Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wrth Aelodau o dan y Cod Ymddygiad Aelodau, byddai’n rhaid i bob un ohonynt ddatgan cysylltiad personol yn eitem 9, Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Cymru 2016/2017.  Roedd eithriad i Aelodau rhag buddiant sy'n rhagfarnu.  Nid oedd angen llenwi unrhyw ffurflenni datgan cysylltiad gan fod y cysylltiadau personol wedi cael eu cofnodi.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

TEYRNGEDAU I’R CYNGHORWYR RICHARD DAVIES A PETER OWEN

Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorwyr Richard Davies a Peter Owen fu farw yn ddiweddar.  Rhoddwyd teyrngedau i'r ddau Gynghorydd am eu gwaith caled gan holl Arweinwyr y Grwpiau, ynghyd â’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ar ran yr Awdurdod Tân. 

 

Cydymdeimlwyd yn ddiffuant gyda gwragedd a theuluoedd y Cynghorwyr Richard Davies a Peter Owens ar adeg drist iddynt.  Cadarnhaodd y Cynghorwyr i gyd y farn a fynegwyd y byddai colled fawr ar ôl y Cynghorydd Davies a’r Cynghorydd Owen. 

 

Cafodd un funud o dawelwch ei gynnal fel arwydd o barch tuag at y Cynghorydd Richard Davies a'r Cynghorydd Peter Owen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ar ran y Cyngor llawn, dymunodd y Cadeirydd yn dda i’r Cynghorwyr Brian Blakeley, Bob Murray, Win Mullen-James ac Alice Jones yn dilyn salwch diweddar.  Hefyd anfonwyd dymuniadau gorau at ŵr y Cynghorydd Joan Butterfield a fu’n sâl iawn yn ddiweddar.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bill Tasker yn ôl i'r Cyngor yn dilyn salwch yn ddiweddar.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bill Tasker i bawb am eu dymuniadau da tra bu’n sâl.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Chwefror 2016 a 31 Mawrth 2016 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 165 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 23 Chwefror 2016 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2016.

 

Materion yn codi

 

Tudalen 8, Eitem 5 - holodd y Cynghorydd Eryl Williams am y ffaith nad oedd y wybodaeth am Grantiau wedi ei dosbarthu i'r Aelodau hyd yma.  Ymddiheurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i'r Aelodau gan ei bod wedi derbyn y wybodaeth yn ddiweddar gan y Pennaeth Cyllid, Richard Weigh, ac y byddai'n dosbarthu'r ddolen i'r wybodaeth yn dilyn y Cyngor llawn.

 

Tudalen 13 - Eitem 10 - Cododd y Cynghorydd Bill Cowie y mater nad oedd wedi ei nodi yn y cofnodion ei fod wedi codi'r mater ynghylch dyraniad ariannol i ardaloedd ar gyfer llifogydd ac a fyddai Llanelwy yn cael ei gynnwys. 

 

Diolchodd y Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies ac Arwel Roberts i’r Cynghorydd Bill Cowie am y gwaith yr oedd wedi'i wneud i gynorthwyo gyda materion yn ymwneud â llifogydd a gofynasant iddo gael ei nodi bod Cefn Meiriadog a Rhuddlan, yn y gorffennol, wedi eu heffeithio gan lifogydd hefyd.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2016 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 153 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Ad a Democrataidd (copi ynghlwm) yn argymell bod y Cyngor yn cytuno y bydd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn gyngor 2016/2017 yn cael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 10 Mai 2016.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad (eisoes wedi'i ddosbarthu) yn ceisio cytundeb ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd arfaethedig y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2016/17 i gael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 10 Mai 2016. Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer y ddwy swydd.

 

Ethol Cadeirydd - Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland, eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid ethol y Cynghorydd Ann Davies yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2016/17.  Nid oedd unrhyw enwebiadau pellach.  Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei llongyfarch ar ei henwebiad.

 

Ethol Is Gadeirydd - Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield ac eiliodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones fod y Cynghorydd Win Mullen-James yn cael ei enwebu yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2016/17.   Nid oedd unrhyw enwebiadau pellach.  Yn anffodus, ni allai’r Cynghorydd Win Mullen-James fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd salwch.

 

PENDERFYNWYD Cynnig y Cynghorydd Ann Davies yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Win Mullen-James yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am y flwyddyn 2016/17 i'w hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 10 Mai 2016.

 

 

7.

POLISI RHANNU PRYDERON pdf eicon PDF 233 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau AD ac Arbenigwr Recriwtio (copi ynghlwm) yn argymell bod y Cyngor yn cytuno i fabwysiadu'r Polisi Rhannu Pryderon.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Moderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith y Polisi Rhannu Pryderon (eisoes wedi'i ddosbarthu) i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu’r Polisi.

 

Roedd y Polisi wedi cael ei ddiweddaru a’i ailfformatio i gynnwys rolau a chyfrifoldebau cliriach a’r newidiadau deddfwriaethol.  Daeth y Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio (2013) â nifer o newidiadau sy'n effeithio ar rannu pryderon.

 

Roedd y tri newid allweddol i'r Polisi Rhannu Pryderon fel a ganlyn:-

 

a)    Dim ond datgeliadau a wnaed 'er budd y cyhoedd' sy’n cael eu gwarchod.  Mae’n rhaid i weithwyr ddangos eu bod 'yn rhesymol gredu' bod y datgeliad maent yn ei wneud er 'lles y cyhoedd'.

b) 

b)  Cael gwared ar y gofyniad i ddatgeliadau gael eu

           gwneud yn 'ddidwyll’ er mwyn eu diogelu.

c)     Gwneud cyflogwyr yn atebol am weithredoedd y gweithwyr (megis aflonyddu cydweithiwr sydd wedi codi pryder) a gwneud gweithwyr yn atebol yn bersonol.

 

Bydd y polisi yn cael ei gyfleu i bob gweithiwr, gan gynnwys ysgolion, trwy'r fewnrwyd, hyfforddiant, oriau pŵer/gweithdai a hefyd byddant yn mynd i gyfarfodydd rheoli drwy Bartneriaid Busnes Adnoddau Dynol.  Gall ysgolion fabwysiadu polisi corfforaethol, os dymunant, a bydd ysgolion yn cael eu hannog i fabwysiadu’r Polisi hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno i fabwysiadu'r Polisi Rhannu Pryderon.

 

 

 

 

8.

ADOLYGU’R FFIN RHWNG WARDIAU CANOL PRESTATYN A GALLT MELYD pdf eicon PDF 133 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am i’r Cyngor gymeradwyo’r ffin ward rhwng Ward Canol Prestatyn a Ward Gallt Melyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Adolygu Ffiniau (dosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor gymeradwyo’r newidiadau ar gyfer y ffin rhwng ward Canol Prestatyn a ward Gallt Melyd.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i gais ffurfiol gan Gyngor Tref Prestatyn ar gyfer adolygiad o'r ffin rhwng wardiau Canol Prestatyn a Gallt Melyd ac i adolygu anghysondeb hanesyddol yn y trefniadau wardio.

 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynnal trefniadau ward sy'n ddymunol er budd Llywodraeth Leol effeithiol a chyfleus ac roedd y sefyllfa anomalaidd presennol yn Ffordd Bishopswood a Cambrian Drive yn annerbyniol.

 

Cafwyd trafodaeth a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Ø  Awgrymwyd yn ystod yr ymgynghoriadau i gynnwys eiddo ar Ffordd Gallt Melyd a The Paddock o fewn y Ward Canol Prestatyn.  Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving drydydd argymhelliad i'r ddau bwynt presennol o argymhelliad yn yr adroddiad, bod y Cyngor yn ailedrych ar ffin y ward fel bod Ffordd Gallt Melyd a The Paddock i'w cynnwys o fewn Canol Prestatyn, eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

Ø 

Ø  Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) y byddai ef yn fodlon â'r argymhellion o fewn yr adroddiad yn ymwneud â Ffordd Bishopswood a Cambrian Drive, ond pwysleisiodd ei fod yn erbyn unrhyw adolygiad pellach o ffiniau ar gyfer Ffordd Gallt Melyd a The Paddock.

Ø  Ar y pwynt hwn cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch na ddylai unrhyw adolygiad pellach o ffiniau ddigwydd gan fod Gallt Melyd yn bentref hanesyddol ac yn cael ei grybwyll yn llyfr dydd y farn.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wrth yr holl Aelodau y byddai angen pleidleisio ar y newid cyntaf gan y Cynghorydd Hugh Irving yn y lle cyntaf.

 

Cynhaliwyd y bleidlais ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn:

 

PLEIDLAIS dros y newid i gynnwys (iii) bod y Cyngor yn edrych eto ar y ffin o ran Ffordd Gallt Melyd a The Paddock

 

O blaid - 5

Ymatal - 1

Yn erbyn - 27

 

Y canlyniad oedd na fyddai'r newid yn cael ei gynnwys o fewn yr argymhelliad.

 

Yn y fan hon, tynnodd y Cynghorydd Joe Welch ei newid yn ôl.

 

PLEIDLEISIO dros yr argymhelliad sylweddol (i) a (ii)

 

O blaid - 31

Ymatal - 1

Yn erbyn - 1

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo:

 

(i)              Y dylai diwygio ffin y ward rhwng ward Ganol

Prestatyn a ward Gallt Melyd gynnwys yr eiddo ar Bishopswood Road a Cambrian Road fel y dangosir ar y map yn Atodiad 1 gyda’r adroddiad; a

(ii)             Bod wardiau etholiadol Canol Prestatyn a Gallt Melyd ar gyfer y Cyngor Tref a'r Cyngor Sir yn cael eu diwygio yn unol â'r ffin a ddangosir yn Atodiad 1 gyda’r adroddiad.

 

 

 

Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.35am.

 

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2016/17 pdf eicon PDF 105 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i wneud y Cyngor yn ymwybodol o benderfyniadau'r Banel ar gyfer 2016/17 mewn perthynas â thaliadau i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Cymru (eisoes wedi'i ddosbarthu) i wneud Aelodau yn ymwybodol o benderfyniadau'r Panel ar gyfer 2016/17 mewn perthynas â thaliadau i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig.

 

Byddai penderfyniadau'r Panel yn dod i rym o ddyddiad cyfarfod Blynyddol y Cyngor a fyddai'n cael ei gynnal ar 10 Mai 2016.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Aelodau i nodi penderfyniadau’r Panel ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2016/17 mewn perthynas â thalu Cyflogau Sylfaenol a Chyflogau Uwch Reolwyr a thaliadau i Aelodau cyfetholedig;

(ii)             Bod Aelodau yn mabwysiadu’r rhestr tâl fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad (sy'n aros heb ei newid o 2015/16) ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2016/17.

 

 

 

10.

AMSERLEN Y PWYLLGOR 2016/2017, ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION ARCHWILIO pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am benderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Amserlen y Pwyllgor ar gyfer 2017, Adolygiad Blynyddol o Gydbwysedd Gwleidyddol ac adroddiad Penodi Cadeiryddion Archwilio (dosbarthwyd yn flaenorol). 

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2017 yn unol â phenderfyniad y Cyngor i gynnal amserlen 18 mis er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau.  Gan y byddai blwyddyn newydd y Cyngor yn dechrau ym mis Mai, byddai hefyd yn briodol i’r Cyngor ystyried newidiadau yn y cydbwysedd gwleidyddol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei siom nad oedd dim cyfarfodydd hwyr yn y prynhawn neu gyda'r nos wedi eu trefnu.  Dywedwyd wrth y Cynghorydd Penlington fod yr amserlen pwyllgorau wedi ei pharatoi yn unol â chanllawiau Aelodau.  Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Penlington am ymateb gan y Prif Weithredwr.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr wrth bawb oedd yn bresennol os bydd gan unrhyw Aelod deimladau digon cryf, gallent ddod â Rhybudd o Gynnig i gyfarfod y Cyngor i asesu barn Aelodau eraill.  Hefyd mynegodd y Prif Weithredwr bryderon ynghylch presenoldeb mewn cyfarfodydd.  Anogodd yr Aelodau i sicrhau bod cyfarfodydd cyhoeddus yn gwneud cworwm ac i wneud pob ymdrech i fod yn bresennol.  Roedd ansawdd cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn dda ond roedd diffyg presenoldeb Aelodau yn broblem weithiau.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Ø  Holwyd am ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llawn ym mis Ionawr a Chwefror 2017 a oedd o bosibl yn cael eu cynnal yn rhy fuan yn y mis.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n gwirio dyddiadau eraill.  Gofynnwyd i bresenoldeb ar Banel Mabwysiadu ar y Cyd Conwy a Sir Ddinbych, ynghyd â'r Panel Maethu gael ei gynnwys o fewn ystadegau cofnodion presenoldeb Cynghorwyr.  Eglurwyd gan nad oedd staff y Gwasanaethau Democrataidd yn hwyluso'r ddau gyfarfod yma, ni chawsant eu cynnwys ar y wefan, ond byddai'r mater technegol yn cael ei asesu er mwyn i’r ffigurau presenoldeb ymddangos ar y wefan. Codwyd y mater o gyfarfodydd Pwyllgor yn gwrthdaro â chyfarfodydd a gynhelir gan gyrff allanol yn achlysurol.

Ø  Gofynnodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau anfon ymddiheuriadau at y Cadeirydd a'r swyddogion, cyn gynted â phosibl os nad oeddent yn gallu mynychu unrhyw gyfarfodydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield bod Gweithgor yn cael ei sefydlu i edrych ar amrywiaeth cyfarfodydd y Cyngor.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Cafwyd pleidlais, fel a ganlyn:

 

O blaid -       18

Ymatal -        0

Yn erbyn -     11

 

Cadarnhaodd y swyddogion y byddent yn cysylltu ag Arweinwyr y Grwpiau i gynnull gweithgor o groestoriad o Aelodau, gan gynnwys yr Aelod Arweiniol.

 

Ar y pwynt hwn, enwebodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei hun i ddod yn Aelod ar y Pwyllgor Safonau, eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts.  Pawb yn codi dwylo yn unfrydol yn cytuno i hynny.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar gyfer yr argymhellion gwreiddiol yn yr Adroddiad:

 

O blaid -       21

Ymatal -        1

Yn erbyn -     0

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen ddrafft.

(ii)             Bod y Cyngor yn ailbenodi Cadeirydd ac aelodaeth presennol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17, yn amodol ar unrhyw newidiadau a hysbyswyd gan y Grwpiau.

(iii)            Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies  i’r Pwyllgor Safonau, a

(iv)           Bod gweithgor yn cael ei sefydlu i edrych ar amrywiaeth amseroedd a lleoliadau'r cyfarfodydd.

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 295 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes).

 

PENDERFYNWYD – cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth a chydweithrediad yn ystod ei blwyddyn fel Cadeirydd gan mai hwn fyddai ei chyfarfod llawn olaf fel Cadeirydd.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm.