Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau’r
cyfarfod dywedwyd nad yw’r Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Davies, yn gallu
mynychu'r cyfarfod ac, yn ei absenoldeb, y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd
Win Mullen James (a elwir yn ‘Cadeirydd’ o hyn allan), yn cadeirio cyfarfod y
Cyngor Llawn. |
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Win
Mullen James, fod y Cynghorydd Hugh Jones yn wael iawn yn yr ysbyty ac, ar ran
y Cyngor, dymunodd wellhad buan iddo ac anfon cofion ato ef a'i deulu. · Yn rhinwedd ei swydd fel Cefnogwr y
Lluoedd Arfog, rhoddodd y Cynghorydd Hugh Irving gyflwyniad byr ar y Diwrnod
Lluoedd Arfog a gynhaliwyd gan Sir Ddinbych yn ddiweddar yng Nghastell
Bodelwyddan. Y llynedd fe sefydlwyd Grŵp Llywio gyda chymorth Peter McDermott,
Arweinydd Tîm, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau i drefnu'r digwyddiad. Daeth oddeutu 10,000 o bobl i Gastell Bodelwyddan. Roedd y gwesteion yn
cynnwys urddasolion o bob rhan o ogledd Cymru ynghyd â chynrychiolwyr o’r tri
llu arfog, y tri gwasanaeth brys a chyn-filwyr y lluoedd arfog. Llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Irving, Peter McDermott a’r holl
swyddogion a gynorthwyodd i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. · Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh
Evans, yn pryderu ynghylch y nifer o bobl sydd wedi cysylltu ag Aelodau yn
gofyn i'r Cyngor ystyried cynnig ar droseddau casineb. Dywedodd yr Arweinydd: “Rydym ni’n falch o gael byw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes
lle i hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ein gwlad. Rydym ni, Cyngor
Sir Ddinbych, yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn
ddigamsyniol. Ni fyddwn yn caniatáu i gasineb fod yn dderbyniol. Bydd y Cyngor
yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn derbyn y gefnogaeth a’r
adnoddau sydd eu hangen i atal ac ymladd yn erbyn hiliaeth a senoffobia. Mae
arnom ni eisiau sicrhau holl drigolion Sir Ddinbych eu bod nhw’n aelodau
gwerthfawr o’n cymuned”. Ar ôl ymgynghori gydag arweinyddion yr holl grwpiau gwleidyddol, rydym ni’n
teimlo ei bod yn bwysig i ni ddod â'r eitem hon gerbron yr Aelodau heddiw. Mynegodd yr holl Arweinwyr Grŵp eu bod yn condemnio ymddygiad alaethus
ac na fyddent yn ei oddef. Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hugh Evans, gyda’r Cynghorydd David
Smith yn eilio. Cafwyd pleidlais drwy godi llaw ac roedd pawb o blaid y cynnig. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 197 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd
gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd rhwng 15.04.2016 a 19.06.2016 wedi ei
dosbarthu cyn y cyfarfod. Siaradodd y
Cynghorydd Martyn Holland ar ran y Cynghorydd Ann Davies a diolch i'r
Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Win Mullen James, am ei chefnogaeth a dywedodd pa
mor dda y maent wedi cydweithio. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir Blynyddol a gynhaliwyd 10 Mai 2016 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mai 2016. Dywedodd y
Cynghorydd Jason McLellan fod cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym
Bury, yn y Cyfarfod Blynyddol diwethaf wedi awgrymu bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol, ar un achlysur, wedi bod heb gworwm. Gwiriwyd hyn a gwelwyd na
fu achos o’r fath. Tudalen 17 -
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan nad yw’r cofnodion yn crybwyll y pryderon
ynghylch Polisi Cyflogau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yng ngoleuni'r toriadau yng nghyflogau’r sector
cyhoeddus. Ar y pwynt hwn,
gadawodd aelodau o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth y siambr. Dywedodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Panel
Cydnabyddiaeth Ariannol Mewnol yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bod yr argymhellion
y cytunwyd arnynt yn y Cyfarfod Blynyddol wedi eu cyflwyno i'r Gweinidog. Mae’r
Gweinidog wedi ymateb ac wedi gofyn i’r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Mewnol
ail-ystyried cydnabyddiaeth ariannol yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth cyn diwedd yr
wythnos (wythnos yn gorffen ddydd Gwener 8 Gorffennaf). Mae’r panel i fod i
gyfarfod ddydd Mercher, 6 Gorffennaf 2016, i ystyried barn y Gweinidog. Gofynnodd y
Cynghorydd Paul Penlington am gofnod o bleidleisiau’r Aelodau ar Bolisi
Cyflogau'r Uwch Dîm
Arweinyddiaeth a chadarnhad ynghylch a oedd y cyfarfod yn ffurfio cworwm ar
adeg y bleidlais. Cadarnhaodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod y cyfarfod yn ffurfio cworwm a phe
bai’r bleidlais wedi ei chofnodi’n electronig yna byddai cofnod ar gael. Fodd
bynnag, os oedd y bleidlais drwy godi llaw yna, yn anffodus, ni fyddai unrhyw
gofnod ar gael gan na ofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2016
fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYFANSODDIAD Y CYNGOR PDF 92 KB Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Monitro / Dirprwy Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig), ar gyfer
sylwadau a mabwysiadu Cyfansoddiad Model Cymru newydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd, yr adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) er mwyn i’r Aelodau
ystyried a mabwysiadu’r Cyfansoddiad Enghreifftiol newydd a gwneud sylwadau
arno. Mae gan y Cyngor
Llawn gyfrifoldeb cyfreithiol i fabwysiadu'r Cyfansoddiad yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol 2000. Yn ystod y
deuddeg mis diwethaf mae Gweithgor y Cyfansoddiad, sy’n cynnwys cynrychiolaeth
drawsbleidiol, wedi cyfarfod i ystyried y newidiadau arfaethedig; cyn i’r
Swyddog Monitro adrodd ar bob cam o gynnydd i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Cynhaliwyd
gweithdy Aelodau ym mis Mawrth 2016 er mwyn trafod a chyflwyno aelodaeth
ehangach i’r Cyfansoddiad newydd arfaethedig a galluogi’r Swyddog Monitro i
lywio’r newidiadau arfaethedig. Tynnwyd sylw'r
Aelodau at y newidiadau canlynol: · Adran Diffiniad Estynedig · Adran 2 (2.6) – Caniatáu’r Swyddog Monitro
i wneud mân newidiadau i'r Cyfansoddiad · Adran 3 – Sut y gall aelodau o’r cyhoedd
gael gwybodaeth a chymryd rhan · Adran 4 (4.2) – Fframwaith Polisi wedi ei
ddiweddaru (4.13.2) – Eglurhad o hyd cyfarfodydd. (4.16) – Eglurhad o gworwm. (4.17) – Ar hyn o bryd ni chaniateir mynychu unrhyw gyfarfod, pwyllgor nac
is-bwyllgor o bell. (4.18) – Cwestiynau gan y cyhoedd – wedi ei gyfyngu i 30 munud. · Adran 7 – Esboniad ychwanegol o’r broses. · Adran 9 – Rhestru pob pwyllgor rheoleiddio
a phwyllgor arall, gan gynnwys Cydbwyllgorau. · Adran 11 – Pwy yw swyddogion statudol
‘priodol’ y Cyngor a’u swyddogaethau a’u meysydd cyfrifoldeb. · Adran 12 – Cyllid, Contractau a Materion
Cyfreithiol a chael gwared ar yr angen i Gadeirydd y Cyngor lofnodi pob
contract yn unigol a thrafodion eiddo a wneir dan sêl. · Adran 13 – Cynllun Dirprwyo Aelodau
Cabinet diwygiedig a Chynllun Dirprwyo Swyddogion diwygiedig. · Adran 17 – Rheolau’r Weithdrefn Gontractau
- newidiadau wedi eu hychwanegu yn 2.7. · Adran 18 – Cod Ymddygiad Aelodau, a
gymeradwywyd yn ddiweddar, wedi ei ychwanegu. (18.3) – Protocol diwygiedig ar gyfer Perthynas rhwng Aelodau a Swyddogion. (18.4) – Polisi Rhannu Pryderon newydd wedi ei ychwanegu. (18.8) – Fersiwn ddiweddaraf cymeradwyo o’r Cod Arferion Gorau i Gynghorwyr
a Swyddogion sy'n delio â Materion Cynllunio wedi ei ychwanegu. · Adran 20 - Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol
wedi ei diweddaru a'i hychwanegu. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Gofynnodd y Cynghorydd Hugh Irving a oes
modd cynnwys egwyddorion Nolan yn y Cyfansoddiad. Eglurodd y Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd fod Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru a’i fod yn cynnwys tair egwyddor ychwanegol i
egwyddorion Nolan. CYNIGIODD y Cynghorydd Hugh
Irving y dylid cynnwys Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
yn y Cyfansoddiad, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Martyn Holland. · Holodd yr Aelodau ynghylch yr elfen
penderfyniadau dirprwyedig a geir yn y Cyfansoddiad gan nad oeddent yn
siŵr a fyddent yn cael gwybod am unrhyw benderfyniad dirprwyedig
arfaethedig. Eglurwyd y bydd penderfyniadau dirprwyedig Aelodau Arweiniol yn cael eu
hanfon at yr holl Aelodau cyn i'r adroddiad gael ei wneud, gyda chais am
sylwadau. Unwaith y bydd y penderfyniad wedi ei wneud, os yw’r Aelodau yn
anghytuno â'r penderfyniad, yna fe ellir dilyn y broses "galw i
mewn". · Cadarnhaodd y Swyddog Monitro/Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai ‘r canllawiau
drafft yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol unwaith y
bydd canllawiau wedi eu gosod ynghylch penderfyniadau allweddol a
phenderfyniadau eraill. · Holodd y Cyng. Alice Jones a yw’r broses
archwilio yn ddigon cadarn. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod wedi cyflwyno cais archwilio fis Chwefror, ond nad oedd wedi derbyn unrhyw ymateb. Argymhellodd y dylid ail-edrych ar Adran 7 yn y Cyfansoddiad i sicrhau bod archwilio yn fwy effeithiol. Ymatebodd Cadeirydd Grŵp Cadeiryddion ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 282 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (wedi ei gylchredeg). 6 Medi 2016 –
Adroddiad Blynyddol Llywodraethu Corfforaethol. Yn dilyn cyfarfod
y Cyngor Llawn ar 6 Medi 2016, bydd sesiwn Briffio'r Cyngor yn cael ei chynnal
i roi gwybod i Aelodau am yr Asesiad Corfforaethol sy’n cael ei gynnal fis
Hydref 2016. Dywedodd y
Cynghorydd Julian Thompson Hill y bydd Gweithdy Cyllideb ar 18 Gorffennaf 2016
yn Rhuthun. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd. |