Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
James Davies, Carys Guy, Hugh Irving, Jason McLellan, Dewi Owens a Cheryl
Williams |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 60 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ymrwymiadau dinesig
yr ymgymerodd â nhw ar ran y Cyngor dros y cyfnod 29 Medi – 24 Hydref 2014
(dosbarthwyd manylion am y rhain yn flaenorol). PENDERFYNWYD nodi’r
digwyddiadau roedd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi bod yn bresennol ynddynt. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 7 Hydref 2014 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2014. Materion yn Codi - Tudalen 15 Eitem 8 Rhaglen Waith y Cyngor Sir –
Rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ganmoliaeth i’r Tîm Gweithredol ar y
strategaeth ymgysylltu a lansiwyd mewn ymateb i'r toriadau yn y gyllideb sy'n
wynebu'r awdurdod. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2014 fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 293 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor i’w hystyried. Nododd yr Aelodau
fod ·
Sesiwn
Friffio'r Cyngor a drefnwyd ar gyfer 2.00pm ar 17 Tachwedd wedi cael ei disodli
gan gyfarfod Arbennig y Cyngor i ystyried y cynigion ar gyfer uno Cynghorau Sir
Ddinbych a Chonwy yn wirfoddol ·
byddai
eitemau a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer Sesiwn Friffio’r Cyngor ar 17 Tachwedd
yn cael eu haildrefnu ar gyfer mis Ionawr neu fis Mawrth – newidiwyd enw’r
eitem ar Foderneiddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ‘Cefnogi Annibyniaeth yn
Sir Ddinbych’ ac roedd angen awr o slot ar ei gyfer ·
trefnwyd
Gweithdy Cyllideb yr Aelodau ar gyfer 12 Rhagfyr. Gofynnodd y
Cynghorydd Joan Butterfield i gael ychwanegu 'Rheoli Traethlin Amddiffynfeydd
Môr’ fel eitem ar y rhaglen waith i’w hystyried yn y dyfodol. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor yn amodol ar yr uchod. |
|
CYNLLUN LLES SIR DDINBYCH 2014-18 - CEFNOGI ANNIBYNIAETH A GWYTNWCH PDF 172 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Tîm Partneriaethau a Chymunedau (copi’n amgaeedig) sy'n
rhoi manylion Cynllun Lles Sir Ddinbych, Cefnogi Annibyniaeth a Gwydnwch, cyn
ei gyhoeddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd
a’r Pennaeth Gwella a Moderneiddio Busnes Gynllun Lles Sir Ddinbych 2014-18: Cefnogi
Annibyniaeth a Gwytnwch (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w gadarnhau gan y
Cyngor. Byddai'r Cynllun
Lles yn disodli'r Cynllun MAWR ac yn adlewyrchu ymrwymiad y sector cyhoeddus i
wella canlyniadau yn Sir Ddinbych trwy ganolbwyntio ar annibyniaeth a gwytnwch. Rhoddwyd
ystyriaeth i sicrhau’r effaith fwyaf posibl gan ystyried cyfyngiadau ariannol
ac anghenion trigolion. Datblygwyd y Cynllun ar ran y sector
cyhoeddus a gynrychiolir gan Gyd-Fwrdd Gwasanaethau Lleol Conwy a Sir Ddinbych. Roedd
ei gyflawniad a’i lwyddiant yn dibynnu ar gyfranogiad partneriaid a gofynnwyd
felly am gymeradwyaeth gan bob partner. Amlinellodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, Cadeirydd y Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau'r ddadl archwilio ar y Cynllun. Roedd
yn falch o nodi bod llawer o’r materion a godwyd gan archwilio wedi cael sylw
yn y Cynllun fyddai’n cael ei arolygu’n fanwl. Ailadroddodd
y Cynghorydd Eryl Williams ei gais blaenorol i gynnwys canfyddiadau yn yr
adroddiad pan fo materion wedi cael eu harchwilio. Rhoddodd aelodau
ystyriaeth i’r adroddiad a chymryd y cyfle i godi cwestiynau, gan holi sut y
byddai pobl oedd angen cymorth yn cael eu canfod, yn enwedig pobl sy’n byw mewn
ardaloedd mwy anghysbell a gwledig.
Eglurwyd fod canfod pobl sydd
mewn angen, yn enwedig pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, wedi ei nodi'n
flaenoriaeth a byddai disgwyl i bartneriaid weithio ar y cyd er mwyn ymateb i’r
her honno. Roedd hyn hefyd yn cynnwys casglu data i gael
gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig. Cydnabuwyd
swyddogaeth bwysig archwilio, a hynny fel rhan o'r ymgynghoriad ac wrth
fonitro, a rhoddodd archwilio ystyriaeth hefyd i’r adroddiad gwerthuso a chau
ar y Cynllun MAWR 1. Croesawodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad ac roedd
yn awyddus i bwysleisio bod y Cynllun yn ymwneud â chefnogi unigolion a
chymunedau i wella bywydau pawb. Pleidleisiodd
aelodau fel a ganlyn ar argymhellion yr adroddiad:- 33 pleidlais o
blaid, 0 yn erbyn ac 1 yn ymatal. PENDERFYNWYD cymeradwyo
Cynllun Lles Sir Ddinbych 2014-18. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS PDF 117 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) mewn perthynas â
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell y dylai’r Cyngor
gymeradwyo newidiadau i’r Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (DSRhT) ar
gyfer 2014/15 fel y nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad yn sgil amgylchiadau
economaidd. Hysbyswyd y
Cyngor am y dangosyddion economaidd oedd yn cyfeirio at gyfnod o
ansefydlogrwydd ariannol o'n blaenau.
O
ganlyniad i'r risgiau cynyddol, argymhellwyd y dylid gwneud nifer o ddiwygiadau
i’r DSRhT gan gynnwys Adneuon Banc,
Cytundebau Ail-brynu Gwrthol (Repos) a Bondiau a Warchodwyd. Ymhelaethodd
y Cynghorydd Thompson-Hill ar y rhesymeg y tu ôl i bob un o'r newidiadau
arfaethedig er mwyn diogelu buddsoddiadau'r Cyngor ymhellach. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau rywfaint o
gyd-destun pellach i’r newidiadau ariannol a ddangosir yn yr adroddiad yn tynnu
sylw at yr angen i liniaru gymaint â phosibl ar y risgiau cynyddol. Pleidleisiodd
aelodau fel a ganlyn ar argymhellion yr adroddiad:- 35 pleidlais o
blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i'r Datganiad Strategaeth Rheoli’r
Trysorlys ar gyfer 2014/15 fel y rhestrir yn Atodiad 2 yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi'n
amgaeedig) ar y broses y cytunwyd arni i Aelodau gyflwyno gwelliannau a
dewisiadau eraill mewn perthynas â’r cynigion cyllideb i’w hystyried gan y
Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau a'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (PGCADD) yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell protocol ar y ffordd y byddai
dewisiadau amgen neu newidiadau i’r gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor . Y rhesymeg y tu
ôl i brotocol y gyllideb oedd creu proses broffesiynol, agored a thryloyw er
mwyn i aelodau gyflwyno cynigion amgen a oedd wedi cael eu hasesu a'u hystyried
yn gywir ymlaen llaw. Roedd y broses yn caniatáu digon o amser
ar gyfer costio, asesu effaith a chyhoeddi papurau er mwyn galluogi aelodau i
roi ystyriaeth gyfartal i’r holl opsiynau a fyddai'n dod ger eu bron yn y
Cyngor. Byddai peidio dilyn y
protocol yn peri’r risg na fyddai cynigion amgen yn cael eu hystyried gan y
Cyngor ar yr un sail â'r cynigion a argymhellwyd ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd yr
Aelodau ystyriaeth i rinweddau’r protocol a chodi cwestiynau ynghylch ei
weithrediad yn ymarferol ac a fyddai'n rhan o gyfansoddiad y Cyngor. Er
bod yna gefnogaeth i’r protocol roedd hefyd amheuon y gallai rwystro aelodau
rhag cytuno ar ddiwygiad yn y cyfarfod na chynnig arbediad ychwanegol ar ben y
rhai sy'n cael eu hargymell. Rhoddodd y PGCADD sicrwydd na fyddai
cymeradwyo'r protocol yn gwahardd darpariaethau rheol sefydlog y Cyngor ar
gyfer cymeradwyo diwygiad, ond byddai ganddo statws sy’n gyfartal â’r
gwelliant. Paratowyd y protocol mewn ymateb i’r sefyllfa
bresennol o ran y gyllideb, ond gallai fod yn rhan o'r adolygiad cyfansoddiadol
pe bai’r aelodau’n dymuno. Y teimlad cyffredinol oedd na ddylai'r
protocol yn rhan o'r adolygiad cyfansoddiadol ar hyn o bryd, pe bai’n cael ei
gymeradwyo. Yn ystod y drafodaeth gyffredinol, trafododd yr aelodau'r penderfyniadau ariannol
anodd y mae’n rhaid i’r awdurdod eu gwneud a’u hamharodrwydd i bleidleisio dros
doriadau penodol yn y gyllideb wrth gydnabod yr angen i’r Cyngor ddarparu
cyllideb gyfreithiol, gytbwys o fewn amserlen dynn. Trafodwyd
hefyd hawliau Aelodau i ddweud eu dweud a phleidleisio yn erbyn cynigion y
gyllideb a rhoddodd swyddogion fanylion y broses a fyddai’n cael ei dilyn wrth
ystyried cynigion y gyllideb a gosod cyllideb gyfreithiol, gytbwys erbyn mis
Chwefror 2015. Roedd cefnogaeth i'r awgrym a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Eryl
Williams y dylid rhoi cyfle i Arweinwyr y Grwpiau wneud datganiad i'r Cyngor yn
y cyswllt hwnnw ar ôl gosod y gyllideb. Pleidleisiodd
aelodau fel a ganlyn ar argymhellion yr adroddiad:- 36 pleidlais o
blaid, 2 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD bod
Aelodau’n cymeradwyo’r broses lle gellid cyflwyno cynigion amgen ar y gyllideb
i’r Cyngor eu hystyried fel yr amlinellir yn Atodiad 1. |
|
RHEOLIADAU AWDURDODAU LLEOL (RHEOLAU SEFYDLOG) (CYMRU) (DIWYGIAD) 2014 PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi'n
amgaeedig) sy'n cynghori'r Cyngor o newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau
Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2014 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod
Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad a Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (PGCADD) yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod i'r Cyngor am newidiadau a gyflwynwyd
gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio Rheoliadau)
2014. Roedd y newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad
hwn yn ofynnol yn ôl y gyfraith a gan hynny roedd yn rhaid i’r Cyngor eu
mabwysiadu. I grynhoi roeddent yn ymwneud â - ·
y
broses benodi a thâl ar gyfer uwch swyddogion ·
sut i
gynnal unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn honedig gan Bennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd ·
bod
rhaid i bwyllgor wneud penderfyniadau ynglŷn â diswyddo neu benodi’r
Swyddog Monitro a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ·
dileu’r
modelau ‘Gweinyddiaeth Maer a Chyngor’ a ‘Threfniadau Amgen’ fel modelau
llywodraethu posibl. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick
Davies, dywedodd y PGCADD nad yw'r opsiwn o gael Gweinyddiaeth Maer bellach ar
gael yng Nghymru. Pleidleisiodd aelodau fel a ganlyn ar argymhellion
yr adroddiad:- 38 pleidlais o blaid, 1 yn erbyn a 0 yn ymatal. PENDERFYNWYD:- (a) Bod y Cyngor yn nodi’r newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Awdurdodau
Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 mewn perthynas â’r broses ar
gyfer penodi, diswyddo a chynnal ymchwiliadau disgyblu ar rai swyddogion
awdurdodau lleol a’r gofynion newydd ar gyfer penderfynu ar lefel y tâl a
roddir i Brif Swyddogion, a (b) dylid rhoi awdurdod dan ddirprwyaeth i Swyddog Monitro’r Cyngor wneud y
newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 a.m. |