Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd
y Cyngor am y flwyddyn 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd y
Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Pete Prendergast enwebiadau ar gyfer
Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2018/2019.
Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland i’r Cynghorydd Peter Scott gael ei
ethol yn Gadeirydd gan amlinellu’r profiad a’r rhinweddau y byddai’n gynnig. Roedd y
Cynghorydd Christine Marston yn eilio’r cynnig. Ni fu unrhyw
enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo, cafodd y Cynghorydd
Peter Scott ei ethol yn unfrydol i fod yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y
flwyddyn 2018/2019. Rhoddodd y
Cadeirydd oedd yn ymddeol araith fer a bu’n adlewyrchu ar ei gyfnod fel
Cadeirydd yn ystod y deuddeng mis diwethaf.
Diolchodd i’r
Cynghorydd Peter Scott a’i wraig Sue am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Diolchwyd hefyd i’r
swyddogion a’r staff am eu cefnogaeth ac yn arbennig i Eleri Woolford (Aelod
Rheolwr Cefnogi a Datblygu), Sue License (Cymhorthydd Personol i Bennaeth y
Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd), a Sarah Dixon (Cydlynydd
Cyfoethogi’r Cwricwlwm) am eu holl waith a’u cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel
Cadeirydd. Roedd y Cadeirydd
oedd yn ymddeol wedi codi cyfanswm o £61,500 i’w rannu gan y ddwy elusen a
ddewiswyd: ·
. Hosbis Sant Cyndeyrn, a ·
Bad
Achub y Rhyl. Yn anffodus nid
oedd cynrychiolwyr o Fad Achub y Rhyl yn gallu mynychu’r cyfarfod. Derbyniodd Laura
Parry y siec ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn. Roedd y Cadeirydd
oedd yn ymddeol yn dymuno’n dda i’r Cadeirydd newydd ar gyfer y dyfodol a chyflwynodd
y Gadwyn Swydd iddo, yna cwblhaodd ei Ddatganiad Derbyn Swydd. Talodd y
Cadeirydd newydd deyrnged am y gwaith a wnaed gan y Cadeirydd oedd yn ymddeol a
chyflwynodd Fathodyn Cadeirydd y Gorffennol iddo. Hefyd, diolchodd i Gydymaith y Cadeirydd oedd
yn ymddeol, Mr Bill Tasker am ei holl waith caled drwy gydol y flwyddyn yn
cefnogi’r Cadeirydd. Enwodd y
Cadeirydd newydd ei wraig, Mrs Sue Scott fel ei gydymaith. Dywedodd y
Cadeirydd newydd mai’r elusen a ddewiswyd ganddo oedd Hosbis Sant Cyndeyrn. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi
Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd. Cynigiodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fel Is-Gadeirydd y
Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/2019.
Cyfeiriodd at brofiad eang y Cynghorydd Davies. Eiliodd y
Cynghorydd Ann Davies yr enwebiad. Ni fu unrhyw
enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo, cafodd y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies ei ethol yn unfrydol i fod yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar
gyfer y flwyddyn 2018/2019. Arwisgodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gyda’r Gadwyn Swydd Is-Gadeirydd ac
yna cwblhaodd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd. Enwodd yr
Is-Gadeirydd newydd ei wraig, Nesta Davies fel ei gydymaith. Bu i’r Arweinydd,
Arweinwyr Grŵp ac Aelodau gydnabod gwaith y Cadeirydd sy'n ymddeol dros y
deuddeng mis diwethaf a llongyfarch y Cynghorwyr Peter Scott a Meirick Lloyd
Davies ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd yn y drefn honno. |
|
Ar y pwynt hwn (10.30 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.45 a.m. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. |
|
Ar y pwynt hwn,
cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ddeiseb i’r Cadeirydd ar ran Cariad
Cards, Dinbych. |
|
Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor gwestiwn: Beth mae’r Cyngor
yn ei wneud i sicrhau parhad gofal i bobl Sir Ddinbych sy’n derbyn gofal gan
Allied Health Care yn dilyn y newyddion bod y cwmni mewn anhawster ariannol? Dywedodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor: Roedd Allied
Health Care, sy’n darparu gofal ar draws Cymru wedi ymgeisio am Drefniant
Gwirfoddol ar ran y Cwmni i ailstrwythuro ei ddyledion. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynnull
Grŵp Cynllunio Perthynol i Iechyd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r GIG a Gofal
Cymdeithasol Byddai’r Grŵp
Cynllunio yn cysylltu â phob Awdurdod Lleol ar draws Gogledd Cymru i gael
cefnogaeth. Roedd Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol o fewn Sir Ddinbych yn ymwneud â monitro’r sefyllfa. Gwnaed cysylltiad a chafwyd sicrwydd ei fod
yn “fusnes fel arfer”. Roedd y risg yn
gymedrol ac roedd yna ddarpariaeth gofal mewnol ynghyd â gofal amgen. Roedd Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda
Llywodraeth Cymru ac Allied Health Care.
Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw (15.05.2018) a
byddai yna fwy o wybodaeth yn dilyn hynny.
|
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 10 Ebrill 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2018. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2018 fel cofnod
cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (copi ynghlwm) i geisio
cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau i’r amserlen ar gyfer cynhyrchu Cynllun
Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth i newidiadau i’r amserlen ar
gyfer cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych. Yn dilyn cymeradwyaeth
gan y Cyngor ar 5 Rhagfyr 2017, cafodd yr Adroddiad Adolygu CDLl a’r Cytundeb
Cyflawni CDLl Newydd eu cyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr
2017. Derbyniwyd gohebiaeth gan Lesley
Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn
gwahodd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i baratoi
Cydgynllun Datblygu Lleol. Roedd y cyd-ymateb gan y ddau
Gyngor wedi nodi'r dymuniad i CDLlau unigol gael eu cynhyrchu. Cadarnhaodd
Ysgrifennydd y Cabinet y gallai’r ddau Gyngor ddatblygu eu hadolygiad CDLl yn
unigol. Roedd y broses hon wedi arwain at
oedi yn yr amserlen ar gyfer cynhyrchu’r CDLl newydd, oedd yn ffurfio rhan o'r
Cytundeb Cyflawni a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cyngor. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: ·
cymeradwyo amserlen Cytundeb Cyflawni
Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych, i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru
(ynghlwm i’r adroddiad fel Atodiad 2). ·
awdurdodi’r Aelod Arweiniol Priffyrdd,
Cynllunio a Theithio Cynaliadwy mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd i gytuno ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r Cytundeb
Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych. ·
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac
wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i
ystyriaethau. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGORAU CRAFFU PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) er mwyn i’r Cyngor ystyried
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving Adroddiad y Pwyllgor Craffu ar eu gweithgareddau yn
ystod 2017/18 (dosbarthwyd yn flaenorol) i Aelodau ei ystyried. Roedd yr
Adroddiad Blynyddol i gydymffurfio ag Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y Cyngor oedd
yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn
am eu gwaith gydag argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith at y dyfodol ac ar
ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol. Yr Adroddiad
Blynyddol oedd y cyntaf ar ei weithgareddau yn ystod tymor cyfredol y Cyngor. Oherwydd y
sefydlwyd Cyngor newydd ym Mai 2017, bu’r flwyddyn 2017/18 yn gyfnod o sefydlu
a dysgu. Gyda chytundeb y blaenoriaethau corfforaethol
newydd ynghyd â mabwysiadu’r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017-2022 byddai’r
Pwyllgor Craffu nawr yn dechrau monitro darpariaeth yn rheolaidd. Roedd yr
Adroddiad Blynyddol hefyd yn dweud wrth drigolion Sir Ddinbych sut y gallant
gymryd rhan a chyfrannu at y broses archwilio. Roedd y
posibilrwydd o sefydlu trefniadau craffu ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei
archwilio. Byddai’n rhaid i Gyngor
Llawn Conwy a Sir Ddinbych wneud y penderfyniad pa un ai i sefydlu’r
Cyd-Bwyllgor Craffu. Byddai’r gwaith yn
cael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Diolchodd y
Cynghorydd Hugh Irving i’r Cydlynydd Craffu, Rhian Evans am ei chefnogaeth a’i
chymorth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu 2017/18 |
|
AMSERLEN Y PWYLLGOR AR GYFER 2019 AC ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL PDF 280 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am
benderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i
alluogi Aelodau i gymeradwyo amserlen ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2019. Roedd yn ofynnol
i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2019 yn unol â phenderfyniad y Cyngor i
gynnal amserlen 18 mis er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac adnoddau,
cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau. Cafwyd trafodaeth
gyffredinol a chodwyd y pwyntiau canlynol: Ø
Mynegodd
y Cynghorydd Paul Penlington ei siom i nodi nad oedd dim cyfarfodydd hwyr yn y
prynhawn na min nos wedi eu trefnu. Dywedwyd wrth y Cynghorydd Penlington ar ddechrau’r tymor diwethaf, y
consensws oedd i gynnal cyfarfodydd yn ystod y dydd. Byddai holiadur yn cael ei anfon at Aelodau
yn y misoedd i ddod a gellir newid yr amserlen os mai’r consensws oedd newid
amseroedd y cyfarfodydd. Ø
Cadarnhawyd
y gall Is-Gadeirydd y Cyngor fod yn aelod o nifer o Bwyllgorau yn y dyfodol,
ond ni fyddai angen bod yn aelod o Llywodraethu Corfforaethol fel yn y
gorffennol. Ø
Codwyd
y mater o gyfarfodydd Pwyllgor yn gwrthdaro â chyfarfodydd a gynhelir gan gyrff
allanol yn achlysurol. Ø
Cytunwyd
i ailbenodi’r Cadeirydd presennol ac aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer y flwyddyn 2018/19.
Diolchodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i’w gydweithiwr Kath Jones (Gweinyddwr
Pwyllgorau) am baratoi’r amserlen a chysylltu gyda swyddogion gan fod angen
trefnu’n ofalus iawn. Diolchodd yr
Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol ac Aelodau eraill i’r Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am eu holl ymdrech a gwaith caled. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: (i)
Cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ddrafft
ar gyfer 2019 (ii)
Ailbenodi cadeirydd ac aelodaeth bresennol
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018/19, yn
amodol ar unrhyw newidiadau a hysbyswyd gan y Grwpiau; ac (iii)
Ystyried cydbwysedd gwleidyddol y
Pwyllgorau. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y Cynghorydd
Huw Jones y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: (i)
Mae’r
Cyngor hwn yn nodi: a.
Bod
Grantiau Gwisg Ysgol wedi’u darparu i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig
wrth iddynt ddechrau ym Mlwyddyn 7. b.
Bod
gwerth y Grant yn £105 i bob disgybl. c.
Bod
156 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych wedi derbyn y Grant hwn yn 2017/18, ac ar
gyfartaledd mae 166 o ddisgyblion y flwyddyn wedi’i dderbyn ers 2009/10. d.
Bod
gwerth y Grant Gwisg Ysgol hwn ar gyfer CSDd y llynedd yn £16,380. (ii)
Mae’r
Cyngor hwn yn condemnio cynlluniau Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y Grant
Gwisg Ysgol. (iii)
Mae’r
Cyngor hwn yn credu bod cyhoeddiadau heb eu cynllunio na’u hystyried yn creu
ansicrwydd, ac y bydd rhaid i CSDd gyllidebu yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael ac
nid yn ôl sicrwydd amwys y bydd math arall o gyllid yn lle’r Grant. (iv)
Mae’r
Cyngor yn ceisio eglurhad brys gan Lywodraeth Cymru o ran pa gyllid newydd fydd
yn cael ei roi ar waith yn lle’r Grant Gwisg Ysgol, ac amserlen glir yn nodi
pryd y dylai’r Cyngor ddisgwyl cael y cyllid hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Jones y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn: (i)
Mae’r
Cyngor hwn yn nodi: a.
Bod
Grantiau Gwisg Ysgol wedi’u darparu i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig
wrth iddynt ddechrau ym Mlwyddyn 7. b.
Bod
gwerth y Grant yn £105 i bob disgybl. c.
Bod
156 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych wedi derbyn y Grant hwn yn 2017/18, ac ar
gyfartaledd mae 166 o ddisgyblion y flwyddyn wedi’i dderbyn ers 2009/10. d.
Gwerth
y grant gwisg ysgol hwn ar gyfer CSDd y llynedd (2017/18) oedd £16,380. (ii)
Mae’r
Cyngor hwn yn condemnio cynlluniau Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y Grant
Gwisg Ysgol. (iii)
Mae’r
Cyngor hwn yn credu bod cyhoeddiadau heb eu cynllunio na’u hystyried yn creu
ansicrwydd, ac y bydd yn rhaid i CSDd gyllidebu yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael
ac nid yn ôl sicrwydd amwys y bydd math arall o gyllid yn lle’r Grant. (iv)
Mae’r
Cyngor yn ceisio eglurhad brys gan Lywodraeth Cymru o ran pa gyllid newydd fydd
yn cael ei roi ar waith yn lle’r Grant Gwisg Ysgol, ac amserlen glir yn nodi
pryd y dylai’r Cyngor ddisgwyl cael y cyllid hwn. Eiliodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw
Jones. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Lansiwyd
cyfnewid gwisg ysgol yn y flwyddyn olaf yn y Rhyl ac roedd ar fin cael ei
lansio yn Rhuthun. ·
Dywedwyd
nad oedd yn bolisi’r Cyngor i gael gwisg ysgol ond i bob ysgol unigol gael
polisi gwisg ysgol. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid y derbyniwyd gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn gofyn am farn i
gadarnhau sut i fynd i’r afael â gostyngiad yn y grant amddifadedd disgyblion
a'r ffordd orau o wneud hynny er mwyn i arian fod ar gael ar gyfer tymor mis Medi. Roedd y
Cynghorydd Graham Timms yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig ond dywedodd nad oedd yn
cefnogi paragraff (ii) fel yr oedd wedi’i eirio ac y byddai’n well ganddo i’r
gair “condemnio” gael ei newid i “anfodlon”. Cytunodd
y cynigydd, y Cynghorydd Huw Jones ac eilydd y Rhybudd o Gynnig i’r newid yn y
geiriad. Yn dilyn
pleidlais unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig: PENDERFYNWYD bod: (i)
y Cyngor hwn yn nodi: a. Bod
Grantiau Gwisg Ysgol wedi’u darparu i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig
wrth iddynt ddechrau ym Mlwyddyn 7. b. Bod
gwerth y Grant yn £105 i bob disgybl. c. bod
156 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych wedi derbyn y Grant hwn yn 2017/18, ac ar
gyfartaledd mae 166 o ddisgyblion y flwyddyn wedi’i dderbyn ers 2009/10. d. Gwerth
y grant gwisg ysgol hwn ar gyfer CSDd y llynedd (2017/18) oedd £16,380. (ii)
Mae’r Cyngor hwn yn anfodlon gyda
chynlluniau Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y Grant Gwisg Ysgol. (iii)
Mae’r Cyngor hwn yn credu bod cyhoeddiadau
heb eu cynllunio na’u hystyried yn creu ansicrwydd, ac y bydd yn rhaid i CSDd
gyllidebu yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael ac nid yn ôl sicrwydd amwys y bydd
math arall o gyllid yn lle’r Grant. (iv)
Mae’r Cyngor yn ceisio eglurhad brys gan
Lywodraeth Cymru o ran pa gyllid newydd fydd yn cael ei roi ar waith yn lle’r
Grant Gwisg Ysgol, ac amserlen glir yn nodi pryd y dylai’r Cyngor ddisgwyl cael
y cyllid hwn. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor yma yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ddarparu
cynhyrchion hylendid benywaidd am ddim i ysgolion Sir Ddinbych, gan sicrhau fod
merched yn medru eu cael mewn modd sy’n parchu eu hurddas ac annibyniaeth”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Glenn Swingler y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn: Mae’r Cyngor hwn
yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ddarparu cynnyrch glanweithiol merched am ddim
i ysgolion yn Sir Ddinbych, i sicrhau bod merched yn gallu eu derbyn mewn modd
sy’n parchu eu hurddas a’u hannibyniaeth.
Roedd ymchwil
wedi dangos bod merched oedd yn methu fforddio cynnyrch glanweithiol yn gyndyn
i chwarae gyda ffrindiau yn ystod eu mislif ac yn llai tebygol o ymuno mewn
chwaraeon neu weithgareddau hamdden gan gynnwys nofio. Nid oedd rhai merched yn mynd i’r ysgol yn
ystod y cyfnod hwn a oedd yn cael ôl-effaith ar eu teulu gan y gallent wynebu
cosb ariannol. Roedd y
Cynghorydd Emrys Wynne yn eilio’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Glenn Swingler. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Gofynnodd y
Cynghorydd Eryl Williams i’r geiriad gael ei newid o “... i ddarparu cynnyrch
glanweithiol merched...” i "...i ymchwilio i gynnyrch glanweithiol merched...” a chytunwyd gan yr aelodau. ·
Byddai
angen cadarnhau’r gofyniad a’r gost a lle byddai arian ar gael. ·
Sgwrs
agored gyda’r gwneuthurwyr cynnyrch glanweithiol i weld pa gymorth y gallent
gynnig i holl ysgolion yn y sir, ac eto, y gost. Awgrymodd y
Cynghorydd Joan Butterfield newid i’r Rhybudd o Gynnig a fyddai’n dod ag
adroddiad yn ôl i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol gyda'r costau a hefyd
adroddiad ar y drafodaeth gyda gwneuthurwyr y cynnyrch. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Pat
Jones. Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd nad oedd y
Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â swyddogaeth y Cyngor ond swyddogaeth weithredol
ac felly roedd union benderfyniad i wneud hyn ai peidio yn dod o dan ran
weithredol y cyngor. Gallai’r Cyngor ofyn i’r Cabinet wneud
rhywbeth a hefyd gofyn i’r Pwyllgor Craffu edrych ar y mater hwn. Roedd mater arall
a godwyd yn ymwneud â’r ffaith bod yr amserlen yn dri mis, fyddai’n golygu y
byddai'n mynd i'r pwyllgor gweithredol ym mis Medi. Byddai’r newid i
eiriad y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn: Mae’r Cyngor yn
rhoi cyfarwyddyd y dylai swyddogion ddatblygu adroddiad manwl i'r Cabinet ei
ystyried yn ei gyfarfod ym mis Medi ynglŷn â faint o angen oedd yna am
gynnyrch glanweithiol merched am ddim mewn ysgolion a'r costau i gynnwys y
drafodaeth gyda'r gwneuthurwyr perthnasol ynglŷn â'r gefnogaeth y gallent
ei chynnig. Cynhaliwyd
pleidlais ar y newid a: PENDERFYNWYD bod: Y Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd y dylai swyddogion
ddatblygu adroddiad manwl i'r Cabinet ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis Medi
ynglŷn â faint o angen oedd yna am gynnyrch glanweithiol merched am ddim
mewn ysgolion a'r costau i gynnwys y drafodaeth gyda'r gwneuthurwyr perthnasol
ynglŷn â'r gefnogaeth y gallent ei chynnig. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y
Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: “Mae’r
Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i beidio ag adnewyddu contract Kingdom Security
ym mis Tachwedd 2018 ac yn galw ar y Cabinet i gyfarwyddo swyddogion CSDd i
ddod â phapur i gyfarfod y Cyngor ym mis Medi yn amlinellu'r dewisiadau ar
gyfer darparu gwasanaeth tebyg gan ddefnyddio staff ac adnoddau eu hunain, ac
yn canolbwyntio ar addysg a chefnogi’r cyhoedd yn hytrach na’u cosbi.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: Mae’r Cyngor hwn
yn galw ar y Cabinet i beidio ag adnewyddu contract Kingdom Security ym mis
Tachwedd 2018 ac yn galw ar y Cabinet i gyfarwyddo swyddogion CSDd i ddod â
phapur i gyfarfod y Cyngor ym mis Medi yn amlinellu'r dewisiadau ar gyfer
darparu gwasanaeth tebyg gan ddefnyddio staff ac adnoddau eu hunain, ac yn
canolbwyntio mwy ar addysg a chefnogi’r cyhoedd yn hytrach na’u cosbi.” Eiliodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Paul Penlington. Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl a dywedwyd y byddai cynrychiolwyr Kingdom yn bresennol yn y
Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 7 Mehefin 2018.
Awgrymodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts newid gan nad oedd y mater yn un i’r Cyngor ond
yn un i’r Pwyllgor Gweithredol ei ystyried.
Felly y newid a awgrymwyd oedd bod y Cyngor yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu
ddarparu adroddiad i’r Cabinet ar ddarpariaeth a gwaith Kingdom, ac yna gall y
Cabinet wneud penderfyniad ar hynny ym mis Tachwedd. Roedd y
Cynghorydd Andrew Thomas yn eilio’r newid. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai mwy o
wybodaeth a ffigurau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ym mis Mehefin ac
yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol. Cynhaliwyd
pleidlais ar gyfer newid i’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwy-wyd ac felly, daeth
yn brif gynnig. Yna cynhaliwyd
pleidlais ar y prif gynnig a chymeradwywyd. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu ddarparu adroddiad i'r Cabinet ar ôl
iddynt ystyried perfformiad Kingdom ar 7 Mehefin gydag argymhelliad ar gyfer
darpariaeth ar gyfer y dyfodol. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 334 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cadarnhawyd y
byddai’r eitem Cynnig Twf Rhanbarthol yn cael ei ychwanegu at raglen y cyfarfod
ar 3 Gorffennaf 2018. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm. |