Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 135 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Jason McLellan a Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol yn Eitem 6 - Cyllideb 2015/16 - 2016/17

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 58 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd ar gyfer y cyfnod 29.11.2014 a 25.01.2015 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 131 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar:-

 

(i)    17 Tachwedd, 2014 (copi ynghlwm).

(ii)  9 Rhagfyr, 2014 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2014.

 

Nododd y Cynghorwyr Joe Welch a Cheryl Williams ill dau eu bod wedi mynychu'r cyfarfod ond nad oedd eu henwau wedi’u cynnwys yn bresennol.

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2013.

 

Holodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts a Meirick Lloyd Davies y ffaith nad yw pob Cynghorydd a gyfrannodd yn ystod y trafodaethau wedi eu crybwyll yn y cofnodion.  Roedd y ddau Gynghorwr o'r farn y dylai eu sylwadau gael eu cofnodi.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'n codi eu pryderon gyda'r Swyddog Monitro a hefyd gyda staff y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD y dylid yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2014  fel cofnod cywir.

 

 

6.

CYLLIDEB AR GYFER 2015/16 pdf eicon PDF 292 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2015/16.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar Gyllideb 2015/16 (Cynigion Terfynol - Cam 3) (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r aelodau gymeradwyo cam olaf y rhaglen o arbedion cyllidebol a mesurau eraill er mwyn cyflwyno’r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cynnwys lefel arfaethedig o gynnydd i Dreth y Cyngor ac yn defnyddio balansau cyffredinol.

 

Yn 2015/16, y targed ar gyfer arbedion fyddai £8.3m.  Mae dau gam cyntaf y broses gyllideb wedi nodi arbedion o £7.3m ar gyfer 2015/16 gan adael bwlch o £1m.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill y newidiadau rhwng y Setliad Drafft a’r Setliad Terfynol a'r effaith ar y bwlch cyllido.  Byddai’r gwahaniaethau yn cyfrannu £473k i’r gofyniad arbed ar gyfer 2015/16.

 

Fel rhan o gyllideb 2014/15, cytunwyd fel mesur untro i ddefnyddio balansau cyffredinol o £500k i lenwi'r bwlch yng ngofyniad cyllido'r cyngor.  Yng ngweithdy cyllideb mis Rhagfyr 2014, cyflwynwyd i’r aelodau gynnig ar gyfer defnydd parhaus o £500k i ariannu'r gyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf a dyma’r aelodau hynny a oedd yn bresennol yn ailadrodd eu barn i roi blaenoriaeth i'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn y rowndiau cyllideb yn y dyfodol. 

 

Roedd yr aelodau hynny a oedd yn bresennol yng ngweithdy cyllideb mis Rhagfyr 2014 hefyd yn cefnogi yn anffurfiol y cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor o 2.75%.  Dyma'r ffigur cynllunio sylfaenol a ddefnyddiwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Tir y Cyhoedd, i aelodau'r Cyngor, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Eryl Williams yn y Cabinet, ei fod wedi ysgrifennu at saith Aelod Cynulliad Gogledd Cymru (ACau).  Roedd y Cynghorydd Smith wedi gofyn safbwynt yr ACau ynglŷn â’r effaith y byddai cael gwared ar y cyllid grant sy'n gysylltiedig â Chynllun Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI) ar gyfer buddsoddi yn ei gael ar gynnal a chadw ffyrdd.  Mae'r cyllid wedi galluogi Awdurdodau Lleol i fuddsoddi symiau sylweddol o gyfalaf i wella isadeiledd priffyrdd a oedd wedi helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o ddirywiad.  Heb y cyllid, byddai cyflwr y ffyrdd yn dirywio ar raddfa cyflym iawn a fyddai'n cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd a'r economi leol.

 

Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Smith am safbwynt yr ACau ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer ffordd liniaru'r M4.  Gofynnwyd am ymatebion erbyn 29 Ionawr.  Ar yr un adeg lle cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor, roedd y Cynghorydd Smith wedi derbyn pedwar ymateb ysgrifenedig ac un ymateb ar lafar.  Roedd ymatebion eto i gyrraedd gan Ken Skates (AC De Clwyd) ac Ann Jones (AC Dyffryn Clwyd).

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

i)             Cododd yr Aelodau bryderon ynglŷn â’r effaith ar drigolion Sir Ddinbych oherwydd y toriadau yn y gyllideb.  Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod Grŵp Archwilio Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu i graffu ar asesiadau effaith. Mae'r asesiadau effaith hefyd i gynnwys amddifadedd yng Nghymru.  Byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 5 Chwefror i weithio drwy’r 20 eitem mwyaf cymhleth yn y gyllideb. 

ii)            Mae'r mater ‘Cartrefi Gofal’ wedi cael ei drafod yn y Cabinet.  Unwaith eto, ailadroddodd y Prif Weithredwr bod anghenion y trigolion yn  hollbwysig.  Oni bai y gellid dod o hyd i ddewis arall addas, ni fyddai Cartrefi Gofal yn cael eu cau. 

iii)           Toriadau i gyllidebau ysgolion.  Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan ddiddordeb yn yr eitem hon gan fod ei fab yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Oherwydd bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd yn dirywio, byddai cyllid i'r ysgolion perthnasol yn gostwng yn unol â hynny.  Os yw  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 283 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes).

 

PENDERFYNWYD – cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12pm.