Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Huw Williams ddatgan cysylltiad personol yn Eitem 7 – Cymeradwyo Achosion Busnes ar gyfer Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun ac Ysgol Carreg Emlyn.

 

 

Ar y pwynt hwn, fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, longyfarch yr aelodau staff a fu’n rhedeg yr etholiadau yr wythnos gynt a dywedodd ei bod yn falch iawn o’r staff gan fod popeth wedi mynd yn hwylus iawn.

 

Hefyd, llongyfarchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol Ann Jones, Darren Miller a Ken Skates.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Cadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2016/17.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, wahodd enwebiadau i benodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2016/2017.  Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid ethol y Cynghorydd Ann Davies yn Gadeirydd ac amlinellodd y rhinweddau personol a’r profiad y byddai hi’n eu cynnig i’r swydd.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts ac ychwanegodd y byddai’r Cynghorydd Davies yn Gadeirydd gwych i’r Cyngor ac roedd yn hapus i gefnogi’r enwebiad.

 

Gan nad oedd dim enwebiad eraill, ac yn dilyn pleidlais drwy godi llaw, etholwyd y Cynghorydd Ann Davies yn unfrydol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2016/17.

 

Traddododd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol araith fer, cyfeiriodd at ei chyfnod fel Cadeirydd gan dynnu sylw at rai o’r digwyddiadau yr oedd wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Mynegodd ei diolch i aelodau Grŵp Plaid Cymru am eu cefnogaeth a’u cymorth i godi arian at yr Elusennau a ddewiswyd ganddi. Hefyd, diolchodd Ifor Williams Trailer and Alliance Leisure am ei noddi a’i chefnogi yn ystod ei blwyddyn fel Cadeirydd.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd a oedd yn ymddeol hefyd ddiolch i’r Cynghorydd Ann Davies am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn a oedd wedi mynd heibio. Diolchodd hefyd i swyddogion a staff am eu cymorth ynghyd â’i chonsort, Gaynor Morgan Rees, ac yn enwedig ei gŵr am ei chefnogi ar hyd y flwyddyn.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol sieciau am yr arian a godwyd yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd i’r elusennau a ddewiswyd ganddi:

 

(i)              Derbyniodd Dafydd Rhys Owen siec am £2,500 ar ran y Samariaid

(ii)             Derbyniodd Diane Hesketh siec am £2,500 ar ran Autism Initiatives, a

(iii)            derbyniodd Gaynor Richards a Carys Gwyn siec am £2,500 ar ran y Mudiad Meithrin er cof am y diweddar Hywyn Williams.

 

Yna, cyflwynodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol anrhegion i’w Chaplan, y Parchedig Wayne Roberts, y Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau, a’r Cydlynydd Gwasanaethau Cymorth Cerdd.

 

Dymunodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol y gorau ar gyfer y dyfodol i’r Cadeirydd newydd a chyflwynodd Gadwyn Swydd y Cadeirydd iddi, cyn iddi lenwi ei Datganiad Derbyn Swydd.

 

Talodd y Cadeirydd newydd deyrnged i waith y Cadeirydd blaenorol a chyflwynodd Fathodyn y Cyn-gadeirydd iddi ac anrheg ar ran y Cyngor.

 

Enwodd yr Is-gadeirydd newydd ei merch, Mrs Jane Hugo, fel ei chonsort.

 

Caplan y Cadeirydd newydd ar gyfer y flwyddyn fydd y Parchedig Brian Hugh Jones ac mae’r elusennau a ddewiswyd ganddi fel a ganlyn:

 

·       Hosbis Sant Cyndeyrn er cof am y diweddar Gynghorydd Peter Owen, a

·       Hosbis Plant Tŷ Gobaith.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd newydd y byddai ei Gwasanaeth Dinesig yn cael ei gynnal ddydd Sul, 3 Mehefin, 2016 yng Nghapel Ebeneser, Rhuddlan.

 

Ar y pwynt hwn, esboniodd y Cadeirydd newydd nad oedd consort y Cadeirydd a oedd yn ymddeol yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod Blynyddol y Cyngor oherwydd ymrwymiadau blaenorol ond byddai tusw o flodau yn cael ei anfon ati i fel arwyddo o ddiolch iddi am gefnogi’r Cadeirydd a oedd yn ymddeol dros y 12 mis diwethaf.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2016/17.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid ethol y Cynghorydd Win Mullen-James yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17.  Cyfeiriodd at brofiad helaeth y Cynghorydd Mullen-James gan gynnwys y ffaith iddi wasanaethu fel Maer y Rhyl ar ddau achlysur.

 

Eiliwyd yr enwebiad gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo, etholwyd y Cynghorydd Win Mullen-James yn unfrydol yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/2017.

 

Rhoddodd y Cadeirydd Gadwyn Swydd yr Is-gadeirydd i’r Cynghorydd Win Mullen-James, ac yn dilyn hyn, llenwodd hithau ei Datganiad Derbyn swydd.

 

Enwodd yr Is-gadeirydd ei gŵr, Alan James, fel ei chonsort.

 

Fe wnaeth Arweinwyr y Grwpiau ac Aelodau gydnabod gwaith y Cadeirydd a oedd yn ymddeol dros y 12 mis diwethaf a llongyfarch y Cynghorwyr Ann Davies a Win Mullen-James ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd yn y drefn honno.

 

 

Ar y pwynt hwn (10.55 a.m.) cafwyd egwyl.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler wrth yr aelodau fod David Thomas, cyn-Gynghorydd y Rhyl wedi marw’n ddiweddar.  Byddai ei angladd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 12 Mai, am 2 p.m. yn Eglwys Sant Tomos, Y Rhyl.

 

Hefyd, croesawodd y Cynghorydd Kensler y Cynghorydd Brian Blakeley yn ôl i’r Cyngor yn dilyn ei salwch diweddar.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 147 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 12 Ebrill 2016 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2016, yn gofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.

 

 

7.

CYMERADWYO ACHOSION BUSNES AR GYFER DATBLYGU YSGOLION TREF RHUTHUN AC YSGOL CARREG EMLYN. pdf eicon PDF 259 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau (copi ynghlwm) i roi gwybod i’r Cyngor am y sefyllfa bresennol o ran cyflwyniad y Cyngor o’r Amlinelliad / Achos Busnes Terfynol ar gyfer Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun (Ysgol Penbarras ac Ysgol Stryd y Rhos) a'r Achos Cyfiawnhau Busnes ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog, i Lywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Achosion Busnes ar gyfer Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun ac Ysgol Carreg Emlyn.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno’r sefyllfa bresennol i’r Cyngor mewn perthynas â chais Achos Busnes Amlinellol / Terfynol y Cyngor ar gyfer Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun (Ysgol Penbarras ac Ysgol Stryd y Rhos) a’r Achos Cyfiawnhau Busnes ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog i Lywodraeth Cymru. 

 

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol (Ionawr 2016) ar gyfer y tri Phrosiect Ysgol Gynradd yn Rhuthun.

 

Roedd Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn manylu ar uchelgais y Cyngor i sicrhau buddsoddiad mawr ym mhortffolio Adeiladau Ysgol y Cyngor rhwng 2012-17.  Byddai’r prosiectau Band A ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhan bwysig o’r gwaith hwn.

 

Cyflwynodd Rheolwr y Rhaglen gyflwyniad gweledol o’r ysgolion unigol a oedd bellach wedi cyrraedd cam cynllunio y datblygiad.

 

Byddai’r costau a fyddai’n deillio o brosiect Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun tua £10.5miliwn a’r costau ar gyfer prosiect Ysgol Carreg Emlyn tua £4.9miliwn. Y Cabinet fyddai’n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol i ymgysylltu ar gyfer y cam adeiladu. 

 

Ymgynghorwyd yn helaeth â chymuned yr ysgolion perthnasol wrth ddatblygu’r prosiectau hyd yma. Roedd hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd ymgynghori yn yr ardaloedd i drafod y cynlluniau arfaethedig ar gyfer yr adeiladau ysgol newydd. Hefyd, roedd Grŵp Aelodau Ardal Rhuthun wedi cyfrannu at gynnydd y prosiect.

 

Yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2016, ystyriwyd yr Achosion Busnes gan y Grŵp Buddsoddiad Strategol ac yn dilyn archwilio helaeth, cafwyd cefnogaeth i’w argymell i’r Cabinet. Bu i’r Cabinet ystyried yr Achosion Busnes yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill gan roi ei gefnogaeth lawn i argymell bod y Cyngor yn eu cymeradwyo.

 

Cafwyd trafodaeth ar y mater a chodwyd cwestiynau ynglŷn â chapasiti’r ysgolion. Cadarnhawyd bod niferoedd hanesyddol yn yr ardaloedd wedi’u hystyried, ac yn gyffredinol y byddai’r model yn gweithio’n dda. 

 

Hefyd, cadarnhawyd y byddai’r ysgolion yn cael eu hadeiladu mewn dull a fyddai’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

 

Mynegodd sawl aelod ei gefnogaeth i’r achosion busnes hyn a chynigiodd y Cynghorydd David Smith, eiliwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley y dylai’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD  bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Achosion Busnes ar gyfer Datblygu Ysgolion Tref Rhuthun ac Ysgol Carreg Emlyn.

 

 

8.

ACHOS BUSNES I OHIRIO'R HAWL I BRYNU pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol - Cartrefi Cymunedol (copi ynghlwm) i gyflwyno’r achos busnes i'r Cyngor gyflwyno'r cais sydd ynghlwm i Lywodraeth Cymru am gymeradwyaeth i atal yr hawl i brynu am dai cyngor yn Sir Ddinbych.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyfleusterau, Cyllid a Thai yr Adroddiad ar yr Achos Busnes i Ohirio’r Hawl i Brynu (a ddosbarthwyd eisoes) i’r Aelodau ei gymeradwyo er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 26 Ionawr 2016, cymeradwywyd Rhybudd o Gynnig i ddatblygu Achos Busnes i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gymeradwyo gohirio’r Hawl i Brynu.

 

Mae gan y Gweinidog yr awdurdod i gyhoeddi cyfarwyddeb i ohirio’r Hawl i Brynu ar gyfer tenantiaid y Cyngor a’r hawliau cysylltiedig ar gyfer tenantiaid Cymdeithasau Tai, os gellir darparu tystiolaeth fod y cyflenwad tai ar gyfer rhent cymdeithasol yn annigonol i ateb y galw.

 

Yn ogystal â phrofi’r amod o ran y galw am dai, gofynnwyd i’r Awdurdod Lleol amlinellu cynlluniau i gynyddu’r stoc tai yn ystod cyfnod y gohiriad.

 

Mae ein partneriaid, sef Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Lleol wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi’r cais gan nodi eu bod hefyd am i’r gohiriad fod yn gymwys i’w stoc hwythau, yn amodol ar eu proses ymgynghori ffurfiol a chymeradwyaeth o ran llywodraethu. Byddai hyn yn cael ei gadarnhau cyn cyflwyno’r cais yn derfynol i Lywodraeth Cymru.

 

Ymgynghorodd y Cyngor â’r holl denantiaid oedd â’r hawl i brynu ar hyn o bryd. Derbyniwyd 75 ateb. Roedd 55% o’r atebion a dderbyniwyd o blaid gohirio.

 

Ymgynghorwyd â Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF) a chadarnhawyd eu bod yn cefnogi’r cynnig.

 

Cadarnhaodd Cynghorau cyfagos Conwy a Sir y Fflint eu bod o blaid a chadarnhaodd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ei fod o blaid atal yr hawl i brynu.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyfleusterau, Cyllid a Thai wrth yr Aelodau fod yr Achos Busnes yn ymwneud ag atal hawl tenantiaid i brynu. Byddai’r Achos Busnes yn atal gwerthu eiddo er mwyn rhoi sylw i’r broblem o ran y galw.

 

Ar ôl prynu eiddo cyngor, roedd yn rhaid i’r perchennog fyw yn yr eiddo am dair blynedd o leiaf cyn y gallai roi’r eiddo ar werth ar y farchnad agored.

 

Yn ogystal â thai, byddai angen llety a hosteli i’r digartref â’r rheini sydd fwyaf mewn angen.

 

Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams yr Achos Busnes , ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cymeradwyo cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru ynghyd â chais i’r Gweinidog gymeradwyo gohirio’r Hawl i Brynu yn Sir Ddinbych am gyfnod o 5 mlynedd.

 

 

9.

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 131 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i roi gwybod i Aelodau am gasgliad a chynigion gwella SAC, ac i sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor o ymateb i'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Arweinydd Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru (a ddosbarthwyd eisoes) i roi gwybod i’r Cyngor am ganlyniad y Swyddfa Archwilio a chynigion ar gyfer gwella, ac i gael cymeradwyaeth y Cyngor o ran ymateb i’r Adroddiad.

 

Yn unol â’r Mesur Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad blynyddol o gynnydd y Cyngor wrth gyflawni ei amcanion, a’r rhagolygon ar gyfer parhau i wella yn y flwyddyn i ddod.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, mai hwn fyddai’r adroddiad Blynyddol olaf yn ei ffurf bresennol. Yn y dyfodol, byddai pedwar adroddiad byrrach yn cael eu llunio yn ystod y flwyddyn, fel a ganlyn:

 

(i)              Cydnerthedd ariannol;

(ii)             Trefniadau Gweddnewid;

(iii)            Trefniadau llywodraethu a

(iv)           Threfniadau corfforaethol.

 

Yn gyffredinol, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn ac ni wnaed argymhellion, fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd a oedd yn peri pryder lle’r ystyrid bod angen mwy o waith. Roedd y rhain fel a ganlyn:-

 

·       Daeth AGGCC i’r casgliad nad oedd y trefniadau o ran diogelu oedolion sy’n agored i niwed yn foddhaol. Mynegodd y rheoleiddiwr bryderon hefyd ynglŷn â’r ffordd y caiff ansawdd Gofal y Cartref ei fonitro. Cymerwyd nifer o gamau i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

·       Roedd presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd Archwilio wedi lleihau, ynghyd â phresenoldeb Aelodau Archwilio yng nghyfarfodydd Her y Gwasanaethau. Roedd y Cyngor wedi cymryd camau i geisio gwella’r sefyllfa. 

·       Dylai’r Cyngor ffurfioli ei ddull o ddefnyddio modelau cyflenwi amgen, er mwyn nodi gwerth am arian yn fwy eglur. Cynigir hefyd y dylai’r Cyngor atgyfnerthu ei ddull o gynhyrchu incwm er mwyn gwella cysondeb. Mae’r Cyngor eisoes wedi datblygu nifer o fodelau cyflenwi amgen llwyddiannus.

·       Gwerthusiad Estyn o berfformiad ysgolion. Yn gyffredinol, roedd y gwerthusiad yn gadarnhaol.  Roedd perfformiad Sir Ddinbych wedi gwella rhywfaint ers y llynedd ond wedi gostwng ychydig o’i gymharu â Chynghorau eraill. Gofynnodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg am gymryd arian i ystyriaeth oherwydd fod un Cyngor yn ne Cymru wedi derbyn £4miliwn ond £800,000 yn unig a roddwyd i wella ysgolion ar draws Gogledd Cymru.

 

Trafodwyd y mater yn helaeth a chodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·       Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer cynyddol o bobl ag anawsterau dysgu ac anghenion cymhleth yn aml o’r tu allan i’r sir a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru wedi cael eu lleoli gyda darparwyr annibynnol yn Sir Ddinbych. Canfu AGGCC fod nifer sylweddol o bobl yn y gwasanaethau hyn yn annhebygol o fod yn hysbys i’r Cyngor, ac y bydd angen iddynt efallai, ar ryw adeg, fanteisio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol, a manteisio hefyd ar ddiogelwch y prosesau diogelu a weithredir gan y Cyngor. Byddai angen i’r Cyngor (a phartneriaid) wneud mwy o waith i asesu a rhagweld angen ac adnoddau yn y dyfodol yn hyn o beth, ac ystyried effaith bosibl unrhyw newid o’r cymorth dwys i leoliadau cymunedol yn y sir.

·       Er bod presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgorau Archwilio wedi bod yn broblem roedd gan Sir Ddinbych bwyllgorau Archwilio effeithiol a dyma un o’r rhesymau pam yr oedd Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol mor llwyddiannus.

·       Cyflenwi Gwasanaethau – roedd Sir Ddinbych wedi llwyddo i gyflenwi’r un gwasanaethau ag a wnaeth 5-6 blynedd yn ôl ond gyda llawer llai o arian. Yn anffodus, nid oedd yr adroddiad yn cydnabod hyn.

·       Mae Sir Ddinbych yn Sir uchelgeisiol. Roedd ysgolion newydd yn mynd i gael eu hagor ar draws y sir a fyddai’n fanteisiol iawn i ddisgyblion.

·       Roedd trefniadau monitro yn eu lle a oedd yn rhan o Brotocol yr  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

Ar y pwynt hwn (1.10 p.m.) cafwyd egwyl o 50 munud am ginio.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 2.00 p.m.

 

 

 

Ar y pwynt hwn newidiwyd trefn y Rhaglen oherwydd fod yn rhaid i’r Barnwr Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau adael y cyfarfod yn fuan ac roedd angen iddo gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) er mwyn i Aelodau nodi'r adroddiad fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor Safonau i gynyddu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad i Aelodau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ei Anrhydedd y Barnwr Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, yr Adroddiad blynyddol (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Llongyfarchodd y Barnwr Trigger y Cynghorwyr Ann Davies a Win Mullen-James ar eu penodiad yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor yn y drefn honno.

 

Dyma ail Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i ddod gerbron y Cyngor Llawn ac roedd yn ymwneud â’r flwyddyn galendr rhwng Ionawr a Rhagfyr 2015 yn unig.  Cytunwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno adroddiad blynyddol gerbron y Cyngor Llawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am dueddiadau, materion yn ymwneud â chydymffurfiaeth â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir a gwaith y Pwyllgor i godi safonau ymddygiad ar lefel y Sir, ond hefyd ar lefelau Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned.

 

Prif swyddogaeth y Pwyllgor Safonau oedd monitro cydymffurfiad â Chod Ymddygiad yr Aelodau.  Roedd pob Aelod yn ymwybodol fod y Cod yn seiliedig ar 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan (ac y dylid darllen y Cod ar y cyd â’r egwyddorion hyn) ond yng Nghymru, ceir 10 egwyddor yn yr adroddiad.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau yn cynnwys 2 Gynghorydd Sir, 1 Aelod Cyngor Cymuned a 4 Aelod Annibynnol (cyfetholedig). 

 

Yn ystod 2015 ymddiswyddodd 2 Aelod Annibynnol, sef Margaret Medley a’r Parchedig Wayne Roberts.  Dywedodd y Barnwr Trigger yr hoffai gydnabod yn gyhoeddus y gwaith da a wnaed gan y ddau Aelod hyn.  Roedd y Cynghorydd Sir Bill Cowie wedi ymddiswyddo o’r Pwyllgor Safonau yn ddiweddar a byddai’r Cynghorydd Sir Meirick Lloyd Davies yn cymryd ei le. Diolchodd y Barnwr Trigger y Cynghorydd Cowie am ei holl waith ar y Pwyllgor Safonau yn ystod y 4 blynedd diwethaf.

 

Mynegodd y Barnwr Trigger ei ddiolch i’r Swyddog Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith caled ar ran y Pwyllgor Safonau a hefyd am drefnu a chynnal digwyddiadau hyfforddi angenrheidiol.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

 

11.

DOGFEN GYFLAWNI FLYNYDDOL AR GYFER Y CYNLLUN CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 159 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i Aelodau gymeradwyo fersiwn derfynol y ddogfen gyflawni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn i’r Aelodau gymeradwyo’r fersiwn ddrafft derfynol o’r Ddogfen Gyflawni Pum Mlynedd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol fel y gellid ei chyfieithu a’i chyhoeddi.

 

Lluniwyd Dogfen Gyflawni bob blwyddyn ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Pwrpas y Ddogfen Gyflawni oedd amlinellu rhai o’r prif brosiectau a fyddai’n dechrau a/neu’n cael eu cyflenwi yn ystod y flwyddyn ariannol ar gyfer pob un o’r 7 flaenoriaeth, gyda’r nod o ddangos sut yr oedd y Cynllun Corfforaethol wedi effeithio ar y gwaith a fyddai’n cael ei wneud.

 

Amcan y gweithgareddau a nodwyd yn y Ddogfen Gyflawni 5 Mlynedd oedd cael effaith gadarnhaol ar y Blaenoriaethau Corfforaethol a llesiant cymunedol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y mater ac un o’r pwyntiau a godwyd oedd gwella ein ffyrdd ac erbyn diwedd mis Hydref 2016 byddai adolygiad yn cael ei gynnal.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweinol dros Barth y Cyhoedd fod yr Adran Priffyrdd wedi cael ei hailstrwythuro ac y byddai unigolyn â chyfrifoldeb yn ymdrin â materion ym mhob maes ac yn adrodd i’r Rheolwr Ardal.  Roedd prosesau yn cael eu hasesu er mwyn gwella.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, fod yr Aelodau yn cymeradwyo drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni er mwyn ei chyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cymeradwyo’r Ddogfen Gyflawni 5 Mlynedd (2016-17) fel y gellid ei chyhoeddi.

 

 

12.

COD YMDDYGIAD DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i hysbysu Aelodau o'r newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymddygiad a ddaeth yn sgil Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygiedig) 2016.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn i’r Aelodau fabwysiadu’r Cod Ymddygiad a oedd yn cynnwys y newidiadau a oedd yn ofynnol gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol)(Cymru)(Diwygio) 2016.

 

Roedd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llofnodi’r Gorchymyn a chynghorwyd y Cynghorau i fabwysiadau’r newidiadau gofynnol yn eu cyfarfodydd blynyddol a chyn Gorffennaf 2016 beth bynnag.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland, fod y Cyngor yn mabwysiadu’r Cod Ymddygiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Cod Ymddygiad a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad sy’n cynnwys y newidiadau sy’n ofynnol gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol)(Cymru)(Diwygio) 2016.

 

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU ARCHWILIO 2015/2016 pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) er mwyn i’r Cyngor ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2015/2016.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar eu gweithgareddau yn ystod 2015/16 (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn i’r Aelodau ei ystyried.

 

Er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 6.3.7 o Gyfansoddiad y Cyngor, rhaid i Bwyllgorau Archwilio adrodd yn flynyddol ar eu gwaith i’r Cyngor Llawn, gwneud argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith i’r dyfodol a dulliau gwaith diwygiedig os yn briodol.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn patrwm a ddefnyddiwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol.  Roedd yn rhoi trosolwg o’r ffordd yr oedd Pwyllgorau Archwilio yn gweithio, y gwaith a wnaed gan Archwilio i gefnogi cyflawni saith blaenoriaeth corfforaethol y Cyngor ynghyd â gwaith arall gan Aelodau’r Pwyllgorau Archwilio a’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi gwybod i drigolion Sir Ddinbych sut y gallent gymryd rhan a chyfrannu at y broses Archwilio.

 

Yn y dyfodol, byddai’r Pwyllgorau Archwilio yn canolbwyntio ar y prif feysydd a ganlyn wrth bennu eu rhaglenni gwaith:

 

·       parhau i fonitro’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol

·       parhau i werthuso effaith toriadau cyllideb “Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn”

·       archwilio achosion busnes ar gyfer cyflenwi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol

·       gwerthuso effaith y gwasanaeth TCC “newydd” i leihau troseddu

·       archwilio materion yn ymwneud â Phrosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, a

·       monitro gwaith y Cyngor i wreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei waith bob dydd.

 

Fe wnaeth yr Aelodau longyfarch awdur yr Adroddiad Blynyddol ond gofynnwyd am lunio fersiwn mwy cryno yn y dyfodol a chytunwyd ar hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Anton Sampson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley, y dylid nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2015/16.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Bod yr Aelodau wedi ystyried a nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2015/16

(ii)             Y byddai Crynodeb Gweithredol o’r adroddiad yn cael ei lunio er mwyn cyfeirio ato’n hwylus.

 

 

 

14.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 286 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes).

 

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddai newidiadau i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel a ganlyn:

 

6 Mehefin 2016 – Y newidiadau a ganlyn o ran Briffio’r Cyngor:

 

(i)              Addysg Ffydd

(ii)             Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

(iii)            Y Broses Gyllidebol ar gyfer 2017/18

 

5 Gorffennaf 2016 – Y newidiadau a ganlyn i’r Cyngor:

 

(i)              Cyfansoddiad Enghreifftiol Newydd

(ii)             Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

(iii)            Pobl Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)

(iv)           Dysgu gwersi o Rotherham – Panel Diogelu Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith y Dyfodol y Cyngor.

 

 

15.

ADOLYGIAD POLISI TÂL BLYNYDDOL / ADOLYGIAD TÂL YR UWCH DIM ARWEINYDDIAETH pdf eicon PDF 278 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol (copi ynghlwm) i geisio: -

 

(a)  {0>Council’s approval to the changes to the Pay Policy for 2016/17<}100{>Cymeradwyaeth y Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2016/17<0}

(b)  {0>Agreement to the recommendations of the Remuneration Panel on Senior Leadership pay.<}100{>Cytuno ar argymhellion y Panel Taliadau ar gyflog Uwch Arweinwyr.<0}

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Adolygiad Polisi Tâl Blynyddol (a ddosbarthwyd eisoes). 

 

Polisi Tâl

 

Adolygwyd y Polisi Tâl ar gyfer 2016/17 a thynnwyd sylw at y newidiadau a ganlyn yn y Polisi:

 

(i)              Dyfarniadau Cyflog Cenedlaethol

(ii)             Dyfarniad Cyflog Prif Swyddogion

(iii)            Taliadau wrth ddod â swydd i ben, ac

(iv)           Adennill Taliadau Ymadael yn dilyn Ailgyflogaeth.

 

Tâl yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth

 

Sefydlwyd Panel Cydnabyddiaeth Ariannol â chydbwysedd gwleidyddol, er mwyn gwneud yr argymhellion a ganlyn i’r Cyngor Llawn mewn perthynas â Thâl yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth:

 

(i)              Gwneud argymhellion ar faterion yn ymwneud â thâl a gwobrwyo uwch swyddogion i’r Cyngor, er mwyn sicrhau cysondeb, tryloywder a hygyrchedd

(ii)             Gwneud argymhellion ar strwythur a rheoli tâl a gwobrwyo uwch swyddogion, a’r sail ar gyfer cynyddu taliadau

(iii)            Pennu lefel y tâl ac unrhyw Dâl ar Sail Perfformiad ar gyfer y Prif Weithredwr.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o dâl uwch swyddogion ym mis Mawrth 2001 fel rhan o’r broses o ailstrwythuro uwch swyddogion y Cyngor. Yn 2008/09 roedd 25 uwch swyddog yn y strwythur. 

 

Ers hynny bu nifer o newidiadau yn strwythur yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac roedd y strwythur uwch arweinyddiaeth yn llai. Ar 1 Ebrill 2016, roedd 12 uwch swyddog yn rhan o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Roedd y Cyngor wedi cael problemau cadw staff ar y lefel hwn ac roedd dau Pennaeth Gwasanaeth allweddol wedi gadael yr awdurdod yn y 12 mis diwethaf.

 

Roedd yn ofynnol i gael cyngor annibynnol wrth werthuso swyddi uwch swyddogion ac roedd y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol wedi cytuno y dylai’r Cyngor gomisiynu Hay Group i wneud y gwaith pwyso a mesur, drwy werthuso swyddi, swyddogaethau uwch swyddogion ar sail disgrifiad swydd cyffredinol, a phroffil swyddi a oedd yn nodi manylion penodol y swydd honno.

 

Er budd y Cyngor, roedd angen i strwythur tâl yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth:

 

·       Fod yn ddigonol i ddenu, cadw ac ysgogi uwch reolwyr o’r ansawdd angenrheidiol i redeg y sefydliad yn llwyddiannus

·       Cynnig dull teg, cyson a thryloyw o dalu Prif Swyddogion.

 

Fel rhan o’r broses roedd yn ofynnol i gynigion gael eu hystyried gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau ar gyfer Aelodau) (Cymru) 2007, ac a ddirymwyd yn ddiweddarach gan Fesur Llywodraeth Leol Cymru 2011 (y Mesur). Roedd deddfwriaeth ddiweddarach yn cynnwys Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 a gyflwynodd newidiadau i’r Mesur gan roi awdurdod i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol chwarae rhan yng nghyflogau Penaethiaid Gwasanaethau a Delir.

 

Mewn perthynas â Sir Ddinbych, penderfynodd y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol argymell amrywiad i gynnig y Cyngor.

 

Cyfarfu Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Sir Ddinbych i ystyried argymhellion y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Ar sail yr holl wybodaeth ac ar ôl ystyried argymhellion y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, penderfynodd y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol yn unfrydol y dylid bwrw ymlaen â’r cynigion gwreiddiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Stuart Davies, fod y Cyngor Llawn yn cytuno ag argymhellion yr Adolygiad Blynyddol o’r Polisi Tâl.

 

PENDERFYNWYD bod:

 

(i)              Y Cyngor Llawn yn cytuno â’r newidiadau i’r Polisi Tâl ar gyfer 2016/17

(ii)             Y Cyngor Llawn yn cytuno ag argymhellion y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol ar Dâl Uwch Arweinwyr, sef:

a.     Bod y Cyngor yn cytuno â threfn raddio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

b.     Bod y Cyngor yn mabwysiadu Strwythur Tâl newydd â graddau cynyddol ar gyfer yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

 

MATER BRYS

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorwyr Ian Armstrong a David Simmons tan ddiwedd Gorffennaf 2016.

 

Eglurwyd bod hyn oherwydd pe na byddai Aelod yn bresennol mewn cyfarfod cyn pen 6 mis ar ôl y tro diwethaf iddo fod yn bresennol yna byddai’n peidio â bod yn Aelod. Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield i’r Cyngor gymeradwyo’r absenoldeb fel na fyddai’r rheol chwe mis yn gymwys.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cytuno’n unfrydol i gymeradwyo absenoldeb y Cynghorwyr Ian Armstrong a David Simmons tan ddiwedd Gorffennaf 2016.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, tra’n ystyried yr eitem a ganlyn oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y’i diffinnir hi ym Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

16.

DYFODOL GWE-DDARLLEDU

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Ddyfodol Gwe-ddarlledu (a ddosbarthwyd eisoes). 

 

Yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2016, fe wnaeth y Cyngor ystyried Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â gwe-ddarlledu cyfarfodydd a phenderfynwyd y dylai’r Cyngor Llawn ystyried adroddiad ar yr opsiynau a’r costau.

 

Defnyddiodd y Cyngor grant o £40,000 gan Lywodraeth Cymru i ddechrau gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor Llawn a’r Pwyllgor Cynllunio yn 2014.  Roedd y grant er mwyn galluogi’r Cyngor i we-ddarlledu hyd at 8 Mehefin 2016.  Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu grant arall i gynnal gwe-ddarlledu.

 

Petai penderfyniad yn cael ei wneud i barhau i we-ddarlledu, byddai’n rhaid ystyried pa Bwyllgorau a fyddai’n cael eu gwe-ddarlledu.

 

Roedd y Bwrdd Moderneiddio yn adolygu’r trefniadau ar gyfer gwe-ddarlledu yn y dyfodol er mwyn ystyried opsiynau a chostau.  Roedd y Bwrdd Moderneiddio hefyd yn adolygu opsiynau i ganiatáu defnyddio Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun, fel gofod mwy hyblyg ac addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Archwilio a chyfarfodydd eraill ar ffurf debyg i bwyllgor. Yna gellid gwe-ddarlledu cyfarfodydd o’r fath yn hawdd o’r Siambr.

 

Y consensws ymhlith TCG a’r Bwrdd Moderneiddio oedd bod gwe-ddarlledu yn wasanaeth gwerthfawr a oedd yn ddisgwyliedig gan brif awdurdodau. 

 

Roedd moderneiddio’r Cyngor wedi bod yn flaenoriaeth gorfforaethol ac ystyrid gwe-ddarlledu cyfarfodydd yn ffordd bwysig o ddarparu mynediad digidol i drafodion y Cyngor ar gyfer y cyhoedd.

 

Trafodwyd y mater a gofynnodd yr Aelodau a fyddai’n bosibl gwe-ddarlledu cyfarfodydd o leoliadau eraill yn y dyfodol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor, y dylid parhau i we-ddarlledu ar y ffurf bresennol ac y dylid sefydlu Gweithgor i ystyried yr opsiynau ar gyfer ehangu gwe-ddalledu i gynnwys mwy o gyfarfodydd neu holl gyfarfodydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo parhau i we-ddarlledu yn ei ffurf bresennol am y 12 mis nesaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dylai Gweithgor ystyried ymhellach yr opsiynau i ehangu gwe-ddarlledu i gynnwys mwy o gyfarfodydd, neu holl gyfarfodydd y Cyngor, ac i adrodd yn ôl i’r Cyngor Llawn ar sail ei ganfyddiadau.

 

 

 

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 4.00 p.m.