Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn Eitem Rhif 9 – Strategaeth
Rheoli Trysorlys. Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley, Merfyn Parry a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad
personol yn Eitem Rhif 10 – Cynllun Cyfalaf. |
|
Ar y pwynt hwn
nododd y Cadeirydd bod yr Aelodau’n anfon eu dymuniadau gorau at y Cynghorydd
Richard Davies, oedd yn anffodus, yn yr ysbyty. Mynegwyd
cydymdeimlad hefyd tuag at y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies wedi iddo golli ei
chwaer. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod dau
fater brys: (i)
Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am gael trafod
absenoldeb aelod ar ddiwedd y cyfarfod. Cytunwyd ar hyn. (ii)
Nododd
yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Phlant, y
Cynghorydd Bobby Feeley bod y Cyngor wedi arwyddo Datganiad Dulyn yn 2015 oedd
yn dangos ymrwymiad i holl hawliau ac anghenion ein pobl hŷn.
Cyflwynwyd y Datganiad wedi ei arwyddo, oedd wedi ei gynhyrchu yn
Gymraeg ac yn Saesneg, i Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gwyneth Kensler er
mwyn ei arddangos yn nerbynfa Neuadd y Sir. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 178 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 29
Ionawr 2016 ac 11 Chwefror 2016 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 26 Ionawr 2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2016. Materion yn
codi Tudalen 8, Eitem
5 – Cadarnhaodd y Cynghorydd Alice Jones ei bod wedi derbyn ateb gan Simon Dean
o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r dystiolaeth o ofal gwael a roddwyd i rai
cleifion yr oedd wedi ei ddarparu. Gofynnodd y
Cynghorydd Alice Jones hefyd am ddiweddariad ar ddyfodol Tawelfan yn ogystal â’r ddarpariaeth iechyd meddwl yn Ysbyty
Frenhinol Alexandra, y Rhyl. Cadarnhaodd y
Prif Weithredwr bod diweddariad ynglŷn ag Ysbyty Frenhinol Alexandra wedi
ei roi i Aelodau yn dilyn cyfarfod diweddar gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr oedd wedi dod i’r canlyniad nad oeddynt yn barod i gychwyn y prosiect
gan nad oedd cynllun busnes prosiect yn ei le eto. Cadarnhaodd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr ymrwymiad i Ysbyty Frenhinol Alexandra ac roedd cyllideb wedi ei
dyrannu. Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod
Swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bwriadu mynychu Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau ddydd Iau 25 Chwefror, 2016 er mwyn trafod datblygiad
yr Ysbyty Cymunedol yn y Rhyl a byddai Aelodau’n cael cyfle i ofyn cwestiynau
yn y cyfarfod hwnnw. Tudalen 9 –
Nododd y Cynghorydd Eryl Williams bod y pwynt bwled cyntaf yn nodi bod amryw o
awgrymiadau wedi eu codi yn y sesiynau cyllid blaenorol. Mynegodd y Cynghorydd Williams farn y dylai’r
awgrymiadau fod wedi eu nodi er mwyn i Aelodau fod yn ymwybodol o beth oeddynt.
Tudalen 11 –
Ymholodd y Cynghorydd Eryl Williams ynghylch y swm o doriadau a ddisgwylir i’r
grantiau. Gofynnodd y Cynghorydd
Williams pe gallai’r aelodau dderbyn rhestr o’r holl grantiau a oedd yn mynd i
gael eu derbyn gan gynnwys y rheiny oedd yn mynd i gael eu torri. Cadarnhaodd y
Prif Swyddog Cyllid y byddai crynodeb fanwl o’r adroddiad cyllido yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
Byddai’r grant gorfodi unigol yn cael ei leihau, a byddai lleihad hefyd
yn y grant gwella addysg. Doedd rhai
grantiau heb eu cyhoeddi eto. Eglurodd y Prif
Weithredwr nad oedd y Cyngor eto wedi derbyn gwybodaeth am bob grant. Roedd posibilrwydd na fyddai rhai yn cael eu
cyhoeddi hyd nes y flwyddyn ariannol newydd.
Unwaith bydd yr holl wybodaeth wedi ei gasglu, caiff y wybodaeth ei
basio ymlaen at yr holl Aelodau. Ategodd y
Cadeirydd bod y Cynghorydd Eryl Williams wedi cynnig bod yr holl Gynghorwyr yn
derbyn rhestr o grantiau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn ogystal ag unrhyw
doriadau sydd wedi eu cynnig. Cafodd hyn
ei eilio gan y Cynghorydd Martyn Holland.
Cododd pawb eu dwylo i gytuno â hynny’n unfrydol. Nododd y Prif
Swyddog Cyllid bod cyllid grant wedi ei drafod yn y Gweithdy Cyllid ym mis
Tachwedd 2015 oedd yn cynnwys rhestr gyfredol o’r holl grantiau. Byddai’r rhestr grantiau yn cael ei
ddiweddaru a’i anfon at yr holl Gynghorwyr. Tudalen 12, Eitem
8 – Nododd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nad oedd y drafodaeth ystyrlon a
gafwyd wedi cael ei hadlewyrchu’n gywir yn y cofnodion. Cynigiodd addasiad er mwyn adlewyrchu beth
oedd wedi cael ei ddweud yn Siambr y Cyngor ar y pwnc hwnnw. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
nad oedd y cyflwyniad a roddodd wedi ei gwblhau gan fod yr Aelodau wedi gofyn
i’r eitem gael ei gohirio er mwyn cael trafodaeth ddyfnach. Eglurodd y Cynghorydd Stuart Davies bod y Cyngor, yn y flwyddyn 2010, wedi trafod y dull o gofnodi a fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer yr holl gyfarfodydd. Gan fod sylwadau yn cael eu derbyn gan aelodau ynghylch y dull cofnodi, awgrymodd bod hyn yn cael ei ddadansoddi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd Y
Cynghorydd Martyn Holland, ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Rybudd o
Gynnig i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (a ohiriwyd o gyfarfod y Cyngor a
gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2016): “Mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y
dylai’r sir ddarparu gwe ddarllediadau o holl gyfarfodydd y Cabinet ac
Archwilio yn y dyfodol, er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o'r Cyngor Sir”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Martyn Holland y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn: “Mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y
dylai’r sir ddarparu gwe ddarllediadau o holl gyfarfodydd y Cabinet ac
Archwilio yn y dyfodol, er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o'r Cyngor Sir”. Ar yr adeg yma,
nododd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid addasu ychydig ar y Rhybudd o Gynnig
fel ei fod yn nodi “... darparu gwe ddarllediadau o holl gyfarfodydd y Cabinet,
Archwilio a Phwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol a gynhelir yn Neuadd y Sir,
Rhuthun". Cafwyd trafodaeth
ar y mater a nododd Aelodau nad o un lleoliad yn unig y dylid gwe ddarlledu
cyfarfodydd, ond ledled y sir. Eglurodd yr Aelod
Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, bod gwe
ddarlledu wedi ei drafod cyn cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig. Byddai cyllid grant Llywodraeth Cymru ar
gyfer gwe ddarlledu yn dod i ben ym mis Mehefin 2016 ac wedi hynny byddai’n
rhaid i’r Cyngor dalu am y gost. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod gwaith
yn cael ei wneud er mwyn asesu’r holl opsiynau sydd ar gael. Yn y man cyntaf Ystafell Gynadledda 1A ac
ad-drefnu Siambr y Cyngor. Byddai cost
sylweddol i ddarlledu o bob lleoliad.
Byddai’r eitem yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd Moderneiddio ac adroddiad
yn cynnwys costau pob opsiwn wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn er mwyn
i’r Aelodau ei ystyried. Cynigiodd y
Cynghorydd Eryl Williams bod adroddiad yn cynnwys yr holl opsiynau sydd ar gael
a’u costau yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r Cyngor Llawn yn dilyn cyflwyniad i’r
Bwrdd Moderneiddio. Cafodd hyn ei eilio
gan y Cynghorydd David Smith. PENDERFYNWYD bod
y mater o We ddarlledu cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd
Moderneiddio, yna bod adroddiad yn cynnwys yr holl opsiynau yn ogystal â’r costau llawn yn cael ei gyflwyno yn ôl yn y Cyngor Llawn. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd Y
Cynghorydd Dewi Owens y Rhybudd o Gynnig canlynol gan geisio cefnogaeth y
Cyngor llawn i’r canlynol (a ohiriwyd o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26
Ionawr 2016): “Mae Cyngor Sir Ddinbych -
Yn
gwerthfawrogi gwaith Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. -
Yn
mynegi pryder dros symud adnoddau o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i Fwrdd
Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru -
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn gwarchod annibyniaeth Cynghorau
Iechyd Cymuned unigol Cymru”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Dewi Owens y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn. “Mae Cyngor Sir Ddinbych -
Yn
gwerthfawrogi gwaith Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. -
Yn mynegi
pryder dros symud adnoddau o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i Fwrdd
Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru -
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn gwarchod annibyniaeth Cynghorau
Iechyd Cymuned unigol Cymru”. Yn dilyn
trafodaeth cynigwyd addasiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y pwynt
bwled cyntaf yn cael ei gytuno arno ond y dylid gohirio’r ail a’r trydydd pwynt
bwled hyd nes byddai Cyngor Iechyd Cymuned yn rhoi cyflwyniad yng nghyfarfod
Briffio’r Cyngor oedd i’w gynnal ar 7 Mawrth, 2016. Cafodd hyn ei eilio gan y
Cynghorydd Raymond Bartley. PENDERFYNWYD bod
Aelodau yn: -
Gwerthfawrogi gwaith Cyngor Iechyd Cymuned
Gogledd Cymru. -
Cytunwyd gohirio: o
Mynegi pryder dros symud adnoddau o Gyngor
Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, a o
Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er
mwyn gwarchod annibyniaeth Cynghorau Iechyd Cymuned unigol Cymru”. hyd nes byddai cyflwyniad wedi ei roi gan
Gyngor Iechyd Cymuned yng nghyfarfod Briffio’r Cyngor ar 7 Mawrth,
2016. |
|
I ystyried
adroddiad (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth o’r penderfyniadau
angenrheidiol er mwyn pennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
Adroddiad Treth Cyngor 2016/17 a Materion Perthnasol (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Tynnodd y
Cynghorydd Thompson-Hill sylw arbennig at: · Brif nodweddion y gyllideb fel y cafodd ei
chymeradwyo ar 26 Ionawr 2016 · Sylwadau’r Prif Swyddog Cyllid ar gryfder
yr amcangyfrifon cyllidebol · Dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau
Tref/Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac · Argymhellion er mwyn gosod lefelau Treth y
Cyngor ar gyfer 2016/17. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn unfrydol: (i) yn
nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio i ystyried y
praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
a'r Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned a datgan lefelau Treth y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2016/2017. (ii) yn
cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn
ariannol 2016/17, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru)
2008 fel adran 3 Atodiad A. (iii) yn
cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2016/17, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel Atodiad A adran 4. (iv) yn
cymeradwyo bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 ar
gyfer pob un o'r categorïau o anheddau wedi eu dangos yn Atodiad C. (v) yn cymeradwyo
bod lefel y disgownt ar gyfer Dosbarth A, B ac C fel y rhagnodir o dan y
Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarth Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael
eu gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/2017 trwy fod yn dymor y
Cyngor hwn gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i
Ddeddfwriaeth neu amodau lleol. |
|
STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS PDF 86 KB I ystyried
adroddiad (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth o’r Datganiad Rheoli
Trysorlys ar gyfer 2016/17 a gosod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2016/17 i
2018/19, ac i nodi'r adroddiad diweddaru Rheoli'r Trysorlys. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, yr Adroddiad
Strategaeth Rheoli Trysorlys (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn am gymeradwyaeth
ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (DSRhT) ar gyfer 2016/17 a
gosod Dangosyddion Darbodus 2016/17 hyd at 2018/19. Mae Cod Ymarfer y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys yn
gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r DSRhT a'r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Mae'r DSRhT yn
dangos sut bydd y Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y
flwyddyn i ddod ac yn gosod polisïau ar
gyfer gweithredu swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys (RhT). Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu effaith
debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth hon ac ar y Dangosyddion
Darbodus. Ystyriodd y
Cyngor yr adroddiad ac yn dilyn trafodaeth - PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo: (i)
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar
gyfer 2016/17 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. (ii)
Gosod Dangosyddion Darbodus ar gyfer
2016/17. 2017/18 a 2018/19 a fanylir yn Atodiad 1 Ychwanegiad A yr adroddiad (iii)
Y Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw fel y manylir
yn Atodiad 1 Adran 6 yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (11.22 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.42 a.m. |
|
I ystyried
adroddiad (copi'n amgaeëdig) yn diweddaru'r Aelodau ar elfen 2015/16 o’r
Cynllun Cyfalaf a gofyn am gymeradwyaeth o’r prosiectau a nodwyd i’w cynnwys yn
y Cynllun Cyfalaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad ar
Gynllun Cyfalaf 2015/16 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y Cynllun Cyfalaf a ddiweddarwyd, gan gynnwys
prosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol. Aeth â’r aelodau
drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at yr adrannau canlynol - · Crynodeb o gyllid cynllun cyfalaf · Crynodeb o gynllun cyfalaf gan Bennaeth
Gwasanaeth · Manylion amcangyfrifon cynllun · Diweddariad ar brosiectau cyfalaf mawr · Manylion argymhellion gan y Grŵp Buddsoddi Strategol · Bidiau Cyfalaf a argymhellir i'w
cymeradwyo · Crynodeb o Achosion Busnes ar gyfer
buddsoddi yn Ardal Gynradd Rhuthun. Fis Chwefror 2015
oedd y tro diwethaf i’r Cynllun Cyfalaf gael ei adrodd i’r Cyngor. Roedd
diweddariadau misol wedi eu rhoi i’r Cabinet.
Mae'r Cynllun Cyfalaf amcangyfrifedig bellach yn £46.9 miliwn. Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ychydig
ers adrodd arno i'r Cabinet ar 16 Chwefror 2016. Ymatebodd y
Cynghorydd Thompson-Hill i gwestiynau a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar y
Cynllun Cyfalaf a dyraniadau penodol, gan gynnwys cynnydd gyda gwahanol
gynlluniau. Roedd prif feysydd trafod yn
canolbwyntio ar y canlynol - · Atal Llifogydd – a fyddai Llanelwy yn cael
ei gynnwys o dan “Dinbych ac eraill”.
Cadarnhawyd y byddai’r wybodaeth yma’n cael ei ganfod ac yn cael ei
anfon at Gynghorwyr. · Datblygiad Harbwr Y Rhyl – roedd arian yn
cael ei ddal yn ôl ar gyfer delio gyda mân broblemau yn dilyn cwblhau’r prosiect. · Gwelliant Tai Gorllewin Y Rhyl – byddai
mwy o wybodaeth yn cael ei ganfod a’i anfon at Gynghorwyr. · Pontydd – roedd nifer o bontydd oedd angen
gwaith gwella ar draws y sir.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Martyn Holland y byddai’n cyflwyno ffurflen
gynnig ar gyfer trafod y mater hwn yn y Pwyllgor Archwilio. · Gofynnod y Cynghorydd Eryl Williams pe gellid
nodi ei ddiolch i swyddogion am eu gwaith gyda’r prosiectau ysgol. · Bu i'r Cynghorydd Joan Butterrfield hefyd
longyfarch swyddogion ar eu gwaith ar y Cynllun Cyfalaf. Yna nododd y Cynghorydd Butterfield y dylai
Grwpiau Ardal yr Aelodau elwa o rai o’r arbedion. Gofynnodd am gael trafod hyn mewn gweithdy
cyllido. Cafodd hyn ei eilio hyn gan y
Cynghorydd Cefyn Williams Nododd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, bod hwn wedi bod yn adroddiad hynod o
gadarnhaol. Roedd penderfyniadau anodd
wedi cael eu gwneud ac roedd y Cyngor wedi gwneud arbedion/toriadau o £28
miliwn. Roedd prosesau ariannol cryf yn
eu lle ac roedd rheolaeth prosiect dda wedi galluogi buddsoddiad parhaol yn y
gymuned. PENDERFYNWYD: (i)
Bod Aelodau yn nodi’r diweddaraf ar elfen
Cynllun Cyfalaf 2015/16 a’r diweddariad ar brosiectau mawr. (ii)
Bod Aelodau yn cefnogi argymhelliad y Cabinet fel y
manylir yn Atodiad 5 ac sydd wedi ei grynhoi yn Atodiad 6 (iii)
Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2016/17. |
|
YSTYRIED Y STRATEGAETH GAFFAEL DDRAFFT DERFYNOL A CPR PDF 176 KB I ystyried
adroddiad (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth o’r Strategaeth Gaffael
newydd a'r CPR diwygiedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
Ddrafft Terfynol y Strategaeth Gaffael ac adroddiad CPRs (wedi ei ddosbarthu
eisoes) ar gyfer eu cymeradwyo a'u mabwysiadu. Roedd y
Strategaeth Gaffael newydd wedi ei datblygu yn dilyn ymgynghori dwys. Roedd yn dilyn fformat dogfennau strategaeth
eraill y Cyngor yn fras, ac roedd wedi ei gynllunio i fod yn fyr, o lefel
uchel, ond yn gyflawnadwy. Roedd y
Strategaeth yn cael ei chynnal gan saith egwyddor allweddol oedd i arwain yr
holl weithgaredd caffael, oedd yn cynnwys dyletswyddau o dan Ddeddf Lles
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac anghenraid i sicrhau bod sylw dyledus
yn cael ei roi i ffyniant economaidd lleol ym mhob penderfyniad prynu. Mae gwaith
datblygu'r Strategaeth Gaffael newydd a’r CPR’s diwygiedig wedi cael ei arwain
gan y Bwrdd Trawsnewid Caffael mewnol y mae ei aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Cafwyd cyfranogiad
parhaus yn y datblygiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cyngor Busnes Gogledd
Cymru a Busnes Cymru. Roedd adroddiadau
wedi eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, Uwch Dîm Arweinyddiaeth a chyfarfod Briffio Cabinet. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda phob Grŵp
gwleidyddol a’r holl Arweinwyr Grŵp, cyfarfodydd unigol rheolaidd gyda
budd-ddeiliaid mewnol allweddol a chynhaliwyd proses ymgynghori ffurfiol gyda
budd-ddeiliaid mewnol ac allanol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2015. PENDERFYNWYD
bod Aelodau yn: (i)
Cymeradwyo a mabwysiadu'r Strategaeth
Gaffael (ii)
Cymeradwyo a mabwysiadu'r CPRs diwygiedig Bydd y ddwy ddogfen yn "mynd yn fyw" ar
1 Ebrill 2016. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 305 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). PENDERFYNWYD –
cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
MATER BRYS Gofynnodd y
Cynghorydd Joan Butterfield am ganiatâd y Cyngor dros absenoldeb y Cynghorydd
Ian Armstrong tan ddiwedd Mai 2016 oherwydd ei salwch diweddar. Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod hyn oherwydd os
nad yw Aelod yn mynychu cyfarfod o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfarfod diwethaf
iddynt fynychu, yna nad ydynt yn Aelod mwyach.
Byddai absenoldeb y Cynghorydd Ian Armstrong yn cyrraedd cyfnod o chwe
mis ar 7 Ebrill 2016. Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am gymeradwyo’r
absenoldeb fel nad oedd y rheol chwe mis yn berthnasol. Cafodd yr
argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Stuart Davies a’i eilio gan y
Cynghorydd Cefyn Williams. PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau yn cytuno’n unfrydol i gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Ian
Armstrong tan ddiwedd Mai 2016. Ar y pwynt hwn,
anfonwyd dymuniadau gorau at y Cynghorwyr Ian Armstrong a Peter Owen gan holl
Aelodau’r Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm. Dogfennau ychwanegol: |