Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Ann Davies, Richard Davies a Margaret McCarroll.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Colin Hughes gysylltiad sy’n rhagfarnu, gan fod ei bartner yn gweithio gyda'r Tîm Hawliau Lles, yn eitem 6 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd ar ran y Grŵp Llafur.

 

Roedd y Cynghorwyr Stuart Davies, Meirick Lloyd-Davies, Huw Hilditch-Roberts, Paul Penlington, Arwel Roberts, David Simmons a Cefyn Williams i gyd yn datgan cysylltiad personol yn eitem 7 - Cyllideb 2015/16 a 2016/17 (partneriaid/perthnasau yn gweithio i'r Awdurdod).

 

Roedd y Cynghorwyr Raymond Bartley, Colin Hughes, Huw Jones, Martyn Holland, Gwyneth Kensler, Jason McLellan, Julian Thompson-Hill a Huw Williams yn datgan cysylltiad personol yn eitem 9 - Adolygu Lleoedd Pleidleisio (cysylltiadau gyda Chanolfannau Cymunedol).

 

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 13 - Cytundeb Gwirfoddol i Adael y System Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (Tenant Cyngor).

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 55 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Hydref 2014 a 28 Tachwedd 2014 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau ei fod wedi bod yn fis prysur a chyfeiriodd hwy at ei flog ar-lein am fwy o wybodaeth a lluniau o'r digwyddiadau a fynychwyd y mis diwethaf.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 4 Tachwedd 2014 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2014. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2014 fel cofnod cywir.

 

6.

RHYBUDD O GYNNIG

I ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Grŵp Llafur.

 

“Bod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor llawn ar 9 Medi, 2014 dan eitem agenda 12 - Cyllideb 2015/15 2016/17 - yn arbennig y cynigion arbedion yn ymwneud â Hawliau Lles yn Atodiad 1 yn cael ei roi o'r neilltu.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymerodd yr Is-gadeirydd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y Gadair ar gyfer yr eitem hon gan fod y Cynghorydd Blakely wedi bod yn llofnodwr ar y Rhybudd o Gynnig.

 

Roedd y Cynghorydd Colin Hughes wedi datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn y cyswllt hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jason McLellan y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Grŵp Llafur: -

 

“Bod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor llawn ar 9 Medi 2014 dan eitem 12 ar y rhaglen - Cyllideb 2015/16 2016/17 - yn arbennig y cynigion arbedion sy’n ymwneud â Hawliau Lles yn Atodiad 1 i gael ei roi o'r neilltu."

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd McLellan bod y cynnig yn ymwneud â gosod cynigion o'r neilltu i'r graddau y maent yn gymwys i'r Tîm Hawliau Lles (THLl) yn unig.

 

Hysbysodd y Cynghorydd McLellan y Cyngor:

 

·        Roedd y THLl yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion Sir Ddinbych a oedd am wahanol resymau wedi dioddef amser o galedi. Mae'r THLl wedi cynhyrchu dros £5 miliwn o incwm ychwanegol i'w gleientiaid ac wedyn i'r economi leol yn y flwyddyn flaenorol. Ar ben hynny, mae cannoedd o deuluoedd wedi dod allan o dlodi - yn enwedig tlodi tanwydd (a ddiffinnir fel mwy na 10% o incwm y cartref yn cael ei wario ar gostau ynni) - o ganlyniad i gyngor a gafwyd gan y THLl.

·        Roedd adroddiad diweddar a gynhyrchwyd gan y Cyngor ar Bopeth (CAB), sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r THLl, yn nodi Sir Ddinbych fel y lle gyda phroblemau dyledion mwyaf yn y DU. Mae’r CAB yn ymgymryd â’r holl gyngor ar ddyledion ar hyn o bryd. Y disgwyl yw y bydd y CAB yn gyfrifol am yr holl gyngor lles os bydd Sir Ddinbych yn rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth gan y THLl, gan arwain at fwy o risg o bwysau ar y CAB.

·        Gan gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd i Aelodau mewn cyfarfodydd gweithdy cyllideb dros yr haf ynghylch yr arbedion posibl o £200 mil mewn Hawliau Lles. Y dewis a drafodwyd yn y cyfarfod oedd y posibilrwydd o allanoli’r  gwasanaeth. Daeth yn amlwg yn ddiweddarach bod opsiynau eraill a allai ddarparu arbedion nad oeddent wedi eu cyflwyno yn y cyfarfod.

·        Dylid ystyried y risgiau y gallai rhoi'r gorau i’r gwasanaeth THLl ei achosi, gan gynnwys y gostyngiad posibl mewn cyllid o Gytundeb Canlyniadau Llywodraeth Cymru - sy'n cael ei gyfrifo yn rhannol ar symud pobl allan o dlodi. Cynigiwyd bod y Cyngor yn ailystyried arbedion effeithlonrwydd posibl y Tîm Hawliau Lles gan ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael gyda golwg ar gytuno ar fodel darparu â llai o risg.

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor, Hugh Evans sut y gallai'r cynnig gael ei ystyried gan y Cyngor o gofio nad oedd yn ymddangos yn dilyn y protocol a dderbynnir, lle y dylai dulliau ariannu amgen gael eu cynnig lle na ellid cytuno ar benderfyniadau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod Cyfansoddiad y Cyngor yn darparu, o dan adran 13.1 o'r Rheolau Sefydlog, y gall cynnig gael ei wneud i ddiwygio neu ddiddymu penderfyniad blaenorol os yw'n cael ei lofnodi gan o leiaf 10 aelod. Ar ben hynny eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y dylai'r protocol dros gynnig newidiadau i argymhellion y gyllideb gynnwys opsiynau ariannu amgen (i gynyddu ei siawns o ystyriaeth ffafriol gan y Cyngor), ond ni fyddai cael dewisiadau eraill yn atal Aelodau rhag cynnig newidiadau.

 

Cyfaddefodd y Cynghorydd McLellan, er bod y protocol wedi cael ei gytuno gan y Cyngor nad oedd wedi pleidleisio ar ei gyfer ac roedd wedi codi pryderon am y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYLLIDEB 2015/16 - 2016/17 pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried adroddiad gan Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn argymell arbedion cyllidebol i’w cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell arbedion cyllidebol Cam 2 i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa gyfredol y gyllideb ac yn manylu ar y cynigion diweddaraf i ganfod arbedion sy’n dod i gyfanswm o £3.6 miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17. Atgoffwyd y Cyngor bod yna ddyletswydd gyfreithiol i osod a chyflwyno’r gyllideb.

 

Roedd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau yn croniclo cynnydd yr arbedion arfaethedig a restrwyd yn atodiad 1. Dechreuodd y broses yn Ebrill 2014 gyda chyfres o 17 o gyfarfodydd cyllideb Gwasanaeth yn edrych ar ganfod arbedion posibl. Cafodd meysydd a nodwyd yn y cyfarfodydd hynny eu cyflwyno i weithdai cyllideb - 9 i gyd hyd yn hyn – i Aelodau ystyried y cynigion a gyflwynwyd. Yn y gweithdai hynny cyflwynwyd 3 dewis i’r Aelodau:

 

1.    mabwysiadu - cynnig i ddod i'r Cyngor llawn nesaf i'w gymeradwyo;

2.    datblygu – gofynnwyd am ragor o wybodaeth a dod yn ôl i weithdy cyllideb arall ym mis Hydref, ac os derbynnir, y Cyngor llawn yn nes ymlaen;

3.    gohirio - i beidio â bwrw ymlaen ar y pryd.

Roedd 3 phwynt penderfyniad allweddol; Cyngor llawn ym mis Medi, cyfarfod heddiw a gosod y gyllideb yn ffurfiol ym mis Chwefror 2015. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer y cyfnod pontio sydd ei angen i sicrhau y gall yr arbedion gael eu gweithredu o 1 Ebrill 2015.

 

Asesiadau Effaith wedi cael eu llunio o ymgynghoriadau, gan gynnwys:

 

·        Cyfarfodydd pwyllgorau archwilio yn gwerthuso cynigion yn atodiad 1 (teledu cylch cyfyng a Darparwyr Gwasanaethau).

·        Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu'r broses cynllunio ariannol ac wedi ei gymeradwyo.

·        Cafodd ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd o'r enw "Torri'r Gôt yn ôl y Brethyn" ei lansio ym mis Hydref er mwyn asesu effaith y toriadau ar y gymuned.

·        Cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned i drafod y posibilrwydd ohonynt yn cyllido rhai gwasanaethau.

·        Bwrdd Gwasanaethau Lleol, CGGSDd a phartneriaid eraill wedi bod yn rhan o drafodaethau lle gall newidiadau effeithio arnynt.

·        Undebau Llafur a gweithwyr.

·        Cafodd manylion effaith gronnus yr holl arbedion arfaethedig eu dangos yn atodiad 6. Pe cytunwyd ar yr holl gynigion yna gellir parhau i amddiffyn ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a meysydd blaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol.

 

Disgrifiodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch yr arbedion arfaethedig. Roeddent yn cynnwys postio ar wefan Sir Ddinbych a chyfryngau cymdeithasol; sesiynau briffio’r wasg leol; lleoliad paneli arddangos a chopïau papur o'r cynigion ym mhob derbynfa, mannau dinesig a rheng flaen a chyhoeddi sesiynau briffio staff rheng flaen yn rheolaidd i ymgysylltu â'r trigolion.

 

O'r adborth a dderbyniwyd y 5 pryder mwyaf oedd:

1.    Tipio anghyfreithlon

2.    Lleihau arian ar gyfer plant ag anableddau

3.    Cynnal a chadw priffyrdd / dirywiad yng nghyflwr y ffyrdd

4.    Newidiadau i ddarpariaeth seicoleg addysg / cwnsela

5.    Rhoi’r gorau i ddarparu cyllid ar gyfer Gwasanaeth Cerddoriaeth William Mathias

 

Awgrymiadau a dderbyniwyd yn cynnwys:

1.    Rhoi'r gorau i ariannu sefydliadau allanol

2.    Cysylltu â busnes preifat ar gyfer defnyddio cyfleusterau cyhoeddus

3.    Cynghorau Tref a Chymuned i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am ardaloedd chwarae

4.    Lleihau gwasanaeth goleuadau stryd

5.    Croesfannau pelican neu wirfoddolwyr yn lle talu hebryngwr croesfan ysgol.

Roedd y tîm Cyfathrebu yn rhaglennu amrywiaeth o weithgareddau cyfathrebu i gefnogi rhoi'r cynigion ar waith - gan gynnwys ymgynghoriadau ffurfiol ar gyfer rhai sydd eu hangen e.e. cludiant i deithwyr a darpariaeth gwasanaeth gofal dydd ayyb.

 

Eglurodd y Swyddog Gwella Corfforaethol effaith gyffredinol y cynigion a nodir yn fanwl yn atodiad 6.  Mae'r papur yn canolbwyntio ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHEOLAU’R GWEITHDREFNAU GONTRACTAU pdf eicon PDF 81 KB

Ystyried adroddiad gan Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm), yn argymell y dylid cymeradwyo a mabwysiadu Rheolau'r Weithdrefn Gontractau diwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymddiheurodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau am beidio â dod â'r ddogfen Rheolau Gweithdrefn Contractau (CPR) a adolygwyd i'r Cyngor yn gynt ond roedd yn ddogfen dechnegol gymhleth a oedd i fod yn addas at y diben. Roedd crynodeb o'r newidiadau i'r polisi yn atodiad 2. Pwrpas y CPR yw diogelu lles Sir Ddinbych a gwneud trafodion mor hawdd â phosibl ar gyfer darparwyr.

 

Roedd newidiadau sylweddol i'r polisi presennol yn cynnwys:

 

·        Adran 10.3 Eithriadau Tendr, lefelau newydd yn y broses gymeradwyo lle gallai'r Aelod Arweiniol gymeradwyo gwerthoedd rhwng £1 miliwn a £2 filiwn. Gwerthoedd mwy na £2 filiwn angen cymeradwyaeth gan y Cabinet.

·        Adran 11 Rhestrau Cymeradwy, Dim ond contractau hyd at £25 mil am nwyddau a gwasanaethau neu £245 mil ar gyfer gwaith a fyddai'n cael eu cynnwys. Byddai rhestrau cymeradwy yn cael eu diddymu'n raddol erbyn Ebrill 2016

·        Adran 15 Caffael Cynaliadwy, byddai'n rhaid i bob contract dros £2 filiwn ystyried cymalau budd cymunedol.

·        Adran 16 - 20 Lefelau Contract a gyhoeddwyd; gwerthoedd hyd at £10 mil fel un dyfynbris, byddai £10mil i £25 mil angen 3 dyfynbris a dros £25 mil angen hysbyseb cyhoeddus.

·        Byddai Tendrau Adran 27 dros £100 mil yn cael eu seilio ar bris ac ansawdd.

·        Dyfarniadau Tendr Adran 29 yn debyg i ofyniad cymeradwyo eithriadau tendro lle gallai'r Aelod Arweiniol gymeradwyo gwerthoedd rhwng £1 miliwn a £2 filiwn. Gwerthoedd mwy na £2 filiwn angen cymeradwyaeth gan y Cabinet.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd roedd rhai aelodau yn mynegi rhwystredigaeth a fynegwyd gan rai perchnogion busnesau bach yn eu wardiau a oedd yn cael anhawster mynd ar y rhestr contractwyr cymeradwy a'r fiwrocratiaeth / gwaith papur sy'n ymwneud â chystadlu am fusnes. Awgrymwyd lle gallai busnesau lleol ddarparu nwyddau a/neu wasanaethau am y pris cywir y dylid eu dyfarnu yn y Sir lle bynnag y bo modd.

 

Hysbyswyd y Cyngor bod y ffordd y mae'r rhestr gymeradwy yn gweithio ar hyn o bryd yn golygu bod yna nifer o gwmnïau ar y rhestr a oedd yn golygu nad oedd cwmnïau unigol yn cael llawer o waith. Bwriad y fframwaith newydd oedd cynnal cronfa lai o fusnesau a all yna gynllunio yn unol â hynny.

 

Ni allai'r Awdurdod wahaniaethu yn erbyn busnesau y tu allan i'r Sir, ond gallai nodi mewn cytundebau lefel gwasanaeth bod angen amser ymateb o 1 awr.

 

 Disgrifiodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau'r newid i gytundebau fframwaith lle byddai fframwaith yn cael ei hysbysebu am 3 blynedd e.e. ar gyfer mân waith. Gallai unrhyw un a oedd am fod ar y fframwaith hwnnw wneud cais ar yr adeg honno. Byddai busnesau lleol yn cael eu hannog i enwebu eu hunain.  Yna, pan wahoddir tendrau, byddai'r busnesau ar y fframwaith yn cystadlu ymysg ei gilydd.

 

Byddai'r fframweithiau hyn yn cael eu cynnal ar system TG a fyddai'n rhoi gwybod i'r busnesau yn awtomatig pan oedd yna gyfle i dendro. Mae'r fframwaith TG yn symleiddio'r broses ar gyfer cyflenwyr a negyddu’r gofyniad am waith papur gormodol. Gallai cyflenwyr hefyd ymgysylltu â’r Awdurdod yn electronig, cael gwybod lle mae eu taliadau ac ati.  Gallai’r system hefyd gael ei ddefnyddio i reoli perfformiad cyflenwr.

 

PENDERFYNWYD bod Rheolau’r Weithdrefn Gontractau diwygiedig yn cael eu derbyn a’u defnyddio gan holl adrannau’r Cyngor.

 

 

9.

ADOLYGU DOSBARTHIADAU ETHOLIADOL A MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm), ynglŷn ag adolygiad statudol mannau pleidleisio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghylch y gofyniad statudol i adolygu mannau pleidleisio bob 4 blynedd.

 

Cafodd hysbysiad ymgynghoriad ei gyhoeddi ar wefan Sir Ddinbych a'i ddosbarthu i bartïon â diddordeb. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau ar strwythur yr ardaloedd pleidleisio presennol. Gydag un eithriad, roedd y sylwadau o blaid y trefniadau presennol ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eu hunain (yr holl sylwadau wedi eu cofnodi yn atodiad 2 i'r adroddiad). Roedd Swyddogion Canlyniadau 3 etholaeth seneddol Sir Ddinbych i gyd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon ar y trefniadau presennol.

 

Roedd Cyngor Tref Dinbych wedi gofyn am orsaf bleidleisio agosach yn y Ward Ganolog i drigolion ar gyfer y rhai yn rhan isaf y rhanbarth yn ardal Townsend, Stryd y Dyffryn.  Ystyriwyd y cynnig yn ofalus, ond daethpwyd i’r casgliad y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rannu’r ardal ganolog yn 2 ardal bleidleisio. Ar ôl adolygu'r nifer a bleidleisiodd a'r pleidleisiau post ar gyfer etholiadau blaenorol (atodiad 3) daethpwyd i'r casgliad nad oedd lleoliad yr orsaf bleidleisio bresennol yn Eirianfa yn ffactor niweidiol ac na fyddai'r cynnig yn hyfyw o safbwynt ymarferoldeb neu gost. Fel arall roedd y sylwadau a dderbyniwyd o blaid cynnal y trefniadau presennol.

 

PENDERFYNWYD bod y trefniadau presennol ar gyfer ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio yn cael ei gytuno.

 

 

 

10.

PENODI I’R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 82 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democratiaeth (copi ynghlwm), i benodi Cynghorydd Sir i’r Pwyllgor Safonau a phenodi Aelodau’r Cyngor i Banel Penodiadau Arbennig y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd adroddiad mewn perthynas â swyddi gwag ar y Pwyllgor Safonau. Roedd dwy swydd i'w llenwi - un i Bwyllgor Safonau'r Cyngor ac un i Panel Penodiadau Arbennig y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Barry Mellor yn cael ei benodi i Bwyllgor Safonau a Phanel Penodiadau Arbennig Pwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 293 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor i’w hystyried.

 

Nododd yr Aelodau -

 

·        Byddai yna sesiwn briffio cynllunio cyn y Gweithdy Cyllideb ar 12 Rhagfyr.

·        Byddai sesiwn Briffio’r Cyngor ar 19 Ionawr yn gyfarfod ffurfiol y Cyngor i ddechrau er mwyn cytuno ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor yn amodol ar yr uchod.

 

 

12.

PARTNERIAETH FASNACHOL REFENIW A BUDD-DALIADAU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) ynglŷn â chynigion i ffurfio partneriaeth fasnachol gyda chwmni preifat i ddarparu Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau’r Cyngor.

 

Cofnodion:

EITEM RHAN 2

 

PENDERFYNWYD, yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o’r cyfarfod wrth drafod y materion canlynol oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf, ei datgelu.   

 

 Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau'r adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd yn barod) ynglŷn â chynigion i ffurfio partneriaeth fasnachol gyda chwmni preifat i ddarparu Gwasanaeth Refeniw a Budd-Daliadau’r Cyngor.

 

Mewn trafodaeth fanwl, ystyriodd y Cabinet y dadansoddiad dewisiadau a ddarparwyd gogyfer â'r gwasanaeth a'r rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion i ymrwymo i bartneriaeth fasnachol gan gynnwys y manteision hynny dros y dewisiadau amgen, yn enwedig o ran arbedion a’r cyfle ar gyfer twf.

 

Rhoddodd cynrychiolwyr Civica gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gwestiynau'r aelodau ynglŷn â’r model arfaethedig a’r cynlluniau i'r dyfodol pe byddai’r bartneriaeth yn mynd rhagddi, gan ddarparu sicrwydd ynghylch eu hymrwymiad i Sir Ddinbych o ran staffio a lleoliad; eu darpariaeth Gymraeg a’u hymrwymiad i ddilyn polisïau a gweithdrefnau presennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno ar y bartneriaeth arfaethedig a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol a'r Pennaeth Cyllid ac Asedau i drafod telerau terfynol y contract.

 

 

13.

CYTUNDEB GWIRFODDOL I ADAEL Y SYSTEM CYMHORTHDAL CYFRIF REFENIW TAI (HRAS)

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) ynglŷn â chytundeb gwirfoddol Cyfrif Refeniw Tai Hunan Gyllidol gyda Llywodraeth Cymru a Thrysorlys ei Mawrhydi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau'r adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo cytundeb gwirfoddol i adael y system cymhorthdal cyfrif refeniw tai (HRAS).

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cerrig milltir allweddol ar gyfer gadael system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai ac yn rhoi trosolwg o'r cytundeb gwirfoddol sydd i’w lofnodi rhwng yr un ar ddeg awdurdod sy’n meddu ar stoc dai a Llywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i adael y system.

 

Ymgyfarwyddodd yr Aelodau â’r cytundeb cydweithredol a chroesawu buddion y system arfaethedig newydd a'r manteision ariannol ar gyfer Sir Ddinbych. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â goblygiadau ariannol gadael y system ynghyd â’r buddsoddiad posibl mewn stoc tai fforddiadwy i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD  bod y Cyngor yn-

 

(a)       cymeradwyo'r cytundeb gwirfoddol i adael y system HRAS, a

 

(b)       dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau ac i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwblhau manylion y cytundeb mewn trafodaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deg awdurdod arall yng Nghymru sy’n meddu ar stoc.