Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar y pwynt hwn,
anfonwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Ian Armstrong a oedd yn gwella yn
Ysbyty’r Bwthyn Treffynnon, i'r Cynghorydd Peter Owen a oedd yn gwella’n dda ac
yn derbyn gofal rhagorol yn y cartref.
Hefyd i'r Cynghorydd Bill
Tasker a oedd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Arwel Roberts, Richard Davies, David Smith, Joseph Welch, Peter
Duffy a Colin Hughes gysylltiad personol yn Eitem 6 - Cyllideb 2016/17
(Cynigion Terfynol - Cam 6) Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn Eitem Rhif 8 – Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) Drafft. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Talodd yr Aelod
Arweiniol Parth y Cyhoedd, y Cynghorydd David Smith deyrnged i gamau a gymerwyd
gan staff Cyngor Sir Ddinbych yn ystod y tywydd drwg a rhybuddion llifogydd
diweddar a oedd wedi digwydd dros gyfnod y Nadolig. Roedd
gwirfoddolwyr wedi rhoi eu hamser i gynorthwyo a sicrhau trigolion yn ystod y
cyfnod hwn o straen. Gofynnodd y Cynghorydd Smith fod ei
ddiolch i swyddogion Sir Ddinbych am yr holl waith roeddent wedi ei wneud yn
ystod y tri diwrnod dros y Nadolig yn cael ei nodi. Roedd
y modd yr ymatebodd y gweithwyr i faterion yn y sir wedi bod yn rhyfeddol ac
roedd yr holl aelodau yn llongyfarch pawb fu’n gysylltiedig. Roedd
y Cynghorydd Bill Cowie hefyd yn dymuno cadarnhau'r datganiad gan y Cynghorydd
David Smith. Ar y pwynt hwn,
llongyfarchodd y Cadeirydd Glwb Pêl-droed Dinbych ar gyrraedd rownd derfynol
Cwpan Word a chwaraewyd y penwythnos blaenorol. Hefyd, roedd y
Cynghorydd Alice Jones yn dymuno llongyfarch yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh
Evans ar ennill gwobr fawreddog ffermio - Pencampwr Gwartheg yn y digwyddiad
Stoc Tewion y Nadolig. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 188 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Tachwedd 2015 ac 16 Ionawr
2016 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 1 Rhagfyr 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2015. Cynigiodd y
Cadeirydd ei diolch i'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a oedd wedi Cadeirio’r
cyfarfod diwethaf o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2015. Materion yn
codi Tudalen 8, eitem
5. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Alice Jones bod y wybodaeth wedi'i darparu i Simon Dean Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac roedd yn disgwyl yn bryderus am ymateb. Cadarnhaodd
y Prif Weithredwr y byddai'n cysylltu â Simon Dean i ganfod pryd y gellid
disgwyl ymateb. Tudalen 10, Eitem
6 - Trydydd Pwynt Bwled Y Cynghorydd
Arwel Roberts - a oedd gwybodaeth fanwl wedi'i darparu. Cadarnhaodd y
Prif Swyddog Cyllid y rheswm pam na chyflwynwyd adroddiad ar wahân ar y
wybodaeth i'r Cyngor oedd bod Adroddiad Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gyflwyno
yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 27 Ionawr 2016. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr
2015 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYLLIDEB AR GYFER 2016/17 PDF 119 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb
ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb
refeniw'r Cyngor ar gyfer 2016/2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad y Gyllideb 2016/2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad
Dros Dro Llywodraeth Leol 2016/2017 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar
gyfer 2016/2017. Mae'n ofynnol yn
ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys a chyflawnadwy cyn dechrau pob
blwyddyn ariannol ac i osod lefel sy'n deillio o Dreth y Cyngor i ganiatáu i
filiau gael eu hanfon at breswylwyr. Mae’r Cyngor
hefyd yn gorfod darparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith Setliad Dros
Dro Llywodraeth Leol a gwneud argymhellion ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer
2016/17, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Roedd y Setliad a
gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2015 yn llawer gwell na'r disgwyl gyda gostyngiad arian
parod cyffredinol i Lywodraeth Leol o -1.4% a gostyngiad i Sir Ddinbych o 1.2%. Roedd yr ystod o
ostyngiadau ar draws cynghorau Cymru yn amrywio o -0.1% (Caerdydd) i -4.1%
(Powys) gyda'r effaith yn gyffredinol yn waeth i siroedd gwledig. Roedd
mecanweithiau ariannu gwaelodol blaenorol wedi cael eu tynnu o’r Setliad a dyna
pam bod yr ystod yn gymharol eang. Roedd y broses
Rhyddid a Hyblygrwydd ar fin dod i ben gyda gosod cyllideb 2016/17 a bydd
proses cyllideb newydd yn cael ei datblygu ar gyfer 2017/18. Ym mis Rhagfyr
2015, roedd adroddiad i'r Cyngor Llawn yn nodi'r sefyllfa a rhagdybiaethau
cyllideb diweddaraf, a oedd yn dangos bwlch cyllidebol sy'n weddill o £2filiwn. Mae'r
bwlch hwn wedi ei gyfrifo gyda nifer o ragdybiaethau sydd wedi newid o
ganlyniad i’r Setliad Amodol. Cafodd y rhain eu hegluro mewn manylder yn
y gweithdy cyllideb gydag Aelodau ar 14 Rhagfyr 2015. Roedd y
newidiadau i werth y Setliad yn caniatáu ar gyfer cynnig i ostwng lefel y
cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 2.75% i gyfartaledd o 1.5%. Cafwyd
trafodaeth, a chodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau: ·
Roedd
amrywiol awgrymiadau wedi cael eu codi mewn sesiynau cyllideb blaenorol a
gofynnwyd am ddiweddariadau. Cadarnhawyd y byddai'r awgrymiadau a
godwyd yn y sesiynau Cyllideb wedi cael eu dwyn ymlaen pe bai arbedion pellach
yn ofynnol. Byddai'r awgrymiadau yn cael eu hystyried fel rhan
o broses y gyllideb 2017/18. ·
Codwyd
diffyg taliadau sy'n ofynnol ar gyfer cynlluniau pensiwn, ynghyd â materion
ynghylch cyfraniadau pensiwn athrawon. Eglurwyd y gwahaniaethau rhwng ariannu'r
cynllun pensiwn Athrawon a'r cynllun Llywodraeth Leol, gan gynnwys trin arian
diffyg .. Eglurwyd bod y ddau gynllun pensiwn yn cael eu llywodraethu gan
ddeddfwriaeth y DU. ·
Cadarnhaodd
y Cynghorydd Joan Butterfield, fel Arweinydd y Grŵp Llafur oherwydd bod y
Setliad gan Lywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl, roedd y Grŵp Llafur yn
cytuno i gymeradwyo'r cynnydd o 1.5% yn Nhreth y Cyngor Dywedodd
y Cynghorydd Butterfield hefyd fod y Grŵp Llafur yn gobeithio y byddai’r
Setliad ar gyfer 2016/17 yn gwarchod gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf
diamddiffyn ac ynysig o fewn y sir.
Yna mynegodd y Cynghorydd
Butterfield bryder ynghylch praesept yr Heddlu. Cadarnhawyd
bod yr Heddlu a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn gosod eu lefel eu hunain o
Dreth y Cyngor a oedd yna’n cael ei ychwanegu at un y Cyngor Sir. Cadarnhaodd
y Cynghorydd Brian Blakeley ei fod wedi mynychu Pwyllgor yr Heddlu a Throseddu
y diwrnod cynt ac mai’r cynnydd yn y praesept gan yr Heddlu oedd 2.47%. · Roedd cynnwys £0.5m o'r balansau fel rhan o'r cyllid o’r gyllideb ar gyfer 2015/16 yn cael ei gwestiynu. Gofynnwyd am faint y balansau a'r ddyled bresennol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y gyllideb ar gyfer 2015/16 wedi ei gosod gyda chyfraniad arian o'r balansau ac y byddai ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11.40 am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00 p.m. |
|
CYMERADWYAETH FLYNYDDOL CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR PDF 103 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig
(Cymru) (Diwygio) 2016, o ran blwyddyn ariannol 2016/2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
Cymeradwyaeth Flynyddol i’r Cynllun Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd y Ddeddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu
budd-dal treth y cyngor yn ei ffurf bresennol ar draws y DU. O 31 Mawrth 2013 roedd
budd-dal treth y cyngor wedi dod i ben ac mae'r cyfrifoldeb am ddarparu
cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n gysylltiedig ag ef, wedi cael
ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth
ag awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu
cymorth Treth y Cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r ddwy set o reoliadau ar 19 Ionawr
2016 ac roedd yn ofynnol i Reoliadau Cynlluniau Gostwng Treth y Cyngor newydd a
Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau diwygiadau Gofynion Rhagnodedig
(Cymru) 2016 gael eu mabwysiadu erbyn 31 Ionawr 2016. PENDERFYNWYD: ·
Aelodau i
fabwysiadu'r Cynlluniau Lleihau Treth y Cyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig
(Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygiadau i Ofynion Rhagnodedig (Cymru) 2016, o ran
blwyddyn ariannol 2016/17. ·
Bod Aelodau’n
cymeradwyo’r 3 elfen ddewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran 4.1 o’r
adroddiad, yn parhau yn 2016/17. |
|
YMATEB DRAFFT I’R BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) PDF 87 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i ystyried ymateb y Cyngor i ymarfer ymgynghori sy’n
cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar ddarpariaethau Drafft Bil Llywodraeth
Leol (Cymru). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr Ymateb Drafft i Fil Llywodraeth Leol
(Cymru) (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Rhoddwyd eglurhad
ar yr ymarfer ymgynghori sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar
ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i benderfynu ar ymateb y Cyngor i'r
ymgynghoriad. Roedd ymateb wedi'i gyflwyno eisoes ar y Papur
Gwyn, ond roedd y Mesur Drafft angen ymatebion helaeth i'w cyflwyno erbyn 15
Chwefror 2016. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
strwythur y Bil Drafft a oedd mewn 8 rhan fel a ganlyn:- ·
Rhan
1 – Ardaloedd Llywodraeth Leol a Chynghorau Sir ·
Rhan 2
- Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol ·
Rhan
3 - Hyrwyddo Mynediad i Lywodraeth Leol ·
Rhan
4 – Swyddogaethau Cynghorau Sir a’u Haelodau ·
Rhan
5 - Cynghorau Sir: Gwell Llywodraethu ·
Rhan
6 - Cynghorau Cymuned ·
Rhan
7 - Materion Gweithlu a ·
Rhan 8
- Cyffredinol ac Atodlenni Yn ystod yr
esboniad o’r Bil Drafft gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol
a Gwasanaethau Democrataidd, cynhaliwyd trafodaethau a gofynnwyd cwestiynau gan
wahanol Aelodau. Oherwydd pwysigrwydd y Bil Drafft a maint y
wybodaeth sydd i'w chymryd i mewn, gofynnodd nifer o Aelodau i weithdy gael ei
gynnal a fyddai'n rhoi cyfle i’r Aelodau archwilio’r Bil Drafft yn fanylach. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD (i)
Bod y Cyngor yn nodi cynnwys y Bil Drafft
ac yn ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad drafft a nodir yn Atodiad 3. (ii)
Yn dilyn gweithdy’r Cyngor, bod y Cyngor
yn awdurdodi’r Arweinydd mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Grŵp i gwblhau
telerau ymateb y Cyngor gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Cyngor. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd Y
Cynghorydd Martyn Holland, ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Rybudd o
Gynnig i’w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y
dylai’r sir ddarparu gwe ddarllediadau o holl gyfarfodydd y Cabinet ac
Archwilio yn y dyfodol, er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o'r Cyngor Sir”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhybudd o Gynnig
a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw Williams: “Roedd Grŵp
y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai’r sir ddarparu gwe ddarllediadau o holl
gyfarfodydd y Cabinet ac Archwilio yn y dyfodol, er mwyn gwella canfyddiad y
cyhoedd o'r Cyngor Sir”. Wedi’i ohirio tan
y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Llawn a oedd i'w gynnal ar 23 Chwefror 2016. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y
Cynghorwyr Arwel Roberts a Cefyn Williams y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w
ystyried gan y Cyngor Llawn: " yn ystod y
blynyddoedd a fu mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gwerthu ei stoc o Dai
Cyngor, gan fod gennym rhai ar ôl gofynnwn i'r pwyllgor diddymu yr arferiad hwn
oherwydd mae yn bwysig fod y Cyngor yn cadw nhw i deuluoedd sydd yn methu
fforddio prynu tai ar y farchnad agored" Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Cefyn Williams y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor
Llawn: “Dros y
blynyddoedd roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gwerthu ei stoc o dai Cyngor,
gan fod gennym dal rywfaint ar ôl rydym yn gofyn i'r pwyllgor ddiddymu'r arfer
hwn gan ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn eu cadw ar gyfer teuluoedd nad ydynt
yn gallu fforddio prynu tai ar y farchnad agored". Cafwyd trafodaeth
a dywedwyd na ellid yn gyfreithiol cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig i
"ddileu" y Cynllun Hawl i Brynu. Felly,
cytunwyd i ddiwygio'r cynnig fel a ganlyn: “Cyngor yn
awdurdodi swyddogion i weithio ar achos busnes i atal Hawl i Brynu y byddent wedyn
yn ei gyflwyno i’r Cyngor" PENDERFYNWYD bod
y Rhybudd o Gynnig diwygiedig “Cyngor yn awdurdodi swyddogion i weithio ar
achos busnes i atal Hawl i Brynu y byddent wedyn yn ei gyflwyno i’r
Cyngor" |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd Y
Cynghorydd Dewi Owens y Rhybudd o Gynnig canlynol gan geisio cefnogaeth y
Cyngor llawn i’r canlynol: “Mae Cyngor Sir Ddinbych -
Yn
gwerthfawrogi gwaith Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. -
Yn
mynegi pryder dros symud adnoddau o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i Fwrdd
Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru -
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn gwarchod annibyniaeth Cynghorau
Iechyd Cymuned unigol Cymru”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhybudd o Gynnig
a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens: “Mae Cyngor Sir
Ddinbych yn: ·
Gwerthfawrogi
gwaith Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. ·
Mynegi
pryder dros ddargyfeirio adnoddau o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i Fwrdd
Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru ·
Galw
ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn gwarchod annibyniaeth Cynghorau Iechyd
Cymuned unigol Cymru”. wedi’i ohirio tan
y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Llawn a oedd i'w gynnal ar 23 Chwefror 2016. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 302 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). PENDERFYNWYD –
cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.45pm. |