Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIAD CYSYLLTIAD PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad personol yn Eitem 7 - Cymeradwyo Achos
Busnes Terfynol ar gyfer Ailddatblygu Ysgol Glan Clwyd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Yn y fan hon,
croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Prendergast, i'w gyfarfod cyntaf o’r
Cyngor. Dyma’r Cadeirydd
hefyd yn llongyfarch y Cynghorydd Peter Owen a'i deulu ar ddathlu 63 mlynedd o
Briodas heddiw. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 184 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn y cyfarfod
dosbarthwyd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y
Cadeirydd ar gyfer y cyfnod 27.01.2015 a 27.03.2015. PENDERFYNWYD derbyn
a nodi’r rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y
Cadeirydd. |
|
Derbyn Cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar:- (i)
29 Ionawr 2015 (copi ynghlwm). (ii)
24 Chwefror 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Chwefror a 24 Mawrth 2015. Materion yn Codi - 24 Chwefror, 2015 – Tudalen 15 Eitem Rhif 5 -
Treth y Cyngor a Materion Cysylltiedig. Gofynnodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am ymateb ar ôl i’r mater gael ei drafod gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y mater wedi'i drafod yng Ngrŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio ac fe gytunwyd y byddai'r eitem yn
cael ei chynnwys ar Agenda’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9 Gorffennaf 2015.
Roedd gwahoddiad wedi'i estyn i Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane
Hutt, i ddod i'r cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2015. Hefyd, gofynnodd
y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am ddiweddariad ynghylch â’r llythyr a gafodd
ei anfon at Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu am ddadansoddiad o'r hyn a gyflawnwyd
a’r hyn a fyddai'n debygol o gael ei gyflawni yn seiliedig ar swm praesept yr
Heddlu. Gofynnwyd hefyd am y cynllun gweithredu a
gynhyrchwyd ar gyfer y rhanbarth. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Bobby Feeley bod llythyr wedi’i anfon. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr a 24 Chwefror 2015 fel cofnod
cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi, yn amodol ar yr uchod. |
|
TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR PDF 94 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd (copi ynghlwm) yn argymell bod y Cyngor yn cytuno y bydd y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn gyngor 2015/16 yn cael
eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 12 Mai 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad (a gafodd ei ddosbarthu yn
flaenorol) yn ceisio cytundeb i ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer y
Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16 yn ffurfiol yng nghyfarfod
blynyddol y Cyngor ar 12 Mai 2015. Ceisiwyd am enwebiadau ar gyfer y ddau rôl. Ethol Cadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams, ac eiliwyd
ei gynnig gan y Cynghorydd Hugh Evans, i enwebu’r Cynghorydd Gwyneth Kensler yn
Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16. Ni
wnaed unrhyw enwebiad arall. Diolchodd y Cynghorydd Kensler i’r aelodau
am eu cefnogaeth a chafodd ei llongyfarch ar ei henwebiad. Ethol Is-Gadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland, ac
eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts, i enwebu’r Cynghorydd Ann
Davies yn Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16. Cynigodd y Cynghorydd Joan Butterfield gyda’r
Cynghorydd Bill Tasker yn eilio ei chynnig i enwebu’r Cynghorydd Win
Mullen-James fel Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cynhaliwyd
pleidlais gudd ar gyfer ethol yr Is-Gadeirydd arfaethedig. 23 o bleidleisiau ar gyfer y Cynghorydd Ann Davies
19 pleidlais ar gyfer y Cynghorydd Win
Mullen-James Enwebwyd y Cynghorydd Ann Davies fel yr
Is-gadeirydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16. Diolchodd
y Cynghorydd Davies i’r aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei llongyfarch ar ei
henwebiad. PENDERFYNWYD cynnig y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn
Gadeirydd a’r Cynghorydd Ann Davies yn Is-Gadeirydd ar y Cyngor Sir ar gyfer
blwyddyn y cyngor 2015/16 a’u hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y
Cyngor ar 12 Mai 2015. |
|
CYMERADWYO’R ACHOS BUSNES TERFYNOL AR GYFER AILDDATBLYGU YSGOL GLAN CLWYD PDF 264 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid (copi ynghlwm), yn
argymell cymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr Achos Busnes
Terfynol i Ailddatblygu Ysgol Glan Clwyd. Mae Llywodraeth
Cymru eisoes wedi cymeradwyo Achos Amlinellol Strategol (Mai 2013) ac Achos
Busnes Amlinellol (Hydref 2013) ar gyfer y prosiect hwn. Nawr
mae angen cymeradwyaeth i’r Achos Busnes Terfynol i gael ei ystyried am
gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd prosiect
Ysgol Glan Clwyd yn darparu adeilad ysgol wedi’i ymestyn a’i adnewyddu i ateb y
galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y Sir. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: Ø
Roedd
y prosiect wedi bod yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a
Chyngor Sir Ddinbych. Aelodau a Swyddogion yn Sir Ddinbych yn
teimlo'n gryf iawn am yr iaith Gymraeg ac mae'r prosiect hwn angen ei hyrwyddo
fel "newyddion da". Ø
Mae
hwn wedi bod yn gynllun wyth mlynedd a ffigurau wedi dangos yr angen am addysg
Gymraeg ar gynnydd. Ø
Y
Cynghorydd Dewi Owens yw’r cynrychiolydd lleol ar Fwrdd y Prosiect ac
argymhellwyd bod y Cynghorydd Bill Cowie hefyd yn derbyn copïau o bapurau Bwrdd
y Prosiect. Ø
Mae'r
Swyddog Effeithlonrwydd Amgylcheddol wedi mynychu cyfarfod blaenorol Bwrdd y
Prosiect i egluro gofynion atebolrwydd, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd yn y
dyfodol. Ø
Mae
dyluniad yr ysgol wedi bod o'r pwys mwyaf. Mae’r
ysgol wedi bod yn rhan o'r cynllun.
Ymweliadau ag ysgolion eraill
i archwilio dyluniadau wedi cael eu trefnu. Ø
Mae'r
mater o leihau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer ysgolion iau wedi cael ei
grybwyll. Esboniodd yr Aelod Arweiniol fod yr angen am
addysg cyfrwng Cymraeg o fewn ysgolion uwchradd wedi bod ar gynnydd. Nid
yn unig oedd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bwydo i mewn i'r ysgol uwchradd ond
mae myfyrwyr hefyd o ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion o siroedd sy'n
ffinio. Ø
Mae'r
cynlluniau ar gyfer Ysgol Ffydd newydd ar y trywydd iawn. Roedd
achosion ynglŷn â lleoliad yr ysgol, ond byddai achos busnes yn cael ei
lunio a byddai'r cynnydd yn cael ei wneud erbyn tymor Hydref 2015. Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams yr argymhelliad a mynegodd ei ddiolch
i'r Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, Jackie Walley, a'i thîm am eu holl
waith. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Pleidleisiodd yr Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn: 42 pleidlais o blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell yn unfrydol i'r
Cyngor gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. |
|
PAPUR GWYN LLYWODRAETH CYMRU - DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL: GRYM I BOBL LEOL PDF 107 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar ran y Cyngor cyn y dyddiad cau, sef 28 Ebrill 2015 (atodiadau i ddilyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (wedi'i ddosbarthu'n flaenorol) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ynglŷn ag ymateb drafft i ymgynghoriad ynglŷn â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru i'w gyflwyno ar ran y Cyngor cyn y dyddiad cau ar 28 Ebrill 2015. Roedd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wedi hel ymatebion cynhwysfawr sy'n nodi'r prif faterion yr oedd y Cyngor yn ei groesawu gan roi beirniadaeth adeiladol lle bo'n briodol. Yn ogystal, mae’r ymateb yn nodi'r materion hynny y mae’r Cyngor yn anghytuno â nhw ac a fyddai, ym marn y Cyngor, yn cyfyngu ar allu’r awdurdodau unedig newydd i berfformio'n dda ac i wella. Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth: Ø Gofynnwyd bod cais ysgrifenedig yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ar ran Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn am gost Adroddiad Williams a'r Adolygiad Ffiniau. Ø Roedd yr ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yn cael ei anfon at Aelodau priodol y Cynulliad, yn gofyn am eu cefnogaeth. Ø Argymhellwyd bod yr Aelodau yn anfon ymatebion unigol i Lywodraeth Cymru ynghyd ag ymatebion y Grŵp. Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Evans yr argymhelliad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland. Pleidleisiodd yr Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn: 36 pleidlais o blaid, 1 yn erbyn a 0 yn ymatal. Yn y fan hon hysbysodd yr Arweinydd yr Aelodau o gyfarfod y Cabinet ar y cyd a gynhaliwyd â Chonwy mis diwethaf. Roedd Conwy wedi cysylltu â Sir Ddinbych gyda chynnig o anfon ymateb ar y cyd i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru. Eglurodd y Prif Weithredwr lle roedd y safbwynt rhwng ymateb Sir Ddinbych ac ymateb Conwy yr un fath, y byddai ymateb ar y cyd yn cael ei roi at ei gilydd. Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies yr ymateb ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans. Pleidleisiodd yr aelodau ar y cynnig fel a ganlyn: 29 pleidlais o blaid, 7 yn erbyn a 3 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod (i)
y Cyngor yn cytuno ar yr ymateb i'r
ymgynghoriad drafft a chymeradwyo ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru. (ii)
yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn cael
eu hawdurdodi i drafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr ymateb ar y cyd
ar y materion hynny o gymorth a phryder cyffredin ac os daethpwyd i gytundeb, i
gymeradwyo ymateb ar y cyd yn dilyn ymgynghoriad gydag Arweinwyr y Grŵp. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2015/2016 PDF 116 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd (copi ynghlwm) i sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o
benderfyniadau'r Panel ar gyfer 2015/2016 o ran taliadau i Aelodau ac Aelodau
Cyfetholedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe gyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price adroddiad (wedi’i ddosbarthu’r
flaenorol) i sicrhau bod yr Aelodau yn ymwybodol o benderfyniadau'r Panel ar
gyfer 2015/16 o ran taliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig. Byddai
penderfyniadau'r Panel yn cael eu gwneud yn y Cyngor Blynyddol a gynhelir ar 12
Mai 2015. Gallai aelod
unigol ddewis peidio â derbyn eu lwfans sylfaenol drwy roi'r cais mewn
ysgrifen. Cynigiodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argymhelliad, a eiliwyd gan y Cynghorydd
Martyn Holland. Pleidleisiodd yr
Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn: 34 pleidlais o
blaid, 0 yn erbyn a 2 yn ymatal. PENDERFYNWYD: (i)
Bod yr Aelodau yn mabwysiadu
penderfyniadau’r Panel ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16 mewn perthynas â thalu
Cyflogau Sylfaenol ac Uwch Gyflogau a thaliadau i aelodau cyfetholedig. (ii)
Bod yr Aelodau’n penderfynu ar lefel y
gydnabyddiaeth ariannol a delir i'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd i aros yr un
fath ar gyfer 2014/15 a blwyddyn y cyngor 2015/16. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 298 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, Raglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). PENDERFYNWYD – cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.
|
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12.15 p.m. |