Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YNN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Yn y fan hon,
hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau y byddai cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal
ynghylch Cludiant Ysgol yn dilyn cyfarfod y Cyngor. Rhoddodd y
Cadeirydd longyfarchiadau i Blas Brondyffryn am eu gwobr a diolchodd hefyd i’r Urdd
yn Sir Ddinbych am eu llwyddiant yng Nghaerffili. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Yn y fan hon,
mynegodd y Cynghorydd Jason McLellan ei siom am y ffaith nad oedd BIPBC wedi’i
gynnwys ar y Rhaglen fel a ddangoswyd ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol o’r
blaen. Nid oedd diwygio Llywodraeth Leol wedi'i gynnwys
ar gyfer trafodaeth chwaith. Mynegodd y Cynghorydd McLellan hefyd ei
anfodlonrwydd fod yr eitem ar y Gyllideb i'w thrafod y diwrnod cyn cyhoeddiad y
Gyllideb gan y Llywodraeth. Eglurodd y
Cadeirydd wrth y Cynghorydd McLellan y gallai fod wedi codi'r materion cyn y
cyfarfod gyda naill ai’r Prif Weithredwr neu'r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd. Mynegodd y
Cynghorwyr Stuart Davies ac Arwel Roberts eu bod yn cytuno â datganiad y
Cynghorydd McLellan. Eglurodd yr Aelod
Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant a'r Prif
Weithredwr y sefyllfa o ran BIPBC.
Eglurwyd bod Prif Weithredwr
BIPBC, Trevor Purt, wedi cysylltu â Sir
Ddinbych i fynychu cyfarfod o'r Cyngor ond oherwydd ei fod wedi’i atal dros dro
o’i waith yn ddiweddar, nid oedd y Swyddog Cyfrifol Dros Dro (ARO) yn ymwybodol
o'r ymrwymiad hwn. Roedd cyfarfod Bwrdd CIC wedi ei gynnal y
bore yma a byddai gofyn i'r ARO fod yn bresennol. Roedd
dyddiad 8 Medi 2015 wedi ei awgrymu i'r ARO ond nid oedd ymateb wedi dod eto. Cytunodd
yr Aelodau pe byddai'r ARO yn methu bod yn bresennol ar 8 Medi, yna dylid
cynnal cyfarfod arbennig ar ddyddiad cyfleus i’r ARO. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd y diwrnod cyn y Cyngor yn cael
ei drafod yng nghyfarfod Arweinwyr Grwpiau yr wythnos nesaf ac y byddai'r
ymateb yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cyngor llawn. Byddai'r
drafodaeth ynglŷn ag ad-drefnu Llywodraeth Leol yn cael ei drafod yn dilyn
yr etholiad yn 2016 oherwydd mai dyfalu oedd yn digwydd ar hyn o bryd. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 191 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y
cyfnod rhwng 14.05.2015 a 28.06.2014 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 12 Mai 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai 2015. Eitem 5, Tudalen
11, roedd enw’r Cynghorydd Huw Jones wedi ei sillafu'n anghywir. Ymddiheurwyd
i'r Cynghorydd Jones. Dywedodd y
Cynghorydd Alice Jones ynghylch eitem 7, Tudalen 13 - Cynlluniau Tref, yn y
cofnodion roedd wedi nodi “Eglurwyd
bod fersiwn drafft o Gynllun Tref Bodelwyddan yn derbyn sylw”.
Gofynnwyd y cwestiwn “pam
oedd tref Bodelwyddan wedi’i gadael allan” a'r ateb a roddwyd yn ystod y
cyfarfod, gan y Prif Weithredwr oedd “nid oedd y Cynllun Tref wedi cael sylw ar
yr un adeg â'r lleill yn y sir. Teimlwyd y byddai'n well gadael
Bodelwyddan allan nes bod mater y CDLl wedi ei ddatrys”. Gofynnodd
y Cynghorydd Jones bod y cofnodion yn cael eu diwygio. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y frawddeg yn y cofnodion wedi’i dweud yn y
cyfarfod gan y Prif Weithredwr, y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio ac ef
ei hun, ond roedd y datganiad a ddarllenwyd allan gan y Cynghorydd Jones wedi’i
dweud hefyd yn ystod y cyfarfod. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2015
fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) i roi gwybod am y sefyllfa
ddiweddaraf a nodi'r cynigion yn Nhabl 1, cymeradwyo'r cynigion yn Nhabl 2 a
chynnig pellach a gyflwynwyd gan aelodau etholedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson Hill, yr Adroddiad
Cyllideb (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad ar y broses i ddarparu’r
gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ac i nodi cyfnod nesaf y cynigion ar gyfer y
gyllideb. Roedd yr aelodau
yn ymwybodol o'r broses gyllideb barhaus. Roedd
3 gweithdy cyllideb ychwanegol wedi digwydd. Roedd
y ddau weithdy cyntaf wedi ymdrin ag eitemau a oedd wedi'u gohirio neu wedi eu
cadw am wybodaeth ychwanegol. Yn y gweithdy a gynhaliwyd ar 5 Mehefin
2015, hysbyswyd yr aelodau o'r tybiaethau allweddol o fewn cynlluniau tymor
canolig y cyngor - yn benodol, roeddent yn amlinellu'r ansicrwydd ynghylch
lefel setliadau Grant Cynnal Refeniw y dyfodol. Roedd gweithdai
eraill ynglŷn â’r gyllideb wedi’u trefnu ar gyfer 26 Hydref a 14 Rhagfyr
2015. Wrth i’r broses ar gyfer 2016/17
gael ei datblygu, mae'n debygol y bydd yn angenrheidiol i drefnu mwy o weithdai
yn ystod yr hydref. Roedd lefel
sylweddol o ansicrwydd yn dal i bodoli o ran y Setliad Llywodraeth Leol tebygol
ar gyfer 2016/17 ac roedd hyn yn debygol o barhau dros y misoedd nesaf. Tan
fis Mai 2013, roedd gwerth y Setliadau yn gymharol gyson â'r arwyddion
blaengynllunio a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn 2011. Ers
hynny ni fu unrhyw setliad aml-flwyddyn ac roedd arwyddion wedi newid yn gyson
rhwng ac o fewn blynyddoedd ariannol.
Yn absenoldeb gwybodaeth fwy
dibynadwy am y Setliad, roedd angen i gynlluniau’r gyllideb barhau i ddatblygu
cynigion i gwmpasu amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd. Byddai'r
Setliad Drafft ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi
ddechrau mis Hydref. Roedd aelodau
wedi cael cais i gyflwyno eu cynigion eu hunain fel rhan o'r broses ac roedd
ffurflen wedi’i rhagnodi wedi ei chyhoeddi ar gyfer y diben hwn. Nod
cynnig a gyflwynwyd gan yr aelodau yn y gweithdy ar 5 Mehefin fyddai rhoi'r
gorau i dalu costau teithio i aelodau a oedd yn mynychu cyfarfodydd fel
sylwedyddion. Amcangyfrifwyd y gallai’r cynnig hwn arbed hyd at
£900 y flwyddyn. Nod y broses
gyllidebol oedd sicrhau bod y cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys. Roedd
yn parhau’n broses anodd gyda rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud ar hyd y
ffordd. Roedd ymrwymiad a chefnogaeth aelodau etholedig yn
y broses o wneud penderfyniadau ac archwilio’r broses yn hanfodol. Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl a thrafodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mynegodd y Cynghorydd Colin Hughes bryder ynghylch darpar
doriadau. Cododd y broses o gau Aberchwiler fel enghraifft. Eglurodd
y Prif Weithredwr nad oedd wedi bod yn ymwybodol o unrhyw ddefnyddiwr
gwasanaeth unigol nad oedd wedi cael lleoliad yn dilyn cau Aberchwiler. Roedd
yr holl bobl ddiamddiffyn wedi eu gosod o fewn amgylcheddau gwaith newydd. Eglurodd
y Cynghorydd Richard Davies fod trafodaeth fanwl a oedd wedi para dros 2 ½ awr
wedi digwydd yn y pwyllgor Archwilio Perfformiad Arbennig a gynhaliwyd ar 22
Mehefin 2015. ·
Cadarnhaodd
y Prif Weithredwr fod cyllidebau cytbwys wedi eu gosod. Roedd
72% o doriadau a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn hon eisoes wedi eu rhoi ar waith. ·
Gofynnodd
yr Aelodau fod cynrychiolydd o'r Cyngor Iechyd Cymuned yn bresennol yn y
cyfarfod ynghyd â Swyddog Cyfrifol Dros Dro BIPBC i alluogi cwestiynau a godwyd
gan yr aelodau i gael ymateb manwl, gan y cynrychiolwyr Iechyd a oedd yn
bresennol. Yn y fan hon
(11.00 a.m.) roedd munud o dawelwch i gofio dioddefwyr y bomiau yn Llundain 10
mlynedd yn ôl. Parhaodd y drafodaeth
a thrafodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cadarnhaodd
y Cynghorydd Colin Hughes i'r aelodau nad oedd yn bwriadu hawlio treuliau ar
gyfer unrhyw gyfarfodydd y byddai’n eu mynychu yn y dyfodol. · Gofynnodd yr aelodau fod cofnodion gweithdai’r gyllideb i gofnodi ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 393 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Eglurodd y Prif
Weithredwr y byddai gwahoddiad yn cael ei anfon at Fwrdd PBC i fynychu cyfarfod
y Cyngor sydd i'w gynnal ar 8 Medi 2015.
Os na fyddai PBC yn gallu bod
yn bresennol, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r aelodau a fyddent am i’r eitem
PBC gael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer 8 Medi i
alluogi trafodaeth. Cytunodd yr
Aelodau y byddai'n bwysig i aelod o PBC fod yn bresennol ar 8 Medi ac os oedd y
dyddiad yn anghyfleus iddynt, yna dylai cyfarfod arbennig o'r cyngor gael ei
drefnu ar ddyddiad cyfleus i’r Swyddog Cyfrifol Dros Dro. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 11:40 a.m. |