Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Hugh Irving, Huw Jones, Geraint Lloyd-Williams a Peter Scott.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen : Gweithredu Model Darparu Amgen (MDA) ar gyfer Amrywiol Weithgareddau /  Swyddogaethau Cysylltiedig â Hamdden:

 

Y Cynghorydd Gwyneth Kensler – gan ei bod yn ysgrifenyddes i Theatr Twm o’r Nant. Roedd y theatr wedi derbyn cefnogaeth gan hamdden ar gyfer y cynllun ‘Night Out – Noson Allan’ a chymorth gan dîm technegol Theatr y Pafiliwn. Yn ogystal, roedd ei gŵr yn aelod o un o ganolfannau hamdden y Cyngor.

 

Y Cynghorydd Joseph Welch – gan fod ei blant yn defnyddio’r gwasanaethau hamdden a ddarperir gan y Cyngor.

 

Y Cynghorydd  Emrys Wynne – gan ei fod yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Brynhyfryd. Roedd y cysylltiad personol yn ymwneud â defnydd yr ysgol o gyfleusterau Canolfan Hamdden Rhuthun yn ystod oriau ysgol. 

 

Datganwyd cysylltiadau personol gan y Cynghorwyr Gareth Davies, Rachel Flynn a Paul Penlington oherwydd eu haelodaeth i Hamdden Sir Ddinbych.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tony Flynn a oedd ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Hamdden Clwyd yn cyfrif fel cysylltiad personol? Dywedodd y Swyddog Monitro, gan nad oedd Hamdden Clwyd bellach yn bodoli nid oedd y rôl yn cyfrif fel cysylltiad personol o dan y Cod Ymddygiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 

4.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN pdf eicon PDF 408 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus yn ceisio barn y Cyngor mewn perthynas â’r Achos Busnes drafft (copi yn yr atodiad) ar gyfer sefydlu Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol, ar gyfer ystod o weithgareddau/ swyddogaethau "mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud â hamdden.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn parhau â’r eitem hon, talodd y Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r tîm etholiad a oedd yn gyfrifol am redeg yr etholiadau diweddar i Senedd Ewrop yn effeithlon. Cefnogodd y Cynghorydd Arwel Roberts y sylwadau gan y Cynghorydd Feeley.

 

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Holl yr adroddiad ar y cyd yn ceisio barn y Cyngor mewn perthynas â’r Achos Busnes drafft (Atodiad A) ar gyfer sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol (LATC), ar gyfer ystod o weithgareddau/ swyddogaethau "mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud â hamdden.

 

Adroddodd y Cynghorydd Feeley ar y gwasanaethau a oedd wedi ‘gwella’n aruthrol’ a’r gwelliannau a gyflawnwyd mewn perthynas â chyfleusterau a gweithgareddau hamdden Sir Ddinbych dros y 10 mlynedd diwethaf. Amlinellodd rai o’r cyfleusterau newydd a gwell a dywedodd bod cyfanswm y cymhorthdal i gefnogi gwasanaethau hamdden oddeutu yr un fath ag yr oedd yn 2012. Nododd fod llawer o’r gwelliannau wedi’u sicrhau’n defnyddio adnoddau presennol neu fenthyca a hunan ariannwyd i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd neu well.

 

Darparwyd yr Aelodau â manylion am y Bwrdd a fyddai’n goruchwylio Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ynghyd ag aelodaeth ddangosol o’r Bwrdd hwnnw. Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at y trefniadau arfaethedig a fyddai’n caniatáu i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol fod yn llwyddiannus a pharhau i ffynnu mewn amgylchedd masnachol wrth ddiogelu a chadw buddion y Cyngor a rheolaeth o Hamdden Sir Ddinbych.

 

Adroddodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y rhesymau ariannol dros sefydlu Model Darparu Amgen, rhagwelwyd y byddai’r model hwn yn darparu arbedion sylweddol ar gyfer y Cyngor wrth alluogi'r gwasanaeth i fasnachu’n fwy masnachol er mwyn helpu i gynnal cyfleusterau ar gyfer y dyfodol. Yn gryno, amcangyfrifwyd bod yr arbedion oddeutu £1,107k gydag arbedion mawr mewn perthynas â Threthi Annomestig Cenedlaethol a thaliadau TAW. Ar ôl amlinellu’r costau hysbys ac arian at raid, amcangyfrifwyd y byddai’r arbedion blynyddol net yn ystod y flwyddyn gyntaf yn £800k. Ar hyn o bryd, mae’r cyfleusterau a'r gwasanaethau “mewn cwmpas”, hynny yw, y rhai y cynigir eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, yn derbyn cymhorthdal y Cyngor o oddeutu £3 miliwn y flwyddyn ond y byddai’r cymhorthdal yn cael ei leihau drwy’r arbedion a gyflawnir gan y model Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

 

·         Bydd yr adeiladau / tiroedd a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer darparu'r gwasanaethau hamdden “mewn cwmpas” yn cael eu prydlesu i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar rent pitw am gyfnod o 10 mlynedd.  Bydd darpariaeth yn cael ei gwneud o fewn y prydlesi i ddiogelu'r cytundebau lefel gwasanaeth presennol gydag ysgolion, a chynnal y fynedfa bresennol i’r adeiladau ar gyfer etholiadau, gofynion argyfwng ac ati.

·         Y gwersi a ddysgwyd o brofiad Sir Ddinbych o ddefnyddio Hamdden Clwyd i reoli cyfleusterau a’r rhai o brofiadau awdurdodau lleol eraill o Fodelau Darparu Amgen.

·         Y lefel o sicrwydd a'r risg mewn perthynas â chyflawni arbedion drwy ostyngiadau i Drethi Annomestig Cenedlaethol a thaliadau TAW a’r risg i’r model pe bai deddfwriaeth yn newid yn y dyfodol ac yn atal yr arbedion a ragolygwyd rhag cael eu gwireddu. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y risgiau hyn yn bodoli ac eu bod wedi cael eu archwilio o fewn yr achos busnes. O ganlyniad i’r Cyngor yn cadw perchnogaeth, byddai’r cytundeb prydles yn darparu ar gyfer adennill asedau Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol drwy’r Cyngor dan amodau penodol.

·         Cadarnhawyd y byddai staff sy’n cael eu heffeithio yn cael eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth ac yn destun yr un telerau ac amodau â staff eraill yn Sir Ddinbych. Esboniodd Pennaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

Cymerodd Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y cyfle i nodi bod y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151, Richard Weigh, yn gadael Cyngor Sir Ddinbych ac mai hwn oedd ei gyfarfod olaf gyda'r Cyngor Llawn. Cymeradwyodd gyfraniad a llwyddiannau Mr Weigh, wedi iddo ymgymryd â rôl anodd mewn hinsawdd ariannol heriol. Cefnogodd yr Aelodau’r deyrnged gan y Cynghorydd Thompson-Hill.

 

 

5.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 497 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd raglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cytunodd yr Aelodau i ohirio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu o gyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf i'r cyfarfod ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD - Yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn cymeradwyo’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.