Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Martyn Holland ddatgan cysylltiad personol ag Eitem 11 - Penodi Aelodau Lleyg ac fe ymatalodd rhag pleidleisio.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Cadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2017/18.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Ann Davies, wahodd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2017/18.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Peter Prendergast i’w ethol yn Gadeirydd, gan amlinellu’r rhinweddau personol a’r profiad helaeth y byddai’n eu cyflwyno i’r swydd.  Fe wnaeth y Cynghorydd Tony Thomas eilio’r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i’w ethol yn Gadeirydd, gan amlinellu ei brofiad a'i rinweddau.  Fe wnaeth y Cynghorydd Glenn Swingler eilio’r cynnig.

 

 

 

Ar y pwynt hwn, cynhaliwyd pleidlais gudd.  Cyfrifwyd y pleidleisiau ac roedd y canlyniad fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies -      10

Y Cynghorydd Peter Prendergast -         36

 

Felly, etholwyd y Cynghorydd Peter Prendergast yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd sy’n ymddeol roi araith fer, lle myfyriodd ar ei hamser fel Cadeirydd a thynnodd sylw at rai o'r digwyddiadau niferus mae hi wedi mynd iddynt dros y 12 mis diwethaf.    Diolchodd i’w Chaplan, y Parchedig Brian Jones, a hefyd i’r cyn-gynghorydd, Win Mullen-James, am ei holl waith caled a chefnogaeth yn ystod ei blwyddyn fel Is-Gadeirydd.  Diolchwyd hefyd i swyddogion a staff a hefyd i’w merch a’i chydwedd, Mrs Jane Hugo, am ei gwaith caled a chefnogaeth.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol siec am yr arian a godwyd yn ystod ei hamser fel Cadeirydd, i’w helusennau dethol - cyfanswm £11.028.00:-

(i)              Derbyniodd Eluned Yaxley £5,514 ar ran Hosbis Plant Tŷ Gobaith

(ii)             Derbyniodd Laura Parry £5,514 ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn

 

Yna fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol symud ymlaen i gyflwyno rhodd i’w chaplan, y Parchedig Brian Jones.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol ddymuno’r gorau i’r Cadeirydd newydd ar gyfer y dyfodol, a chyflwyno cadwyn y swydd iddo, ac fe ddilynodd hyn drwy gwblhau ei Ddatganiad o Dderbyn y Swydd.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd newydd dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, gan ei chyflwyno â Bathodyn y Cyn Gadeirydd a rhodd ar ran y Cyngor.

 

Caplan y Cadeirydd newydd am y flwyddyn oedd y Parchedig Stan Walker, a rhoddodd wybod mai ei elusennau dethol oedd:-

(i)              RNLI (Cangen y Rhyl)

(ii)             Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy.

 

Ar y pwynt hwn, cyflwynodd y Cadeirydd newydd dusw o flodau i Gydwedd y Cadeirydd blaenorol i ddiolch iddi am gefnogi’r Cadeirydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

 

Yn olaf, llongyfarchodd y cynghorwyr newydd a’r rhai a oedd yn dychwelyd am eu llwyddiant yn yr etholiadau diweddar, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw dros y flwyddyn i ddod.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2017/18.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Cadeirydd gael enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid ethol y Cynghorydd Peter Scott yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2017/18.  Cyfeiriodd at brofiad y Cynghorydd Scott a nododd y byddai’n Llysgennad da i’r sir.  Eiliwyd yr enwebiad gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

Gan nad oedd unrhyw enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy ddangos dwylo, etholwyd y Cynghorydd Peter Scott yn unfrydol fel Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Peter Scott gyda chadwyn swydd yr Is-Gadeirydd gan y Cadeirydd, ac fe ddilynodd hyn gyda Datganiad i Dderbyn y Swydd.

 

Fe wnaeth yr Is-Gadeirydd newydd enwi ei wraig, Susan Scott, fel ei Gydwedd.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorwyr Peter Prendergast a Peter Scott gan Arweinwyr y Pleidiau ac Aelodau, am gael eu hethol fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, yn y drefn honno.

 

 

Ar y pwynt hwn (10.45 am) cafwyd toriad.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10 a.m.

 

 

 

Cyn dechrau, myfyriodd y Cadeirydd ynghylch y Bomio ym Manceinion yn ddiweddar, a chafwyd un munud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

6.

ETHOL ARWEINYDD Y CYNGOR

Ystyried enwebiadau ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor.

 

Cynigiwyd y Cynghorwyr Hugh Evans a Huw Hilditch-Roberts gan y Cynghorydd Joe Welch.

 

Eiliodd y Cynghorydd Bobby Feeley’r cynnig am y Cynghorydd Hugh Evans.  Cyfeiriodd at y Cynghorydd Evans fel Arweinydd rhagorol, gan dynnu sylw at ei gyflawniadau yn ystod y weinyddiaeth flaenorol, a’i hyder y byddai’n arwain yr awdurdod at lwyddiant pellach.

 

Ar y pwynt hwn, dymunodd y Cynghorydd Feeley pob lwc i’r Cynghorydd Evans a'r Cynghorydd Hilditch-Roberts, a dywedodd y byddai Cynghorwyr yn gweithio’n dda gyda phwy bynnag y byddai’n ennill y bleidlais.

 

Eiliodd y Cynghorydd Merfyn Parry’r cynnig ar gyfer y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.  Nododd ei fod yn amser am newid, gyda’r Chynghorydd Hilditch-Roberts yn ddyn teg, agos atoch, a oedd yn sicr â’r gallu i fod yn Arweinydd y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorwyr a oedd wedi’u henwebu, i ddod at y llwyfan yn eu tro a gwneud cyflwyniad 5 munud.

 

Nododd y Cynghorydd Hugh Evans ei fod wedi sefyll i fod yn Arweinydd, nid yn unig oherwydd ei lwyddiannau yn y gorffennol, ond i weithio i gyflawni cynnydd a gwelliannau i Sir Ddinbych yn y dyfodol.  Amlinellodd ei gyflawniadau yn y gorffennol a beth fyddai ei amcanion at y dyfodol, a fyddai’n arwain at gymunedau gwell a mwy gwydn.   Os byddai’n cael ei ethol fel Arweinydd, roedd yn cynnig cynnal Uwchgyfarfod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn yr hydref, a byddai’n trefnu cyfarfod gyda phob arweinydd o’r pleidiau gwleidyddol hefyd, cyn gynted â phosibl.   

 

Daeth y Cynghorydd Evans â’i gyflwyniad i ben drwy roi gwybod y byddai’r Awdurdod yn wynebu sawl her dros y 5 mlynedd nesaf, ond roedd mewn sefyllfa dda i ddelio â’r heriau hynny, a byddai’n gweithio i gynnal safle’r Cyngor fel Awdurdod sy’n perfformio’n dda. 

 

Wrth gau ei anerchiad, rhoddodd y Cynghorydd Evans ychydig o wybodaeth gefndirol bersonol, yn tynnu sylw at y ffaith y byddai’n creu Cyngor a fyddai’n sefydlog yn wleidyddol, gyda’r gallu i herio a newid.  Sicrhaodd Aelodau y byddai’n symud y sir yn ei blaen os byddai'n cael ei ethol yn Arweinydd, a gofynnodd am gefnogaeth Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai gyda dull agored a thryloyw, ac yn ymgysylltu'n fwy â'r cyhoedd.   Amlinellodd y profiad roedd wedi’i gael yn ei fywyd masnachol a sicrhaodd aelodau y byddai'n rhoi'r amser a'r egni i gael cyngor sy'n fwy uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth. Nododd y byddai ei flaenoriaethu’n cynnwys strategaeth addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, gofalu am bobl ddiamddiffyn, tai, cefnogi busnesau bach, ac i waith barhau gyda’r Rhyl a Phrestatyn.  Pwysleisiodd y pwysigrwydd o gyfathrebu gyda chymunedau. 

 

Wrth gau ei anerchiad, tynnodd sylw at y ffaith ei fod yn gyfathrebwr dwyieithog da, ac roedd yn gallu trafod mewn dull proffesiynol a threfnus.   Ei nod oedd gadael ôl-troed cadarnhaol ar Sir Ddinbych, a gofynnodd am gefnogaeth Aelodau.

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafwyd pleidlais gudd.  Roedd y Pleidleisiau fel a ganlyn:

 

Y Cynghorydd Hugh Evans -        30

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts -     16

 

Cafodd y Cynghorydd Hugh Evans ei ethol yn Arweinydd y Cyngor.

 

Ar y pwynt hwn, llongyfarchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y Cynghorydd Evans, gan gynnig ei gefnogaeth lawn iddo.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelodau am eu cefnogaeth a rhoddodd wybod y byddai'n gweithio'n galed iawn ar eu rhan yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

 

 

7.

Cofnodion pdf eicon PDF 484 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 31 Ionawr 2017 a 14 Chwefror 2017 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2017 ac 14 Chwefror 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd 31 Ionawr 2017 ac 14 Chwefror 2017 fel cofnod cywir, a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

8.

DOGFEN GYFLAWNI FLYNYDDOL 2017/2018 pdf eicon PDF 276 KB

Ystyried adroddiad gan y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i gymeradwyo fersiwn derfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2017-2018 (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i Aelodau gymeradwyo’r drafft terfynol o’r Ddogfen, er mwyn galluogi iddi gael ei chyfieithu a’i chyhoeddi.

 

Roedd Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2012 – 2017 bellach wedi dod i ben, ac roedd etholiadau Cyngor Sir ym Mai 2017 wedi arwain at dîm newydd o aelodau Etholedig a fyddai’n ffurfio Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2017 – 2022. Roedd 2017 am fod yn flwyddyn o drawsnewid. 

 

Roedd y ddogfen yn cynnwys y cyfnod trawsnewid rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 (o fewn y cyfnod amser hwnnw, byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi) ac esboniodd sut y byddai cynnydd yn parhau i ddigwydd o ran blaenoriaethau blaenorol.

 

Roedd y chwe amcan canlynol wedi’u mabwysiadu:-

·       Mae Sir Ddinbych yn fan lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo a lle bydd ganddynt y sgiliau i wneud hynny

·       Mae cymunedau wedi eu cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy gysylltiadau trafnidiaeth da.

·       I gael amgylchedd deniadol a warchodir sy'n cefnogi lles cymunedau a ffyniant economaidd

·       Gall pobl fyw bywydau annibynnol a chyflawn mewn cymunedau cryf, gofalgar, diogel a gwydn

·       Mae’r Cyngor a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau; gan ddyfeisio a darparu datrysiadau ar y cyd.

·       Digwyddiadau yn dod â phobl at ei gilydd, gan greu cymunedau gweithgar a helpu busnesau i ffynnu.

 

Cafwyd trafodaeth a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Byddai Gweithdy Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Chynghorwyr i osod blaenoriaethau yn y Cynllun ym mis Gorffennaf.  Anogwyd pob Aelod i fynd i’r gweithdy.  Felly byddai’n destun ymgynghoriad cyhoeddus a byddai’r fersiwn terfynol yn cael ei gytuno arno fis Hydref.

·       O dan Flaenoriaeth 5 – Strydoedd Glân a Thaclus, rhaglen ailwampio naw cyfleuster cyhoeddus drwy gydol 2017/18, ac fe holodd aelodau pa gyfleusterau cyhoeddus fyddai’n cael eu hailwampio.  Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio y byddai’n cyfeirio’r ymholiad yn ôl at swyddogion, ac yn anfon yr wybodaeth berthnasol at bob Cynghorydd.

·       Sir Ddinbych Ddigidol a Band Eang mewn ardaloedd gwledig.  Ni fyddai sawl gosodiad yn digwydd tan fis Rhagfyr 2017. Mewn ardaloedd gwledig penodol yn Lloegr maent wedi ymchwilio i ddewisiadau amgen ar gyfer band eang cyflym iawn, ac a fyddai hynny'n bosibilrwydd i Sir Ddinbych wledig?

·       Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol 8 Mehefin, os byddai angen diwygiadau i’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol, byddent yn cael eu cyflwyno yn y Cyngor Llawn 4 Gorffennaf.

·       Adeiladu tai cyngor – fe fydd cynllun strategol yn  cael ei gyflwyno yn y Cyngor Llawn yn yr hydref.  Y cynllun oedd adeiladu 200 o dai cyngor yn ystod cyfnod y cyngor hwn.

·       Mae’r Adran Briffyrdd yn gweithio gyda’r Grwpiau Ardal Aelodau ynghylch ffyrdd sydd angen gwaith trwsio.  Roedd detholiad o’r gweithgareddau ffordd a oedd wedi’u cynllunio wedi’u hamlinellu yn y ddogfen, i’w cynnal yn 2017/2018

·       Byddai rhaglen cynnal a chadw 10 mlynedd ar gyfer pontydd a strwythurau priffyrdd eraill.

·       Byddai prosesau newydd yn cael eu datblygu i reoli Cyllidebau Cefnogi i bobl ddiamddiffyn sydd angen gofal a chefnogaeth wedi’i rheoli, er mwyn cael mwy o ddewis a rheolaeth.

·       Codwyd gofal cymdeithasol i’r henoed a’r rhai nad oeddent yn dda, gan fod y bobl hyn angen help i lenwi ffurflenni hanfodol ar gyfer cymorth.  Byddai hyn yn cael ei gyfeirio’n ôl at swyddogion.

 

Ailadroddwyd y byddai’r Cynllun Corfforaethol yn ddogfen fyw a phwysigrwydd cyfranogiad Aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cymeradwyo drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol er mwyn galluogi iddi gael ei chyfieithu a'i chyhoeddi.

 

 

9.

MAINT A CHYFANSODDIAD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO pdf eicon PDF 275 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) am y newidiadau sydd eu hangen i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn gofyn am newid i faint a chyfansoddiad Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad am Faint a Chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio (a ddosbarthwyd yn flaenorol), am y newidiadau sydd eu hangen i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn gofyn am newid i faint a chyfansoddiad Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor.

 

Diwygiodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau'n rhagnodi maint a chyfansoddiad Pwyllgor Cynllunio'r Awdurdod Lleol. 

 

Dywedodd Rheoliadau’r Pwyllgor na all y Pwyllgor Cynllunio gael dim llai nag 11 a dim mwy na 21 Aelod. 

 

Ni ellid cael mwy nag un Aelod o unrhyw ward benodol ar Bwyllgor Cynllunio.  Roedd hyn yn golygu, mewn ward â sawl Aelod, dim ond un Aelod o’r ward hwnnw fyddai’n cael bod ar Bwyllgor Cynllunio ar unrhyw un adeg.

 

Fe wnaeth Gweinidogion Cymru hefyd wneud Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2017 (y Rheoliadau Rheolau Sefydlog), a ddaeth i rym 5 Mai. 

 

Roedd y Rheoliadau Rheolau Sefydlog yn datgan bod yn rhaid i gworwm Pwyllgor Cynllunio fod o leiaf 50% o gyfanswm yr Aelodau, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf, ac yn gwahardd defnyddio eilyddion.

 

Byddai methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau Cynllunio’n dirymu trafodion y Pwyllgor Cynllunio.

 

Cytunwyd cael 21 Aelod ar y Pwyllgor Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD:

(i)              Bod y Cyngor yn cadarnhau maint y Pwyllgor Cynllunio fel 21 ac yn awdurdodi'r Swyddog Monitro i ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor yn unol â hynny.

(ii)             Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud y diwygiadau hanfodol i Gyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu gofynion cworwm y Pwyllgor Cynllunio, fel y nodir yn Rheoliadau Awdurdod Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2017.

(iii)            Bod y Cyngor yn cefnogi’r dull a gynigir yn yr adroddiad ar gyfer penodi Aelodau i’r Pwyllgor Cynllunio o wardiau â sawl aelod.

 

 

10.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION ARCHWILIO pdf eicon PDF 204 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am benderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd Adolygiad Blynyddol o Gydbwysedd Gwleidyddol ac Adroddiad Penodi Cadeiryddion Archwilio (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Fe wnaeth y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd roi gwybod i Aelodau bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo'r Cyngor a phleidiau gwleidyddol i ddyrannu seddi ar bwyllgorau amrywiol yn unol â darpariaeth cydbwysedd gwleidyddol statudol Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972; Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Fe wnaeth y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd gadarnhau bod y pleidiau gwleidyddol yn cynnwys y nifer canlynol o aelodau:

 

Ceidwadwyr – 15

Llafur - 13

Annibynnol - 10

Plaid Cymru - 9

 

Cabinet – 8 Aelod

Ceidwadwyr - 3

Llafur - 2

Annibynnol - 2

Plaid Cymru - 1

Nid oedd y Plaid Lafur yn bwriadu cymryd y 2 sedd ar y Cabinet a byddai’r Arweinydd yn llenwi'r 2 sedd wag honno gyda Chynghorwyr o bleidiau gwleidyddol eraill.

 

Roedd manylion ynghylch y Pwyllgorau a chyfanswm y seddi “ar gael” a oedd angen eu dosbarthu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, wedi’u cylchredeg i bob Cynghorydd.   Roedd y Mesur yn nodi sut byddai swyddi Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio’n cael eu dyrannu, gan adlewyrchu sefyllfa o blaid Cadeiryddion Archwilio’n annibynnol ar arweinyddiaeth y Cyngor, cyn belled ag y bo’n bosibl, ac yn gysylltiedig â chydbwysedd gwleidyddol.

 

Cododd y Cynghorydd Arwel Roberts gwestiwn ynghylch pwy oedd wedi dewis cael 8 Aelod ar y Cabinet.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd mai’r Cyngor oedd wedi gwneud y penderfyniad ynghylch nifer yr Aelodau ar y Cabinet.  Pe byddai nifer yr Aelodau’n cynyddu, yna byddai angen ei gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn er mwyn ei newid.

 

Yr enwebiadau ar gyfer penodi 2 Aelod i’r Pwyllgor Safonau oedd Andrew Thomas a Paul Penlington.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Alan James i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Ystyriodd y Cyngor yr argymhellion yn yr adroddiad ac yn dilyn trafodaeth lawn, yn cynnwys ystyriaeth o’r enwebiadau gan Arweinwyr Grŵp ar gyfer Pwyllgor Safonau a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:-

 

PENDERFYNWYD:-

 

(i)              Bod y Cyngor yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas ag aelodaeth y pleidiau gwleidyddol, y trefniadau gweithredol (Cabinet) a dyrannu Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio;

(ii)             Bod y Cyngor yn cytuno ar benodi’r Cynghorydd Alan James fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Aelodau o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gael eu hysbysu yn dilyn y Cyngor Llawn ar gyfer y flwyddyn 2017/18

(iii)            Bod y Cyngor yn penodi 2 Gynghorydd i’r Pwyllgor Safonau – y Cynghorydd Andrew Thomas a’r Cynghorydd Paul Penlington

 

 

11.

PENODI AELODAU LLEYG I’R PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL A’R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ynglŷn â phenodiadau i’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol gan fod Mr Ian Trigger yn byw yn yr un pentref ac yn Gadeirydd y Blaid Geidwadol.  Gofynnodd y Cynghorydd Holland a fyddai modd cofnodi y byddai’n ymatal rhag pleidleisio ynghylch Mr Ian Trigger.

 

Fe wnaeth y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i'r Cyngor gymeradwyo’r penodiad parhaus o ddau Aelod lleyg (annibynnol) i'r Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Penodiad i’r Pwyllgor Safonau

Mae Rheoliadau’r Pwyllgor Safonau 2001, fel y’u diwygiwyd, (y Rheoliadau) yn llywodraethu aelodaeth a thrafodion y Pwyllgor Safonau.  Mae’n rhaid i aelodaeth y Pwyllgor gael aelodau lleyg annibynnol, Cynghorwyr Sir a chynrychiolaeth o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.  

 

Ni chaiff aelod lleyg fod ar y Pwyllgor Safonau am fwy na dau gyfnod yn y swydd, o dan y rheoliadau. Dyma, felly, fyddai cyfnod olaf y penodai arfaethedig, pe bai'n cael ei ailbenodi.

 

Byddai’r Aelod sydd wedi’i gynnig i gael ei ailbenodi wedi’i recriwtio drwy hysbyseb cyhoeddus ac fe’i dewiswyd o blith nifer o ymgeiswyr gan Banel Penodiadau'r Cyngor.

 

Cadarnhawyd y bydd Mr Ian Trigger yn cael ei benodi i’r Pwyllgor Safonau am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022.

 

Ar y pwynt hwn, holodd y Cynghorydd Joan Butterfield ynghylch Mr Ian Trigger yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau oherwydd ei fod yn Gadeirydd y blaid Geidwadol.

 

Fe wnaeth rhai Aelodau ddangos eu cefnogaeth i Mr Ian Trigger gan ei fod wedi bod yn Gadeirydd ardderchog.

 

Cafwyd pleidlais ynghylch a ddylai Mr Ian Trigger barhau i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau:

O blaid - 27

Ymatal - 1

Yn erbyn – 6

 

Penodiad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur), yn mynnu bod yn rhaid i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gynnwys o leiaf un aelod lleyg.

 

Hysbysebodd y Cyngor swydd aelod lleyg yn y wasg leol drwy hysbyseb ar y cyd â phedwar awdurdod arall yng ngogledd Cymru.  Derbyniwyd tri chais am swyddi gwag Cyngor Sir Ddinbych.

 

Dewiswyd yr aelod lleyg gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Cafwyd pleidlais i benodi Mr Paul Witham ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:

O blaid - 33

Ymatal - 3

Yn erbyn – 4

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Penodi Mr Ian Trigger i’r Pwyllgor Safonau am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022

(ii)             Penodi Mr Paul Witham i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022

 

 

 

 

 

 

12.

NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar y newidiadau arfaethedig sydd eu hangen i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei ddiweddaru a’i gadw’n gyfredol a pherthnasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Diweddariadau ar gyfer Adroddiad y Cyfansoddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Cyngor Llawn gymeradwyo bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y Cyfansoddiad yn cael ei adolygu bob blwyddyn.  Roedd rhai newidiadau gweithredol gan Swyddogion wedi golygu bod angen diweddaru cynllun dirprwyo’r Cyfansoddiad.

 

Roedd gwasanaeth caffael y Cyngor wedi’i drosglwyddo o Gyllid, Asedau a Thai i Wasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd.

 

Roedd dau swyddog o wasanaethau’r gyfraith (un priffyrdd ac un cyfreithiwr eiddo) wedi’u hadleoli i Swyddfa Caledfryn.

 

Felly roedd angen gweithredol i ehangu ar yr amrediad o lofnodwyr ag awdurdod, wrth barhau i gadw’r awdurdod ar lefel ddigon uchel.

 

PENDERFYNWYD bod y diwygiadau a gynigir gan y Swyddog Monitro’n cael eu mabwysiadu a bod y Swyddog Monitro’n cael ei awdurdodi i ddiwygio’r Cyfansoddiad yn unol â hynny.

 

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2017/2018 pdf eicon PDF 230 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i gynghori ynghylch penderfyniadau'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â thaliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig, ac i fabwysiadu atodlen o gydnabyddiaeth ariannol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2017/18 (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i wneud Aelodau yn ymwybodol o benderfyniadau'r Panel ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â thaliadau i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig, ac i fabwysiadu atodlen cydnabyddiaeth ariannol.

 

Eleni roedd y Panel wedi penderfynu darparu codiad ariannol cymedrol o £100 y flwyddyn i gyflog sylfaenol bob Cynghorydd.  Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor a allai ei godiad cyflog o £100 fynd at Elusen.

 

Esboniodd y Swyddog Monitro bod yn rhaid talu’r cyflog sylfaenol i bob Cynghorydd, ond y galli'r Cynghorydd ap Gwynfor wneud cais ysgrifenedig gan ei fod yn benderfyniad unigol.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Bod y Cyngor yn nodi penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â thalu Cyflogau Sylfaenol a Chyflogau Uwch a Dinesig a thaliadau i Aelodau cyfetholedig.

(ii)             Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r atodlen o gydnabyddiaeth ariannol fel y nodir yn atodiad 1 (sy'n aros heb ei newid o 2016/17 ac eithrio fel yr amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad) ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.

 

 

14.

PENODIAD DROS DRO O AELOD I GYNGOR TREF BODELWYDDAN pdf eicon PDF 194 KB

(Papurau i'w dilyn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd adroddiad ar Benodiad dros dro o Aelod i Gyngor Tref Bodelwyddan (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Nid oedd gan y Cyngor Tref nifer digonol o Aelodau yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol diweddar i allu gweithredu a gwneud penderfyniadau yn gyfreithlon.   Roedd gan y Cyngor Sir y pŵer i wneud penodiad dros dro i’r Cyngor Tref i alluogi iddo weithredu’n gyfreithlon.

 

Roedd y Cynghorydd Richard Mainon wedi cytuno i dderbyn y penodiad dros dro i Gyngor Tref Bodelwyddan, i alluogi'r Cyngor Tref i weithredu'n gyfreithlon.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn awdurdodi gwneud Gorchymyn yn unol ag a91 Deddf Llywodraeth Leol 1972 ar gyfer penodi’r Cynghorydd Richard Mainon dros dro i Gyngor Tref Bodelwyddan, i alluogi’r Cyngor Tref i weithredu'n gyfreithlon ar yr amodau a nodir yn y Gorchymyn drafft sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

 

15.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 327 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Ar y pwynt hwn, mynegodd y Cynghorydd Barry Mellor y pwysigrwydd o ddod i Sesiynau Briffio’r Cyngor i Aelodau newydd, yn ogystal â’r Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

Ar y pwynt hwn, mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei diolch i’r Swyddog Etholiadol a'i Dîm am eu gwaith rhagorol yn ystod yr etholiad diweddar.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.25 p.m.