Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Brian Blakeley, araith gan fyfyrio ar
ei gyfnod fel Cadeirydd ac amlygodd nifer o ddigwyddiadau yr oedd wedi eu
mynychu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Roedd wedi cael
blwyddyn brysur iawn yn mynychu digwyddiadau. Dywedodd ei fod wedi bod yn
anrhydedd cael cynrychioli Sir Ddinbych yn ystod digwyddiadau coffau 100
mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ymweld ag ysgolion a chwrdd â
phobl ifanc wedi ei wneud yn ymwybodol o'r holl waith sydd wedi ei wneud yn y
sir i wella ysgolion. Mynegodd ei
ddiolch i'r Aelodau am ei ethol fel Cadeirydd ar gyfer 2014/15 ac i'r holl
swyddogion a’r staff gweithgar yn Sir Ddinbych am wneud ei flwyddyn fel
Cadeirydd yn bleser. Cyflwynodd y
Cadeirydd sy’n ymddeol y sieciau ar gyfer yr arian a godwyd i wahanol elusennau
yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd: (i)
Derbyniodd
Eluned Yaxley, Rheolwr Codi Arian, siec am £1,250 ar ran Hosbis Tŷ
Gobaith. (ii)
Derbyniodd
Daryl Crowther, Rheolwr Gweithrediadau, siec am £1,250 ar ran RNLI y Rhyl. Yna, fe gyflwynodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol
anrhegion i'w Gaplan, y Parchedig Andy Grimwood, Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau
Democrataidd, y Prif Weithredwr, y Cydlynydd Busnes - Swyddog yr Arweinydd, y
Gweinyddwr Pwyllgorau ac i’r Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau er mwyn
cydnabod eu cefnogaeth yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cadeirydd sy’n ymddeol
am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2015/2016.
Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Gwyneth
Kensler yn Gadeirydd, gan amlinellu'r rhinweddau a’r profiad personol y
byddai’n eu cyfrannu i’r swydd. Eiliodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y
cynnig gan ychwanegu y byddai'r Cynghorydd Kensler yn Gadeirydd rhagorol ar
gyfer y Sir a’i fod yn falch o gefnogi'r enwebiad. Gan nad oedd unrhyw enwebiad arall, ac yn dilyn
pleidlais trwy godi dwylo, etholwyd y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn unfrydol yn
Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2015/2016. Dymunodd y Cadeirydd sy’n ymddeol y gorau i’r
Cadeirydd newydd i’r dyfodol a rhoddodd Gadwyn Swydd y Cadeirydd iddi cyn iddi
lenwi ei Datganiad Derbyn Swydd. Talodd y Cadeirydd newydd deyrnged i waith y
Cadeirydd blaenorol a rhoddodd fathodyn y Cyn Gadeirydd iddo, plac ac anrheg ar
ran y Cyngor. Enwodd y Cadeirydd newydd Gaynor Morgan Rees fel
ei chonsort nad oedd, yn anffodus, yn gallu mynychu cyfarfod blynyddol y Cyngor
Blynyddol oherwydd ymrwymiadau blaenorol. Caplan y Cadeirydd newydd ar gyfer y flwyddyn fydd
y Parchedig Wayne Roberts ac mae’r elusennau a ddewiswyd fel a ganlyn: · Y Samariaid · Mentrau Awtistiaeth · Y Mudiad Meithrin, er cof am Hywyn
Williams. Ar y pwynt hwn, cyflwynodd y Cadeirydd newydd dusw
o flodau i gonsort y Cadeirydd blaenorol i ddiolch iddi am gefnogi’r Cadeirydd
yn ystod y deuddeg mis diwethaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi
Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd
yr Is-gadeirydd. Cynigodd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid ethol
y Cynghorydd Ann Davies yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2015/2016. Cyfeiriodd
at brofiad helaeth y Cynghorydd Davies ac at ei blwyddyn fel Maer Rhuddlan yn
2014/2015. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Arwel
Roberts a bu iddo gyfeirio at waith cymunedol y Cynghorydd Davies. Gan nad oedd unrhyw gynnig arall, ac yn dilyn
pleidlais trwy godi dwylo, etholwyd y Cynghorydd Ann Davies yn unfrydol yn
Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2015/2016. Rhoddodd y Cadeirydd Gadwyn Swydd yr Is-gadeirydd
i’r Cynghorydd Ann Davies a llenwodd y Cynghorydd y Datganiad Derbyn Swydd. Enwodd yr Is-Gadeirydd newydd ei merch, Jane Hugo,
fel ei chonsort. Bu i’r Arweinwyr Grŵp ac Aelodau gydnabod
gwaith y Cadeirydd sy'n ymddeol a llongyfarch y Cynghorwyr Gwyneth Kensler ac
Ann Davies ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd yn y drefn honno. |
|
Ar y pwynt hwn (10.55 a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. Ar y pwynt hwn: (a)
Talodd
y Cynghorydd Eryl Williams deyrnged i Hywyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cwsmeriaid, a fu farw’n ddiweddar. Cafwyd dwy funud o dawelwch er gof amdano. (b)
Bu
i’r Cadeirydd longyfarch y Cynghorydd James Davies ar ddod yn Aelod Seneddol
dros Ddyffryn Clwyd a diolchodd i Chris Ruane am ei holl waith yn ystod y
deunaw mlynedd diwethaf fel Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd. (c)
Bu
i’r Cynghorydd Hugh Jones longyfarch tîm pêl-droed merched dan 16 Prestatyn am
ennill Cwpan Cymru yn y Drenewydd. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn falch
iawn bod y tîm yn dod o ysgol yn Sir Ddinbych. (d)
Talodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill deyrnged i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau, Paul
McGrady, a fydd yn gadael yr Awdurdod Lleol i ddechrau swydd newydd. Soniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill am waith a chyflawniadau Paul yn ystod ei flynyddoedd
yn Sir Ddinbych. Ar ran yr holl Aelodau, dymunodd y Cynghorydd Thompson-Hill y
gorau iddo ar gyfer y dyfodol a diolchodd iddo am ei holl waith caled a phopeth
yr oedd wedi ei wneud ar gyfer Sir Ddinbych. Diolchodd Paul McGrady i’r Aelodau
am eu dymuniadau da. (e)
Rhoddodd
y Cynghorydd Joan Butterfield ddeiseb i'r Cadeirydd ar ran gyrwyr tacsis y Rhyl
a oedd wedi cael tua 600 o lofnodion i gefnogi eu hawl i wisgo trowsusau byr. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r ddeiseb yn
cael ei phasio ymlaen i'r adran berthnasol ac y byddai Pennaeth yr Adran yn
ymateb o fewn yr wythnosau nesaf. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2015. Materion yn Codi - Tudalen 8 Eitem 5 – Cofnodion (Treth y Cyngor a
Materion Cysylltiedig). Cadarnhaodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod llythyr wedi ei anfon at Leighton Andrews
ac i CLlLC yn eu gwahodd i fynychu'r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 9
Gorffennaf, a’n bod yn aros am ymateb ynghylch pwy fyddai'n mynychu. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
DOGFEN GYFLENWI FLYNYDDOL AR GYFER Y CYNLLUN CORFFORAETHOL PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (amgaeir copi) i aelodau
gymeradwyo fersiwn derfynol y ddogfen gyflenwi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) i'r
Aelodau gymeradwyo'r fersiwn drafft terfynol Dogfen Gyflenwi Blwyddyn 4 y
Cynllun Corfforaethol er mwyn ei chyfieithu a'i chyhoeddi. Diolchodd y
Cynghorydd Thompson-Hill i'r Cynghorydd Barbara Smith am y gwaith yr oedd wedi
ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran y Cynllun Corfforaethol. Mae angen
penderfyniad i gymeradwyo fersiwn drafft terfynol o Ddogfen Gyflenwi Blwyddyn 4
y Cynllun Corfforaethol. Mae Dogfen Gyflenwi wedi ei chreu ar gyfer pob
blwyddyn o'r Cynllun Corfforaethol. Diben y Ddogfen Gyflenwi yw amlinellu rhai
o'r prosiectau allweddol a fyddai’n cael eu cychwyn a/neu eu darparu yn ystod y
flwyddyn ariannol ar gyfer pob un o'r 7 blaenoriaeth, gyda'r bwriad o ddangos
sut y mae’r Cynllun Corfforaethol yn effeithio ar y gwaith sy’n cael ei wneud. Amlinellwyd cyfraniad y Cyngor i Gynllun Lles Sir
Ddinbych yn ystod 2015-16.
Byddai'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar y wefan er mwyn i’r rheoleiddwyr, y
cyhoedd a’r partneriaid ei gweld. Cafwyd trafodaeth
a gofynnodd yr Aelodau gwestiynau. Codwyd y materion canlynol: · Cysondeb o'r flwyddyn flaenorol. Dywedwyd
na fu unrhyw sôn, yn y Cynllun Corfforaethol, am waith dylunio Adolygiad
Ysgolion Rhuthun. Eglurwyd fod gwaith ar y gweill ac y byddai gwybodaeth
ychwanegol yn cael ei chynnwys o fewn y Cynllun Corfforaethol i adlewyrchu hyn. · Mae Sir Ddinbych Ddigidol yn dal yn y
broses o gael ei chwblhau ar gyfer ardaloedd gwledig. · Mae Swyddog Arweiniol Strategol y Gymraeg
wedi ei benodi i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau Cymraeg. Cadarnhaodd y
Prif Weithredwr y byddai Strategaeth y Gymraeg yn cael ei hystyried yn
fanylach. · Trafodwyd cyflwr y ffyrdd yn y sir. Cafwyd
strategaeth gyllido 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru. Mae ffynonellau cyllid
pellach yn cael eu harchwilio er mwyn cynnal a chadw’r ffyrdd yn y dyfodol. · Pont Rhuddlan. Mae’r bont yn strwythur
CADW. Nid oes gan CADW unrhyw arian ar gyfer y gwaith atgyweirio sy’n ofynnol.
Yn anffodus, nid oes gan y Cyngor arian ar gael i Sir Ddinbych i gynorthwyo
gyda'r gwaith o atgyweirio’r bont. · Rydym yn aros am ymrwymiad gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer yr ysgol ffydd newydd. Mater arall oedd y safle arfaethedig,
sy’n profi'n ddadleuol. Disgwylir penderfyniad ynghylch hyn. Mae’r ysgol ffydd
yn dal yn flaenoriaeth addysg. · Dywedwyd fod sbwriel a thipio
anghyfreithlon yn y sir yn broblem. Mae Sir Ddinbych yn cyflogi Swyddog Cadwch
Gymru'n Daclus, John Kelly, sydd ar gael i fynychu Grwpiau Ardal yr Aelodau ar
gais. · Cafodd cynlluniau i fyfyrwyr gymryd rhan
ynddynt eu hannog, e.e. Menter yr Ifanc. · Cadarnhawyd bod y Cynlluniau Tref ac Ardal
yn endid ar wahân i'r Cynllun Corfforaethol. Mae cyllideb wedi ei chytuno arni
i sicrhau bod Cynlluniau Tref ac Ardal yn cael eu cyflwyno a’u cyhoeddi. · Mae sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael
eu diogelu ac yn gallu byw mor annibynnol â phosibl yn fater allweddol i Sir
Ddinbych. Mae risgiau yn bodoli oherwydd y sefyllfa ariannol anodd sydd ohoni,
ond mae'r Sir yn benderfynol o amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth a phlant. · Cododd y Cynghorydd Alice Jones faterion
yn ymwneud â Bodelwyddan, yn enwedig gan nad oedd wedi ei gynnwys yn y
Cynlluniau Tref ac Ardal. Eglurwyd bod fersiwn drafft o Gynllun Tref
Bodelwyddan yn derbyn sylw. Cytunwyd y byddai
ychwanegiadau yn cael eu gwneud i'r Ddogfen Gyflenwi Flynyddol cyn ei chwblhau,
ei chyfieithu a’i chyhoeddi. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar y newidiadau uchod a gytunwyd arnynt, bod yr Aelodau yn cymeradwyo
fersiwn drafft o Ddogfen Gyflenwi Flynyddol y Cynllun Corfforaethol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 270 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i Aelodau nodi’r
adroddiad fel rhan o ymdrech y Pwyllgor Safonau i gynyddu safonau ymddygiad
moesegol a chydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ei
Anrhydedd y Barnwr Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, yr Adroddiad
Blynyddol (a gylchredwyd yn flaenorol). Bu i’r Barnwr
Trigger longyfarch y Cynghorwyr Gwyneth Kensler ac Ann Davies ar gael eu
penodi’n Gadeirydd ac Is-gadeirydd yn y drefn honno. Dyma Adroddiad
Blynyddol cyntaf y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Llawn ac mae’n ymwneud â’r
flwyddyn galendr o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2014 yn unig. Bydd Cadeirydd y
Pwyllgor Safonau yn cyflwyno adroddiad yn flynyddol i'r Cyngor Llawn er mwyn
rhoi gwybod i’r Aelodau am dueddiadau, materion o ran cydymffurfio â'r Cod
Ymddygiad Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir a gwaith y Pwyllgor o ran codi
safonau ymddygiad ar lefel y Sir yn ogystal ag ar lefelau Cynghorau Tref, Dinas
a Chymuned. Mae dull
rhagweithiol wedi ei gymryd o ran y gwaith a wneir gan Aelodau'r Pwyllgor
Safonau. Diben mynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref, Dinas a
Chymuned yw cynorthwyo, yn hytrach na beirniadu. Mae Fforwm
Safonau Gogledd Cymru wedi ei sefydlu i rannu arfer da a dysgu oddi wrth
ddulliau ein gilydd wrth godi safonau, rhannu cost unrhyw ddigwyddiad hyfforddi
a datblygu dogfennau a allai gynorthwyo Swyddogion Monitro, fel protocolau
hunan reoleiddio neu weithdrefnau gwrandawiadau safonau. Diolchodd y
Barnwr Trigger i'r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith
caled ar gyfer y Pwyllgor Safonau ac am drefnu a chynnal digwyddiadau hyfforddi
hanfodol. PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau. |
|
PENODI AELODAU LLEYG I’R PWYLLGOR SAFONAU PDF 75 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried
argymhelliad y Panel Penodiadau Arbennig ynghylch y ddau unigolyn i eistedd fel
Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a'r Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad
(a gylchlythyrwyd yn flaenorol) er mwyn i'r Aelodau benodi dau aelod lleyg
annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. Oherwydd
ymddeoliad dau aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau, roedd angen penodi dau
aelod annibynnol newydd. Mae’n ofynnol bod
unrhyw swydd wag ar gyfer aelod annibynnol yn cael ei hysbysebu mewn o leiaf
dau bapur newydd lleol. Sefydlwyd Panel Penodiadau Arbennig ac ymgynghorwyd â'r
holl Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned er mwyn ystyried enwebu aelod o'r Panel. Argymhellodd y
Panel Penodiadau Arbennig mai’r ddau unigolyn mwyaf priodol i eistedd ar y
Pwyllgor Safonau fel aelodau lleyg yw:- (i)
Anne
Mellor (ii)
Julia
Hughes PENDERFYNWYD penodi
Anne Mellor a Julia Hughes yn Aelodau Lleyg Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Ar y pwynt hwn (1.05 p.m.) cafwyd toriad am ginio. Ailddechreuodd y cyfarfod am 2.00 p.m. |
|
Ar y pwynt hwn,
cytunwyd i newid trefn y rhaglen gan fod yn rhaid i’r Cynghorydd Jason McLellan
adael y cyfarfod yn fuan. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 81 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd ac Adnoddau Dynol (copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (Atodiad i ddilyn). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Jason McLellan Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) ar gyfer blwyddyn ariannol
2014/15. Mae’n ddyletswydd
statudol ar y Cyngor, dan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011 i
gael Pwyllgor Archwilio. Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yw pwyllgor
dynodedig y Cyngor ar gyfer y diben hwn. Mae prif feysydd
gwaith y Pwyllgor fel a ganlyn: Ø Rôl Archwilio sy'n ystyried adolygiadau
archwilio mewnol, archwiliadau allanol a’r strategaeth archwilio mewnol. Ø Rheoli Risg. Ø Rheolaeth Ariannol. Ø Adolygu a monitro polisïau meysydd fel
twyll, llygredd a rhannu pryderon. Ø Rheoli Gwybodaeth, ceisiadau Rhyddid
Gwybodaeth a Diogelu Data. Ø Monitro ac adolygu gweithrediad
cyfansoddiad y Cyngor. Ø Monitro a Diweddaru'r Cynllun Gwella
Llywodraethu. Ø Adolygu cwynion a’r polisi cwyno ac
ystyried adborth gan gwsmeriaid. Diolchodd y
Cynghorydd Jason McLellan i bob aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
ac i Paul Whitham (Aelod Lleyg), y Pennaeth Archwilio Mewnol, y Prif Gyfrifydd
ac i Paul McGrady am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. PENDERFYNWYD -
bod yr Aelodau yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU ARCHWILIO’R CYNGOR PDF 134 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2014/2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio (a
gylchredwyd yn flaenorol) i’r Aelodau ei ystyried. Er mwyn
cydymffurfio ag Erthygl 6.3.7 Cyfansoddiad y Cyngor, mae’n rhaid i Bwyllgorau
Archwilio adrodd yn flynyddol i'r Cyngor llawn am eu gwaith a gwneud
argymhellion ar raglenni gwaith y dyfodol a dulliau gweithio diwygiedig os yn
briodol. Byddai dau
fersiwn o'r Adroddiad Blynyddol ar gael - fersiwn cryno a fersiwn llawn. Byddai'r
Adroddiad Blynyddol yn dilyn y fformat cryno fel y cymeradwywyd gan y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio. Byddai hyn yn rhoi trosolwg cryno
i'r darllenydd o sut y mae archwilio yn gweithredu, gwaith a ymgymerwyd gan y
tri Pwyllgor Archwilio ac yn hysbysu trigolion ynghylch sut y gallant gymryd
rhan a chyfrannu at y broses archwilio. Yn ogystal â
chynnwys crynodeb o benderfyniadau pob Pwyllgor Archwilio, mae’r Adroddiad
Blynyddol yn canolbwyntio ar amlinellu gwaith y Pwyllgorau Archwilio o ran
herio cynlluniau'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol erbyn
2017. Yn y dyfodol, y pedwar maes allweddol y bydd y
Pwyllgorau Archwilio yn canolbwyntio arnynt wrth bennu eu rhaglenni gwaith yw: Ø Y blaenoriaethau corfforaethol a
chyflwyno'r Cynllun Corfforaethol. Ø Arbedion yn y gyllideb a'u heffaith ar Sir
Ddinbych a’i thrigolion. Ø Meysydd blaenoriaeth uchel eraill y gall
archwilio ddylanwadu arnynt ac effeithio ar newid. Ø Meysydd eraill brys neu annisgwyl o
flaenoriaeth uchel. PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2014/15 |
|
PENODI I’R PANEL HEDDLU A THROSEDD PDF 130 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i’r Cyngor
benodi un aelod o'r Grŵp Llafur i'r Panel Heddlu a Throsedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a'r Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a
gylchlythyrwyd yn flaenorol) ar gyfer penodi un aelod o'r Grŵp Llafur i
Banel yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (y Panel) am o leiaf un flwyddyn. Mae aelodau’r
Panel yn cynnwys aelodau etholedig o chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru yn
seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol. Oherwydd ymddiswyddiad y Cynghorydd Bill
Tasker mae angen penodi aelod etholedig newydd ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Cynigiodd y
Cynghorydd Peter Prendergast y Cynghorydd Brian Blakeley i wasanaethu ar Banel
yr Heddlu a Throsedd. PENDERFYNWYD penodi’r
Cynghorydd Brian Blakeley i Banel yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (y Panel)
am o leiaf un flwyddyn. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y Cynghorydd Joe Welch y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: Er mwyn arbed arian i Gyngor Sir Ddinbych mae ar y Grŵp Annibynnol
eisiau cynnig bod treuliau aelodau am fynychu cyfarfodydd yn cael eu trafod
ymhellach yn y Gweithdy Cyllideb ar 5 Mehefin 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Joe Welch y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol
ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn: Gyda'r nod o
arbed arian i Gyngor Sir Ddinbych, byddai'r grŵp Annibynnol yn hoffi
cynnig bod treuliau aelodau am fynychu cyfarfodydd yn cael eu trafod ymhellach
yn y Gweithdy Cyllideb ar 5 Mehefin 2015. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at
raglen y Gweithdy Cyllideb ar 5 Mehefin 2015. PENDERFYNWYD bod
y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Grŵp Annibynnol ynghylch trafod
treuliau aelodau am fynychu cyfarfodydd yn cael ei gynnwys fel eitem ar raglen
y Gweithdy Cyllideb ar 5 Mehefin 2015. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 394 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cyngor (a gylchredwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.
|
|
Ystyried
adroddiad i’r Aelodau gymeradwyo Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer y flwyddyn
fwrdeistrefol 2015/2016 (copi i ddilyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol). Mae Deddf
Lleoliaeth 2011 yn gofyn i Awdurdodau Lleol baratoi datganiadau ar bolisïau tâl.
Mae’n rhaid i'r datganiadau hyn fynegi polisïau’r awdurdod mewn perthynas ag
ystod o faterion yn ymwneud â thâl ei weithlu; yn enwedig o ran uwch aelodau
staff (neu "brif swyddogion") a gweithwyr ar y cyflogau isaf. Mae’n
rhaid i’r Cyngor gymeradwyo Datganiadau ar Bolisïau Tâl yn flynyddol, a’u
cyhoeddi ar y wefan berthnasol. Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â hyn. PENDERFYNWYD: I.
Bod y Cyngor yn cytuno ar y Datganiad ar
Bolisïau Tâl ar gyfer 2015/16. II.
Y bydd y Cyngor yn talu’r codiadau tâl
costau byw cenedlaethol blynyddol i Brif Swyddogion pan benderfynir gwneud
hynny yn unol â gofynion cytundebol presennol. III.
Sefydlu Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol i
benderfynu ar daliadau a chydnabyddiaeth i Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor,
sy’n cynnwys y Cyfarwyddwyr a’r
Penaethiaid Gwasanaeth. IV.
Y gall y Prif Weithredwr roi honorariwm o
hyd at 15% o dâl gwirioneddol Penaethiaid Gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy na
12 mis, pan fo gofyn iddynt gyflawni dyletswyddau ychwanegol ar ben eu swyddi
gwirioneddol am gyfnod o amser. Fel arfer, byddai hyn i gyflenwi yn ystod
absenoldeb tymor hir; yn dilyn ailstrwythuro pan fo cyfrifoldeb am wasanaethau
ychwanegol wedi eu rhoi i’r Pennaeth Gwasanaeth; neu gyfrifoldeb am brosiect
mawr y tu hwnt i’w portffolio arferol. |
|
DAETH Y CYFARFOD
I BEN AM 2.50 P.M. |