Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Ellie Chard, Gareth Davies, Meirick Lloyd Davies, Bobby Feeley, Tony Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Tina Jones, Geraint Lloyd-Williams, Barry Mellor, Merfyn Parry, Paul Penlington, Arwel Roberts, Anton Sampson, Peter Scott, Glenn Swingler, Rhys Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham Timms, Cheryl Williams, Huw Williams, Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol ag Eitem 6 – Cyllideb 2018/19 – Cynigion Terfynol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 210 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Tachwedd 2017 ac 19 Ionawr 2018 wedi’i
dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2017 (i ddilyn) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2017. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir,
a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
CYLLIDEB 2018/19 – CYNIGION TERFYNOL PDF 254 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu trosolwg o broses y
gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol a chymeradwyo’r gyllideb ar
gyfer 2018/19, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2018/19 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2018/19. Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor yn unol â hynny i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr. Derbyniwyd Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2018/19 ar 20 Rhagfyr 2017 ac roedd yn cynnwys gostyngiad ariannol o -0.2% (cyfartaledd Cymru oedd +0.2%). Roedd y Setliad Dros Dro a dderbyniwyd ym mis Hydref 2017 yn nodi gostyngiad o -0.9% (cyfartaledd Cymru oedd 0.5%). Roedd y newid rhwng y ddau swm yn adlewyrchu £20 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i lywodraeth leol fel rhan o gynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn dilyn cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd ac roedd yn lliniaru effaith cynnig bwlch cyflog diweddaraf y cyflogwyr, a oedd yn uwch na’r disgwyl ac yn adlewyrchu newid i’r polisi o gap o 1% ar gyflogau. Nid oedd yn gynaliadwy rheoli’r pwysau parhaus heb gynyddu sail gyllid y Cyngor yn barhaol. Gan fod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru’n gostwng bob blwyddyn, roedd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn lleol. Felly, cynigiwyd cynnydd uwch i Dreth y Cyngor na'r hyn a gynigiwyd i ddechrau. Byddai'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 4.75% yn codi £945,000 ychwanegol i'w ddefnyddio'n rhan o’r pecyn cyffredinol, a oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol i ofal cymdeithasol o £1.5 miliwn. Wrth drafod, codwyd y materion canlynol: · Cadarnhawyd i’r Aelodau bod elfen wastraff y Grant Amgylcheddol Sengl wedi derbyn toriad o 10% ar y cyfan. Oherwydd y toriad yn swm y grant, roedd dau aelod o staff wedi'u hail-leoli mewn swyddi eraill. · Cadarnhawyd y byddai Archeolegydd y Sir yn ymddeol a dywedwyd wrth yr Aelodau na fyddai’r swydd wag yn cael ei llenwi. Byddai hyn yn unol â phum awdurdod lleol arall Gogledd Cymru. Pe bai angen cyngor archeolegol arbennig, byddai angen ei brynu yn ôl yr angen. · Ni fyddai’r gyllideb ddinesig bellach yn noddi cyngherddau gyda’r nos yn Eisteddfod Llangollen. · Oherwydd y newid i'r Gyfraith ar Ddiogelu Data, holwyd a fyddai unrhyw gostau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y byddai'n holi a fyddai costau ac y byddai'n rhoi gwybod i'r Aelodau. · Roedd newid sylweddol wedi bod ers gweithdai’r gyllideb a gynhaliwyd fis Tachwedd 2017 mewn perthynas â’r fargen dâl gyffredinol. Roedd cap cyflog o 1% wedi’i ystyried yn y gyllideb, ond y cynnig terfynol oedd 2.4%. · Roedd angen edrych sut y byddai’r sir yn delio gyda’r problemau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thlodi plant hefyd. Bu i’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd ganmol y swyddogion a oedd wedi llunio adroddiad y gyllideb. Cadarnhawyd bod y gyllideb yn ddogfen gadarnhaol o dan yr amgylchiadau presennol. Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad y gellid trosglwyddo £500,000 o gronfeydd wrth gefn i’r adran addysg oherwydd bod nifer o ysgolion yn profi anhawster ac o dan bwysau eithriadol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eryl Williams. Ar y pwynt hwn, eglurodd y Cynghorydd Roberts y dylid trosglwyddo’r £500,000 ychwanegol o falansau i'r adran addysg er mwyn i ysgolion wneud cynigion amdano ar gyfer cyllid ychwanegol i gefnogi disgyblion a oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Pleidleisiwyd ar y diwygiad fel a ganlyn: O blaid y diwygiad - 13 Ymatal - 1 Yn erbyn y diwygiad - 31 Felly, ni chafodd y diwygiad ei gymeradwyo. Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad, ac fe’u heiliwyd gan yr Arweinydd, y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11.55 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.15 p.m. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2018/19 PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth a’r Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) i
fabwysiadu’r Cynlluniau Gostyngiadau Treth Y Cyngor Cymru gyfan a Rheoliadau
Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Diwygiadau Gofynion
Rhagnodedig (Cymru) 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, adroddiad Cynllun
Gostyngiad Treth y Cyngor 2018/19 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd Deddf
Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor
yn ei ffurf bresennol ar draws y DU. O
31 Mawrth 2013 roedd budd-dal treth y cyngor wedi dod i ben ac roedd y
cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n
gysylltiedig ag ef, wedi cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth
treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi cwblhau’r ddau set o reoliadau ar 9 Ionawr 2018 ac roedd angen
mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau diwygiadau 2018 erbyn 31 Ionawr 2018. PENDERFYNWYD: ·
Bod Aelodau yn mabwysiadu Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013,
a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2018, o ran blwyddyn
ariannol 2018/19. ·
Bod Aelodau’n cymeradwyo’r 3 elfen
ddewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran 4.2 yr adroddiad ar gyfer 2018/19. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y
Cynghorydd Graham Timms (ar ran y Grŵp Llafur) y Rhybudd o Gynnig canlynol
ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn: “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at fod yn
gyflogwr Cyflog Byw erbyn mis Ebrill 2020. Mae’r Cyngor yn gofyn i Swyddogion
baratoi papur, yn amlinellu sut y gellid gweithredu hyn, i’w drafod gan y
Cyngor Llawn ar 11 Medi 2018”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn. “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn anelu i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn erbyn mis Ebrill 2020. Mae’r Cyngor yn gofyn i swyddogion baratoi papur i’w drafod gan y Cyngor Llawn ar 11 Medi 2018 yn amlinellu sut y gellir gweithredu hyn”. Rhoddodd y Cynghorydd Graham Timms amlinelliad o ddechrau’r Sefydliad Cyflog Byw Go Iawn a sefydlwyd yn 2001. Mae gan yr ymgyrch am gyflog byw gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol a mudiad o fusnesau annibynnol, sefydliadau a dinasyddion sy’n credu bod diwrnod teg o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog. Nodwyd bod 29% o staff Cyngor Sir Ddinbych yn cael llai o gyflog na’r cyflog byw go iawn. Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young ddiwygiad bod y Cyngor yn cytuno ystyried holl oblygiadau ariannol ac AD gweithredu cyflog byw go iawn, ac y dylai'r swyddogion perthnasol gyflwyno papur ar y pwnc i'r Cyngor Llawn erbyn diwedd 2018 ac y dylai'r papur hwn gynnwys yr holl gostau ariannol a goblygiadau AD a’r holl ddewisiadau sydd ar gael. Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Yma, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y cynhelir pleidlais ar y diwygiad i ddechrau. PLEIDLAIS: O blaid y diwygiad - 23 Ymatal - 1 Yn erbyn y diwygiad - 21 Felly, pasiwyd y diwygiad, ac yna cynhaliwyd pleidlais ar y penderfyniad diwygiedig a'r diwygiad yw’r prif gynnig. Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield wedi gofyn am bleidlais wedi’i chofnodi a nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y nodwyd yn y Cyfansoddiad bod angen i un ran o chwech o'r Aelodau fod o blaid y bleidlais wedi'i chofnodi, a chytunodd y mwyafrif o'r Aelodau. Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn: O blaid – Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Ann Davies, Gareth Davies, Meirick Lloyd Davies, Hugh Evans, Bobby Feeley, Rachel Flynn, Tony Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Alan James, Brian Jones, Huw Jones, Pat Jones, Tina Jones, Gwyneth Kensler, Geraint Lloyd-Williams, Richard Mainon, Christine Marston, Barry Mellor, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Paul Penlington, Pete Prendergast, Arwel Roberts, Anton Sampson, Peter Scott, Glenn Swingler, Andrew Thomas, Rhys Thomas, Tony Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham Timms, Joe Welch, Cheryl Williams, David Williams, Eryl Williams, Huw Williams, Emrys Wynne a/ac Mark Young Ymatal - 0 Yn erbyn – 0 Felly: PENDERFYNWYD y
dylai’r Cyngor gytuno i ystyried holl oblygiadau ariannol ac AD gweithredu
cyflog byw go iawn, ac y dylai'r swyddogion perthnasol gyflwyno papur ar y pwnc
i'r Cyngor Llawn erbyn diwedd 2018 ac y dylai'r papur hwn gynnwys yr holl
gostau ariannol a goblygiadau AD a’r holl ddewisiadau sydd ar gael. |
|
Cyflwynodd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor (ar ran Grŵp Plaid Cymru) y Rhybudd o Gynnig
canlynol ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn: “Mae’r
Cyngor hwn yn galw: 1. Ar Lywodraeth y DU i oedi cyn cyflwyno’r Credyd
Cynhwysol 2. Ar Lywodraeth Cymru i fynnu pwerau datganoli i
amrywio sut y telir Credyd Cynhwysol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor hwn yn galw: (i) Ar Lywodraeth y DU i oedi cyn cyflwyno’r Credyd Cynhwysol (ii) Ar Lywodraeth Cymru i fynnu pwerau datganoli i amrywio sut y telir Credyd Cynhwysol yng Nghymru.” Mynegodd Aelodau bryderon o ran y system Credyd Cynhwysol a fyddai’n cael ei gyflwyno, oherwydd gallai effeithio’n andwyol ar ddinasyddion mwyaf tlawd y sir. Argymhellwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU i fynegi pryder a bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i fynnu’r un pŵer i Gymru ag sydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Cynigiwyd y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Thomas, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Jones a dyma oedd:
PENDERFYNWYD,
yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan Grŵp Plaid Cymru, bod
llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn mynegi
pryder o ran Credyd Cynhwysol ac yn mynnu bod Cymru yn cael yr un pwerau â’r
Alban a Gogledd Iwerddon. |
|
AELODAU SY’N GEFNOGWYR PDF 419 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Cynghorwyr
i’r pedwar rôl “Aelod Sy'n Gefnogwr”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro yr adroddiad Aelodau sy’n Gefnogwyr (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i ailbenodi Cynghorwyr i bedwar rôl “aelod sy’n gefnogwr” a
gofynnodd am ddatganiadau o ddiddordeb. Bu i'r Cyngor
blaenorol osod y fframwaith ar gyfer aelodau sy'n gefnogwyr a phenodi
cynghorydd i bob rôl. Dim ond dau o’r
Cynghorwyr a benodwyd oedd dal yn aelodau’r Cyngor Sir ac yn dilyn etholiadau’r
Cyngor a gynhaliwyd ym mis Mai 2017, ystyriwyd ei bod yn briodol gofyn am farn
y Cyngor am aelodau sy’n gefnogwyr. Enwebwyd y
Cynghorydd Ellie Chard fel y Cefnogwr Pobl Hŷn. Enwebwyd y
Cynghorydd Ann Davies fel y Cefnogwr Gofalwyr. Enwebwyd y
Cynghorydd Arwel Roberts fel y Cefnogwr Anableddau Dysgu. Enwebwyd y
Cynghorwyr Brian Blakeley a Tony Thomas fel y Cefnogwr Digartrefedd, a
chynhaliwyd pleidlais fel a ganlyn: ·
O
blaid Brian Blakeley - 27 ·
Ymatal
- 1 ·
O
blaid Tony Thomas - 9 Felly,
pleidleisiwyd dros y Cynghorydd Brian Blakeley fel y Cefnogwr Digartrefedd. PENDERFYNWYD bod
y Cynghorwyr a enwebwyd yn dod yn Aelodau sy’n Gefnogwyr: ·
Cefnogwr Pobl Hŷn – Ellie Chard ·
Cefnogwr Digartrefedd – Brian Blakeley ·
Cefnogwr Gofalwyr – Ann Davies, a ·
Cefnogwr Anableddau Dysgu – Arwel Roberts. |
|
PENODI AELOD LLEYG ANNIBYNNOL I’R PWYLLGOR SAFONAU PDF 201 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (Copi ynghlwm) i'r Cyngor gymeradwyo penodi
Aelod Lleyg Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad Penodi Aelod Lleyg Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Mae’r
Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi hysbyseb ar gyfer swydd
aelod lleyg annibynnol a sefydlu panel o uchafswm o bum aelod i ystyried pob
cais a dderbyniwyd a gwneud argymhelliad i'r Cyngor ar y penodiad. Yng nghyfarfod y Panel ar 17 Hydref, penododd
y Cyngor y Cynghorwyr Gareth Davies, Richard Mainon a Mark Young i'r Panel. Roedd dau
ymgeisydd am swydd yr aelod lleyg, ac fe gyfwelwyd y ddau gan y Panel ar 19
Ionawr 2018. Ystyriai'r Panel mai Mr Peter Lamb oedd yr ymgeisydd mwyaf addas,
ac felly fe argymhellwyd y dylai'r Cyngor Llawn ei benodi. PENDERFYNWYD penodi
Mr Peter Lamb i’r Pwyllgor Safonau am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr
Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 354 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd yn flaenorol). Briffio’r Cyngor
– 12 Mawrth 2018 – Cais Twf Rhanbarthol i gael ei ychwanegu at y Rhaglen. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.25 p.m. |