Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Agorwyd y cyfarfod gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd gydag eglurhad bod y Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ar wyliau.  Yn anffodus, nid oedd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ann Davies, yn gallu dod i'r cyfarfod gan ei bod yn sâl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bill Cowie.  Cynhaliwyd pleidlais drwy godi dwylo, a chytunwyd yn unfrydol y dylai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod yn Gadeirydd ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Lloyd Davies i bawb am y fraint o fod yn Gadeirydd a chroesawodd bawb i'r cyfarfod.

 

 

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol yn eitem 7, Strategaeth Dai Ddrafft Sir Ddinbych.

 

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 7 - Strategaeth Dai Ddrafft Sir Ddinbych ac Eitem 8 – Polisi Tai Cymunedol.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim Materion Brys.

 

 

Yn y fan hon, talodd y Cynghorydd Huw Jones deyrnged i'r pump o bobl a oedd wedi colli eu bywydau yng Nghorwen yn ddiweddar.  Anfonwyd meddyliau at deithiwr un o'r ceir a oedd yn hynod o sâl yn ysbyty Stoke hefyd.  Cydymdeimlwyd â theuluoedd a chyfeillion yr holl bobl sy'n ymwneud â’r rhai a anafwyd ac a fu farw.  Mynegodd y Cynghorydd Jones ei ddiolch i'r holl Gynghorwyr, Swyddogion ac aelodau'r cyhoedd o bob rhan o Gymru a oedd wedi anfon eu dymuniadau da i gymuned Corwen ar yr adeg eithriadol o drist hwn.

 

Mynegodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, gydymdeimlad dwysaf y Cyngor i bawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad a chafwyd munud o dawelwch fel teyrnged i'r rhai a oedd wedi colli eu bywydau.

 

Yn dilyn y munud o dawelwch, hysbyswyd yr aelodau bod y Cynghorydd Ian Armstrong yn sâl yn yr ysbyty ar hyn o bryd, a dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Armstrong a'i deulu.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 184 KB

Nodi'r ymrwymiadau dinesig a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 15 Hydref 2015 a 13 Tachwedd 2015 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

 

 

5.

Cofnodion pdf eicon PDF 151 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015 a 20 Hydref 2015 (copïau ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015.

 

Tudalen 12 – Cyfeiriodd y Cynghorydd Alice Jones at y cais gan Brif Weithredwr Dros Dro BIPBC am unrhyw dystiolaeth o ofal gwael.  Cadarnhawyd y byddai unrhyw wybodaeth am dystiolaeth yn cael ei rhoi naill ai i’r Prif Weithredwr neu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, ac y byddent yn pasio'r wybodaeth ymlaen i'r Prif Weithredwr Dros Dro ar ei rhan.

 

Yna, gofynnodd y Cynghorydd Jones am gasgliad i’r cyfarfod ar 7 Hydref, 2015.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod wedi crynhoi ar ddiwedd y cyfarfod fel a ganlyn:

 

·        Cyfeirio'r mater o ofal sylfaenol ym Mhrestatyn at y Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror 2015

·       Pryder yr aelodau ynghylch Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl.  Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Dros Dro BIPBC a swyddogion, ac roedd wedi cael sicrwydd bod BIPBC yn ymrwymedig i adeiladu'r ysbyty yn Y Rhyl o hyd.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn ailystyried y posibilrwydd o ddarpariaeth ac wedi cytuno i gyfarfod eto â'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau cyn gwyliau'r Nadolig. 

·       Roedd yr Aelodau wedi cael gwybod am HASCAS (Gwasanaeth Ymgynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol) ac yn disgwyl am adroddiad gan y Gwasanaeth yn gynnar yn 2016. Byddai'r Prif Weithredwr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Brif Weithredwr Dros Dro BIPBC yn y cyfarfod cyn y Nadolig.

o   Byddai'r wybodaeth yn cael ei rhannu gyda Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl ac yna ei chyflwyno mewn Pwyllgor Craffu.  Gofynnodd y Cynghorydd Alice Jones i’r wybodaeth gael ei rhannu gyda holl Grwpiau Ardal yr Aelodau.  Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff yr wybodaeth ei rhoi i holl Grwpiau  Ardal yr Aelodau.

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2015.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Medi 2015 a 20 Hydref 2015 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

CYLLIDEB 2016/17 – NEWYDDION DIWEDDARAF pdf eicon PDF 321 KB

I ystyried adroddiad (copi i ddilyn) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r gyllideb diweddaraf ar gyfer 2016/17

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad y gyllideb ar gyfer 2016/2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). 

 

 Nododd yr adroddiad y sefyllfa ddiweddaraf o ran darparu cyllideb refeniw 2016/2017 a thynnodd sylw at y mesurau sy’n cael eu cymryd yn rhan o Gam 5 y broses gyllideb dwy flynedd bresennol.  Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y buddsoddiad y gwnaeth y cyngor mewn seilwaith allweddol a gwelliannau ledled y sir dros gyfnod parhaus o ostyngiadau mewn cyllid.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut roedd strategaeth cyllideb y cyngor wedi diogelu gwasanaethau allweddol tra'n rheoli sefyllfa ariannol heriol.

 

Roedd Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi ei gyllideb ar 8 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn dilyn ar 9 Rhagfyr.  Byddai hyn yn gwneud y sefyllfa ariannu ar gyfer 2016/17 yn fwy eglur.  Byddai cyhoeddi Setliad Dros Dro yn cynnwys prif ffigur, ond efallai na chaiff effaith newidiadau i ffrydiau cyllid grant refeniw eu cyhoeddi ar yr un pryd.

 

Byddai cyhoeddi Setliad Llywodraeth Leol yn hwyr yn golygu efallai y bydd angen addasu amserlen y gyllideb.  Roedd yn rhaid i'r Cyngor bennu ei gyllideb mewn pryd er mwyn caniatáu ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu biliau Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2016. Yn dibynnu ar lefel y Setliad Dros Dro, roedd yn debygol y gall fod angen cyfarfod ychwanegol o'r Cyngor Llawn i gwblhau'r gyllideb ym mis Chwefror 2016.

 

O ystyried lefel o ansicrwydd ynghylch y setliad refeniw, canolbwyntiodd gweithdai cyllideb diweddar i aelodau ar ystod o gynigion y bydd angen eu gweithredu efallai yn 2016/2017. Er mwyn cynnal momentwm a chyfyngu ar risgiau ar ddiwedd y broses, fe eglurwyd y byddai set o fesurau yn cael eu cyflwyno i’r cyngor er gwybodaeth ym mis Rhagfyr er mwyn gallu nodi effaith y gyllideb.

 

Ni fu cyfeiriad clir ynghylch a fyddai cyfarwyddebau i ddiogelu ysgolion a chyllidebau eraill.  Ers 2011 bu addewid gweinidogol i amddiffyn cyllidebau ysgolion yng Nghymru.  Er mwyn cydymffurfio â'r addewid i ‘amddiffyn’ cyllidebau ysgolion, dylai'r cyngor fod wedi cynyddu'r cyllid i ysgolion o £3.4m dros y pedair blynedd diwethaf.  Yn wir, roedd cyllid ysgolion yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o £6.3m.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Roedd y Pwyllgor Craffu wedi codi mater adolygiad a chyllid Ysgol Rhuthun ynghylch dwy ysgol newydd a oedd i'w hadeiladu.  Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar oedd bod dogfen newydd wedi ei pharatoi ar gyfer Llywodraeth Cymru a oedd yn awgrymu y dylai’r holl gynlluniau (Ysgol y 21ain Ganrif, Adolygiad Rhuthun, ac Ysgol Ffydd) yn cael eu cynnwys fel un pecyn.  Byddai'r cynllun yn cael ei ariannu 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a 50% gan Lywodraeth Cymru.  Disgwylir cael ychwanegiad o £6m gan Lywodraeth Cymru tuag at y pecyn.  Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ei fod wedi ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â materion ysgol.

·       Cytundeb Menter Cyllid Preifat – cafwyd llongyfarchiadau yn dilyn terfynu'r Cytundeb Menter Cyllid Preifat.  Disgwyliwyd camau cadarnhaol ar gyfer dyfodol yr adeiladau.

·       Gwnaethpwyd cais am gyflwyniad cliriach o'r ffigurau i gynnwys manylion am ddadansoddiad, benthyca a ffigurau pellach ar gyfer cronfeydd wrth gefn.  Cytunodd yr holl aelodau i'r cais am gynllun mwy manwl.

·       Byddai'r setliad ar gyfer cyllideb 2016/2017 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer un flwyddyn yn unig.  Cafwyd sicrwydd bod disgwyl setliadau tair blynedd yn ar ôl y flwyddyn honno.

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Cyngor: -

 

(i)              yn nodi'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno cyllideb 2016/2017 a'r camau arfaethedig i gwblhau'r broses.

(ii)             nodi nad yw’r rhan fwyaf o arbedion a wnaed hyd yn hyn yn y broses gyllideb ddwy flynedd wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DRAFFT O STRATEGAETH TAI SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Datblygu a Pholisi (copi ynghlwm) i ofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu drafft o Strategaeth Tai Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sy'n cyd-fynd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr Adroddiad Drafft ar Strategaeth Dai Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu'r Strategaeth Dai Ddrafft a chymeradwyo'r Cynllun Gweithredu cyfatebol.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd yr Aelod Arweiniol i bawb a oedd wedi gweithio ar y Strategaeth Dai Ddrafft, gan gynnwys Angela Loftus a’i Thîm, ynghyd ag Aelodau’r Grwpiau Tasg a Gorffen.

 

Roedd cynnwys y Strategaeth Dai a'r Cynllun Gweithredu Drafft yn cynrychioli uchafbwynt yr ymgynghoriad â phartneriaid, gwaith gyda swyddogion ar draws y Cyngor a mewnbwn gan Aelodau. 

 

Roedd mynediad at dai o ansawdd da yn flaenoriaeth gorfforaethol allweddol a byddai datblygu Strategaeth Dai glir a chadarn yn darparu'r fframwaith ar gyfer holl swyddogaethau perthnasol y Cyngor i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth yn llwyddiannus.  Bwriad y Strategaeth Dai oedd darparu datganiad clir o weledigaeth a nodau’r Cyngor ar gyfer tai yn y Sir am y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd y weledigaeth strategol fel a ganlyn: -

“Mae pawb yn cael ei gefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn y cymunedau bywiog a chynaliadwy y mae'n uchelgais gan Sir Ddinbych eu creu.”

 

O fewn y Strategaeth, i sicrhau cysondeb, roedd saith egwyddor lleol: -

·       Cefnogi’r Economi Lleol – drwy adeiladu tai ac adfywio

·       Lleihau anghydraddoldebau – drwy geisio sicrhau bod cartrefi priodol ar gael i bawb a bod pobl fregus yn cael eu cefnogi

·       Ymgysylltu a chynnwys – gyda phartneriaid i helpu i ddarparu cartrefi priodol ar y cyd a gweithio gyda thrigolion i adfywio eu cymdogaethau

·       Cynaliadwyedd  -  cefnogi marchnad dai gynaliadwy a sicrhau cymunedau cynaliadwy

·       Yr iaith Gymraeg a diwylliant – ystyried datblygiadau newydd, a’u hybu

·       Monitro ac adolygu – paratoir adolygiad blynyddol i amlinellu cynnydd ac unrhyw newidiadau i gamau y cytunwyd arnynt

·       Canolbwyntio ar ganlyniadau – bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlyniadau a nodwyd.

 

Bu i’r Strategaeth nodi pum "thema" a oedd yn feysydd blaenoriaeth i’w rhoi ar waith, ac roedd y rhain yn ffurfio craidd y Strategaeth.  Y pum thema oedd: -

·       Mwy o gartrefi i ddiwallu'r angen a’r galw lleol

·       Creu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy

·       Sicrhau cartrefi diogel ac iach

·       Cartrefi a chymorth i bobl ddiamddiffyn, a

·       Hyrwyddo a chefnogi cymunedau

 

Cafwyd trafodaeth ddwys a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

·       Pa mor gyraeddadwy yw dyddiadau targed.  Roedd rhai o'r camau eisoes ar y gweill ac roedd rhai bron wedi’u cyflawni.  Roedd y camau i’w hadolygu a byddai sylw’n cael eu rhoi iddynt pe bai posibilrwydd i’r llinell amser lithro.

·       Roedd nifer o gamau gweithredu o dan Thema 2 - Tai Fforddiadwy.  Roedd swyddogion yn sôn am dai cyngor a thai cymdeithasol i gyd yn cael eu grwpio gyda'i gilydd.  Roedd yr Aelodau Arweiniol i fod yn gyfrifol am y Cynllun Gweithredu a byddai'n cael ei ddwyn i gyfrif.  Awgrymwyd y dylai unrhyw faterion nad oedd yn cael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod yn cael eu rhoi gerbron Pwyllgor Craffu.

·       O ran Cam Gweithredu 2.10, gofynnodd y Cynghorydd Jason McLellan bod " cynllun busnes yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod mwy o dai Cyngor yn cael eu darparu" – bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Cyngor ym mis Ebrill 2016.

·       Hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru – os bydd unrhyw gais dros faint penodol, byddai'n ofynnol i'r datblygwr gyflwyno Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg.  Byddai'r Strategaeth Dai Ddrafft ei hun, unwaith y bydd wedi’i chymeradwyo, yn cael ei chyfieithu a'i chyhoeddi yn y Gymraeg hefyd.

·       Y niferoedd presennol ar y rhestr aros am dai oedd: -

Ø  1915 o geisiadau cyffredinol

Ø  264 o  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

POLISI TAI CYMUNEDOL - DIWEDDARIADAU AR GYFER CYMERADWYO pdf eicon PDF 179 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol (copi ynghlwm) i ofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i adolygu'r polisïau canlynol:

(i)              Polisi Dyrannu

(ii)             Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a

(iii)            Pholisi Tenantiaeth Rhagarweiniol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr adroddiad ar Bolisi Tai Cymunedol (a ddosbarthwyd eisoes) i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i adolygu'r polisïau canlynol:

(i)              Polisi Dyraniadau

(ii)             Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a

(iii)            Polisi Tenantiaeth Rhagarweiniol.

 

Polisi Dyraniadau

 

Roedd y polisi Dyraniadau angen ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu deddfwriaeth newydd a chod ymarfer newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

 

Er bod y polisïau a ddiweddarwyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, bu i’r Cabinet gymeradwyo mabwysiadu SARTH (Un Llwybr Mynediad at Dai) ar 14 Ionawr, 2014, a oedd yn cynnwys symud oddi wrth y system dyrannu pwyntiau presennol at system "bandio" angen am dai.  Roedd y polisi hwn felly yn fesur dros dro i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyd nes y gweithredir SARTH yn Sir Ddinbych.

 

Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

 

Roedd y polisi hwn wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014. Nid oedd unrhyw newidiadau sylfaenol i ddelio ag ymddygiad niwsans, fodd bynnag roedd atebion cyfreithiol cyffredin fel y Gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) wedi'u disodli.  Cafodd y polisi ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a gellid ystyried yr holl bwerau fel rhan o'r gweithgareddau gorfodi.

 

Polisi Tenantiaeth Rhagarweiniol

 

Roedd y Polisi Tenantiaeth Rhagarweiniol wedi cael ei ysgrifennu gyda chymorth Cyfreithwyr Whiteheads er mwyn gwella eglurder y Polisi a'r weithdrefn gyfredol; tra’n sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r polisïau canlynol:

(i)              Polisi Dyraniadau

(ii)             Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a

(iii)            Polisi Tenantiaeth Rhagarweiniol.

 

 

9.

IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried adroddiad gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i'r is-ddeddfau diwygiedig mewn perthynas â cerbydau Hacni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, yr adroddiad Diwygiedig Arfaethedig ar Is-ddeddfau Cerbydau Hacni (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer cymeradwyaeth yr Aelodau.

 

Y rheswm am yr adroddiad oedd ceisio mabwysiadu is-ddeddfau diwygiedig a chyfredol i sicrhau dull teg, tryloyw a chyson wrth benderfynu ar unrhyw faterion gorfodi cerbyd hacni.

 

Y rheswm dros ddod â’r adroddiad i’r Cyngor Llawn oedd bod gwneud is-ddeddfau o dan a68 o Ddeddf Cymalau Heddlu Tref 1847 yn swyddogaeth y Cyngor (yn hytrach na swyddogaeth Weithredol) o dan y Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007.

 

 PENDERFYNWYD:-

 

(i)              Bod aelodau wedi cytuno i fabwysiadu Is-ddeddfau Enghreifftiol yr Adran Drafnidiaeth, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad hwn.

(ii)             Cytuno i ganiatáu i Swyddogion anfon yr Is-ddeddfau Enghreifftiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w cadarnhau.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol  y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes).

 

Mis Ionawr 2016 - ad-drefnu Llywodraeth Leol - gofynnwyd am hyn gan y Cynghorydd Jason McLellan.

 

Mis Ebrill 2016 - Ychwanegu adroddiad pellach ar elfen o strategaeth dai fel y cytunwyd yn gynharach yn y cyfarfod.  Datblygu cynllun busnes er mwyn sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu darparu - gofynnwyd am hyn gan y Cynghorydd Jason McLellan.

 

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.