion ac yn ehangach drwy brosesau caffael.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cyngor yn ystyried casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen fel y’u cefnogwyd gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn:

(i)                  cymeradwyo’r argymhellion a’r Cynllun Gweithredu (Atodiad 1) er mwyn dangos fod y Cyngor yn arwain o fewn y gymuned o ran lleihau'r defnydd o blastig;

(ii)                cefnogi parhad y Grŵp Tasg a Gorffen am 12 mis arall gyda bwriad o gynnig camau gweithredu pellach i leihau defnydd y Cyngor o blastig ym meysydd:

a.    arlwyo ysgolion, a

b.    caffael

(iii)              cefnogi’r cynnig fod osgoi a lleihau’r defnydd o blastig yn y Cyngor yn dod yn ffrwd waith sy’n gysylltiedig â’r ymateb ehangach i Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg.

 

 

 

 

11.

ARGYFWNG YR HINSAWDD AC ECOLEG - ADRODDIAD AR GYNNYDD GYDA CHYNNIG Y CYNGOR pdf eicon PDF 310 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd sy’n cael ei wneud gan y Gweithgor trawsbleidiol Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecolegol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Brian Jones a Graham Timms Adroddiad ar Gynnydd gyda Chynnig y Cyngor mewn perthynas ag Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg.

 

Ar y cam hwn diolchodd y Cadeirydd i aelodau Cyfeillion y Ddaear a oedd yn bresennol i roi cefnogaeth i’r Cyngor.

 

Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg ei basio'n unfrydol gan y Cyngor ar 2 Gorffennaf 2019 gan ymrwymo'r Cyngor i’r gyfres o weithredoedd sydd wedi'u cynnwys ynddo.

 

Mae’r Cyngor wedi cyflawni amrywiaeth o weithredoedd i gyfrannu at yr uchelgais newid hinsawdd a gwelliannau ecolegol.  Roedd yn cynnwys gwaith a wnaed o dan ac ar draws y Cynllun Corfforaethol presennol, a oedd yn cynnwys y flaenoriaeth 'Yr Amgylchedd'.

 

Rhoddwyd yr enghreifftiau canlynol o sut y mae, a sut y bydd y Cyngor yn lleihau carbon, yn cynyddu secwestriad ac yn gwella ecoleg.

·         Rhaglen lleihau ynni yn adeiladau’r Cyngor

·         Rhesymoli'r ystâd gorfforaethol yn barhaus

·         Gwaith i wneud tai cyngor yn fwy effeithlon a thai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu hyd safonau “A” a “Passivhaus”.

·         Plannu coed a rheolaeth llifogydd naturiol

·         Strategaeth y fflyd newydd (trydan yn gyntaf) yn cael ei rhoi ar waith, ynghyd â phwyntiau gwefru trydanol.

·         Defnyddio tir a lleiniau ymyl ffordd y Cyngor fel mannau gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth.

·         Polisïau ac arferion gweithio hyblyg, o gartref ac o bell ar gyfer staff.

·         Adeiladau newydd yn cyrraedd safonau rhagoriaeth BREAM

·         Yr holl drydan sy’n cael ei ddefnyddio i’w brynu o ffynonellau adnewyddadwy

·         Mae cynhyrchiad ynni adnewyddadwy yn neu ar ein hadeiladau wedi dyblu ac yn tyfu.

·         Wedi buddsoddi yn, ac wedi agor dau waith cynhyrchu ynni o wastraff.

 

Mae Gweithgor trawsbleidiol wedi’i sefydlu sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Timms.

 

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer 25 Chwefror 2020 lle bydd aelodau’r cyhoedd, cynrychiolwyr y gymuned gwelliannau amgylcheddol a grwpiau ysgolion yn gallu rhoi eu syniadau i'w bwydo i mewn i gynlluniau datblygol y Cyngor.  Gellid gweddarlledu’r cyfarfod er mwyn galluogi mwy o ymgysylltiad gan drigolion o sir.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mae consensws y dylai Llywodraeth Cymru roi cyllid i Awdurdodau Lleol i'w galluogi i weithio tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2030

·         Codwyd materion yn ymwneud â cheir trydanol.  

Er enghraifft pe bai ar bawb angen gwefru eu ceir tua'r un pryd byddai’r effaith ar y grid cenedlaethol yn aruthrol.  Yn ogystal mae batris newydd ar gyfer cerbydau trydan yn hynod o ddrud, a beth fyddai'n digwydd i'r hen fatris?

·         A oes unrhyw bosibilrwydd o gerbydau hydrogen?

·         Gofynnodd yr arweinydd a oedd y prosiect hwn yn un rhy fawr i’r Gweithgor? 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Graham Timms ei bod yn gwneud synnwyr i’r Gweithgor weithio drwy’r materion perthnasol am o leiaf y chwe mis nesaf.

·         Cadarnhawyd bod disgyblion ysgolion wedi ymweld â’r datblygiad tai newydd yn Llanbedr, sydd â system wresogi ffynhonnell aer a bod y datblygiad wedi gwneud argraff fawr ar y disgyblion.

·         Soniodd y Cynghorydd Brian Jones wrth y cyfarfod am lagŵn llanw a fyddai o fantais i’r ardal arfordirol o  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 186 KB

Y Cyngor i ystyried Hysbysiad o Gynnig – “Tân Gwyllt” gan y Cynghorwyr Brian Blakeley, Gwyneth Kensler a Julian Thompson-Hill (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thomson-Hil yr Hysbysiad o Gynnig canlynol ar ei ran ei hun, y Cynghorydd Gwyneth Kensler a’r Cynghorydd Brian Blakeley i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

·         Ei gwneud yn ofynnol i bob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau awdurdodau lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i drigolion gymryd rhagofalon am eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;

·         Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau;

·         Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd ar gael iddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gynnal arddangosfeydd tân gwyllt ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;

·         Ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn eu hannog i gyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu uchafswm lefel sŵn  tân gwyllt sy’n cael eu gwerthu i'r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat i 90dB ;

·         Annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i stocio tân gwyllt “tawelach” i'w harddangos yn gyhoeddus.

 

Ar ôl trafodaeth fer, cytunwyd y bydd y tri Chynghorydd yn gweithio gyda'r Cynghorydd Mark Young a swyddogion ar yr Hysbysiad o Gynnig.

 

Cadarnhawyd y byddai geiriad  pwynt bwled cyntaf  yr Hysbysiad o Gynnig yn cael ei newid i ddarllen "annog pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus.....”

 

Cafwyd pleidlais, fel a ganlyn:

 

O blaid - 26

Ymatal - 1

Yn erbyn - 0

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

·         Ei gwneud yn ofynnol i bob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r awdurdod lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i drigolion gymryd rhagofalon am eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;

·         Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau;

·         Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd ar gael iddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gynnal arddangosfeydd tân gwyllt ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn;

·         Ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn eu hannog i gyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu uchafswm lefel sŵn  tân gwyllt sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat i 90dB ;

·         Annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i stocio tân gwyllt “tawelach” i'w harddangos yn gyhoeddus.

 

 

13.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 214 KB

Y Cyngor i ystyried Hysbysiad o Gynnig - "Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” gan y Cynghorydd Joan Butterfield (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor Hysbysiad o Gynnig ar ran y Cynghorydd Joan Butterfield, nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod, er ystyriaeth y Cyngor Llawn.

 

Mae'r awdurdod lleol hwn yn nodi, ers ei sefydlu yn 2006, bod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (Cymru) wedi gweithio gyda dros 150,000 o bobl ifanc yng Nghymru.  Mae gweithwyr addysg Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi gweld ers sawl blwyddyn erbyn hyn deimlad cynyddol o gasineb gwrth—Fwslim a gwrth-fewnfudwyr yn ychwanegol at y mathau eraill mwy sefydledig o hiliaeth.  Maent wedi mynd yn fwy pryderus am y ffordd mae cymunedau mewnfudwyr yn cael eu beio am broblemau cymdeithasol sydd mewn gwirionedd ag achosion amrywiol a chymhleth.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

Ø  Bod trosedd casineb yn parhau i gynyddu ar draws y DU gyda throsedd casineb ar sail hil a chrefydd yn cyfrif am dros 80% o bob trosedd casineb yng Nghymru. 

Ø  Bod mwyafrif yr atgyfeiriadau i Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU) yn cynnwys unigolion rhwng 15 ac 20 oed. 

Ø  Mae ymchwiliad y Gymdeithas Genedlaethol Er Atal Creulondeb i Blant wedi canfod bod Heddluoedd Cymru wedi cofnodi bron i 600 o droseddau casineb hil yn erbyn plant dros gyfnod o 3 blynedd (2015 i 2018), gyda 240 o'r troseddau hyn wedi’u cofnodi'r llynedd (17/18), gyda phlant bach a babanod ymhlith y dioddefwyr. 

Ø  Roedd yr elusen wedi cynnal arolwg gyda 1,000 o athrawon a staff cymorth mewn ysgolion yn ystod Tymor y Gwanwyn 2019 gyda’r canlyniadau yn dangos bod 1 mewn 4 o ymatebwyr wedi gweld, wedi ymateb i neu wedi cael gwybod gan blentyn ei fod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil yn y 12 mis blaenorol. 

 

Felly, mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu:  -

Ø  Ystyried canlyniadau arolwg 2019 fel rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor

Ø  Ystyried comisiynu’r rhaglen ysgolion Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a fydd yn addysgu pobl ifanc ac athrawon sut i fynd i’r afael â materion lleol. 

Ø  Ymrwymo i gadw at arfer gorau sef ‘y dylai ysgolion roi gwybod am, a chofnodi pob digwyddiad o hiliaeth ac adrodd i gynghorau yn flynyddol'  - Estyn/LlCC.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mae ysgolion yn gwneud popeth bosib i ddileu hiliaeth ond mae troseddau casineb yn digwydd ym mhob rhan o gymdeithas, nid dim ond yn yr ysgolion.

·         Cytunwyd bod angen i rieni a neiniau a theidiau gymryd cyfrifoldeb dros addysgu eu plant a'u hwyrion am faterion hiliaeth

·         Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud darn o waith i leihau troseddau casineb. 

Fel awdurdod lleol, mae CSDd yn gwneud cymaint ag y gall i leihau troseddau casineb ond mae  angen cyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Richard Mainon ddiwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies.  Y diwygiad oedd newid rhan gyntaf y penderfyniad i ‘Ystyried canlyniadau ein harolwg yn 2019” yn hytrach nag “Ystyried canlyniadau ein harolwg yn 2019 fel rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod."

 

Pleidleisiwyd ar y diwygiad fel a ganlyn:

 

O blaid -  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Hysbysiad o Gynnig pdf eicon PDF 92 KB

Y Cyngor i ystyried Hysbysiad o Gynnig – “Amrywiaeth” gan y Cynghorydd Rhys Thomas (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr Hysbysiad o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Mewn perthynas â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) a’r hyfforddiant diweddar ar gyfer aelodau  ar y mater, gofynnwn fod y Cyngor yn ceisio arwain yn hyn o beth mewn ymgais i ddenu grŵp mor amrywiol â phosibl o bobl i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.

 

I’r perwyl hwnnw gofynnwn fod y Prif Weithredwr a’r uwch swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ymhen 12 mis gyda chynllun gweithredu a fydd yn annog amrywiaeth gwell o ddinasyddion i sefyll am etholiad yn yr etholiadau sirol nesaf.

 

Credwn nad yw'r camau a amlinellir yn y Mesur Llywodraeth Leol yn mynd ddigon pell ac y gallai Sir Ddinbych arwain y ffordd o ran hyrwyddo ymgysylltiad dinasyddion yn y gwaith pwysig y mae cynghorau sir yn ei wneud.

 

Yn ystod trafodaeth cytunwyd nad oedd yn briodol i’r Prif Weithredwr a’r swyddogion ddod ag adroddiad yn ôl, ond y byddai’r Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol yn cyflwyno adroddiad ymhen 12 mis.  Felly cyflwynwyd diwygiad i’r Hysbysiad o Gynnig yn datgan hyn.

 

Cafwyd pleidlais ar y diwygiad fel a ganlyn:

 

O blaid - 27

Ymatal - 0

Yn erbyn - 0

 

Felly cafodd diwygiad ei basio a chafwyd pleidlais wedyn ar y cynnig wedi’i ddiwygio fel a ganlyn:

 

O blaid - 24

Ymatal - 0

Yn erbyn - 0

 

PENDERFYNWYD:

 

Mewn perthynas â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) a’r hyfforddiant diweddar i aelodau ar y mater, gofynnwn fod y Cyngor yn ceisio arwain yn hyn o beth mewn ymgais i ddenu grŵp mor amrywiol â phosibl o bobl i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.

 

I’r perwyl hwnnw gofynnwn fod y Prif Weithredwr a’r uwch swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ymhen 12 mis gyda chynllun gweithredu a fydd yn annog amrywiaeth gwell o ddinasyddion i sefyll am etholiad yn yr etholiadau sirol nesaf.

 

Credwn nad yw'r camau a amlinellir yn y Mesur Llywodraeth Leol yn mynd ddigon pell ac y gallai Sir Ddinbych arwain y ffordd o ran hyrwyddo ymgysylltiad dinasyddion yn y gwaith pwysig y mae cynghorau sir yn ei wneud.

 

15.

Hysbysiad o Gynnig pdf eicon PDF 178 KB

Y Cyngor i ystyried Hysbysiad o Gynnig - “Plastigau” gan y Cynghorydd Rachel Flynn (copi ynghlwm).”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn, o blaid Grŵp Prestatyn Di-blastig, y  Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

Ø  Mae’n rhaid i’r Cyngor arwain drwy esiampl i gael gwared ar eitemau plastig un defnydd o'u heiddo.

Ø  Y Cyngor i arwain mentrau dim-plastig i hyrwyddo’r ymgyrch a chefnogi digwyddiadau

Ø  Rhaid i'r cyngor fod ag unigolyn enwebedig ar y grŵp llywio cymunedol dim-plastig.

 

Cafwyd pleidlais, fel a ganlyn:

 

O blaid - 25

Ymatal - 0

Yn erbyn - 0

 

PENDERFYNWYD:

 

Ø  Mae’n rhaid i’r Cyngor arwain drwy esiampl i gael gwared ar eitemau plastig un defnydd o'u heiddo.

Ø  Y Cyngor i arwain mentrau dim-plastig i hyrwyddo’r ymgyrch a chefnogi digwyddiadau

Ø  Rhaid i'r cyngor fod ag unigolyn enwebedig ar y grŵp llywio cymunedol dim-plastig.

 

 

16.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 408 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD, cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor  a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor. 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.05 p.m.

 

 

 

 
Yn ôl i'r brig