Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen (Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Cysylltiedig â Hamdden: Cyfansoddiad y Bwrdd Cyfarwyddwyr) gan fod Craig Kensler yn aelod o Ganolfan Hamdden Sir Ddinbych a’i bod yn mynd i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych a Theatr y Pafiliwn, y Rhyl.

 

Datganodd y Cyng. Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 7 (Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040: Drafft Ymgynghori) gan fod aelod o’i deulu yn Arolygydd Cynllunio yng Nghymru.

 

Datganodd y Cadeirydd, y Cyng. Meirick Lloyd Davies, gysylltiad personol ag eitem 10 (Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor 2018/2019) gan ei fod yn aelod o Fwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai cwestiwn yn cael ei gyflwyno:-

 

Gofynnodd y Cyng. Peter Scott y cwestiwn canlynol:-

 

“Ar 9 Hydref 2019 argraffodd y Journal erthygl tudalen flaen yn dweud y bydd penderfyniad ynghylch y safle sipsiwn yn cael ei wneud y diwrnod hwnnw. Gan hynny, ni fyddai unrhyw bwynt gwneud unrhyw sylw wedyn. Bydd pobl sy’n darllen hwn yn credu bod hynny’n gywir hyd nes bydd y Journal yn cyflwyno datganiad diwygiedig ar 16 Hydref 2019. Felly, bydd rhai wedi colli o leiaf wythnos i ymateb. Pam nad oes modd estyn y cyfnod ymgynghori un wythnos er mwyn darparu’r cyfnod teg byrraf i bobl ymateb i’r ymgynghoriad?”

 

Ymateb y Cyng. Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel –

 

“Nid camgymeriad Cyngor Sir Ddinbych yw hyn. Os yw hwn yn gais dilys oherwydd y posibilrwydd bod preswylwyr yn colli cyfle i ddweud eu dweud, yna rwyf yn fodlon siarad efo swyddogion am estyniad o wythnos.”

 

Y Cyng. Peter Scott –

 

“Rwyf o ddifrif ynghylch y cais hwn. Nid wyf yn credu bod unrhyw fai ar Gyngor Sir Ddinbych ac rwyf yn cydnabod bod yna wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 107 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae’r rhestr o ddigwyddiadau dinesig y mae’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi’u mynychu rhwng 25 Awst 2019 a 4 Hydref 2019 wedi’i chylchredeg cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu mynychu.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 311 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 10 Medi 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 10 Medi 2019.

 

Cywirdeb –

 

Ymddiheurodd y Cadeirydd nad oedd y munud o dawelwch er cof am y diweddar Elwyn Edwards wedi’i nodi yn y cofnodion.

 

Dylai tudalen 8, eitem 3 ddarllen “Hon yw’r sefyllfa gyfreithiol ond yr alwad gyntaf yw mynd i’r afael â’r ddyletswydd ymddiriedol......”

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

GWEITHREDU MODEL DARPARU AMGEN AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU A SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: CYFANSODDIAD BWRDD CYFARWYDDWYR pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Thir y Cyhoedd a Phennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (gweler copi ynghlwm) i gael cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfansoddiad y Bwrdd o Gyfarwyddwyr y Cwmni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Gwyneth Kensler gysylltiad personol gan fod Craig Kensler yn aelod o Ganolfan Hamdden Sir Ddinbych a’i bod yn mynd i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych a Theatr y Pafiliwn, y Rhyl.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Hamdden: Cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr (a gylchredwyd yn barod) i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni, penodi nifer o gyfarwyddwyr, a’r dull o benodi’r cyfarwyddwyr eraill.

 

Ar 30 Mai 2019 rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth i greu cwmni masnachu nid er elw cyfyngedig drwy warant fel model darparu amgen i ddarparu gwasanaethau hamdden ar ran y Cyngor.

 

Nid oedd unrhyw ofyniad statudol o ran maint y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Yr awgrym o fewn yr Achos Busnes oedd penodi saith cyfarwyddwr. Cynigwyd i ffurfio Bwrdd Cyfarwyddwyr fel a ganlyn:

·         Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus

·         Rheolwr Gyfarwyddwr

·         Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

·         Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

·         Aelod nad yw’n aelod o’r Cabinet

·         Cyfarwyddwr Annibynnol x 2

 

Awgrymwyd y dylai’r cyfarwyddwr nad yw’n aelod o’r Cabinet fod yn berson â phrofiad ym myd busnes a/neu ddiddordeb yn y sector hamdden. Gofynnwyd am enwebiadau ac roedd yn rhaid i’r enwebeion gyflwyno datganiad yn nodi pam eu bod yn bodloni gofynion y swydd-ddisgrifiad i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd erbyn 12 p.m. ddydd Gwener 11 Hydref 2019. Mae un enwebiad wedi'i dderbyn a'i gylchredeg i bob Aelod cyn cyfarfod y Cyngor.

 

Derbyniwyd enwebiad gan y Cyng. Peter Prendergast sydd wedi cyflwyno CV gyda'i holl brofiadau busnes perthnasol.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cyng. Joan Butterfield y dylai’r Cyng. Peter Prendergast gael ei benodi i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac eiliwyd y cynnig.

 

Bydd y ddwy sedd arall i gyfarwyddwyr yn cael eu llenwi gan unigolion annibynnol wedi’u recriwtio drwy hysbysebu agored. Awgrymwyd y dylid hysbysebu un o’r rolau hyn gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir mewn hamdden fasnachol / cyllid, a’r llall gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir mewn datblygu cymunedol / hamdden.

 

Bydd panel recriwtio gyda thri o aelodau etholedig a enwebir gan y Cyngor, yn ogystal â'r Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a chymorth gan AD, yn cwrdd i lunio rhestr fer ac yna i gyfweld ag ymgeiswyr posib. Bydd y panel recriwtio wedyn yn argymell i’r Cyngor pa unigolyn y dylid ei benodi a bydd gofyn i’r Cyngor roi cymeradwyaeth i hynny.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cyng. Julian Thompson-Hill, y dylai’r Cyng. Hugh Irving fod yn rhan o’r panel recriwtio ac fe eiliwyd y cynnig.

 

Cynigiodd y Cyng. Joan Butterfield y dylai’r Cynghr. Graham Timms a Brian Blakeley fod ar y panel recriwtio, ac eiliwyd y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

·         Cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad a phenodi Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn gyfarwyddwyr y cwmni.

·         Penodi’r Cyng. Peter Prendergast, nad yw’n aelod o’r Cabinet, i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni.

·         Cymeradwyo’r broses recriwtio arfaethedig ar gyfer penodi’r ddau gyfarwyddwr annibynnol a phenodi’r Cynghr. Brian Blakeley, Hugh Irving a Graham Timms i eistedd ar y panel recriwtio fel y nodir ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.

·         Bod yr Aelodau yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1, cyf. 564) fel rhan o’u hystyriaethau.

 

 

 

 

7.

LLYWODRAETH CYMRU: FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL 2020 - 2040; DRAFFT YMGYNGHORI pdf eicon PDF 250 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor ar Lywodraeth Cymru.   Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040; Drafft Ymgynghori

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Emrys Wynne gysylltiad personol â’r eitem hon gan fod aelod o’i deulu yn Arolygydd Cynllunio yng Nghymru.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040: Drafft Ymgynghori (a gylchredwyd yn barod) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor am gynnwys dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar luniad Cynllun Datblygu Lleol nesaf y sir yn ogystal â’i bwysigrwydd fel ffynhonnell bolisi cenedlaethol i wneud penderfyniadau ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.

 

Mae’r swyddogion wedi gweithio ar draws adrannau’r Cyngor er mwyn llunio'r ymateb i’r ymgynghoriad (Atodiad 1).

 

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) ym mis Medi 2020. Bydd y FfDC yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd yn nodi goblygiadau defnydd tir polisïau ac amcanion allweddol cenedlaethol. Mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer datblygu cynlluniau haen isaf h.y. Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Nid oes Cynlluniau Datblygu Strategol yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dywedwyd bod angen ehangu’r ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel fod dros 2000 o ymatebion wedi’u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad. [Cafwyd sylw ynglŷn ag ymgynghoriad cyn adneuo CDLl Cyngor Sir Ddinbych; nid y FfDC drafft]

·         Roedd ansawdd y mapiau a ddarparwyd yn broblem fawr.

·         Roedd pryder ynghylch y posibilrwydd o or-ddatblygu’r ardal arfordirol.

·         Dylai tai fod yn ecogyfeillgar o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd, ac mae hynny wedi’i gytuno arno yn dilyn Hysbysiad o Gynnig yn y Cyngor Llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd yn y FfDC.

·         Dywedodd yr Aelodau fod tai fforddiadwy yn broblem fawr a bod angen mwy o dai dwy ystafell wely.

Mae’r FfDC yn nodi y dylai 51% o’r tai fod yn fforddiadwy ond nid yw’n ymddangos bod unrhyw waith wedi’i wneud o ran a yw hynny’n hyfyw ac yn gyraeddadwy. Mae Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth hyfywedd ar gyfer y CDLl newydd, o ran pa ganran o dai fforddiadwy y mae modd ei chynnwys yn y ddogfen. Os ceisir canran uchel o dai fforddiadwy drwy’r polisi lleol, ond yn groes i’r asesiad hyfywedd, ni fyddai hynny’n gyraeddadwy. Bydd y swyddogion yn siŵr o ddarparu gwybodaeth am unrhyw gynnydd mewn perthynas â’r CDLl i’r Aelodau.

·         Mae yna amcangyfrif o ffigyrau tai yn y FfDC nad ydynt yn ofyniad polisi ond, yn hytrach, yn seiliedig ar fodel Albanaidd sydd wedi’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru.

·         Mae cysylltiadau i dde Cymru, yn hytrach na gogledd Lloegr, wedi’u nodi fel blaenoriaeth.

Cadarnhawyd fod y cysylltiad â Glannau Mersi a gogledd orllewin Lloegr wedi’i wneud oherwydd bod gan yr ardaloedd hyn economi cryfach. Cadarnhawyd hefyd fod angen cysylltu cludiant cyhoeddus â mwy o gymunedau.

·         Cadarnhawyd y bydd pob mater a godir yn y cyfarfod yn cael ei fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y bydd Bil Llywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Bil yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â Chydbwyllgorau Corfforaethol a chyrff rhanbarthol ond, hyd nes bydd y Bil wedi'i gyhoeddi, nid oes rhagor o wybodaeth i'w chyflwyno i Aelodau.

 

Dywedodd yr Arweinydd, y Cyng. Hugh Evans, fod CLlLC wedi ymateb yn gryf i’r Bil o ran y gofynion gorfodol. Mae’n gwanhau lleoliaeth a mynegodd bryder ynghylch hynny. Bydd cyfarfod ddydd Gwener 18 Hydref 2019 a bydd yr Arweinydd yn mynegi’r holl bryderon.

 

Mynegodd y Cyng. Arwel Roberts bryder ynghylch nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Ar y pwynt hwn (11.20a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m.

 

 

8.

DIWEDDARIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (gweler copi ynghlwm) i roi diweddariad blynyddol i’r Cyngor ac i gynghori ar newidiadau arfaethedig sydd angen eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad Diweddariadau i Gyfansoddiad y Cyngor (a gylchredwyd yn barod) i ddarparu diweddariad blynyddol i’r Cyngor a chynghori ar y newidiadau arfaethedig sydd angen eu gwneud i'r Cyfansoddiad.

 

Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi bod yn rhaid i’r Pwyllgor ystyried unrhyw newid a fwriedir i Gyfansoddiad y Cyngor cyn iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor llawn, ac mae’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y Cyfansoddiad o leiaf unwaith y flwyddyn o ystyried ei bwysigrwydd i fframwaith llywodraethu cyffredinol y Cyngor. Yn ei gyfarfod ar 11 Medi 2019 ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y Cyfansoddiad ac argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau a nodir yn Atodiadau 1 a 2.

 

Mae’r Swyddog Monitro yn fodlon bod y Cyfansoddiad yn addas i’r diben ac yn cadarnhau bod y Cyfansoddiad wedi’i newid i gymryd y canlynol i ystyriaeth:

·         Mae Adran 5.2 yn ymwneud â ffurf a chyfansoddiad y Cabinet wedi'i ddiwygio i adlewyrchu penderfyniad y Cyngor ar 19 Chwefror 2019

·         Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019

·         Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau Gweithrediaeth – Gwnaethpwyd newidiadau i bortffolio Aelod Cabinet yn dilyn newidiadau a wnaed gan Arweinydd y Cyngor

·         Cyfuno dau bwyllgor presennol i ffurfio’r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 28 Mawrth 2019

·         Rhestr Taliad Cydnabyddiaeth Aelodau’r Cyngor yn cael ei ddiweddaru

 

Mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried y newidiadau i’w gwneud i’r Cynllun dirprwyo o ran y newidiadau a wnaethpwyd yn sgil ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Ailstrwythurwyd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor ar 30 Mai 2019 i greu Model Darparu Amgen ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden:

·         Cynllun Dirprwyo Swyddog – mae’r cynllun arfaethedig yn Atodiad 1 yn delio gyda throsglwyddo rhai swyddogaethau sy’n ymwneud â thai; trosglwyddo rhai swyddogaethau ased ac ystadau a’r cyfrifoldeb o ran swyddogaethau hamdden yn dawel ac yn derbyn sylw dan gynllun y Cabinet.

·         Cynllun Dirprwyo’r Cabinet (Atodiad 2) – darpariaeth ddatganedig sy’n nodi bod y swyddogaethau hyn yn gyfrifoldeb ar yr aelod arweiniol perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod y Cyngor yn nodi’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad

·         Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo fel yr amlinellir yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried gwaith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barry Mellor (Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol) yr adroddiad (a gylchredwyd yn barod) i roi gwybod i bob Aelod am waith y Pwyllgor yn 2018/19.

 

Dan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011 mae’n ofyniad statudol i’r Cyngor gael Pwyllgor Archwilio. Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (y Pwyllgor) oedd pwyllgor dynodedig y Cyngor ar gyfer y diben hwn.

 

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn gofyn bod aelodaeth y Pwyllgor yn wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys chwe Aelod Etholedig. Nid oes gofyniad statudol i'r Pwyllgor fod yn wleidyddol gytbwys. Ond mae’n rhaid cael o leiaf un aelod lleyg annibynnol sef, ar hyn o bryd, Mr Paul Whitham.

 

Mae Swyddog Adran 151 y Cyngor, Swyddog Monitro a Phennaeth Archwilio Mewnol, neu eu cynrychiolwyr, yn bresennol ymhob cyfarfod. Yn ychwanegol at hynny, mynychir pob cyfarfod gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Yn ystod y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn, mae’r Pwyllgor wedi derbyn nifer o adroddiadau blynyddol mewnol ar faterion yn ymwneud â llywodraethu. Mae’r rhain wedi cynnwys:

·         Adroddiad ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol

·         Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol

·         Adroddiad Blynyddol yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth

·         Adroddiad Blynyddol Rhannu Pryderon

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi derbyn nifer o adroddiadau yn ymwneud â materion ariannol. Mae’r rhain wedi cynnwys:

·         Datganiad Cyfrifon – ceir toreth o wybodaeth yn ymwneud â’r cyfrifon ac felly cyflwynir y drafft i’r Pwyllgor mewn cyfarfod cyn toriad yr haf ac yna fe gyflwynir y datganiad cyfrifon terfynol i’w cymeradwyo ym mis Medi.

·         Rheoli Trysorlys – mae’r Pwyllgor yn derbyn dau adroddiad pob blwyddyn.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn derbyn adroddiadau rheoleiddio allanol. Mae’r rhain wedi cynnwys:

·         Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru – roedd yr adroddiad ar y cyfan yn gadarnhaol iawn ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhelliad sylweddol ar gyfer newid.

Cyflwynwyd chwech ‘cynnig ar gyfer gwelliant i’r Cyngor ynghyd â chamau gweithredu ar gyfer pob un.

·         Llythyr Archwilio Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru – roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau ei fod yn defnyddio adnoddau yn economaidd, effeithlon ac effeithiol. Hefyd, ni nodwyd unrhyw fater sylweddol a all effeithio ar gyfrifon 2018-19 na systemau ariannol allweddol.

·         Trosolwg a Chraffu – daeth yr adroddiad i’r casgliad bod swyddogaeth drosolwg a chraffu’r Cyngor yn ymateb yn dda i heriau presennol. Fodd bynnag, gall gallu cyfyngedig i gefnogi craffu atal cynnydd yn y dyfodol.

·         Defnydd Data’r Llywodraeth Leol – mae’r adroddiad yn nodi bod gan y Cyngor y sylfeini i ddefnyddio data yn well, ond bod angen gwella’r ffordd y caiff data ei ddadansoddi a’i gyflwyno i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi derbyn adroddiadau rheolaidd gan y Prif Archwilydd Mewnol ar y cynnydd a wneir yn erbyn y Cynllun Archwilio Mewnol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor.

 

Yn ogystal, mae’r Pwyllgor wedi cynnal hunanasesiad o’i berfformiad ei hun a’i gymharu â’r arfer gorau presennol. Gwnaed yr asesiad hwn yn erbyn rhestr wirio o ganllaw’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) “Pwyllgorau Archwilio – Canllaw Ymarferol ar gyfer Awdurdodau Lleol a’r Heddlu Rhifyn 2018”.

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried ei enw fel rhan o’r asesiad ac wedi dod i’r casgliad y dylai’r enw gynnwys cyfeiriad at y swyddogaeth bwysig o fod yn bwyllgor archwilio yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae’r Pwyllgor wedi argymell mai Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio y dylid ei alw.

 

Cymerodd y Cyng. Barry Mellor y cyfle hwn i ddiolch i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru a'r holl swyddogion sy’n mynychu’r cyfarfodydd Llywodraethu Corfforaethol. Yn benodol, cydnabu faint o waith a wneir gan y tîm Archwilio Mewnol. Diolchwyd i bob aelod o’r Pwyllgor gan fod  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2018/2019 pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (gweler copi ynghlwm) i'r Cyngor ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar Bwyllgorau Craffu 2018/2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd, y Cyng. Meirick Lloyd Davies, gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o Fwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cyflwynodd y Cyng. Graham Timms Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor (a gylchredwyd yn barod) ar eu gweithgareddau yn ystod 2018/19.

 

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn un o ofynion Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, sy’n nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith gydag argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol.

 

Eglurodd y Cyng. Timms pam bod yr adroddiad yn hwyr yn cael ei gyflwyno oherwydd bod y Swyddog Craffu wedi bod yn rhan o’r Ymchwiliad i Dân Llantysilio sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Caiff ffurflenni testunau craffu eu cyflwyno gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw neu beidio.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran cefnogi gwaith y Cyngor i ddarparu ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd.

 

Mae’r Pwyllgorau Craffu wedi parhau i gymryd rhan mewn ymarferion ymgynghori a gwahodd nifer o sefydliadau allanol a phartneriaid i gyfarfod gyda phwyllgorau i drafod meysydd o ddiddordeb neu bryderon cyffredin.

 

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd ac annog preswylwyr i ryngweithio â’r broses graffu yn her, ond mae preswylwyr ac unigolion eraill o’r tu allan wedi ymgysylltu ynghylch dau fater sylweddol yn ymwneud â phenderfyniadau’r Cabinet a alwyd i mewn. Roedd y penderfyniadau yn ymwneud â safleoedd sipsiwn a theithwyr yn y sir ac ymchwiliad craffu i dân mynydd Llantysilio yn ystod haf 2018.

 

Cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn ffurfiol i sefydlu Cydbwyllgor Craffu i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, sef y pwyllgor cyntaf o’r fath yng Nghymru. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf fis Mai 2019.

 

Hefyd yn yr adroddiad blynyddol fe geir gwybodaeth am y grwpiau tasg a gorffen/gweithgorau sy’n gweithredu dan nawdd Pwyllgorau Craffu’r Cyngor.

 

Diolchodd y Cyng. Timms a’r Aelodau eraill i’r Swyddog Craffu, Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i gwaith campus drwy gydol y flwyddyn. Diolchwyd hefyd i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, am ei gefnogaeth a’i waith. Mynegodd yr Aelodau eu pryderon ynghylch y pwysau ar swyddogion craffu oherwydd eu llwyth gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2018/19.

 

 

 

 

11.

ADOLYGU DOSBARTHIADAU ETHOLIADOL A MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog Gwasanaethau Etholiadol (gweler copi ynghlwm) yn gofyn i'r Cyngor gytuno i'r Dosbarthiadau Etholiadol a’r Mannau Pleidleisio wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, adroddiad ar yr Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (a gylchredwyd yn barod) i dderbyn cytundeb y Cyngor i’r Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

 

Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i rannu ei ardal yn ddosbarthiadau etholiadol a dynodi man pleidleisio ar gyfer bob dosbarth. Mae hefyd yn ddyletswydd statudol i adolygu’r trefniadau hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog Gwasanaethau Etholiadol bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 6 Medi 2019, a gwahoddwyd etholwyr a phartïon â diddordeb i gyflwyno sylwadau ar y trefniadau presennol.

 

Ni fu i’r ymgynghoriad cyhoeddus godi unrhyw newid sylweddol ar wahân i ychwanegu ychydig o fannau pleidleisio:

·         Defnyddio Adeilad 3 (ar gampws Ysgol Glan Clwyd / Canolfan Hamdden Llanelwy) fel man pleidleisio ar gyfer dosbarth etholiadol BLS os yw’r gwaith ail-fodelu yn gwneud yr adeilad yn addas i’w ddefnyddio fel man pleidleisio.

·         Defnyddio Clwb Rygbi’r Rhyl ar Ffordd Tynewydd, y Rhyl fel Man Pleidleisio BRB os yw ar gael i’w ddefnyddio fel man pleidleisio.

·         Defnyddio Canolfan Gymunedol Cyngor Tref Rhuthun yn yr Hen Lys, Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun fel Man Pleidleisio CAA yn dilyn cau Canolfan Awelon.

 

Roedd pryder ynghylch defnyddio’r Hen Lys ar Sgwâr Sant Pedr oherwydd nad oes cyfleusterau parcio i bleidleiswyr.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Sir yn cytuno â’r trefniadau presennol ar gyfer dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio fel y manylir yn Atodiad 1, yn amodol ar awdurdodi’r canlynol:

·         Defnyddio Adeilad 3 (ar gampws Ysgol Glan Clwyd / Canolfan Hamdden Llanelwy) fel man pleidleisio ar gyfer dosbarth etholiadol BLA os yw’r gwaith ail-fodelu yn gwneud yr adeilad yn addas i’w ddefnyddio fel man pleidleisio;

·         Defnyddio Clwb Rygbi’r Rhyl ar Ffordd Tynewydd, y Rhyl fel Man Pleidleisio BRB os yw ar gael i’w ddefnyddio fel man pleidleisio; a

·         Defnyddio Canolfan Gymunedol Cyngor Tref Rhuthun yn yr Hen Lys, Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun fel Man Pleidleisio CAA yn dilyn cau Canolfan Awelon.

 

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 407 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn barod).

 

Cadarnhawyd y bydd Gweithdy Cyllideb yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2019 am 10.00 a.m.

 

Bydd cyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr 2019 yn dechrau am 2.00 p.m. Hyd yma, nid oes unrhyw eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac os yw’n parhau felly bydd y cyfarfod yn cael ei ganslo.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m.