Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Jason McLellan, Martyn Holland a Meirick Lloyd Davies gysylltiad
personol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. Talodd y
Cadeirydd deyrnged i’r Cynghorydd Raymond Bartley a fu farw ychydig cyn y
Nadolig. Rhoddwyd
teyrngedau gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ar ran Plaid Cymru, y Cynghorydd
Joe Welch ar ran y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Colin Hughes ar ran y
Grŵp Llafur a'r Cynghorydd Martyn Holland, ar ran y Grŵp Gwleidyddol.
Cydymdeimlwyd â
gwraig a theulu’r Cynghorydd Bartley ac, fel arwydd o barch, fe safodd pawb a
oedd yn bresennol mewn tawelwch yn deyrnged iddo. Yna siaradodd y
Cadeirydd ynglŷn
â Diwrnod Cofio’r Holocost. Darllenodd gerdd, Yn gyntaf fe ddaethon nhw, gyda’r Arweinydd, y Cynghorydd
Hugh Evans, yn darllen cerdd o’r enw “Birdsong” i ddilyn, a oedd wedi cael ei
hysgrifennu’n arbennig ar gyfer thema eleni gan Gillian Clarke, Bardd
Cenedlaethol Cymru. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 185 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y
cyfnod rhwng 5 Rhagfyr 2016 ac 27 Ionawr 2017 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. Canmolodd y
Cadeirydd Sarah Dixon, y Cydlynydd Cyfoethogi Cwricwlwm am drefnu’r
digwyddiadau Harry Potter yn yr ysgolion. Roedd y Cadeirydd
hefyd wedi mynychu dangosiad agoriadol y ffilm Star Wars, a oedd â’r gŵr
lleol, Spencer Wilding, yn chwarae rhan Darth Vader. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Rhagfyr 2016. Dymunodd y
Cynghorydd Arwel Roberts ddiolch i Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a
Gwasanaethau Democrataidd am y gwaith a wnaed ynghylch “Dronau”. Estynnodd y Cynghorydd
Roberts ei ddiolch i’r Cynghorydd Jason McLellan a’r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu a drafododd y ‘Dronau’ a hefyd y busnesau a oedd yn
dibynnu arnynt. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr
2016 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB Y CYNGOR PDF 108 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb
ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb
refeniw'r Cyngor ar gyfer 2017/2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd
Julian Thompson Hill adroddiad Cynigion Terfynol - Cyllideb 2017/18 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2017/2018 a chynigion i
gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2017/2018. Roedd yn ofynnol
yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y gellir ei chyflawni cyn
dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel sy'n deillio o Dreth y Cyngor i
ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr. Pwrpas yr
adroddiad oedd darparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith Setliad
Llywodraeth Leol ac ystyried cynigion i osod y gyllideb ar gyfer 2017/18, gan
gynnwys lefel Treth y Cyngor. Derbyniwyd y
Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2017/18 ar 21 Rhagfyr ac roedd yn
darparu cynnydd o ran arian parod o 0.6%.
Roedd y Setliad Dros Dro yn rhoi cynnydd o 0.5%. Er bod y Setliad yn darparu ar gyfer cynnydd
o ran arian parod, mewn termau real roedd yn doriad gan nad oedd yn rhoi unrhyw
ystyriaeth i chwyddiant na phwysau o ran y galw ar wasanaethau. Gan fod y cyllid
ar gyfer y Cynllun Cwtogi Treth y Cyngor wedi cael ei rewi am sawl blwyddyn,
roedd yn rhaid i’r Cyngor ariannu cost y cynnydd mewn Treth y Cyngor a
amcangyfrifwyd i fod yn £350,000.
Byddai’r cynigion yn caniatáu £200,000 o fuddsoddiad newydd mewn
blaenoriaethau. Lefel y cynnydd
mewn Treth y Cyngor a gynigwyd oedd 2.75%.
Roedd hyn yn unol â rhagdybiaethau ynghylch chwyddiant am y flwyddyn i
ddod ac roedd yn debyg o fod yn is na lefel cyfartalog y cynnydd yng Nghymru. Yn y Gweithdy
Cyllideb ym mis Tachwedd 2016, bu peth trafodaeth ynghylch lefel cynnydd Treth
y Cyngor ac effaith canlyniadol lefelau cynnydd is neu uwch ar y gyllideb. O ystyried yr ystod
o bwysau roedd y Cyngor yn ei wynebu, yn arbennig y pwysau parhaus ar
gyllidebau gofal cymdeithasol a thrywydd cyffredinol chwyddiant, credid fod
cynnydd o 2.75% yn ddarbodus ac yn gynaliadwy. Atgoffwyd yr
Aelodau gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, mai hon fyddai'r gyllideb
olaf fyddai’r Cyngor cyfredol yn ei phennu a hon fyddai’r bwysicaf. Tymor y Cyngor cyfredol fu’r un mwyaf heriol
i Sir Ddinbych ei wynebu, ond yn ystod y tymor hwnnw, roedd Cyngor Sir Ddinbych
yn parhau i fod yn un o'r cynghorau oedd yn perfformio orau yng Nghymru. Byddai angen i’r Cyngor newid sut byddai’n
darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Aeth yr Arweinydd
ymlaen i ddiolch i’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad a’r Tîm Cyllid am eu gwaith yn ystod tymor
y cyngor cyfredol. Yn ystod y
drafodaeth, soniwyd am y materion canlynol: ·
Effeithlonrwydd
ynni – roedd y cyngor yn aelod o fframwaith caffael a oedd yn golygu’r cyfraddau
gorau oedd ar gael ar gyfer nwy a thrydan.
Roedd pris olew wedi codi a oedd wedi golygu cynnydd mewn prisiau. Mae’r Awdurdod Lleol yn gwneud ei orau i gadw
costau ynni cyn lleied â phosibl e.e. gosod goleuadau LED yn lle goleuadau
stryd, ac roedd gwaith wedi cael ei wneud ynghylch rhoi caeadau ar byllau nofio
er mwyn cadw ynni. Roedd llawer o
adeiladau Fictoraidd yn perthyn i’r Cyngor nad oedd yn effeithlon o ran ynni,
felly, roedd amrywiaethau o ran costau allanol. ·
Doedd gan Sir Ddinbych ddim mewnbwn
ym mhraesept yr Heddlu gan eu bod yn gorff ymreolaethol y mae Sir Ddinbych yn
casglu arian ar eu rhan ac yn anfon y swm maent yn ddisgwyl atynt. Hon oedd y ffordd fwyaf effeithlon i’r holl elfennau gael eu casglu gyda’i
gilydd. · Roedd yr holl grantiau a gyhoeddwyd hyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR PDF 178 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i fabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth
y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygiadau i Ofynion
Rhagnodedig (Cymru) 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd
Julian Thompson Hill yr Adroddiad Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor 2017/18 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd Deddf
Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor
yn ei ffurf bresennol ar draws y DU. O
31 Mawrth 2013 roedd budd-dal treth y cyngor wedi dod i ben ac roedd y
cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n
gysylltiedig ag ef, wedi cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth
treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013. CYNIGODD y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhellion yr adroddiad, ac fe’i EILIWYD gan
y Cynghorydd Colin Hughes. PLEIDLAIS: O blaid - 34 Ymatal - 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD bod
Aelodau yn: ·
Mabwysiadu'r Cynlluniau Lleihau Treth y
Cyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygiadau
i Ofynion Rhagnodedig (Cymru) 2017, o ran blwyddyn ariannol 2017/18. ·
Cymeradwyo’r 3 elfen ddewisol o’r cynllun,
a ddangosir yn adran 4.2, yn cael eu parhau yn 2017/18. |
|
Ar y pwynt hwn (12.10 pm) cafwyd egwyl o 25 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.35 p.m. |
|
CYMERADWYO CANOLFAN DDŴR Y RHYL PDF 172 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i gymeradwyo datblygiad “Parc Dŵr ac Atyniad
Hamdden y Rhyl”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i’r Aelodau ystyried cynigion i ddatblygu ‘Parc Dŵr ac Atyniad Hamdden y
Rhyl’ – teitl dros dro (RWLA). Ystyriwyd mai
uwchraddio’r ddarpariaeth hamdden a thwristiaeth ar yr arfordir ar gyfer y
dyfodol oedd elfen fwyaf hanfodol adfywiad cyffredinol y Rhyl - gan ei wneud yn
lle gwell i fyw yn ogystal ag yn lle gwych i ymweld ag ef. Roedd y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd
at y cynnig datblygu wedi estyn dros 6 mlynedd. Roedd yn bwysig
nodi bod y cynigion ar gyfer y ‘Glannau’ newydd wedi’u datblygu mewn ffordd
oedd yn cwblhau’r cynllun adfywio arfordirol cyfan ac, oherwydd ei leoliad,
roedd yn ymddwyn fel catalydd i ddenu mwy o ymwelwyr i’r Rhyl ac arwain mwy o
bobl trwy Ganol y Dref. Roedd y lleoliad
yn agos at ganol y dref wedi cael ei ystyried yn bwysig iawn o ran goblygiadau
adfywio a chynhyrchu ymwelwyr y datblygiad. Yn ystod tymor y
cyngor hwn roedd mwy o gynllunio strategol wedi digwydd. Byddai Canolfan Ddŵr y Rhyl yn
fuddsoddiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gyda’r gobaith byddai’r Rhyl yn
symud o fod yn brosiect adfywio heriol i fod yn un datblygu economaidd. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol wrth yr Aelodau
mai’r strategaeth gyfredol oedd i symud y Rhyl i fod yn ardal datblygu economaidd
ac mai’r prosiect allweddol oedd i gynyddu’r ymwelwyr â’r dref i greu mwy o
swyddi a chaniatáu mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl leol. Roedd y cam
adfywio blaenorol wedi creu cartrefi newydd gyda phreswylwyr egnïol a byddai
gwaith yn awr yn dechrau gyda datblygu’r glannau. Dangosodd yr Asesiad Effaith Economaidd gyllid
ychwanegol yn dod i mewn i’r dref ynghyd â 60 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl
leol a fyddai mewn lle da ar gyfer y swyddi hynny pan fyddent ar gael. Rhoddodd y
Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Rheoli gyflwyniad i roi mwy o fanylion am
atyniad Parc Dŵr a Hamdden y Rhyl. Rhoddwyd eglurhad ynghylch y ddau opsiwn a’r rhesymau pam fod swyddogion yn
ystyried Opsiwn 2 i fod yr opsiwn a ffafrir, ar sail cost ond yn bwysicaf oll
profiad y cwsmer a phreswylwyr. Roedd Cyngor Tref
y Rhyl am wneud cyfraniad cyfalaf o £2filiwn, ynghyd â chyfraniad oddi wrth
Lywodraeth Cymru o £800,000. Byddai’r cyfraniadau hyn yn gostwng cyfraniad
cyfalaf y Cyngor a chostau Benthyca Darbodus gan tua £159,000. At ddibenion yr
achos busnes, roedd y targedau incwm yn geidwadol iawn a’r disgwyl oedd y
byddai’r rhain yn uwch. Roedd
partneriaethau lleol yn gyfforddus bod tybiaethau incwm yr achos busnes yn
seiliedig ar breswyliaeth o 60% yn gyraeddadwy erbyn blwyddyn 5 a’u bod yn
sylfaen ddarbodus ar gyfer cyllidebu. Hanes
cyfredol y Cyngor (model hamdden cryf – Nova) oedd lefel preswyliaeth o 75% ar
draws ei gyfleusterau eraill. Y camau nesaf oedd ddechrau’r broses gynllunio
gydag ymgysylltu cyhoeddus llawn ynglŷn ag elfennau cynllunio'r
cynllun. Pe cafwyd caniatâd cynllunio ym mis
Gorffennaf 2017, byddai’r prosiect yn dechrau ar y safle ym mis Medi 2017
gyda’r cyfleuster newydd yn agos yn gynnar yn 2019. Eglurodd y
Pennaeth Cyllid yr opsiynau ar gyfer ariannu blynyddoedd 1-4. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol - Cyllid, y Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad mai’r argymhelliad oddi wrth y Grŵp Buddsoddi
Strategol oedd cytuno ar Opsiwn 2. Rhoddwyd sicrwydd bod hwn wedi bod yn
brosiect a adolygwyd yn llym iawn. Byddai’n
dibynnu’n helaeth ar y preswyliaeth yn taro’r targed o 60% ac erbyn blwyddyn 5
byddai’r Cyngor yn edrych ar gynnig niwtral o ran cost ar gyfer y prosiect. Yn ystod trafodaeth codwyd ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Cyflwynodd y
Cynghorwyr Mark Young y Rhybudd o Gynnig canlynol i’w ystyried gan y Cyngor
Llawn: “Bod Cyngor Sir
Ddinbych yn newid parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Glas i gael eu heithrio
rhag talu (parcio am ddim) mewn meysydd parcio a reolir gan Gyngor Sir
Ddinbych, ac felly yn trin pobl anabl yn deg ac yn gyfartal yn ein Awdurdod ac ar
draws Gogledd Cymru.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn. “Bod Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud parcio am
ddim ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ym meysydd parcio’r Cyngor yn Sir
Ddinbych, a thrwy hynny'n trin pobl anabl mewn modd teg a chyfartal yn ei
Awdurdod ac ar draws Gogledd Cymru". Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd mai’r
sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â deiliaid bathodyn glas oedd i ddarparu
hygyrchedd nid parcio am ddim. Awgrymwyd
bod y mater yn cael ei anfon i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio i’w drafod mewn Pwyllgor Archwilio, yn dilyn hynny, byddai’r broses
yn darparu argymhelliad i’r swyddogaeth Weithredol. Ar y pwynt hwn,
cododd pawb eu dwylo i gytuno â hynny’n unfrydol. PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig ynglŷn â pharcio am ddim ar gyfer deiliaid
bathodyn glas yn cael ei gyflwyno i’r grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio i’w ystyried. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 299 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/ Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). 14 Chwefror 2017
– Adolygu’r Cydbwysedd Gwleidyddol – byddai’r eitem hon bellach yn cael ei
thrafod yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor i'w gynnal ar 23 Mai 2017. 4 Ebrill 2017 – Cydnabyddiaeth
i Aelodau – byddai’r eitem hon bellach yn cael ei thrafod yng nghyfarfod
blynyddol y Cyngor i'w gynnal ar 23 Mai 2017. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 2.20 pm. |