Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cyn dechrau’r cyfarfod cafwyd munud o dawelwch i gofio am Alan Jones, gŵr y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, a fu farw'n ddiweddar. Roedd yr angladd i'w gynnal yn Eglwys Sant Thomas, Y Rhyl ddydd Llun 29 Hydref, 2018.

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, cyflwynwyd deiseb gan y Cynghorydd Joan Butterfield ar ran trigolion Westbourne Avenue, Seabank Drive ac Oakland Avenue yn ymwneud â’u pryderon ynglŷn â defnydd cynllunio.

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad personol gydag Eitem 6, y Ddogfen Gynnig Bargen Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru.

Datganodd y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Hugh Evans a Merfyn Parry gysylltiad personol gydag Eitem 11, Rhybudd o Gynnig.

Datganodd y Cynghorwyr David Williams ac Eryl Williams gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag eitem 11, Rhybudd o Gynnig.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Ar y pwynt hwn cafodd aelodau wybod y byddai dau gwestiwn yn cael eu rhoi gerbron fel a ganlyn:

 

(i)            Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol:

 

“Ysgrifennodd y Cyngor hwn yn ddoeth at yr Adran Waith a Phensiynau yn gofyn am ohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol o ganlyniad i'r anawsterau technegol niferus a oedd eisoes wedi eu tanlinellu. Yr wythnos hon, mae’r Llywodraeth yn gorfod gohirio cyflwyno Credyd Cynhwysol i’r rhai sydd eisoes ar fudd-daliadau am yr union resymau y rhoesom ni fel Cyngor.

 

Oes gan y Cyngor unrhyw dystiolaeth fod caledi wedi ei achosi i unrhyw rai o’n dinasyddion o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych?"

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol, Y Cynghorydd Mark Young:

 

“Mae pwnc Credyd Cynhwysol wedi ymddangos yn helaeth yn y wasg genedlaethol ond fe fyddaf yn ymateb gyda chipolwg o’r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol ar draws ein hawdurdod. Rydym ni nid yn unig yn gofalu am bobl sydd wedi eu heffeithio gan hyn ond drwy sefydlu Sir Ddinbych yn Gweithio rydym yn helpu pobl i gael gwaith a gwella eu sgiliau er mwyn cael gwell swyddi. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd wydn o ran cefnogi pobl. Diolchwyd i Mel Evans (Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol) a’i thîm.

 

Fel y gwyddoch, cyflwynwyd y cynllun i gyflwyno Credyd Cynhwysol i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 17 Mai 2018. Roedd yn canolbwyntio ar effeithiau tebygol cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar wasanaethau’r Cyngor, preswylwyr y Sir a’r gwaith cynllunio a pharatoi a wnaed hyd yma.  Trafododd Aelodau'r pwnc gyda nifer o Aelodau'n gwneud sylwadau ar werth yr adroddiad. Gofynnodd Aelodau am gyfleu eu diolchgarwch a’u llongyfarchiadau i'r holl bartneriaid fu'n ymwneud â'r ymagwedd ragweithiol a gymrwyd i reoli effaith cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych.

 

Roedd Craffu wedi gofyn am:

·         Barhau i gefnogi gwaith parhaus y Bwrdd Credyd Cynhwysol i ddeall a rheoli’r effeithiau ar wasanaethau’r Cyngor a phreswylwyr Sir Ddinbych o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol ac

·         Oni bai fod pryderon yn haeddu ystyriaeth gynharach i ofyn fod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 12 mis ar effaith cyflwyno Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar breswylwyr a Gwasanaethau’r Cyngor. Hefyd bod yr adroddiad yn cynnwys manylion unrhyw wersi a ddysgwyd o’r cyflwyno cychwynnol a bod trosolwg o’r gwaith ar y gweill i liniaru'r effaith ar y Cyngor a’r preswylwyr yn sgil symud y rhai sy’n derbyn budd-dal ar hyn o bryd i drefn Credyd Cynhwysol maes o law.

Mae Tîm Prosiect Credyd Cynhwysol wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaid a Gwasanaethau i fonitro effaith Credyd Cynhwysol a dyma rai ffeithiau allweddol:

·            Mae dros 2,500 o gwsmeriaid Sir Ddinbych nawr wedi symud i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ers Ebrill 2018.

·            Mae Cyngor ar Bopeth a’r gwasanaethau Llyfrgell wedi gweld cynnydd yn niferoedd y cwsmeriaid y maent yn eu cefnogi (ond o fewn ein hadnoddau, ac mae’r galw yn cael ei ddiwallu).

·            Roedd uno staff CSDd a staff CAB sy’n gweithio mewn Canolfannau Gwaith yn gweithio’n hynod effeithiol (gyda dros 500+ o gwsmeriaid wedi cael cymorth i gael mynediad i wasanaethau'r cyngor a chefnogaeth).

·            Mae’r Bwrdd Credyd Cynhwysol yn parhau i gyfarfod gan fonitro unrhyw effaith weithredol (roedd y cam rhagweithiol o sefydlu’r Bwrdd hwn naw mis cyn i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych o gymorth mawr).

·            Gweithio’n agos gyda CLlLC ac Awdurdodau eraill Cymru i rannu’r arfer gorau.

 

Ychydig o wybodaeth allweddol ar Gredyd Cynhwysol mewn perthynas â Thai Sir Ddinbych:

·         Mae 181 o denantiaethau wedi symud i Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd.  

Daeth Tai hefyd yn bartner dibynadwy gyda'r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 212 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a gynhaliwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 3 Medi 2018 a 4 Hydref 2018 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu mynychu.

 

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 349 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 11 Medi 2018 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 11 Medi 2018.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 10 (Eitem 3) – Cadarnhaodd y Cynghorydd Glenn Swingler ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda’r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant. O’r cyfarfod hwnnw nododd y Cynghorydd Swingler na chysylltwyd â’r holl ysgolion yn ymwneud â chynnyrch glanweithiol am ddim. 

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, y cysylltwyd â’r holl ysgolion gan fod nifer o swyddogion a oedd yn cysylltu ag ysgolion a swyddogion o GwE. Nododd os oedd gan y Cynghorydd dystiolaeth nad oedd unrhyw ysgolion wedi derbyn gwybodaeth yn ymwneud â chynnyrch glanweithiol i drosglwyddo’r wybodaeth ymlaen i'r Aelod Arweiniol.

 

Tudalen 14 (Eitem 6) – Gofynnodd y Cynghorydd Joseph Welch am wybodaeth ynglŷn â phryd yr oedd y penderfyniad i'w wneud ar gynnydd o 6% i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, mai treth yn hytrach na phraesept oedd y taliad i'r Awdurdod Tân.  Mae’r Awdurdod Tân yn gosod eu cyllideb eu hunain ac nid oedd gan Sir Ddinbych ddewis o ran yr hyn maent yn ei godi. Roedd y swm wedi ei gynnwys yn y gyllideb gyfan.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Welch gan na fyddai angen unrhyw benderfyniad ar y dreth na welai unrhyw reswm pan ddylai'r Swyddogion Tân fynychu’r Cyngor Llawn ac y byddai adroddiad syml yn fwy priodol.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fel Cadeirydd yr Awdurdod Tân a nododd na fyddai gwahoddiad yn cael ei roi os mai dyna oedd dymuniad y Cyngor.

 

Tudalen 13 (Eitem 5) – Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts am y wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth ar gyfer plant gydag anghenion addysgu ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ei fod yn hyderus ynglŷn â safon y Gymraeg yn yr ysgolion hynny a bod angen cyd-fynd â’u hiaith yn y cartref.

 

Tudalen 15 (Eitem 6) – Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn Fforwm ar gyfer swyddogion yn unig a bod y cyfarfod tu hwnt i gylch gwaith CSDd.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 11 Medi 2018 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

 

6.

BARGEN DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: DOGFEN GYNNIG pdf eicon PDF 201 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus (copi ynghlwm) Gofyn i'r Cyngor fabwysiadu'r Ddogfen Cynnig ac awdurdodi'r Arweinydd i ymrwymo'r Cyngor, ochr yn ochr â'i bartneriaid, i ddod i gytundeb Penaethiaid Termau gyda'r llywodraethau yn y DU a llywodraethau Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad yn argymell fod y Cyngor yn mabwysiadu Dogfen Gynnig ac awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r Llywodraethau, ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau yn flaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Dwf a datblygu Cynnig Bargen Dwf ar gyfer y rhanbarth. Roedd y Ddogfen Gynnig yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth ar gyfer gweithgaredd a phrosiectau i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Dwf yng ngham Penawdau'r Telerau ac roedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn, ac roedd yn amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol.

 

Dadleuodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr mai'r Ddogfen Gynnig oedd y cyfle gorau i ehangu economi Gogledd Cymru a chystadlu â rhanbarthau eraill gan dynnu sylw at yr effaith bosibl ar Sir Ddinbych yn benodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan Sir Ddinbych gyfle gwych, drwy’r Fargen Dwf, i sicrhau buddsoddiad yn y meysydd a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol gan gynnwys cludiant, digidol, datblygu busnes a dysgu sgiliau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Mae aelodau wedi eu harwain gan adran yr Economi a’r Parth Cyhoeddus drwy'r Ddogfen Gynnig a’r pwyntiau perthnasol.   

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         roedd angen amlygu’r effaith ar ardaloedd gwledig ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt yn hynny o beth.  

·         cyfeiriwyd at yr anawsterau o ran rhagweld y goblygiadau ariannol o ystyried nad yw nifer na chost y prosiectau wedi’u cymeradwyo eto, cyfraniadau partneriaid eraill a rhagdybiaethau y gall rhai prosiectau greu refeniw - o ganlyniad darparwyd ystod o amcangyfrifon gyda chafeatau trwm a chost rhwng £130k - £320k ar gyfer Sir Ddinbych yn dibynnu ar ystod o amrywiaethau a thros gyfnod o bymtheg mlynedd gallai hyn amrywio o ddim costau i dros £1m o gostau - o ystyried yr ansicrwydd hwn dylid nodi’r goblygiadau ariannol.

·         pe bai’r Cynnig yn llwyddiannus byddai manylion yr ymrwymiadau ariannol, sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol unigol er mwyn bod yn rhan o’r Fargen Dwf, yn debygol o ddod yn hysbys mor gynnar â Chwefror/Mawrth 2019 a byddai’n dibynnu ar y swm a sicrhawyd drwy fuddsoddiad y Llywodraeth.

·         amlygwyd pwysigrwydd a graddfa ymwneud y sector preifat a buddsoddiad yn y Fargen Dwf, a nodwyd fod trafodaethau gyda'r sector preifat yn parhau yn y cyswllt hwn. Roedd cynrychiolydd sector preifat ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac roedd Grŵp Rhanddeiliad wedi’i sefydlu yn cynnwys y sector preifat i hybu disgwyliadau.

·         roedd prosiectau o flaenoriaeth yn y Ddogfen Gynnig ar hyn o bryd yn cael eu hasesu a byddent yn ddibynnol ar drafodaethau pellach gyda Llywodraethau Cymru a'r DU.  Er y byddai'n rhy hwyr i gyflwyno unrhyw brosiectau newydd fel rhan o'r Fargen Dwf, fe allent o bosib gael eu hystyried fel rhan o'r Cynnig Twf.

·         mynegwyd pryderon o ran technoleg niwclear a chadarnhawyd nad oedd Prosiect Wylfa yn rhan o’r Fargen Dwf a bod y Rhaglen Mynediad at Ynni SMART yn cynnwys pecyn o brosiectau a oedd yn derbyn y byddai technoleg niwclear yn rhan o gynhyrchiant ynni’r DU ond a oedd hefyd yn cydnabod y prosiectau carbon isel a oedd yn cael eu dwyn ymlaen. Roedd y ddau brosiect niwclear yn ymwneud â Gorsaf Bŵer a Chanolfan Ragoriaeth Niwclear Trawsfynydd yn cyfrif am oddeutu £38.6m o’r £335m o fuddsoddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00 p.m.

 

 

 

7.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2017/18 pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2017/18.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad sy'n rhagfarnu a gadawodd y Siambr.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros  Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol (a gylchredwyd yn flaenorol) er mwyn i'r Aelodau gymeradwyo fersiwn drafft yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2017/2018, yn amodol ar newidiadau y cytunwyd arnynt, er mwyn iddo gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2018.

 

Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017-22 yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y cyngor a'i flaenoriaethau dros y cyfnod o bum mlynedd. 

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn darparu gwerthusiad ôl-weithredol o lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn y cynlluniau yn ystod 2017-18, a p’un ai oedd y Cyngor wedi llwyddo i gyflawni ei rwymedigaeth ar gyfer gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus.

 

Datblygwyd yr adroddiad drafft gan y Tîm Cynllunio Strategol, mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y cyngor. Darparwyd yr wybodaeth ynglŷn â pherfformiad, sydd wedi’i chynnwys yn y ddogfen, gan y gwasanaethau ac fe'i cafwyd o system rheoli perfformiad Verto.  Ymgynghorwyd â’r Cabinet a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo.

 

Roedd pum maes blaenoriaeth fel a ganlyn:

 

·        Tai – Pawb i gael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion.

·       Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da

·       Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid

·       Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd

·       Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion canlynol:

 

·       Caethwasiaeth fodern – eglurwyd fod hwn yn fater yn ymwneud â diogelu a bod hyfforddiant ar gael gan y Bwrdd Diogelu.

·       Rhestr Tai Fforddiadwy – cadarnhawyd y cysylltir â’r Tîm Cyfathrebu ynglŷn â’r dull mwyaf priodol o drosglwyddo’r wybodaeth i breswylwyr i gofrestru ar y rhestr tai fforddiadwy.

·       Cododd Aelod Lleol y pwynt ynglŷn â chodi proffil Llangollen o fewn y Cynllun Corfforaethol. 

Cadarnhaodd fod gwaith wedi ei wneud gyda phreswylwyr lleol, y Siambr Fasnach a chynghorwyr lleol.

·       Roedd Ansawdd yr Aer yn cael ei fesur bob 12 mis, ac ni nodwyd unrhyw faterion. 

Cytunwyd y gallai cynghorwyr cael golwg ar y canlyniadau.

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ei diolchgarwch i’r staff oedd wedi llunio’r adroddiad gan ei fod yn cyfleu’n dda lle roedd y Cyngor yn nhermau’r Cynllun Corfforaethol.  Roedd y Cyngor yn parhau’n Gyngor oedd yn perfformio’n dda a diolchodd i’r holl aelodau a Swyddogion am lywio'r adroddiad.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Huw Jones y Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol, Sian Fitzgerald a’i thîm am ennill Ymgyrch Cenedlaethol y Celfyddydau, Gwobr Calonnau’r Celfyddydau ar gyfer Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol gorau yn annog cydlyniant i’r prosiect Ymgolli mewn Celf, prosiect i’r sawl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar unrhyw newidiadau, bod Aelodau yn cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2017-18 er mwyn galluogi ei gyhoeddi cyn 31 Hydref 2018.

 

 

8.

CYD-BWYLLGOR CRAFFU AR GYFER Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 459 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol i graffu ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad y Cyd-Bwyllgor Craffu ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) (a gylchredwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Cyngor ynglŷn â’r trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol i graffu gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.

 

Barn y BGC ym mis Medi 2017 oedd mai Cyd-Bwyllgor Craffu ffurfiol fyddai fwyaf priodol i graffu bwrdd traws sirol / bwrdeistref sirol strategol fel y BGC yn effeithiol.  Cadarnhaodd y BGC ei gefnogaeth ar gyfer Cyd-Bwyllgor Craffu ar 19 Mehefin 2018.

 

Mae’r Pwyllgorau Craffu yng nghynghorau Conwy a Sir Ddinbych wedi ystyried a chytuno gyda’r sylwadau a gyflwynwyd gan y BGC i sefydlu cyd-bwyllgor ac maent wedi cadarnhau cylch gorchwyl drafft ar gyfer ystyriaeth bellach. Cafodd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Sir Ddinbych gyfle i gael golwg terfynol ar y cynigion yn y cyfarfod ar 19 Hydref a cadarnhawyd ei fod yn gefnogol o'r cynnig.

 

O fewn y cylch gorchwyl drafft cynigiwyd i’r Cyd-Bwyllgor Craffu gyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Dylai swyddogaeth y Cadeirydd gael ei ddynodi am gyfnod o ddwy flynedd ac ni ddylid talu cyflog uwch.

 

Diolchodd y Cynghorydd Alan James i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’r Cydlynydd Craffu am eu gwaith caled ar y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:

(i)              Bod y Cyngor yn cymeradwyo sefydlu Cyd-Bwyllgor Craffu ffurfiol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i graffu ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.

(ii)             Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cylch gorchwyl drafft a'r rheolau gweithredu ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Craffu.

(iii)            Cytunodd y Cyngor na ddylai swydd Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Craffu fod yn gymwys am dâl cyflog uwch.

 

 

 

9.

Rhybudd o Gynnig

Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rachel Flynn ar ran Plaid Geidwadol Cymru i’w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi Cyfraith Lucy sef yr Ymgyrch Genedlaethol i wahardd y gwerthiant o gwn bach trwy drydydd parti.  Bod Cyngor Sir Ddinbych yn ychwanegu ei enw i’r rhestr gynyddol o sefydliadau sy’n cefnogi'r ymgyrch gan fod yn rhagweithiol wrth dynnu sylw ein preswylwyr ar draws y Sir at yr ymgyrch.  Aelodau yn gofyn i Gyngor Sir Ddinbych ysgrifennu at lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r galw i gymryd gweithred ar unwaith ar y mater hwn.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi cefnogaeth i Gyfraith Lucy, Ymgyrch Genedlaethol i wahardd gwerthu cŵn bach a werthir drwy drydydd parti a gwneud hynny yn anghyfreithlon. Fod Cyngor Sir Ddinbych yn ychwanegu ei enw at y rhestr gynyddol o'n sefydliadau cefnogol ac y bydd yn tanlinellu'r ymgyrch i'n preswylwyr ar draws y Sir yn rhagweithiol. Fod Aelodau’n gofyn i Gyngor Sir Ddinbych ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a'r DU yn cefnogi'r alwad am weithredu brys ar y mater hwn."

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cefnogi Cyfraith Lucy, yr Ymgyrch Genedlaethol i wahardd gwerthu cŵn bach a werthir drwy drydydd parti a gwneud hynny yn anghyfreithlon, a hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r DU yn cefnogi’r alwad am weithredu brys ar y mater hwn.

 

 

 

10.

Rhybudd o Gynnig

Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Graham Timms i’w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ystyried yr opsiynau a chyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019 sydd yn amlinellu sut y gellir newid y cyfansoddiad i ddileu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ystyried opsiynau a chyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019 sy’n amlinellu sut y gellid newid y cyfansoddiad i ddiddymu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet".

 

Cafwyd trafodaethau a chadarnhawyd y byddai newidiadau i’r Cyfansoddiad, byddai angen cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac yna i’r Cyngor Llawn.

 

Nododd nifer o aelodau cafodd yr holl bartïon gyfle i ymuno â’r Cabinet ond penderfynodd rhai wrthod eu seddi.

 

Cafodd pleidlais ei chynnal a chefnogwyd y rhybudd o gynnig gan fwyafrif o’r aelodau oedd yn bresennol.  Felly:

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn Chwefror 2019.

 

 

 

11.

Rhybudd o Gynnig

Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor i’w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Bod y Cyngor hwn yn nodi:

·         Papur Gwyn Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru ac ymgynghoriad dilynol;

·         Y cynigion o fewn y papur i ddileu Taliadau Sylfaenol i ffermwyr;

·         Bod y taliadau sylfaenol hynny yn cyfrannu hyd at 80% o incwm ffermwyr da byw;

·         Bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn Sir Ddinbych;

·         Bod cynigion Llywodraeth Cymru yn gallu arwain at berchnogion tir eraill (h.y. sefydliadau trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, unigolion neu sefydliadau cyfoethog iawn) i allu cael mynediad i gyfanswm cyfyngedig o gyllid cyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr;

·         Cynigion blaenorol gan y Llywodraeth ynglŷn â thaliadau fferm wedi cynnwys asesiadau manwl o’r effaith economaidd.

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi pryder bod Papur Gwyn Brexit a’n Tir ddim yn cynnwys model neu asesiadau o sut effaith y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei gael ar yr economi leol neu genedlaethol.

 

Mae’r Cyngor yn bryderus y bydd y cynigion arfaethedig yn gallu cael effaith negyddol ar economi Sir Ddinbych.

 

Mae'r Cyngor yn credu na ddylid cyflwyno newidiadau i daliadau fferm nes cyflwynir asesiadau manwl o’r effeithiau economaidd posib yn sgil y cynigion hyn.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Aelodau’r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi i wneud sylwadau yn ymateb i'r Ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r cynigion nes bod Llywodraeth Cymru wedi llunio asesiad cynhwysfawr a manwl o’r effaith posib ar swyddi ac economi Sir Ddinbych."

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

·       Papur Gwyn Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru a’r ymgynghori dilynol.

·       Y cynigion o fewn y papur i ddiddymu’r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr.

·       Mae’r taliadau sylfaenol yn cyfrif am tua 80% o incwm ffermwyr da byw.

·       Fod y diwydiant amaethyddol yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol, yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn Sir Ddinbych.

·       Y gallai cynigion Llywodraeth Cymru arwain at dirfeddianwyr eraill (e.e. sefydliadau trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, unigolion neu sefydliadau hynod gyfoethog) yn gallu cael mynediad i’r cyfanswm cyfyngedig o gronfeydd cyhoeddus sydd ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd.

·       Mae asesiadau manwl a thrylwyr o effaith economaidd wedi cyd-fynd â chynigion blaenorol y Llywodraeth yn ymwneud â thaliadau fferm.

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi pryder nad yw'r Papur Gwyn Brexit a’n Tir yn darparu unrhyw fodel nac asesiadau o sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar yr economi lleol na’r economi cenedlaethol.

 

Mae’r Cyngor hwn yn pryderu y gall y newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol ar economi Sir Ddinbych.

 

Mae’r Cyngor hwn yn credu na ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau i daliadau fferm hyd nes y bydd asesiadau trylwyr a manwl yn cael eu darparu ar effaith economaidd posibl eu cynigion.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros yr Economi i wneud sylwadau mewn ymateb i'r Ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r cynigion hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu asesiad cynhwysfawr a manwl o'r effaith posibl ar swyddi a'r economi yn Sir Ddinbych.”

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol, Y Cynghorydd Mark Young, fel a ganlyn:

·       Roedd y Gweinidog Amaeth, Lesley Griffiths, wedi nodi’n gyhoeddus nad yw effaith lawn Brexit yn hysbys eto.

·       Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant enfawr i Sir Ddinbych ac ar draws rhanbarth Gogledd Cymru gyda nifer o fusnesau’n elwa o’r system gymorthdaliadau presennol fel cwmnïau cysylltiedig. 

Byddai’r newid a ragwelir yn tynnu miliynau o bunnoedd o’r economi leol gan danseilio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a fyddai hefyd yn cael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg ac yn golygu anfantais cystadleuol enfawr i ffermwyr Cymru o'i gymharu â gweddill y DU ac Ewrop.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Martyn Holland fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig mewn egwyddor a mynegodd bryder fod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau cyn i'r holl wybodaeth fod ar gael yn dilyn Brexit.

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig ac yn credu na ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau i daliadau fferm hyd nes y bydd asesiadau effaith trylwyr a manwl yn cael eu darparu ar effaith economaidd posibl eu cynigion.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 359 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a gylchredwyd eisoes).

 

Cadarnhawyd ers i becyn y Rhaglen gael ei gyhoeddi fod Gweithdy ar y Gyllideb wedi ei ychwanegu ar 13 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

Ar y pwynt hwn aeth y Cynghorydd Martyn Holland ati i longyfarch Rhuddlan am gael y wobr Aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.25pm.