Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Geraint Lloyd-Williams,
Peter Scott a Rhys Thomas. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Ar hyn o bryd,
rhoddodd y Cynghorydd Arwel Roberts Ddeiseb i’r Cadeirydd yn ymwneud â’r
cyflymderau peryglus a’r ffordd ar ran o Highlands Road, Rhuddlan. Roedd y Cynghorydd Roberts yn gobeithio
byddai’r Ddeiseb yn sicrhau y byddai cyfyngiadau cyflymder yn cael eu rhoi ar y
ffordd. Cadarnhaodd y Cadeirydd y
byddai’r Ddeiseb yn cael ei phasio i’r Adran berthnasol. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 232 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd
gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2017 a 28
Medi 2017 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. Roedd y Cadeirydd wedi mynychu nifer fawr o ddigwyddiadau ond roedd yn
canmol yn arbennig y cyngerdd a gynhaliwyd yn Eisteddfod Llangollen a hefyd
Gorymdaith Rhyddid Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, yn Rhuthun. Roedd
Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru wedi cyflwyno plac coffa i'r Cadeirydd a oedd i'w
hongian yn nerbynfa Neuadd y Sir, Rhuthun i bawb ei weld. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 4 Gorffennaf 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2017. Dywedodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies nad oedd cofnod o'r bleidlais ar gyfer eitem 6
wedi ei gynnwys yn y cofnodion. Cadarnhawyd bod
y cofnod yn darllen "derbyniwyd yr adroddiad yn unfrydol". Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd Davies hefyd pam nad oedd eitem ar wahân ar
gyfer "Materion yn Codi" ar y Rhaglen. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod cywirdeb
a'r materion sy'n codi o gofnodion cyfarfodydd blaenorol wedi'u cynnwys dan yr
un eitem "Cofnodion". PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2017 fel cofnod
cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
ADOLYGIAD ETHOLIADOL SIR DDINBYCH PDF 292 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i hysbysu
Aelodau o Adolygiad Etholiadol Sir Ddinbych gan y Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd yr adroddiad trwy gadarnhau i'r Aelodau fod yr Adolygiad
Etholiadol o Sir Ddinbych yn adolygiad hollol ar wahân i'r Adolygiad Seneddol. Roedd Comisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) yn cynnal Adolygiadau
Etholiadol pob un o 22 o Awdurdodau Lleol Cymru. Roedd yr Adolygiad wedi cychwyn ym mis Ionawr 2017
a byddai'r argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn yr
etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Roedd cynrychiolwyr y
Comisiwn yn bresennol i amlinellu Adolygiad Etholiadol Sir Ddinbych. Bu i gynrychiolwyr
o’r Comisiwn gwrdd ag Arweinwyr Grŵp a swyddogion y Cyngor ym mis Medi
2017 i amlinellu cwmpas yr adolygiad ac egluro’r broses i’w defnyddio. Amcan yr Adolygiad Etholiadol oedd ceisio sicrhau
bod cymhareb etholwyr
llywodraeth leol a nifer yr aelodau yn y Cyngor yr un fath, neu bron yr un
fath, ymhob ward etholiadol yn y sir. Mae rhagamcanion diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif
poblogaeth Sir Ddinbych yn 94,691, dwysedd poblogaeth o lai na 2 berson yr
hectar a mwy na 40% o'r boblogaeth yn byw mewn aneddiadau llai na 10,000 o
bobl. Roedd y ffactorau hynny yn rhoi Sir Ddinbych yng
Nghategori 4 a ddylai fod â chymhareb cynghorydd i boblogaeth o 1:2000. Felly,
nod maint cyffredinol y cyngor ar gyfer yr adolygiad hwn fyddai 47 aelod. Ar hyn o bryd, roedd gan Sir Ddinbych 76,292 o etholwyr a 47 o aelodau -
cyfartaledd o un cynghorydd i 1,623 o etholwyr. O fewn y cynllun hwn, gall y Comisiwn ystyried
amrywio nifer yr aelodau o 47 i 46, neu 48. Dywedwyd na fyddai'r canlynol yn cael eu hystyried yn ystod yr adolygiad: ·
Ffiniau etholaeth Seneddol neu Cynulliad ·
Goblygiadau gwleidyddol lleol y cynigion ·
Codau post neu gyfeiriadau ·
Trosglwyddo wardiau / ardaloedd o un cyngor i'r llall ·
Newidiadau i ffiniau: Ø
Ardaloedd
dalgylch ysgolion Ø
Rhanbarthau
pleidleisio. Byddai sylwadau effeithiol yn cael eu barnu ar ansawdd y dystiolaeth a
gyflwynwyd. Awgrymodd cynrychiolydd y Comisiwn y gallai
aelodau'r Cyngor gynorthwyo trwy gynnig awgrymiadau: ·
Yn gynnar yn y broses ·
Sy'n ystyried yr holl sir yn gyfartal ·
Sy’n cymryd sylw o gysylltiadau
cymunedol, ac ·
Dilyn y rheolau, y ddeddfwriaeth a'r polisïau comisiynu. Byddai sylwadau o gefnogaeth yr un mor bwysig â'r rhai a wrthwynebwyd. Cadarnhawyd y byddai cyfnod ymgynghori 12 wythnos a fyddai'n cychwyn ar 1
Tachwedd 2017 tan 23 Ionawr 2018. Yn ystod
trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mewn ardaloedd o anghydraddoldeb etholiadol, byddai
ardaloedd cydraddoldeb etholiadol yn cael eu cynhyrchu. Roedd angen
asesu'r ardaloedd yn fanwl. Gallai niferoedd yr Aelodau o fewn y sir amrywio o
un neu ddau pe bai'r asesiad yn cynhyrchu ardaloedd o anghydraddoldeb
etholiadol. ·
Cadarnhawyd bod y Comisiwn Ffiniau'n cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru. ·
Unwaith eto, nodwyd nad oedd cymhelliant gwleidyddol yn
berthnasol i'r adolygiad. Cadarnhawyd gan y Swyddog Monitro, yn dilyn y Cyngor Llawn, byddai'r
adroddiad yn mynd i Arweinwyr Grwpiau o fewn yr wythnos i ganfod sut yr oeddent
yn dymuno gweithio trwy'r adolygiad. PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn ystyried y cyflwyniad gan y
Comisiwn a bod yr Aelodau’n nodi’r cyflwyniad. |
|
Yn y fan hon,
cytunodd y Cadeirydd i newid trefn yr eitemau a nodir yn y Rhaglen. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2016/2017 PDF 195 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau
gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016/2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r aelodau
gymeradwyo fersiwn drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2015/16, yn amodol
ar newidiadau y cytunwyd arnynt, er mwyn iddo gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi
cyn 31 Hydref 2017. Gan fod y
flwyddyn hon yn nodi diwedd Cynllun Corfforaethol 2012-2017, mae’r Adroddiad
hefyd yn rhoi sylwadau ar gynnydd a wnaed dros y Cynllun Corfforaethol a lle
bo’n briodol, yn cynnig naratif am sut mae gwaith o'r Cynllun hwn wedi esblygu
ac yn datblygu yn ystod y cynllun Corfforaethol nesaf, sy'n cwmpasu tymor y
Cyngor 2017-2022. Roedd yr
adroddiad drafft yn cynnwys crynodeb o gynnydd pob blaenoriaeth gorfforaethol,
gan danlinellu llwyddiannau neu heriau allweddol a wynebwyd yn ystod y
flwyddyn. Roedd hefyd yn crynhoi
perfformiad prosiectau corfforaethol, risgiau corfforaethol, dangosyddion
cymaradwy (Dangosyddion Strategol Cenedlaethol), Mesurau Atebolrwydd
Perfformiad a chanfyddiadau allweddol gan reoleiddwyr allanol. Yn ychwanegol at hynny, roedd yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth gryno ynglŷn â gwaith a wnaed mewn perthynas ag
amrywiaeth a chydraddoldeb a Safonau'r Iaith Gymraeg, yn ogystal â gweithgarwch
gyda phartneriaid a thrwy gydweithio. Datblygwyd yr
adroddiad drafft gan y Tîm Cynllunio Strategol, wrth ymgynghori â gwasanaethau
eraill y cyngor. Darparwyd yr wybodaeth
ynglŷn â pherfformiad a oedd wedi’i chynnwys yn y ddogfen gan y
gwasanaethau, ac fe'i cafwyd o system rheoli perfformiad Verto. Ymgynghorwyd
â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor Sir
i’w gymeradwyo. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Roedd
llawer o fuddsoddiad wedi'i wneud mewn ysgolion ac roedd trefniadau monitro yn
eu lle o fewn gwasanaethau addysg i sicrhau llwyddiant y buddsoddiad. ·
Adroddwyd
bod nifer o ysgolion yn Sir Ddinbych mewn diffyg ariannol. Cadarnhawyd bod gan bob ysgol gynllun ar
waith i glirio eu diffyg. Bu gostyngiad
cenedlaethol yn y canlyniadau oherwydd y newid yn strwythur yr arholiadau. Cynigiodd yr
Adran Addysg gwrdd ag unrhyw Aelod a oedd angen gwybodaeth ychwanegol ar y
mater hwn. ·
Cadarnhawyd bod Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) bellach
yn ei le i ddarparu mynediad haws wrth symud ymlaen. ·
Roedd adeilad ysgol newydd gyda Safle Aberkinsey newydd
yn y Rhyl yn disgwyl cyllid Llywodraeth Cymru. Ni chymerwyd
penderfyniad hyd yma gan Lywodraeth Cymru. ·
Cadarnhawyd y rhoddwyd sicrwydd na ellid cyflwyno pob
prosiect o fewn 5 mlynedd ac yr oedd yr un peth yn wir ar gyfer y Cynllun
Corfforaethol ond byddai'r prosiectau'n cael eu hintegreiddio i'r Cynllun
Corfforaethol ar gyfer dilyniant parhaus. Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth gynnig ei diolch i'r
swyddogion sy'n gysylltiedig â'r gwaith manwl ar gyfer yr Adolygiad Perfformiad
Blynyddol a'r Cynllun Corfforaethol. Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad a
Strategaeth am gyflwyno'r adroddiad. Dywedodd ei bod yn
hanfodol bod y momentwm hwnnw'n parhau o'r Cynllun Corfforaethol blaenorol er
mwyn sicrhau y byddai perfformiad uchel yn dal i gael ei gyflawni. PENDERFYNWYD yn
amodol ar unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt, bod yr Aelodau yn cymeradwyo
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2016-17 er mwyn ei gyfieithu a’i
gyhoeddi cyn 31 Hydref 2017. |
|
Ar y pwynt hwn (12.05 p.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.25 p.m. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL 2017-2022 PDF 48 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau
gymeradwyo fersiwn drafft terfynol o'r Cynllun Corfforaethol 2017/2022. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
yr adroddiad Cynllun Corfforaethol 2017-2022 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yn ofyniad statudol bod Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi Cynllun Gwella a
hefyd Amcanion Lles. Roedd Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych 2017-2022
yn gwasanaethu'r ddwy swyddogaeth hynny. Roedd yr addewidion allweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddynt
i'w cyflawni yn y Cynllun yn bwysig oherwydd eu bod naill ai: ·
Angen arian cyfalaf / refeniw sylweddol: e.e. ffyrdd ac
ysgolion newydd er nad oedd popeth angen arian ychwanegol. ·
Angen newid diwylliannol / sefydliadol sylweddol: e.e. y
ffordd y mae'r Awdurdod Lleol yn ymwneud â chymunedau, a / neu ·
Effeithio ar draws y sir gyfan, e.e. 1000+ o gartrefi
ychwanegol. Cyrhaeddwyd y blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol trwy
broses drylwyr a chlir o gasglu a dadansoddi tystiolaeth (Asesiad Lles) ac
ymgynghoriad manwl â chymunedau (Sgwrs y Sir). Amcangyfrifwyd bod cyfanswm cost y Cynllun yn £135 miliwn ond byddai hyn yn
newid wrth i'r manylion gael eu datblygu. Roedd eitemau
arwyddocaol o fewn y Cynllun, fel y band nesaf o gynigion gwella ysgolion, yn
cymryd cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen. Byddai penderfyniadau cyllidebol yn dod yn fwy anodd yn yr ychydig
flynyddoedd nesaf felly byddai'n rhaid i'r Cynllun fod yn ddigon hyblyg i
ymateb i heriau ariannol. Ni fyddai unrhyw fuddsoddiad yn cael ei wneud heb i
achos busnes clir, fforddiadwy gael ei gytuno ar ôl proses gymeradwyo'r cyngor. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Cadarnhawyd y byddai'r Byrddau Rhaglen yn asesu sut
fyddai orau i gyflwyno'r Cynllun. Grwpiau ehangach, SIG
ac Archwilio i sicrhau bod y materion a godwyd yn cael eu cyflwyno. ·
Byddai'r Byrddau Rhaglen yn gyrff gweithredol sy'n
gweithredu penderfyniadau, ac nid yn gwneud penderfyniadau. Byddai'r
cyfrifoldeb am lywio gweithrediad yn nwylo’r Aelodau Arweiniol. Ni fyddai'r
broses o wneud penderfyniadau yn cael ei newid, byddent yn mynd drwy'r broses
arferol trwy'r Cabinet, y Cyngor ac ati. ·
Cadarnhawyd bod y Byrddau Rhaglen yn fodel cyflenwi lefel
uchel. Rhan o'r rôl o fewn y model fyddai Archwilio, a
fyddai'n gallu galw unrhyw eitem i mewn ar unrhyw adeg. O ran yr elfen
dai, byddai'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Brian Jones, a oedd yn Aelod Lleol
y Rhyl, yn aelod o'r Bwrdd. ·
Cadarnhawyd y byddai cludiant bob amser yn faes
blaenoriaeth uchel i'r Awdurdod Lleol. ·
Roedd glanweithdra priffyrdd hefyd yn bwysig ac roedd yn
rhan o'r Cynllun Gwasanaeth Busnes. Cadarnhawyd nad oedd
popeth wedi'i grybwyll yn llawn o fewn y Cynllun gan y byddai hynny'n golygu y
byddai'r ddogfen yn rhy fawr. ·
Cadarnhawyd y byddai 1000 o dai ychwanegol yn cael eu
hadeiladu yn y dyfodol, yn ogystal ag ailddefnyddio 500 o eiddo gwag. Byddai'r 500 o
eiddo gwag yn broses dreigl. Bwriad y Cyngor oedd adeiladu 170 o'r 1000 o dai
ynghyd ag elfen tai fforddiadwy a ddarperir gan ddatblygwyr. ·
Codwyd buddsoddiad ychwanegol mewn ffyrdd, palmentydd a
phontydd. O fewn
cymunedau cysylltiedig, bu ardal benodol ynglŷn â ffyrdd a phontydd. Roedd cynnal a
chadw'r ffyrdd yn y sir bob amser wedi bod yn flaenoriaeth uchel a gwnaed gwaith
gyda'r adnoddau oedd ar gael. Cadarnhawyd, ar y pwynt
hwn, y byddai’r mater o gyllid ar gyfer priffyrdd yn cael ei godi gyda'r
Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. ·
Iechyd Meddwl oedd un o'r pwysau ar yr Awdurdod Lleol a'r
Sector Iechyd. Cadarnhawyd nad oedd gwasanaethau Iechyd Meddwl
uniongyrchol o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol. Yn y
blynyddoedd i ddod, byddai cyswllt gwell gyda'r Bwrdd Iechyd yn cael ei
sefydlu. · Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid nad oedd yr Awdurdod Lleol yn derbyn cyllid yn uniongyrchol o Ewrop. Roedd Llywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 320 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) er mwyn i Aelodau nodi'r
adroddiad fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor Safonau i gynyddu safonau ymddygiad
moesegol a chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad i Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, yr Adroddiad Blynyddol (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Dyma drydydd
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Llawn ac mae’n cynnwys y
flwyddyn galendr rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016 yn unig. Cytunwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn
cyflwyno adroddiad yn flynyddol i'r Cyngor Llawn i roi gwybod i'r aelodau am
dueddiadau, materion yn ymwneud â chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn
gyffredinol ar draws y Sir a gwaith y Pwyllgor wrth godi safonau ymddygiad ar
lefel y Sir a hefyd ar lefelau Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned. Prif rôl y
Pwyllgor Safonau yw monitro cydymffurfiad â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Roedd pob aelod yn ymwybodol bod eu Cod
wedi'i seilio ar (a dylid ei ddarllen ar y cyd â) 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus
Nolan, ond yng Nghymru roedd 10 egwyddor a amlinellwyd o fewn yr adroddiad. Yn ystod 2016, roedd gan y Pwyllgor Safonau ddiddordeb arbennig yn yr
egwyddor olaf o "Arweinyddiaeth" a oedd yn cefnogi'r cysyniad o
arweinwyr cymunedol, yn debyg i'r "Strategaeth Arweinyddiaeth"
Swyddogion a ddatblygwyd ar lefel y Sir. Roedd y Pwyllgor
Safonau yn cynnwys 2 Gynghorydd Sir, 1 Aelod o Gyngor Cymuned a 4 Aelod
Annibynnol (cyfetholedig). Nid oedd rhan
fwyaf o'r Aelodau yn cael eu hethol, ond yn cael eu recriwtio gan aelodau o'r
cyhoedd yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth Safonau yng Nghymru. Ar hyn o bryd roedd angen dau aelod newydd, un fel Aelod Annibynnol, roedd
Paula White wedi ymddeol ar ôl blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon, ac un yn lle’r
Cynghorydd Cymuned David Jones. Yn y fan hon, mynegodd
Mr Ian Trigger ei ddiolchgarwch i'r ddau Aelod a oedd yn ymddeol am eu gwaith
teyrngar a chaled dros y blynyddoedd. Roedd y Cynghorwyr Sir, Andrew Thomas a Paul Penlington, wedi dod yn lle’r
Cynghorwyr Sir blaenorol, Barry Mellor a Meirick Lloyd Davies. Unwaith eto,
mynegodd Mr Ian Trigger ei ddiolch i’r Cynghorwyr Mellor a Davies am eu gwaith
ar y Pwyllgor. Diolchodd Mr
Trigger i'r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith caled ar
gyfer y Pwyllgor Safonau ac am drefnu a chynnal digwyddiadau hyfforddi
hanfodol. PENDERFYNWYD: ·
Bod yr Aelodau'n
nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, a ·
Bod yr Aelodau yn nodi nad oedd angen
Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer dibenion yr adroddiad hwn. |
|
RECRIWTIO PANEL YMGYNGHOROL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 267 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i Aelodau gytuno ar dri
Aelod i eistedd ar Banel Ymgynghorol Pwyllgor Safonau'r Cyngor am y tymor
llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad Panel Ymgynghorol Recriwtio y
Pwyllgor Safonau (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd dwy swydd wag y byddai angen recriwtio ar eu cyfer mewn perthynas â
Phwyllgor Safonau'r Cyngor. Un ar gyfer aelod annibynnol ac un mewn perthynas
ag aelod "cymuned". Roedd proses recriwtio
ar y gweill a bellach roedd yn ofynnol i'r Cyngor wneud yr enwebiadau i'r Panel
Ymgynghorol Recriwtio. Roedd angen penderfyniad gan y Cyngor Llawn i gytuno ar 3 aelod i eistedd
ar Banel Ymgynghorol Pwyllgor Safonau’r Cyngor am y tymor llawn; felly pe bai
unrhyw swyddi gwag pellach, roedd gan y Cyngor Banel Ymgynghorol wedi’i
sefydlu. Cynigodd y
Cynghorydd Martyn Holland y Cynghorwyr Gareth Lloyd Davies a Richard Mainon. Cynigiodd y
Cynghorydd Peter Evans y Cynghorydd Mark Young. PENDERFYNWYD: ·
Enwebu’r
Cynghorwyr Gareth Lloyd Davies, Richard Mainon a Mark Young a'u penodi i Banel
Ymgynghorol y Pwyllgor Safonau nes bydd tymor y Cyngor hwn yn dod i ben ·
Bod y Cyngor yn
cadarnhau nad oes angen Asesiad Lles. |
|
POLISI ISAFSWM DARPARIAETH REFENIW (IDR) DIWYGIEDIG 2017 /2018 PDF 206 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth Aelodau ar
gyfer diwygio’r Polisi IDR ar gyfer 2017/2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
y Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) Diwygiedig (2017/18). Yn dilyn adolygiad o Bolisi IDR cyfredol y Cyngor, nodwyd bod newid y dull
ar gyfer gwneud yr IDR yn gyfle i arbed arian sylweddol. Roedd y newid
arfaethedig hefyd yn cyflwyno dull mwy teg i ddosrannu'r costau sy'n
gysylltiedig â'r rhaglen gyfalaf. PENDERFYNWYD: ·
Bod yr Aelodau yn ystyried a chymeradwyo’r
diwygiadau canlynol i’r Polisi IDR ar gyfer
Polisi IDR ar gyfer 2017/18. Ø
Mae hyn yn
newid o Opsiwn 1 (Dull Rheoleiddiol) a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 14 Chwefror
2017. Ø
Mae hyn hefyd yn newid o Opsiwn 1. Ø
Polisi ar gyfer 2017/18 -
Opsiwn 3 (Dull Bywyd Asedau - llinell syth) i'w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo IDR
ar yr holl wariant cyfalaf a ariennir o fenthyca heb gymorth. Mae
hyn yn barhad o’r polisi a gymeradwywyd. ·
Gofynnir i'r
Aelodau nodi’r defnydd a gytunwyd o'r arbediad arian parod yn 2017/18 a'r
arbedion cyllideb rheolaidd o 2018/19 fel y'u nodir yn fersiwn ddiweddaraf y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac a grynhoir isod: - Ø
Arbedion
Ariannol 2017/18 - argymhellir fod yr arbedion ariannol o £1.861 miliwn yn cael
eu gosod yng Nghronfa Lliniaru'r Gyllideb er mwyn cynorthwyo i liniaru
effeithiau'r gostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19 Ø
Arbedion
parhaus o 2018/19 – argymhellir gostwng y gyllideb ariannu cyfalaf o £1.861
miliwn fel rhan o’r strategaeth i gydbwyso cyllideb 2018/19. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 373 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd yn flaenorol). Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai sesiynau Briffio Cyllideb yn cael eu
cynnal ar 16 Tachwedd 2017 a 22 Tachwedd 2017. PENDERFYNWYD – cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 2.10 p.m. |