Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Ian
Armstrong, Ray Bartley, Carys Guy, Colin Hughes, Hugh Irving, Barry Mellor,
Dewi Owens, Merfyn Parry, David Simmons a Huw Williams |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol gydag Eitem 6 ar y Rhaglen - Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies - Llywodraethwr Ysgol Trefnant ac Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd
Bobby Feeley - Llywodraethwr Ysgol Stryd y Rhos Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Rhiant a Llywodraethwr Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd
Jason McLellan - Rhiant a Llywodraethwr Ysgol Bodnant Y Cynghorydd Win
Mullen-James - Llywodraethwr Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Christchurch Y Cynghorydd Paul
Penlington - Rhiant a Llywodraethwr Ysgol y Llys Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd mai dim ond
â’r ysgolion hynny a grybwyllir yn yr adroddiad yr oedd angen i aelodau ddatgan
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 3 Chwefror 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015. Cywirdeb - Tudalen 10 Eitem Rhif 6 Cyllideb 2015/16 -
Teimlai’r Cynghorydd Joan Butterfield y dylai'r cofnod gael ei ddiwygio i
adlewyrchu'r drafodaeth ar y gyllideb yn llawn ac i nodi pa gynghorwyr a
gynigiodd gynigion penodol. Dywedodd y Cynghorydd Paul Penlington mai
ef oedd wedi cynnig bod modd ymdrin â’r pedwar argymhelliad ar wahân, nid y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies bod
"fel a ddangosir yn Atodiad 1" yn cael ei ychwanegu at benderfyniad
6(i) fel y cymeradwywyd yn y cyfarfod diwethaf ac er mwyn cysondeb gydag
argymhelliad yr adroddiad. Materion yn Codi - Tudalen 8 Eitem Rhif 6 Cyllideb 2015/16 - Dywedodd
y Cynghorydd David Smith, ers y cyfarfod diwethaf, cafwyd ymatebion gan yr
Aelodau Cynulliad Ken Skates (De Clwyd) ac Ann Jones (Dyffryn Clwyd) ynghylch
symud cyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI) a dyrannu cyllid ar gyfer
ffordd liniaru'r M4. Roedd y ddau Aelod Cynulliad wedi dweud
nad oedd LGBI wedi ei symud i ariannu ffordd liniaru'r M4. Gofynnodd
y Cynghorydd Paul Penlington bod yr ymatebion yn cael eu darllen yn uchel yn
llawn ac yn dilyn trafodaeth fer cytunwyd eu bod yn cael eu dosbarthu i'r
aelodau yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 fel cofnod cywir a bod y
Cadeirydd yn eu llofnodi, yn amodol ar yr uchod. |
|
TRETH Y CYNGOR 2015/16 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 81 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau a’r Pennaeth Refeniw a
Budd-daliadau (copi'n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y
penderfyniadau angenrheidiol er mwyn gosod y lefelau Treth y Cyngor ar gyfer
2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y
penderfyniadau angenrheidiol i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16. Cyfeiriodd
yn benodol at - ·
brif
nodweddion y gyllideb fel a gymeradwywyd ar 3 Chwefror 2015 ·
sylwadau'r Swyddog Adran 151 ar gadernid amcangyfrifon y
gyllideb a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn ·
dadansoddiad
o'r praeseptau gan Gynghorau Tref/Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Gogledd Cymru, ac ·
argymhellion
ar gyfer lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Eryl Williams at y penderfyniadau ariannol anodd a wnaed gan yr
awdurdod a chododd bryderon fod Llywodraeth Cymru yn dyfarnu grantiau amrywiol
ac arian i Gynghorau ar adeg mor hwyr yn y flwyddyn ariannol wrth osod toriadau
llym ar yr un pryd. Roedd y canlyniad yn achosi anawsterau i
Gynghorau sy’n cynllunio eu strategaethau ariannol ac ystyriwyd pe bai cyllid
ar gael dylid ei ddyrannu o flaen llaw er mwyn helpu Cynghorau i gysgodi yn
erbyn y toriadau gwaeth. Nododd yr aelodau ei bod yn arferol i
Lywodraeth Cymru ddyfarnu arian yn 4/6 wythnos olaf y flwyddyn ariannol a
gwnaethant gydnabod yr anawsterau ar gyfer cynllunio ariannol o ganlyniad i'r
dull hwnnw, yn enwedig o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol. Trafododd
yr Aelodau y ffordd ymlaen ac roeddent yn teimlo ei fod yn fater ar gyfer
archwilio adeiladol gyda'r bwriad o newid y ffordd yr oedd cyllid yn cael ei
ddyrannu er mwyn gwella rheolaeth ariannol. O ganlyniad,
cytunwyd bod y mater yn cael ei drosglwyddo i'r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio i gael ei amserlennu'n briodol ar gyfer archwilio. Roedd
y Cynghorydd Stuart Davies yn awyddus i'r Gweinidog perthnasol gael ei alw i
gyfrif, ond rhoddwyd gwybod nad oedd gan yr awdurdod unrhyw rym i alw Weinidog
gerbron y pwyllgor archwilio. O ran y dyraniad diweddar o £1.5m i'w
wario ar offer chwarae erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, rhoddodd y Cynghorydd
Huw Jones sicrwydd bod trefniadau'n cael eu gwneud gyda'r bwriad o wario cyfran
£48k Sir Ddinbych cyn gynted ag y bo modd. Ystyriodd yr
Aelodau y praeseptau gan y Cynghorau Tref / Cymuned a Chomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru a gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley am ddadansoddiad
o'r hyn a gyflawnwyd ac a fyddai'n debygol o gael ei gyflawni yn seiliedig ar swm
praesept yr Heddlu. Cytunwyd i ysgrifennu at Swyddfa
Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer y dadansoddiad hwnnw ynghyd â chopi o'r Cynllun
Gweithredu a gynhyrchwyd ar gyfer y rhanbarth ac awgrymwyd hefyd y gallai
aelodau geisio craffu ar y wybodaeth honno i ganfod beth oedd wedi ei gyflwyno
ar gyfer y praesept. Cafodd yr Aelodau sicrwydd o ddatganiad y
Swyddog Adran 151 lle ystyriodd fod cynigion y gyllideb yn synhwyrol ac yn
gadarn ac yn ddigonol a phriodol o ran y balansau cyffredinol. Yn
olaf, ystyriwyd y lefelau a argymhellir o Dreth y Cyngor a chyfeiriwyd at waith
y Gweithgor Strategaeth Safleoedd Carafanau o ran y potensial i godi refeniw
treth y cyngor ar gyfer blynyddoedd i ddod Nodwyd
unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau y byddai'r canfyddiadau yn cael eu
hadrodd yn ôl i'r Cyngor llawn. Pleidleisiodd yr
Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn - 31 pleidlais o
blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cymeradwyo'r argymhellion canlynol yn unfrydol - (a) bod y Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, yn ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref / Cymuned a datgan lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16; ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2014/15 - 2017/18 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 135 KB I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r
aelodau ar elfen 2014/15 y Cynllun Cyfalaf, a gofyn am gymeradwyaeth y
prosiectau a nodwyd i'w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am
elfen 2014/15 y Cynllun Cyfalaf ac yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cynllun
Cyfalaf 2015/16 ynghyd â phrosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yn unol ag
argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol a dyraniadau cyfalaf sy’n codi o
gynigion adolygiad ardal cynradd Rhuthun. Aeth
â’r aelodau drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at yr adrannau canlynol - ·
crynodeb
o'r Cynllun Cyfalaf Cyffredinol a'r elfen Cynllun Corfforaethol ·
crynodeb
o brosiectau cyfalaf yn ôl maes gwasanaeth a chynlluniau unigol ·
y
wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau cyfalaf mawr ·
argymhellion
y Grŵp Buddsoddi Strategol gan gynnwys y rhesymeg y tu ôl i gyn-ddyrannu
derbyniadau cyfalaf ar gyfer prosiectau penodol, a ·
darpariaeth
gynradd ardal Rhuthun – roedd cyllid yn ei le fel rhan o'r Cynllun
Corfforaethol ond roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer dyrannu
gwirioneddol. Ymatebodd y
Cynghorydd Thompson-Hill i gwestiynau a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar y
Cynllun Cyfalaf a dyraniadau penodol, gan gynnwys cynnydd gyda gwahanol
gynlluniau. Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y
canlynol - ·
cyfeiriwyd
at gymhlethdodau cyllid allanol a chytunwyd i gynnwys briffio i aelodau ar
gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall mewn sesiwn briffio’r Cyngor yn y
dyfodol – roedd y swm o arian allanol a sicrhawyd ar gyfer prosiectau penodol
wedi ei gynnwys yn adroddiadau cyllid misol y Cabinet ·
gofynnwyd
bod Aelodau Lleol yn cael eu gwneud yn gwbl ymwybodol o werthu asedau a derbyniadau
cyfalaf a gynhyrchir yn eu hardaloedd ·
o ran y rhaglen goleuadau stryd, eglurwyd mai bwriad y
cynllun yw disodli llusernau presennol gyda llusernau LED ar sail debyg am
debyg. Er bod y llusernau newydd yn darparu golau
cyfeiriadol o ansawdd gwell gan leihau llygredd golau, derbyniwyd y byddai budd
wrth adolygu darpariaeth bresennol i ganfod a oedd gostyngiad mewn ardaloedd
penodol yn cael ei gyfiawnhau ·
trafodwyd
rhinweddau'r dyraniad dros dro o £1.615m i gyflwyno rhaglen o adfywio trefol
drwy gyflenwad llety busnes modern ac roedd tua 7/8 o gynlluniau yn cael eu
hystyried ar hyn o bryd, gan gynnwys Cil Medw. Cyfeiriwyd
hefyd at y gwaith o drawsnewid yr hen westy Bee & Station yn ofod swyddfa
a'r angen i’r fenter honno gael ei defnyddio'n llawn ·
trafodwyd
y rhesymeg y tu ôl i fuddsoddiad blaenorol, presennol ac yn y dyfodol mewn
ysgolion penodol ynghyd â nod y Cyngor o wella safonau mewn addysg ac adeiladau
ar draws y sir gyfan a chydnabyddiaeth o'r cyflawniadau sylweddol a wnaed
eisoes yn y cyswllt hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf. Rhoddwyd
eglurhad o gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ac er bod y Cyngor
mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda'r cynigion ar gyfer adeiladau ysgol ar gyfer
ardal Rhuthun heb ddibynnu ar gyllid ysgolion yr 21ain ganrif, o ystyried
rhagwelediad a chynllunio'r Cyngor roedd posibilrwydd y gallai cyllid Band A
gael ei sicrhau ar gyfer y prosiectau hynny · wrth ystyried y dyraniadau cyfalaf ar gyfer darpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun, eglurwyd y cynnig ar gyfer y ddwy ysgol (adleoli Stryd y Rhos / Ysgol Penbarras) ar safle a rennir yng Nglasdir. Cafwyd peth trafodaeth am benderfyniad y Gweinidog i wrthod y cynnig i gau Ysgol Llanbedr er gwaethaf dod i'r casgliad bod achos addysgol cydlynol ar gyfer y cynnig a fyddai'n arwain at ddosbarthiad tecach o gyllid ar draws ysgolion y sir. Ymatebodd y Prif Weithredwr i gwestiynau a sylwadau a godwyd yn y cyswllt hwnnw gan gynghori nad oedd yn cytuno â phenderfyniad y Gweinidog ac roedd achos clir o blaid y cynnig. Ni ellid rhoi sicrwydd ynghylch prosesau ymgynghori yn y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) i gymeradwyo
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2015/16 a gosod Dangosyddion Darbodus
2015/16, 2016/17 a 2017/18, ac i nodi adroddiad diweddaru Rheoli’r Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, yr adroddiad
yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys
(DSRhT) 2015/16 a gosod Dangosyddion Darbodus 2015/16, 2016/17 a 2017/18, ac i
nodi adroddiad diweddaru Rheoli’r Trysorlys. Roedd
yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo DSRhT a Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Cafodd yr Aelodau
eu harwain trwy’r DSRhT a oedd yn dangos sut byddai’r Cyngor yn rheoli ei
fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod a hefyd yn gosod y polisïau ar gyfer gweithredu swyddogaeth
Rheoli’r Trysorlys. Roedd hefyd yn cynnwys Dangosyddion
Darbodus sy'n gosod cyfyngiadau ar weithgaredd Rheoli Trysorlys y Cyngor ac yn
dangos bod benthyca'r Cyngor yn fforddiadwy. Tynnwyd sylw
arbennig at bryniant Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn golygu bod y
Cyngor yn benthyca £40m i ddod yn hunan-ariannol a byddai'n arwain at arbedion
sylweddol i'r Cyfrif Refeniw Tai.
Nodwyd bod y DSRhT yn cael ei oruchwylio gan y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac fel Cadeirydd, diolchodd y Cynghorydd
Jason McLellan i swyddogion am eu gwaith caled a phwysleisiodd bwysigrwydd y
ddogfen a oedd yn adlewyrchu doethineb a gofal y Cyngor yn ystod y cyfnod
ariannol cyfredol. Ystyriodd y
Cyngor yr adroddiad a thrafodwyd y materion canlynol - ·
cyfeiriwyd at ddiddymu'r Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus
a gofynnwyd am sicrwydd o ran ei olynydd a benthyca yn y dyfodol - ymatebodd y
swyddogion y byddai angen cymryd diwygio ac ansawdd y gwasanaeth newydd ar
werth enwol ·
trafodwyd effaith marchnadoedd ariannol byd-eang eraill,
gan gynnwys Ardal yr Ewro, y Dwyrain Canol a'r sefyllfa bancio yn America a
rhoddwyd sicrwydd bod y Cyngor yn gwasanaethu'n dda o ran Ymgynghorwyr Rheoli'r
Trysorlys a oedd mewn cysylltiad cyson â marchnadoedd y byd - roedd y DSRhT yn
nodi rhestr o sefydliadau y gallai'r Cyngor fuddsoddi â nhw, ond ar hyn o bryd
ni ystyriwyd ei bod yn ddoeth i fuddsoddi gyda banciau tramor, yn lle hynny
roedd y Cyngor yn buddsoddi mewn banciau penodol yn y DU - fodd bynnag roedd
buddsoddiadau mwy diogel yn arwain at lai o elw ·
roedd cefnogaeth i rywfaint o waith gael ei wneud i
ganfod gwerth am arian o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn datblygu economaidd, yn
enwedig o ran creu swyddi a chyflogaeth yn Sir Ddinbych - croesawodd y
Cynghorydd Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd yr awgrym hwn
gan dynnu sylw at ddull mwy penodol o ymdrin â blaenoriaethau yn y Cynllun
Corfforaethol. Roedd datblygu economaidd yn canolbwyntio ar greu
cyfoeth, swyddi sy'n talu'n dda a chynyddu incwm aelwydydd a dywedodd y byddai
buddsoddiad yr awdurdod yn y maes hwn, ac mewn adeiladau ysgol, yn cael effaith
gadarnhaol ar yr economi. Pleidleisiodd yr
Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn - 30 pleidlais o
blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cymeradwyo - (a) y newidiadau i'r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2015/16
fel y rhestrir yn Atodiad 1 yr adroddiad. (b) gosod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2015/2016, 2016/2017 a 2017/18 fel a
nodir yn Anecs A Atodiad 1 yr adroddiad; (c) y Datganiad Isafswm Darpariaeth Refeniw fel a nodir yn Adran 6 Atodiad 1 yr
adroddiad, a (d) nodi adroddiad diweddaru Rheoli’r Trysorlys 2014/15. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi’n amgaeedig) sy'n gofyn
am benderfyniadau ar faterion yn ymwneud â’r pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad yn cwmpasu nifer o faterion yn ymwneud â’r pwyllgor fel a ganlyn - ·
cymeradwyo
amserlen pwyllgorau ar gyfer 2015/16 ·
adolygiad
blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol ac aelodaeth pwyllgorau ·
penodiadau
i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2015/16, a’r ·
weithdrefn
ar gyfer penodi cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu. Roedd y Cynghorydd Paul Penlington yn siomedig i
nodi nad oedd cyfarfodydd gyda'r nos wedi'u trefnu a dywedwyd wrtho fod yr
amserlen pwyllgorau wedi ei pharatoi yn unol â chanllawiau aelodau. Nodwyd bod rhai sesiynau hyfforddi aelodau
wedi eu cynnal gyda'r nos a chytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i
ddarparu ffigurau presenoldeb ar gyfer y sesiynau hynny ar gais. Er bod ffigurau presenoldeb aelodau ar
gyfer y rhan fwyaf o gyfarfodydd pwyllgor ffurfiol ar gael ar wefan y Cyngor,
derbyniwyd nad oedd presenoldeb mewn cyfarfodydd anffurfiol ar gael. Awgrymodd y Cynghorydd Barbara Smith y
gallai'r wybodaeth hon gael ei chynnwys gan yr aelodau yn eu hadroddiadau
blynyddol. Trafododd yr Aelodau hefyd gydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau a chytunwyd
bod Arweinwyr Grŵp yn cynghori am unrhyw newidiadau yn unol â chydbwysedd
gwleidyddol eu Grŵp. Cytunwyd hefyd fod aelodaeth gyfredol y Pwyllgor Cynllunio yn cael ei gadw
hyd nes y byddai isetholiad De-orllewin y Rhyl wedi ei gynnal ar 19 Mawrth
2015. Pleidleisiodd yr Aelodau ar argymhellion yr
adroddiad fel a ganlyn - 30 pleidlais o blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn - (a) cymeradwyo'r amserlen ddrafft ar gyfer pwyllgorau 2015/16 fel y nodir yn
Atodiad 1 i'r adroddiad, ac (b) ailbenodi’r cadeirydd ac aelodaeth bresennol y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2015 / 2016, yn amodol ar unrhyw newid
a nodir gan y Grwpiau. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 358 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor i'w hystyried a nododd yr aelodau fod
cyfarfod Briffio’r Cyngor ychwanegol wedi ei drefnu ar ôl y Cyngor llawn ar 14
Ebrill 2015. Cytunwyd byddai trefniadau ar gyfer ethol
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor hefyd yn cael eu hystyried yn y Cyngor llawn
ym mis Ebrill. Gofynnodd y Cynghorydd Jason McLellan fod y sesiwn
briffio aelodau ar gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall fel y cytunwyd yn
gynharach yn y cyfarfod yn cael ei threfnu cyn gynted ag y bo modd. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor yn amodol ar yr uchod. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.55pm. |