Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Rachel Flynn, Tony Hugh, Hugh Irving, Alan James, Melvyn Mile, Glenn Swingler, David Williams ac Eryl Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD - Yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bod yr eitem ganlynol o fusnes yn cael ei hystyried, oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu (fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 ac 14 o Ran 4, Atodlen 12A y Ddeddf).

 

 

 

 

3.

PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: ECONOMI A’R PARTH CYHOEDDUS

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd. Bydd Panel Penodi Arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i ymgynghorydd recriwtio’r Cyngor adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd, a arweiniodd at 30 o geisiadau a rhestr fer o 6 ymgeisydd ar gyfer y broses asesu. Cynghorwyd Aelodau bod Panel Penodiadau Arbennig o  gynghorwyr wedi nodi dau ymgeisydd gyda’r potensial i gael eu penodi, ac fe'u gwahoddwyd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw. 

 

Rhoddodd y ddau ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau; cafodd y ddau ymgeisydd yr un cwestiynau.

 

Wedi i’r ddau ymgeisydd adael y Siambr, trafododd yr aelodau eu cyflwyniadau, ymatebion i’r cwestiynau a’u perfformiad yn ystod y broses asesu.

 

PENDERFYNWYD – penodi Graham Boase i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus.