Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau
cyfarfod y Cyngor, estynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler,
gydymdeimlad â'r Cynghorydd Bill Tasker wedi iddo golli ei chwaer yn ddiweddar. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim Datganiad o
Gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol
ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 187 KB Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (i ddilyn) Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a gynhaliwyd ar gyfer y Cyngor gan y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 13 Awst 2015 a 12 Hydref
2015 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD
derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 8 Medi 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Medi 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Yn y fan hon,
cyflwynodd y Cadeirydd Meira Owen o HomeStart i roi esboniad byr i Aelodau am y
gwaith a wnaed gan HomeStart o fewn y gymuned a'r teuluoedd y maent yn eu
cynorthwyo. Diolchodd Meira
Owen i Aelodau'r Cyngor am ganiatáu iddi gael cyfle i esbonio gwaith HomeStart. Roedd HomeStart
yn elusen a oedd wedi cefnogi teuluoedd yn Sir Ddinbych am y 15 mlynedd
diwethaf. Roedd tîm o tua 100 o wirfoddolwyr o gymunedau amrywiol ar draws y
sir ynghyd â 5 aelod o staff. Y meini prawf i gael atgyfeiriad i
HomeStart oedd bod angen i un plentyn yn y teulu fod o dan 11 oed. Yn dilyn y
cyflwyniad gan Meira Owen, diolchodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd Raymond Bartley
i Meira a'i thîm am yr holl waith caled a wnaethant o fewn y cymunedau, a oedd
yn amhrisiadwy. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2014-15 PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol (copi ynghlwm) ar
fersiwn drafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2014-15. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r aelodau
gymeradwyo fersiwn drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2014/15, yn amodol
ar newidiadau y cytunwyd arnynt, er mwyn iddo gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi
cyn 31 Hydref 2015. Eglurodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio fod Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2012-2017
wedi gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y Cyngor a'i flaenoriaethau ar gyfer
y cyfnod o bum mlynedd. Mae manylion bwriad y Cyngor i gyflawni’r
blaenoriaethau wedi eu nodi yn y Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol ac yn Nogfen
Darparu Blynyddol y Cynllun Corfforaethol, ac mae cyfres o Gytundebau Canlyniad
wedi eu cytuno arnynt gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yr Adolygiad Perfformiad
Blynyddol yn darparu gwerthusiad ôl-syllol o lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni
yn erbyn y cynlluniau yma yn ystod 2014-15, a p’un ai yw’r Cyngor wedi llwyddo
i gyflawni ei rwymedigaeth gogyfer â gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau
parhaus yn llwyddiannus ai peidio. Roedd yr
adroddiad wedi cael ei ddatblygu gan y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad,
mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Roedd
yr wybodaeth ynglŷn â pherfformiad a oedd wedi ei chynnwys yn y ddogfen
wedi cael ei darparu gan y gwasanaethau, ac wedi cael eu dwyn ynghyd yn
defnyddio system rheoli perfformiad Verto. Ymgynghorwyd
â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor Sir i’w
gymeradwyo. Dyma oedd y
cynllun mwyaf uchelgeisiol hyd yma a dyma oedd trydedd flwyddyn y cynllun. Roedd
cynnydd da wedi ei wneud ond roedd llawer o waith i'w wneud o hyd. Roedd
yr ystadegau yn yr adroddiad wedi’u diweddaru ar ddiwedd mis Mawrth 2015. Aeth y Pennaeth
Gwella Busnes a Moderneiddio ymlaen gyda chyflwyniad PowerPoint ar gyfer
Aelodau, a oedd yn cynnwys astudiaethau achos i roi enghreifftiau cliriach o'r
gwaith yn mynd rhagddo. Roedd angen camau
allweddol ar saith maes blaenoriaeth, a’r blaenoriaethau hynny oedd: ·
Datblygu
Economaidd ·
Addysg ·
Ffyrdd ·
Pobl
Ddiamddiffyn ·
Strydoedd
Glân a Thaclus ·
Tai,
a ·
Moderneiddio'r
Cyngor Eglurodd y Tîm Datblygu Economaidd a
Busnes a’r Rheolwr Rhaglen y mentrau sy'n datblygu Rhaglen Gymuned Economaidd. Pwysigrwydd
band eang derbyniol a thelathrebu a chanolbwyntio ar fusnesau yn y defnydd o
dechnoleg. O fewn Gwefan CSDd, roedd tudalen i’w sefydlu a
fyddai'n cynnwys gwybodaeth i fusnesau, a byddai'r dudalen yn cynnwys clipiau
fideo byr, sydyn o fusnesau yn esbonio sut maent yn defnyddio technoleg i wella
eu busnes. Roedd cynlluniau i gael tua chwe chlip fideo
gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dangosodd y Tîm Datblygu Economaidd
a Busnes a’r Rheolwr Rhaglen enghraifft o fersiwn drafft o fideo gan gwmni
wedi'i leoli yn Ninbych. Yn dilyn y fideo,
codwyd yr eitemau canlynol yn ystod trafodaeth: ·
Roedd
cyflymder band eang mewn rhai ardaloedd gwledig yn fater parhaus. Cadarnhawyd
bod BT a band eang cyflym iawn yn araf ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd
cysylltu â BT i wella'r gwasanaeth.
Gofynnwyd i Gynghorwyr lobïo
Llywodraeth Cymru ar y mater. Awgrymodd
y Prif Weithredwr y dylai'r mater o gyflwyno band eang cyflym iawn gael ei alw
i'r Pwyllgor Craffu. Byddai'r pryderon hefyd yn cael eu codi
gydag Aelodau'r Cynulliad. ·
Roedd
clipiau fideo Cymraeg yn dasg anoddach gan fod prinder perchnogion busnes
Cymraeg a oedd yn fodlon cymryd rhan i ffilmio fideo. ·
Yn dilyn
ailstrwythuro'r Adran, cafwyd mwy o ryngweithio gydag Adrannau eraill. Roedd
Rheolwr Prosiect bellach ar waith, a'i dasg oedd rhoi’r holl wybodaeth at ei
gilydd. Roedd 16 o brosiectau ar hyn o bryd, a chynhaliwyd
cyfarfodydd rheolaidd er mwyn sicrhau bod amserlenni ar gyfer prosiectau yn
parhau ar y trywydd cywir. · Atgoffodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr Aelodau fod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 390 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cytunwyd yn
gynharach yn y cyfarfod i adfer y Cyfrif Refeniw Tai i Friff y Cyngor a
gynhelir ar 2 Tachwedd, 2015. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|