Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau’r
cyfarfod dywedwyd nad yw’r Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Davies, yn gallu
mynychu'r cyfarfod ac, yn ei absenoldeb, y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd
Win Mullen-James (a elwir yn ‘Cadeirydd’ o hyn allan), yn cadeirio cyfarfod y
Cyngor Llawn. |
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd
Huw Jones ddiolch i bawb am y negeseuon caredig, y cardiau a’r anrhegion a
dderbyniodd yn ystod ei salwch diweddar. Bu i’r Cadeirydd
longyfarch Band Pres Ieuenctid Sir Ddinbych am ennill Gwobr Band Pres Ieuenctid
Gogledd Cymru yn ddiweddar. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 194 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2016 a 25 Tachwedd 2016 wedi’i
dosbarthu cyn y cyfarfod. Roedd y
Cynghorydd Ann Davies wedi gofyn am gael tynnu sylw at Wobrau Chwaraeon
Cymunedol Sir Ddinbych gan fod cymaint o dalent o fewn y sir. Y siaradwr gwadd
oedd Mark Colbourne MBE, cyn-seiclwr tîm paralympaidd Cymru. Diolchodd y
Cynghorydd Brian Blakeley i Siân Davies (Rheolwr Gwyliau a Digwyddiadau) am ei
gwaith caled wrth drefnu digwyddiadau, gan gyfeirio at ei digwyddiad
diweddaraf, sef Pops Nadolig y Rhyl ddydd Sul 4 Rhagfyr. Casglwyd bron i £1000
ar gyfer plant na fyddent fel arall wedi cael parti nac anrhegion Nadolig. Dywedodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod yna nifer fawr o swyddogion o fewn y sir yn
gwneud gwaith da ac y dylid diolch iddynt hwythau hefyd am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 18 Hydref 2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 18 Hydref 2016. Materion yn codi: Tudalen 12 -
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod
ar yr Aelodau eisiau gwahodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru i Bwyllgor
Archwilio. Mae wedi derbyn cadarnhad yn ddiweddar y bydd uwch gynrychiolydd o'r
Gwasanaeth Ambiwlans yn mynychu cyfarfod Pwyllgor Archwilio yn y flwyddyn
newydd. Nid yw’r dyddiad wedi’i gadarnhau eto. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref
2016 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
PWYLLGOR LLYWIO’R GYMRAEG PDF 259 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i'r Cyngor fabwysiadu
Grŵp Llywio Cymraeg ffurfiol o fewn Cyfansoddiad y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Datblygu Cymunedol, y Cynghorydd Huw Jones, adroddiad Grŵp
Llywio’r Gymraeg (dosbarthwyd eisoes) er mwyn i’r Cyngor sefydlu Pwyllgor
Llywio’r Gymraeg ffurfiol o fewn cyfansoddiad y Cyngor. Mae Comisiynydd y
Gymraeg wedi cyflwyno Safonau'r Gymraeg i’r Awdurdod. Mae’r rhan fwyaf o’r
safonau wedi bod mewn grym ers 1 Ebrill 2016. Mae safonau pellach, mewn
perthynas â datblygu polisi, wedi dod i rym ar 1 Hydref 2016. Mae Sir Ddinbych,
sydd ar y cyfan yn sir ddwyieithog a chanddi ddiwylliant a threftadaeth
gyfoethog, yn annog dwyieithrwydd wrth ryngweithio o ddydd i ddydd gyda
chymunedau, trigolion a staff. Mae gan y Cyngor
Grŵp Llywio'r Gymraeg a gadeirir gan Aelod Arweiniol Datblygu Cymunedol.
Mae’r Grŵp Llywio yn cynnwys cynrychiolwyr swyddogion, sef Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cymunedau, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd ac Arweinydd Tîm
Cyfathrebu. Yn ystod y
drafodaeth i ddilyn, codwyd y materion canlynol: · Bydd y pwyllgor yn cynnwys 11 cynghorwr
gan gynnwys, lle bo’n bosib, yr Aelod Cabinet Arweiniol sy’n gyfrifol am
faterion yn ymwneud â’r Gymraeg. · Bydd y pwyllgor yn wleidyddol gytbwys, gyda sedd yr Aelod Cabinet Arweiniol
yn cyfri tuag at gyfrifiadau’r cydbwysedd gwleidyddol. Bydd aelodaeth y pwyllgor ar agor i gynghorwyr
gweithredol a chynghorwyr anweithredol. Cyfrifoldeb y grwpiau gwleidyddol fydd
dyrannu cynghorwyr i’r pwyllgor. · Ni fydd unrhyw gyfyngiad ar gynghorwyr yn
mynychu cyfarfodydd fel sylwedyddion ac eithrio pan ystyrir materion lle
byddai’n rhaid i’r aelod ddatgan cysylltiad personol neu gysylltiad sy’n
rhagfarnu. · Gan y byddai'r pwyllgor yn bwyllgor
cyhoeddus, byddai rhwydd hynt i aelodau o'r cyhoedd, ysgolion a chyrff eraill
fynychu. Byddai'r pwyllgor yn gallu galw ar dystion arbenigol a defnyddwyr
gwasanaeth i lywio ei waith. · Cadarnhawyd y byddai’r pwyllgor yn
bwyllgor ymgynghorol ac na fyddai ganddo bwerau dirprwyol i wneud
penderfyniadau oni bai am rai meysydd o’i drafodion ei hun e.e. penodi
cadeirydd, cadarnhau cofnodion a.y.b. · Mae swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd
wedi addasu cylch gorchwyl Grŵp Llywio'r Gymraeg ac fe gynigir defnyddio’r
cylch gorchwyl hwn ar gyfer Pwyllgor Llywio'r Gymraeg. · Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei
ddatblygu yn defnyddio’r strategaeth a bydd yn cael ei gyflwyno i Grŵp
Llywio'r Gymraeg ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2016. · Byddai’r pwyllgor yn monitro’r cynnydd
wrth weithredu Safonau’r Gymraeg. · Nod y pwyllgor fydd hyrwyddo'r Gymraeg o
fewn y sir. Cafodd yr
argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a’i eilio gan y
Cynghorydd Cefyn Williams. PHENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: (i)
Mabwysiadu
Pwyllgor Llywio'r Gymraeg a chymeradwyo ei ychwanegiad at brif strwythur
pwyllgor y Cyngor; (ii)
Cadarnhau cwmpas/cylch gwaith Pwyllgor
Llywio'r Gymraeg. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Cyflwydnodd y Cynghorydd Arwel Roberts y rhybudd o Gynnig canlynol i’w ystyried gan y Cyngor llawn. “Tynnwyd fy sylw
at y ffaith fod dronau’n hedfan o gwmpas Rhuddlan a'r Rhyl yn gyson ar hyn o
bryd. Mae technoleg yn beth bendigedig ond mae’n debyg bod y peiriannau hedfan
hyn yn hofran o amgylch tai a gerddi pobl. Mae’r gyfraith yn nodi na ddylid eu hedfan
dros ardaloedd adeiledig nac o fewn 50 medr o bobl nad oes gennych reolaeth
drostynt. Gellir prynu’r
dronau hyn yn weddol rhad gyda chamerâu arnynt, maent yn fforddiadwy ac felly’n
hygyrch i unrhyw un. Rwy’n credu eu
bod wedi eu gwahardd ym Mharciau Brenhinol Llundain a dylid cael parth gwahardd
dros holl barciau a thraethau Sir Ddinbych. Gallai trip i’r
parc lleol olygu rhai rhieni blin iawn ac ni fyddai trigolion am weld pobl yn
gyrru’r dronau rheoli o bell hyn dros eu heiddo. Dylid gwahardd y
dronau yma o holl ardaloedd cyhoeddus Sir Ddinbych.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn. “Tynnwyd fy sylw
at y ffaith fod nifer o achosion o ddronau yn cael hedfan o gwmpas Rhuddlan a'r
Rhyl. Mae technoleg yn beth bendigedig ond mae’n debyg bod y peiriannau hedfan
hyn yn hofran o amgylch tai a gerddi pobl. Mae’r gyfraith yn nodi na cheir eu
hedfan dros ardaloedd adeiledig nac o fewn 50 medr o bobl nad oes gennych
reolaeth drostynt. Gellir prynu’r
dronau hyn yn weddol rhad gyda chamerâu arnynt, maent yn fforddiadwy ac felly’n
hygyrch i unrhyw un. Rwy’n credu eu
bod wedi’u gwahardd ym Mharciau Brenhinol Llundain a dylid cael parth gwahardd
dros holl barciau a thraethau Sir Ddinbych. Gallai trip i’r parc lleol olygu
rhai rhieni blin iawn ac nid oes ar drigolion eisiau gweld pobl yn hedfan
dronau rheoli o bell dros eu heiddo. Dylid gwahardd
hedfan y dronau hyn dros ardaloedd cyhoeddus Sir Ddinbych.” Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod
Gorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016 yn nodi'r gyfraith sy'n ymwneud â defnyddio a
gweithredu awyrennau. Mae'r diffiniad o awyren sy’n destun y rheoliad hwn yn
cynnwys awyrennau bach heb griw, sef unrhyw awyren heb griw, ac eithrio
balŵn neu farcud, sydd â màs o ddim mwy na 20kg heb danwydd (h.y. dronau
neu awyrennau model). Mae hefyd yn
cynnwys awyrennau gwyliadwriaeth bychain heb griw a ddiffinnir fel awyrennau
bychain heb griw sydd ag offer gwylio neu gaffael ddata (e.e. dronau gyda
chamerâu). Awgrymodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y dylid
cyflwyno adroddiad i Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio er
mwyn trafod y mater ymhellach. Mae rheolau
gweithredu awyrennau o’r fath yn gofyn bod y gweithredwyr yn gallu gweld yr
awyren ac mae rheolau yn bodoli o ran pa mor uchel y gellir eu hedfan ac ymhle.
Mae yna hefyd reolau o ran hedfan awyrennau gwyliadwriaeth o fewn pellteroedd
penodol i dagfeydd neu bobl neu wrth ymyl cerbydau a.y.b. Mae angen
trwydded neu ganiatâd yr Awdurdod Hedfan Sifil i ddefnyddio dronau at ddibenion
masnachol. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD bod
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd / y Swyddog
Monitro yn darparu adroddiad i'r Pwyllgor Archwilio am y fframwaith rheoleiddio
sy'n ymwneud â dronau a gallu’r Cyngor o ran cyflwyno cyfyngiadau pellach. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 296 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y bydd Sesiwn
Friffio’r Cyngor yn cael ei chynnal cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 31 Ionawr
2017. Testun y sesiwn fydd cymeradwyo Canolfan Ddyfrol y Rhyl. Nid yw dyddiad y
sesiwn friffio wedi’i gadarnhau eto, ond bydd yn cael ei chynnal 25, 26 neu 27
Ionawr 2017. Unwaith y cytunir ar ddyddiad, bydd y gwahoddiadau yn cael eu
hanfon at yr holl gynghorwyr. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 a.m. |