Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y cysylltiadau hyn ag eitemau busnes i gael eu hystyried yn y cyfarfod.

 

Eitem rhif 4 ar y Rhaglen:- Uno Gwirfoddol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.  Datganwyd cysylltiadau personol gan yr holl Gynghorwyr yn bresennol.  Y rheswm am y datganiadau oedd y goblygiadau priodol ar gyfer Cynghorwyr Sir pe bai eu swyddi yn cael eu hymestyn o ganlyniad i uno.

 

Datganodd y Cynghorwyr S.A. Davies, H. Hilditch-Roberts a D.I. Smith gysylltiad personol ychwanegol ag Eitem 4 ar y Rhaglen oherwydd bod eu partneriaid yn weithwyr yn y Cyngor.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

UNO GWIRFODDOL RHWNG CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY A CHYNGOR SIR DDINBYCH – DATGAN DIDDORDEB pdf eicon PDF 115 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad ynglŷn â’r gwaith a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y Cyngor ar 9 Medi 2014, ac i argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad Diddordeb sydd ynghlwm i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Tachwedd 2014.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) wedi ei ddosbarthu cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu diweddariad ynglŷn â’r gwaith a wnaed ar gyfer yr opsiwn uno gwirfoddol ers cyfarfod y Cyngor ar 9 Medi 2014, ac a oedd yn argymell bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad Diddordeb sydd ynghlwm, Atodiad 2, i Lywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd Tachwedd 2014.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a rhoddodd grynodeb manwl o'r meysydd allweddol canlynol o'r cyflwyniad PowerPoint a ddosbarthwyd gyda'r adroddiad:- 

 

-        Sefyllfa Cyngor Sir Ddinbych

-        Cynnydd ers 9 Medi, 2014.

-        Manylion yn ymwneud â'r Datganiad Diddordeb.

-        Datganiad Diddordeb: Yr Achos dros Uno (1) a (2).

-        Opsiynau ar gyfer cysoni'r Dreth Gyngor.

-        Cyflogau a Graddio Staff.

-        Manteision Uno Gwirfoddol.

-        Risgiau a Chasgliadau.

-        Map Ffordd i Uno Gwirfoddol a'r Camau Nesaf.

-        Argymhellion.

 

Roedd crynodeb o ddatblygiadau pwysig ers cyfarfod y Cyngor ym mis Medi wedi ei ddarparu ac roedd yn cynnwys:-

 

·                 Roedd Cyngor Conwy wedi pasio cynnig tebyg, gan gytuno i ymchwilio i'r opsiwn o uno yn wirfoddol gyda Sir Ddinbych, ar 18 Medi 2014.

 

·                 Roedd LlC wedi cyhoeddi ei 'Brosbectws' ar gyfer uno gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru Gyflwyno Cynigion ar gyfer Uno Gwirfoddol"

 

·                 Cytunodd Sir Ddinbych a Chonwy i gomisiynu CIPFA i gynnal ymarfer arbedion a chostau, Atodiad 1, ac i fynd ymlaen i ddrafftio Datganiad Diddordeb ar y cyd ar gyfer Aelodau'r ddau gyngor i’w ystyried yn eu cyfarfodydd cyngor ar 17 Tachwedd.

 

·                 Roedd Arweinyddion Grŵp yn Sir Ddinbych a grŵp trawsbleidiol yng Nghonwy wedi eu sefydlu i oruchwylio datblygiadau’r uno.

 

·                 Bu trafodaethau gyda swyddogion LlC a chyfarfod lefel uchel gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar 12 Tachwedd 2014.

 

Darparodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r adroddiad gan CIPFA, Atodiad 1, ar Oblygiadau Strategol Uno Cynnar Gwirfoddol rhwng Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych.  Roedd yr adroddiad yn cynghori ar y materion canlynol:-

 

-                    Costau tebygol uno gwirfoddol;

-                      Unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn fabwysiadwr neu arloeswr cynnar;

-                  Manteision ariannol parhaus tebygol a ddaw drwy uno;

-                   Manteision ac anfanteision uno gwirfoddol cynnar.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y Datganiad Diddordeb yn nodi'r Achos dros uno gwirfoddol, ond nid hwn oedd yr Achos Busnes ar gyfer uno.   Ymatebodd i bryderon a fynegwyd gan rai Aelodau a chynghorodd i beidio ag ymrwymo i uno gwirfoddol hyd nes y bydd Achos Busnes llawn wedi ei ddatblygu a’i ystyried yn ofalus, ac yn dilyn hynny gallai Datganiad o Fwriad gael ei gyflwyno.  Amlygodd y Prif Weithredwr y pedwar rheswm pwysig dros gyflwyno Datganiad Diddordeb a mynd ymlaen i ddatblygu Achos Busnes llawn.  Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

(i)              Tebygrwydd rhwng ardaloedd yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Lleol (Datganiad Diddordeb yn manylu yn Atodiad 2).

(ii)             Yr ymarfer costau ac arbedion gan CIPFA (manylion yn Atodiad 1).

(iii)           Annog cymorth cynnar gan LlC.

(iv)           Manteision Uno Gwirfoddol dros Uno Gorfodol.

 

Ar 18 Medi cyhoeddodd LlC ei "Brosbectws" ar gyfer uno gwirfoddol: “Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol".  Roedd y ddogfen braidd yn amwys am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer uno gwirfoddol.  Fodd bynnag, nododd yn galonogol:-

 

“Rydym yn bwriadu sicrhau bod adnoddau ar gael, a’r rheini’n adnoddau penodol sydd ar wahân i’r Grant Cynnal Refeniw, i roi cymorth i uno’n wirfoddol.”           T3.

 

Yn llai calonogol roedd yn nodi " O ystyried y pwysau ariannol difrifol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n afrealistig disgwyl i Lywodraeth Cymru roi chwistrelliadau mawr o arian i gynorthwyo proses  ...  view the full Cofnodion text for item 4.