Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Brian Blakeley, Ann Davies, Bobby Feeley, Jeanette Chamberlain Jones, Dewi Owens, Huw Hilditch-Roberts a Cefyn Williams i gyd gysylltiad personol

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod Arbennig y Cyngor a diolchodd i gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) am eu presenoldeb.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y cwestiynau a gyflwynwyd gan Gynghorwyr eisoes wedi’u dosbarthu i gynrychiolwyr BIPBC a CICGC.  Byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal mewn dwy ran – rhan gyntaf, cwestiynau’r aelodau i gynrychiolwyr BIPBC a’r ail ran, cwestiynau’r aelodau i gynrychiolydd CICGC.

 

 

4.

MATERION CYFREDOL YN EFFEITHIO AR WASANAETHAU IECHYD YN SIR DDINBYCH A SUT Y GELLIR MYND I'R AFAEL Â'R RHAIN

Derbyn adroddiadau ar lafar gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Cyngor Iechyd Cymuned.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

ADRAN 1 - BIPBC

 

Cwestiwn 1 - Y Cynghorydd Dewi Owens

“Pam mai eich opsiwn dewisol yw gwneud newidiadau dros dro i wasanaethau dan arweiniad Ymgynghorydd Obstetreg yn Ysbyty Glan Clwyd (YGC) pan rydych yn bwriadu agor a recriwtio Ymgynghorwyr i'r Ganolfan Dwys Ofal newydd enedigol isranbarthol newydd?  Pam y bydd heriau recriwtio’n wahanol?”

 

Mynegodd Prif Weithredwr Dros Dro BIPBC ei ddiolchgarwch o gael y cyfle i fynychu cyfarfod y Cyngor. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr Dros Dro i’r Aelodau ei fod wedi bod yn ei swydd am gyfnod o bedwar mis yn unig a’i fod wedi’i blesio gyda’r staff ar draws Gogledd Cymru, a oedd yn darparu gofal rhagorol o ddydd i ddydd.  Byddai angen i'r sefydliad fod yn fwy allblyg ac roeddent yn edrych ymlaen at weithio’n agored ac yn adeiladol gyda'r Cyngor.

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod y cyfnod Ymgynghori Cyhoeddus wedi dod i ben yn ddiweddar.  Roedd angen dadansoddi’r ymatebion a byddai'r adolygiad ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Roedd y gwasanaethau mamolaeth wedi bod yn fater cymhleth, gyda phroblemau'n syth.  Bu cyfradd o tua 50% o swyddi gwag, a oedd yn peri risg, felly bu’n rhaid cyflogi Meddygon byrdymor.  Roedd trafodaethau wedi bod yn digwydd gyda staff clinigol ym mhob un o'r gwasanaethau a oedd wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd am freuder y mwyafrif o wasanaethau.

 

Yr Opsiwn a ffefrir oedd cael cyflenwadwyedd ar lefel ymarferol.  Ni fyddai'r newidiadau yn barhaol ond ar sail dros dro.  Eglurodd y Prif Weithredwr Dros Dro nad oedd yr ymgynghoriad wedi ei lywio gan reolaeth nac arian.

 

 Un o'r pwyntiau ffocws yn y gwaith cynllunio yn y dyfodol fyddai cael gofal newydd enedigol ar safle Ysbyty Glan Clwyd, ac roedd y broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer y gwasanaeth.  Byddai hyn yn rhan o'r strategaeth i annog staff i ddilyn eu gyrfa yng Ngogledd Cymru.

 

Eglurodd Cadeirydd BIPBC i Aelodau nad oedd y mater o recriwtio wedi bod yn benodol i Ogledd Cymru, ond wedi bod yn broblem ledled y wlad.

 

 

Cwestiwn 2 - y Cynghorydd Raymond Bartley

“Pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni na fydd cam-drin pobl hŷn ddiamddiffyn â Dementia yn digwydd eto, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn ‘Tawel Fan’.  Pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud o ganlyniad i'r adroddiad gan Donna Ochenden?  Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â phrosesau disgyblu mewnol?”

 

Cytunodd y Prif Weithredwr Dros Dro bod y materion yn Tawel Fan wedi bod yn warthus.  Roedd mesurau arbennig bellach ar waith fel bod prosesau ansawdd yn sicrhau na fyddai’r problemau’n codi eto yn y dyfodol.  Byddai angen llawer iawn o waith i ddatblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl, gwaith a fyddai hefyd yn cynnwys yr Awdurdod Lleol.  Roedd y newidiadau a oedd eisoes wedi digwydd a'r rhai a oedd i ddigwydd yn gysylltiedig â'r adroddiad gan Donna Ochenden.

 

Roedd BIPBC wedi comisiynu’r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS), a oedd yn brofiadol dros ben wrth ymgymryd â materion o'r math hwn.  Roedd HASCAS wedi cael ei gomisiynu i gynnal ymchwiliad llawn ac i ddarparu ymatebion manwl i bryderon a godwyd gan deuluoedd y cleifion hynny yr effeithir arnynt.  Yr ail dasg ar gyfer HASCAS fyddai, lle y bo'n briodol, paratoi achosion disgyblu yn erbyn aelodau unigol o staff.  Byddai HASCAS yn cyfweld teuluoedd eto ynghyd â nifer o deuluoedd ychwanegol a oedd wedi dod ymlaen ers cwblhau adroddiad Donna Ochenden.   Cadarnhawyd bod nifer o staff wedi cael eu hatal, tra'n aros am gamau disgyblu, a bod nifer o staff wedi cael eu hadrodd i'r cyrff  ...  view the full Cofnodion text for item 4.