Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

 

 

3.

DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL - PAPUR GWYRDD pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i roi gwybod i’r Cyngor am gynnwys y Papur a chael cymeradwyaeth o ymateb y Cyngor iddo.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Cyngor am gynnwys y Papur Gwyrdd Llywodraeth Leol a derbyn cymeradwyaeth i ymateb y Cyngor iddo. 

 

Cyflwynir ymatebion i'r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, 12 Mehefin 2018.

 

Roedd y papur y nawfed dogfen ymgynghori neu gyhoeddiad i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno ar y testun Diwygio Llywodraeth Leol ers ac yn cynnwys Adroddiad Comisiwn Williams ym mis Ionawr 2014.  

 

Cynhaliwyd gweithdy i’r holl Aelodau ar 24 Mai 2018 i gael barn aelodaeth ehangach y Cyngor, Tîm Gweithredol Corfforaethol a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac yn dilyn hynny paratowyd ymateb drafft.  

 

Roedd pob Arweinydd Grŵp yn mynegi pryderon ynglŷn ag ad-drefnu ac roeddent yn cytuno’n llwyr gydag ymateb y Cyngor i’r Papur Gwyrdd.

 

Roeddent i gyd yn nodi bod Sir Ddinbych yn darparu gwasanaethau o safon uchel i drigolion a defnyddwyr gwasanaeth eraill.    Roedd y Cyngor hefyd yn cymryd rhan ymarferol mewn gwaith ar y cyd is-ranbarthol presennol a gwaith ar y cyd sy’n cael ei ddatblygu.  Roedd rhai trefniadau ar y cyd e.e.  GwE yn darparu gwasanaethau ardderchog. 

 

Nodwyd nad oedd manylion costau wedi eu cynnwys yn y Papur Gwyrdd a nes bydd y manylion hynny’n cael eu cyflwyno ni fyddai uno yn cael ei ystyried.

 

Nodir na holwyd unrhyw gwestiwn, ac na geisiwyd barn ynghylch yr achos dros newid.  Tybir felly fod y Llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r polisi o uno ac yn gofyn am farn ynghylch y broses o gyflawni hyn yn unig.  Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i lunio ar y sail hwnnw ond roedd yn cynnwys cyflwyniad yn nodi barn y Cyngor ar yr achos dros newid. 

 

Cynigiodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr argymhelliad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn:

 

(i)              O blaid – 26

(ii)             Ymatal - 1

(iii)            Yn erbyn - 1

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried cynnwys y Papur sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad hwn ac yn cymeradwyo’r ymateb i'r ymgynghoriad drafft, sydd wedi’i nodi yn Atodiad 2, i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.30pm.