Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl aelodau a’r swyddogion i’r cyfarfod yn enwedig y Cynghorydd Anton Sampson a oedd yn mynychu ei gyfarfod Cyngor llawn cyntaf ar ôl cael ei ethol yn Gynghorydd Sir.

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 89 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

 

Ar y pwynt hwn, llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Arwel Roberts a oedd wedi casglu dros £1000 er cof am Hywyn Williams ar gyfer yr elusen Clic Sargent.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, fater brys mewn perthynas â datganiad i’w gymeradwyo gan y Cyngor:

 

“Mae trychineb argyfwng ffoaduriaid Syria wedi cyffwrdd pob un ohonom.   Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i ymuno â Llywodraeth Cymru a’r DU ac eraill i gydlynu dull i gyflawni ein cyfrifoldeb a chwarae ein rhan i ddarparu cymorth a chefnogaeth ddyngarol i ffoaduriaid sydd wedi’u dadleoli o ganlyniad i’r rhyfel yn Syria.   Gallai hyn gynnwys darparu llety i nifer o deuluoedd, gyda chefnogaeth briodol y Llywodraeth”.

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnwyd am ragor o fanylion yn y drafodaeth.   Cytunwyd nad oedd manylion ar gael yn y cam cynnar hwn, ond byddai’n bwysig dangos bwriad Sir Ddinbych pan fyddai’n briodol a byddai’n cael ei nodi’n glir y byddai Sir Ddinbych yn disgwyl cefnogaeth briodol gan y Llywodraeth.

 

Roedd consensws trawsbleidiol o gytundeb i'r datganiad.

 

Cynigiwyd gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Cafwyd pleidlais a’r canlyniad oedd cytundeb unfrydol gyda’r datganiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno’n unfrydol gyda’r datganiad arfaethedig, yn cefnogi’r cynnig o gymorth a chefnogaeth yn Sir Ddinbych ar gyfer y ffoaduriaid gyda chefnogaeth briodol y Llywodraeth.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 185 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2015 a 27 Gorffennaf 2015 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 104 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 7 Gorffennaf 2015 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2015.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2015 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 60 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi ynghlwm) i roi gwybod i’r Cyngor am gasgliad a chynigion gwelliant y Swyddfa Archwilio, a sicrhau bod y Cyngor yn cymeradwyo’r ymateb i'r Adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Cyngor o gasgliad Swyddfa Archwilio Cymru a’r cynigion ar gyfer gwella, a sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer ymateb i’r Adroddiad.

 

O dan y Mesur Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu cynnydd y Cyngor yn flynyddol tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon er mwyn parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Yn gyffredinol, roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn.   Roedd yr adroddiad wedi amlygu dau faes i’w gwella ond nid oedd unrhyw argymhellion pellach yn yr adroddiad.   Y ddau faes i’w gwella a gynigwyd oedd:

 

(a)  Sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau yn glir ar gyfer cyflawni’r amcan tai fforddiadwy newydd.

(b)  Adolygu ei arferion gwaith yn erbyn yr argymhellion yn Adroddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Leol 2014-2015 yr Archwilydd Cyffredinol, a gweithredu gwelliannau yn ôl yr angen.  Roedd Adroddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Leol yn cwmpasu meysydd megis Archwilio, pobl ifanc sy’n NEET, a'r Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, nad oedd unrhyw argymhellion wedi’u cyflwyno yn yr adroddiad dim ond dau gynnig ar gyfer gwella.   

 

Y canfyddiadau oedd:

·       bod y defnydd o safonau perfformiad yn parhau i hyrwyddo diwylliant cyson o uchelgais ar draws gwasanaethau’r Cyngor.

·       Ar y cyfan, roedd perfformiad yr adran gofal cymdeithasol yn gryf ond byddai angen gwerthuso cyflwyniad modelau newydd o weithio ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion yn fanwl trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.

·       gwnaed cynnydd cyfyngedig i ddelio â thanberfformiad o ran darparu tai fforddiadwy, ond roedd y Cyngor wedi cynorthwyo i atal nifer o bobl rhag bod yn ddigartref.

·       roedd y Cyngor wedi gwella perfformiad ei wasanaeth Adnoddau Dynol.

·       roedd cynnydd mentrau i gefnogi economi Sir Ddinbych wedi bod yn anghyson, ond roedd trefniadau gwell yn debygol o gefnogi nodau’r Cyngor.

·       Roedd y Cyngor wedi cyflawni cynnydd o ran ymrwymo ei Daliadau Tai Dewisol a byddai gwelliannau o ran monitro ers Ebrill 2015 yn cynorthwyo i egluro eu heffaith.

·       Gwnaed cynnydd pellach i wella gallu staff y Cyngor i siarad Cymraeg.

 

Roedd gan y Cyngor drefniadau rheolaeth ariannol da heb unrhyw ddiffygion presennol.   Hefyd, roedd trefniadau rheoli risg y Cyngor yn gadarn ac yn addas i bwrpas ac yn cynhyrchu gwerthusiadau cytbwys a llawn gwybodaeth o’i berfformiad.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am gopi o Adroddiad Gwella Blynyddol 2014/15 yn Gymraeg, a darparwyd hyn gydag ymddiheuriad nad oedd yr adroddiad wedi’i gyhoeddi gyda phecyn  adroddiadau’r Cyngor.

·       Cododd nifer o aelodau’r mater o ran Tai Fforddiadwy.   Eglurodd Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd prisiau tai yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o 10% i alluogi ail-ystyried nifer y tai fforddiadwy.  Roedd nifer y tai newydd a adeiladwyd yn y sir wedi bod yn isel o gymharu â gweddill Cymru.   Felly, byddai’n heriol yn y dyfodol ond byddai potensial i’r Cymdeithasau Tai adeiladu mwy o dai ac i'r Awdurdod Lleol gymryd mantais o gymhorthdal diwygio tai. 

·       Nid oedd y broses o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd wedi’i chynnwys yn y ffigyrau Tai Fforddiadwy.   Er bod Sir Ddinbych wedi gweithio’n dda ar y prosiect dim ond tai newydd yr oedd ffigyrau’r tai fforddiadwy’n eu cynnwys.

·       Roedd cynnig i wella pobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi’i gwestiynu gan y Cynghorwyr.   Eglurwyd bod y cynnig wedi’i gyflwyno i’r holl Awdurdodau Lleol fel gwelliant.    Byddai strwythur ffurfiol i ymateb i’r cynigion gwella.   Roedd ymarfer wedi’i gynnal i asesu adroddiadau blaenorol ac i gasglu gwybodaeth o heriau gwasanaeth.   Eglurodd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

HENEIDDIO'N DDA YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 111 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Strategaeth Ddatblygu Pobl Hŷn (copi ynghlwm) i roi gwybod i’r Cyngor am Gynllun Heneiddio'n Dda Sir Ddinbych a sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor i’r Cynllun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant, y Cynghorydd Bobby Feeley, adroddiad Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu'r Cyngor ynglŷn â Chynllun Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych ac i dderbyn cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer y Cynllun.

 

Roedd Cynllun Heneiddio'n Dda Sir Ddinbych yn nodi sut y bydd pum thema blaenoriaeth y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru yn cael eu cyflwyno yn Sir Ddinbych.   Y Pum Thema oedd:

 

(i)              Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed

(ii)             Cymunedau sy’n Gefnogol i Dementia

(iii)            Atal Codymau

(iv)           Cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, dysgu a sgiliau newydd, ac

(v)            Unigrwydd ac Unigedd

 

Yn gyffredin ag ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill, roedd poblogaeth Sir Ddinbych yn heneiddio ac roedd gan hyn oblygiadau mawr ar gyfer yr holl wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Roedd Strategaeth wedi’i chynhyrchu ar gyfer Cefnogi Annibyniaeth yn Sir Ddinbych (SID) ac roedd Cynllun Heneiddio'n Dda yn rhan allweddol o'r Strategaeth.

 

Roedd Cefnogi Annibyniaeth yn Sir Ddinbych a Chynllun Heneiddio’n Dda’n canolbwyntio’n gryf ar ymyrraeth gynnar ac atal ac mae’r rhain hefyd yn themâu allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2016.   

 

Cafwyd cydnabyddiaeth y dylid symud oddi wrth y dull traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, a oedd wedi creu gorddibyniaeth ar wasanaethau statudol.    

 

Byddai gofyn i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ddatblygu Cynllun Heneiddio'n Dda a oedd yn rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru erbyn mis Hydref 2015. Mae'r Comisiynydd yn bwriadu monitro gweithredu’r holl gynlluniau lleol a bydd yn darparu adroddiad annibynnol ar gyflawniadau lleol (a chenedlaethol) yn erbyn canlyniadau.  Roedd yn rhaid cyflawni hyn, fel gofyniad proffil uchel, mor effeithiol ag y bo modd gyda chefnogaeth ein partneriaid allweddol.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Cytunwyd â’r Cynllun, ond codwyd pryderon bod y Cynllun yn gofyn am adnoddau digonol ynghyd â staff i weithredu’r Cynllun.

·       Atal Codymau – nodwyd y gallai pobl hŷn gwympo mewn nifer o leoedd oherwydd amrywiaeth o ffactorau.   Felly, roedd yn hanfodol cael ystod o fesurau ar waith sy'n atal codymau ac yn helpu pobl hŷn i fyw yn hirach yn eu cartrefi eu hunain ac yn parhau i fod yn weithgar yn eu cymunedau.

·       Unigrwydd ac Unigedd – roedd hyn wedi’i brofi i gael effaith sylweddol ar iechyd a lles.   Byddai angen gweithio ar bob lefel i nodi a mynd i’r afael â’r holl faterion sydd wrth wraidd y mater.   Nid yr henoed oedd yr unig rai yr oedd unigrwydd ac unigedd yn effeithio arnynt, roedd yn fater ar gyfer pob cenhedlaeth.   Canmolwyd y defnydd o Ganolfannau Dydd fel modd o atal unigrwydd ar gyfer pobl hŷn.   

·       Roedd cynlluniau peilot ar waith ym Mhrestatyn, Corwen a Bodelwyddan.  Roedd y cynlluniau peilot yn darparu ystod o wasanaethau a gwybodaeth y gallai preswylwyr gael mynediad hawdd iddynt.   Byddai gwaith yn parhau ar draws gwasanaethau oedolion a phlant. 

·       Byddai darpariaeth Gofal Dydd, ynghyd ag opsiynau eraill yn cael eu darparu.   Roedd yr Awdurdod Lleol yn cyfathrebu gyda phreswylwyr ynglŷn â’u hanghenion.   Ceisir darparwyr amgen a allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau yn ystod y dydd ar gyfer preswylwyr.   Y cysyniad fyddai ei gyflwyno mewn canolfan gymunedol a’i ddarparu i fwy o bobl a gwahanol grwpiau oedran.

 

Cynhaliwyd pleidlais:

O Blaid- 29

Ymatal - 1

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo a chefnogi Cynllun Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych.

 

 

8.

RHYBUDD O GYNNIG

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

“Mae'r Cyngor yn credu bod Ffracio (hollti hydrolig i ganfod nwy siâl) a UCG (nwyeiddio glo tanddaearol) yn ddiwydiannau ymwthiol annerbyniol sy'n achosi niwed na ellir ei adfer i’r amgylchedd naturiol yn lleol ac yn rhanbarthol. 

 

Credwn fod Ffracio a UCG yn achosi effeithiau andwyol sylweddol gan gynnwys halogiad lefel trwythiad, llygredd aer a chynhyrchu gwastraff wedi'i halogi ar raddfa fawr.

 

Felly, rydym yn gwrthwynebu unrhyw archwilio neu ddatblygiad o’r diwydiannau hyn yn ein sir, ac yn pryderu’n fawr am effaith datblygiadau ar draws y rhanbarth”.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Mae’r Cyngor hwn yn credu bod Ffracio (dryllio hydrolig i gael mynediad i nwy siâl) a UCG (nwyeiddio glo tanddaearol) yn ddiwydiannau annerbyniol ymledol sy’n achosi niwed anadferadwy i’r amgylchedd naturiol ar lefel leol a rhanbarthol.

 

Rydym yn credu bod effeithiau andwyol sylweddol o ganlyniad i Ffracio a UCG sy’n cynnwys llygru’r bwrdd dŵr, llygredd aer a chynhyrchu gwastraff halogedig ar raddfa fawr.

 

Felly, rydym yn erbyn unrhyw archwiliad neu ddatblygiad yn y diwydiannau hyn yn ein sir ac rydym yn hynod bryderus ynglŷn â’r effaith arnom ni o ganlyniad i ddatblygiadau ar draws y rhanbarth.”

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, cyflwynwyd diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, fel a ganlyn:

 

“ Mae gan y Cyngor hwn bryderon ynglŷn â Ffracio (dryllio hydrolig) a thechnolegau amgen eraill er mwyn cynhyrchu nwy anghonfensiynol, a byddent yn cefnogi moratoriwm presennol Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau ag unrhyw fath o ddatblygiad yn y sir neu’r rhanbarth ehangach nes y casglwyd tystiolaeth briodol o effeithiau hirdymor y technolegau newydd hyn, a chydnabod bod angen ystyried yr holl opsiynau ar gyfer cynhyrchu ynni gan ystyried prinder tanwyddau ffosil."

 

Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson- Hill y diwygiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland.

 

Cynhaliwyd pleidlais:

O Blaid- 16

Ymatal - 0

Yn erbyn – 16

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, roedd gan y Cadeirydd y bleidlais derfynol.   Pleidleisiodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, o blaid y diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig Diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

 

9.

RHYBUDD O GYNNIG

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feely y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor llawn.

 

1.     “Yn cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da a wneir gan Sir Ddinbych i ddarparu ystod o wasanaethau llety a neu wasanaethau cefnogi i bobl ddiamddiffyn i'w helpu i gadw neu adennill eu lle yng nghymuned Sir Ddinbych.

 

2.     Yn cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chefnogi pobl a allai fod yn ddiamddiffyn ac ar y cyrion i fyw'n annibynnol a chydag urddas yn eu cymuned drwy wasanaethau cymorth a chyngor sy'n ymwneud â thai

3.     Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu a pheidio â gorfodi unrhyw ostyngiad pellach i’r grant Cefnogi Pobl

 

4.     Yn cefnogi ymgyrch ar y cyd elusen Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru “Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl” i ddiogelu cyllideb grant y rhaglen cefnogi pobl.

5.     Gwahodd holl Aelodau Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru (PCRhGC) i gefnogi'r cynnig hwn yn eu hardaloedd a’u sefydliadau eu hunain

 

6.     Gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol y Cynulliad i gefnogi'r cynnig hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros  Ofal Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, y Rhybudd o Gynnig canlynol i’w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

1.     “Yn cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da a wneir gan Sir Ddinbych o ran darparu llety a/neu wasanaethau cefnogol amrywiol i bobl ddiamddiffyn i'w helpu i gadw neu adennill eu lle yn y gymuned yn Sir Ddinbych.

2.     Yn cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chefnogi pobl ddiamddiffyn a phobl ar y cyrion i fyw'n annibynnol a chydag urddas yn eu cymuned drwy wasanaethau cymorth a chyngor yn ymwneud â thai.

3.     Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu ac i beidio â gosod unrhyw ostyngiad pellach ar y grant Cefnogi Pobl.

4.     Yn cefnogi'r ymgyrch ar y cyd gydag elusen Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru 'Dewch i Barhau i Gefnogi Pobl' i ddiogelu'r gyllideb grant ar gyfer y rhaglen cefnogi pobl.

5.     Gwahodd pob Aelod o Bwyllgor Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRCC) yn eu hardaloedd a sefydliadau eu hunain i gefnogi'r cynnig hwn.

6.     Gwahodd Aelodau Etholedig a Rhanbarthol Cynulliad Cymru i gefnogi'r cynnig hwn.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bobby Feeley y Rhybudd o Gynnig, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Eryl Williams.

 

Cynhaliwyd pleidlais:

O Blaid- 30

Ymatal - 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 395 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD  nodi a chymeradwyo Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm.