Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIAD CANOLFAN CYNGOR AR BOPETH Cofnodion: Cyn dechrau
cyfarfod y Cyngor Llawn, cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Ganolfan Cyngor
ar Bopeth (CAB) Sir Ddinbych i bwysleisio'r gwaith a wnaed gan y staff yn
ymwneud â Dyled. Roedd tîm CAB Sir Ddinbych yn ddiweddar wedi
ennill gwobr "Tîm Dyled y Flwyddyn y DU" ac roeddent yn ail yn y
"Categori Menter Newydd Orau". Y cynrychiolwyr a
oedd yn bresennol oedd fel a ganlyn: ·
Lesley
Powell, Prif Swyddog Gweithredol ·
Paul Roberts,
Rheolwr Cyngor am Arian ·
Colette
Tamblyn, Uwch Weithiwr Achos Rhoddwyd
llongyfarchiadau oddi wrth y Cyngor Llawn i gynrychiolwyr y CAB gan eu bod yn
falch o wybod bod gan Sir Ddinbych y CAB gorau yn y DU. |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Cheryl Williams, Stuart Davies, Barbara Smith, Bobby Feeley, Gwyneth
Kensler, Hugh Evans, Paul Penlington, Gareth Sandilands a Huw Jones gysylltiad
personol yn Eitem 8 - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
CWESTIWN A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD MEIRICK LLOYD DAVIES Yn y fan hon,
eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, o fewn y
Cyfansoddiad, y gallai Aelod ofyn cwestiwn, ar yr amod eu bod wedi rhoi dau
ddiwrnod gwaith o rybudd o'r cwestiwn i’r Prif Weithredwr. Ni
fyddai'r cwestiwn ar gyfer trafodaeth.
Byddai'r Cynghorydd yn cael
gofyn y cwestiwn, byddai ymateb llafar neu ysgrifenedig yn cael ei roi a
byddai'r Cynghorydd wedyn yn cael y cyfle i roi ateb ar lafar os oes angen. Gofynnodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y cwestiwn canlynol: Rheol Sefydlog (8) Cwestiynau gan Aelodau Is adran (8:2) a (8:3) Wedi derbyn cwynion ein bod fel Sir yn gwrthod
cludiant taladwy o Lanrhaeadr ger Dinbych, Llandyrnog, Saron a Prion. Llythyr oddi wrth Brif Athro Ysgol Gymraeg Glan
Clwyd, Martin Davies, a’r Llywodraethwyr yn datgan pryder am y ffordd haearnaidd
mae’r Sir yn darllen eu Rheolau Cymorth Addysg Mai 2014. 1) A
fu cyfarfod rhwng y Pennaeth Addysg a Llywodraethwyr Ysgol Glan Clwyd? 2) Beth
oedd y canlyniadau? 3) Disgrifir
o dan Cludiant:- “mynychu eu hysgol ADDAS agosaf”. Ysgol gyflawn Gymraeg yw Glan Clwyd. Ysgol Brynhyfryd, rhannol Gymraeg (ffrwd
Gymraeg at 80%). Cais y rhieni yw addysg gwbl Gymraeg mewn awyrgylch hollol
Gymreig, yn cynnwys Cerddoriaeth, Côr,
Mabolgampau ayyb. Pam eich bod yn gwarafun y plant yr ysgol
sydd yn cyflwyno hyn, sef Ysgol Glan Clwyd trwy beidio â darparu cludiant
taladwy gan y Sir? Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams fod Ysgol Glan Clwyd ac
Ysgol Brynhyfryd yn cael eu henwi fel ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mholisi’r
Cyngor ac roedd y ddau'n cyrraedd y safon o ran addysg Gymraeg. Byddai
cyfarfod yn cael ei alw yn dilyn y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Mehefin, 2014. Gwahoddwyd
yr holl Gynghorwyr i fod yn bresennol.
Byddai swyddogion yn
bresennol i ymateb i'r cwestiwn a godwyd. Gofynnodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am ymateb i bob cwestiwn. Eglurodd y
Cynghorydd Eryl Williams na allai roi ymateb ond byddai ymateb yn dod i law yn
y cyfarfod ar 24 Mehefin 2014. Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai ymateb ysgrifenedig
yn dilyn. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 37 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Roedd rhestr o
ymrwymiadau dinesig a wnaed gan y Cadeirydd blaenorol a'r Cadeirydd presennol
ynghyd â'r Is‑gadeirydd ar gyfer y cyfnod 26 Ebrill 2014 - 27 Mai 2014
wedi ei dosbarthu cyn y cyfarfod. Hysbysodd y
Cadeirydd yr aelodau am Ras Gyfnewid Baton y Frenhines a oedd wedi digwydd yn y
Rhyl yn ddiweddar. Roedd y digwyddiad wedi bod yn hynod lwyddiannus,
gan ddenu nifer fawr o bobl i'r Rhyl. Estynnodd y
Cadeirydd ei ddiolch i Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad (Gogledd) a'i Dîm hefyd,
am y gwaith y maent wedi ei wneud yng nghyfleuster Marsh Tracks yn y Rhyl. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a gynhaliwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a'r
Is-Gadeirydd, a nodi sylwadau'r Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 13 Mai 2014 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Mai 2014. Cododd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y mater o beidio â derbyn unrhyw wybodaeth
ynglŷn â chymharu cyflogau yn San Steffan a Chaerdydd a godwyd yn y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2014.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y
byddai'n dosbarthu’r wybodaeth i'r aelodau cyn diwedd yr wythnos. Rhoddwyd
ymddiheuriadau gan nad oedd wedi sylweddoli bod y wybodaeth wedi bod yn ofynnol
ar gyfer y cyfarfod ar 10 Mehefin 2014. Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Eitem 10. Yn ystod y cyflwyniad roedd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts wedi cyfeirio at aelodau sy'n mynychu rhan yn unig o
gyfarfodydd ac nid oedd wedi ei nodi yn y cofnodion. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Mai 2014 fel cofnod cywir yn amodol
ar yr uchod. |
|
PROSIECT CYNHWYSIANT ARIANNOL GYDA’N GILYDD PDF 71 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Prosiect, Cynhwysiant Ariannol Gyda’n Gilydd, (copi ynghlwm) i
roi gwybodaeth i Aelodau o'r Cyngor ynglŷn â phrosiect Cynhwysiant
Ariannol Gyda'n Gilydd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, y Cynghorydd Hugh
Irving, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth i aelodau
ynglŷn â'r Prosiect Cynhwysiant Ariannol Gyda’n Gilydd (FIT) ac i annog
aelodau'r Cyngor i gymryd rhan yn un o'i sesiynau codi ymwybyddiaeth
cynhwysiant ariannol, fel eu bod nhw, yn eu tro, yn gallu cynnig mwy o gymorth
i etholwyr lleol. Roedd FIT yn brosiect Bwrdd Gwasanaethau Lleol Conwy a Sir Ddinbych a
ariennir ac a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Roedd
y prosiect yn ceisio mynd i’r afael â thlodi drwy ddatblygu, cydlynu a hybu
gwasanaethau cynhwysiant ariannol o fewn sefydliadau Bwrdd Gwasanaethau Lleol
ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Rhoddodd Rheolwr
Prosiect Cynhwysiant Ariannol Gyda'n Gilydd gyflwyniad ar y Prosiect er
gwybodaeth i'r Aelodau. Nod Prosiect FIT
oedd sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gael y cyngor, y gwasanaethau a’r nwyddau
ariannol y mae eu hangen i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi nodi'r pum thema allweddol a ganlyn: ·
Mynediad
i wasanaethau ariannol prif ffrwd ·
Gallu
ariannol (gan gynnwys cynhwysiad digidol) ·
Cyngor
hygyrch ar arian a dyled ·
Cynyddu
incwm (gan gynnwys effeithlonrwydd ynni) ·
Mynediad
i gredyd a benthyciadau fforddiadwy Un amcan
allweddol o’r Prosiect fu darparu’r wybodaeth a’r adnoddau cynhwysiant ariannol
sydd eu hangen ar o leiaf 1000 o staff rheng flaen yn sefydliadau partner y
BGLl i rymuso pobl y maent yn dod i gysylltiad â nhw i gael eu cynnwys yn
ariannol. I wneud hyn,
byddai Prosiect FIT yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth i unrhyw un sy'n
gweithio yn y rheng flaen a allai helpu i ddarparu gwybodaeth am, neu wneud
atgyfeiriadau o safon ar gyfer cyngor manwl yn ymwneud â chynhwysiant ariannol. Byddai'r Prosiect
yn adeiladu etifeddiaeth o gamau gweithredu o fewn sefydliadau partner BGLl a
fyddai'n anelu at ymgorffori arfer cynhwysiant ariannol unwaith y bydd y
Prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2014. Nod y Prosiect
ataliol hwn oedd mynd i'r afael â thlodi yn y gymuned drwy helpu staff rheng
flaen i gynorthwyo pobl i reoli yn well mewn hinsawdd economaidd heriol. Roedd dwy sesiwn
Codi Ymwybyddiaeth wedi eu trefnu yn benodol ar gyfer Cynghorwyr o ddwy awr y
sesiwn: ·
Dydd
Iau, 19 Mehefin, 2014 - Y Rhyl; a ·
Dydd
Mawrth, 14 Hydref, 2014 - Rhuthun Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl am y materion canlynol: ·
Roedd
Prosiect FIT yn gweithio'n agos gyda'r Undebau Credyd. Byddai
cyfraddau llog gormodol sy’n daladwy i Gwmnïau Benthyciadau Diwrnod Cyflog yn
cael eu hamlygu i bobl i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ad-daliadau uchel
gofynnol. ·
Byddai
gwerthusiadau o'r Prosiect yn cael eu gwneud gan werthuswyr allanol a hefyd
Llywodraeth Cymru. ·
Roedd
y Prosiect yn gweithio gyda Choleg Llandrillo i annog staff a thiwtoriaid i
fynychu'r sesiynau er mwyn galluogi cyngor i gael ei drosglwyddo i'r myfyrwyr. Nid
oedd y Prosiect yn gallu darparu cyngor uniongyrchol i fyfyrwyr. Cadarnhaodd y
Rheolwr Prosiect y byddai'n dosbarthu i’r holl Gynghorwyr, restr o wasanaethau
Cyngor Sir Ddinbych a oedd wedi cynorthwyo’r Prosiect. Byddai hefyd yn rhoi gwybod i’r holl Gynghorwyr am gost pob Sesiwn Codi
Ymwybyddiaeth yn dilyn y cyfarfod gan nad oedd y wybodaeth hon ganddi wrth law
yn y cyfarfod. Dywedodd y Prif
Weithredwr y byddai'n hanfodol canfod a oedd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud
digon gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o gyllidebu ac arbedion ac ati. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad yn amodol ar yr uchod. |
|
Ar yr amser hwn (11.15 a.m.) cafwyd toriad am 15
munud Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.30am. |
|
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi'n amgaeedig) i
ddarparu gwybodaeth i Aelodau am Adroddiad Gwella Blynyddol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Gwilym
Bury o Swyddfa Archwilio Cymru Adroddiad Gwella Blynyddol 2013/14 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghyd â chyflwyniad i ddarparu gwybodaeth i'r
Aelodau. O dan y Mesur
Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu cynnydd y Cyngor bob
blwyddyn tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon ar gyfer parhau i wella yn
ystod y flwyddyn i ddod. Yn gyffredinol,
roedd hwn wedi bod yn adroddiad cadarnhaol iawn. Roedd
yr adroddiad wedi tynnu sylw at feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau
pellach, ond nid oedd unrhyw argymhellion pellach yn yr adroddiad. Eglurodd Gwilym
Bury fod yr adroddiad mewn tair prif adran: ·
Asesiad
o berfformiad y Cyngor ar gyfer 2012/13; ·
Trefniadau'r
Cyngor ar gyfer hunan-arfarnu perfformiad 2012-13; ·
Trefniadau'r
Cyngor ar gyfer cynllunio gwelliant 2013/14. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
y Cyngor wedi helpu llawer o bobl rhag bod yn ddigartref ond roedd ei waith er
mwyn sicrhau mynediad at dai fforddiadwy wedi bod yn llai effeithiol. Nid
oedd perfformiad yn y ddwy flynedd flaenorol wedi cyrraedd y targedau a
osodwyd. Roedd y ganran o dai fforddiadwy wedi ei gosod gan
y sir ar 30%, ond roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi lleihau’r swm i 10%. Fodd
bynnag, roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi datgan os byddai prisiau tai wedi
cynyddu o fwy na 10% o 2009, gallai’r Awdurdod Lleol wneud cais i ganran uwch o
adeiladau newydd i fod yn dai fforddiadwy; ·
Roedd
holl stoc tai Sir Ddinbych yn awr yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru; ·
Roedd
cyflwr y rhan fwyaf o ffyrdd “A” a “B” o fewn Sir Ddinbych wedi gwella, ond ni
fu llawer o gynnydd gyda ffyrdd “C” ac roedd 13.9% mewn cyflwr gwael o hyd; ·
Parhaodd
y Cyngor i wella lles ei ddinasyddion mwyaf diamddiffyn. Amlygodd
AGGCC newidiadau cadarnhaol ar draws y gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i
blant, a oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Yr
un maes sy'n peri pryder oedd y gwasanaeth ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Roedd
asesiadau iechyd a gwiriadau deintyddol yn un o'r rhai isaf yng Nghymru, ond
mae hyn wedi ei gydnabod fel maes i'w wella. ·
Roedd
y Cyngor yn gweithio’n effeithiol gyda'i bartneriaid busnes i ddarparu mentrau
sy'n cefnogi'r economi leol. Mae hefyd wedi gwneud cynnydd wrth
ddatblygu cynlluniau cynaliadwy ar gyfer ariannu prosiectau yn y dyfodol yn
dilyn y cais aflwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Llefydd
Llewyrchus Llawn Addewid i gefnogi mentrau yn y Rhyl. ·
Roedd
perfformiad disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn 2013 wedi bod yn gymysg. Yng Nghyfnod
Allweddol 3, roedd cyfran y disgyblion 14 oed sy’n ennill y dangosydd pwnc
craidd, fel a fesurwyd gan asesiadau athrawon, wedi bod yn is na chyfartaledd
Cymru ym mhedair o'r pum mlynedd flaenorol. Roedd
mater Addysg Cyfnod Allweddol 3 yn un yr oedd y Prif Weithredwr ac aelodau yn
gofyn iddo fod yn hysbys nad oeddent yn cytuno arno. Cytunwyd,
fodd bynnag, bod angen cynnydd pellach yng Nghyfnod Allweddol 3. ·
Roedd
y Cyngor wedi gweithio'n effeithiol i gadw amgylchedd Sir Ddinbych yn
ddeniadol, ond roedd wedi bod yn ofynnol gwneud gwaith pellach i leihau
achosion o dipio anghyfreithlon a gwella boddhad preswylwyr. Roedd
camau cadarnhaol wedi bod yn digwydd i wella'r materion hyn. ·
Roedd
effeithlonrwydd wedi ei ddarparu i foderneiddio gwasanaethau, ond bu diffyg
cynnydd gan y gwasanaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol wrth gyflawni ei dargedau
mewnol allweddol yn ystod 2012/2013.
Nododd arolygon staff fod
morâl ymhlith y Gwasanaeth AD Corfforaethol yn isel. Nododd
adroddiad archwilio mewnol diweddar fod cynnydd yn cael ei wneud wrth fynd i'r
afael â meysydd allweddol ar gyfer gwella. · Roedd y Cyngor wedi cymryd camau i asesu ei ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
POLISI PENSIWN LLYWODRAETH LEOL PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arbenigwr Cyflogau a Gwobrwyo (copi'n ynghlwm) er mwyn i’r
Cyngor llawn allu mabwysiadu Polisi Disgresiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Barbara Smith,
Adroddiad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i’r Cyngor llawn i fabwysiadu Polisi Disgresiwn Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol. Roedd y rheoliadau
newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr y cynllun adolygu eu datganiadau
polisi pensiwn disgresiwn presennol a chyhoeddi datganiadau newydd yn
effeithiol o 1 Ebrill 2014. Roedd wedi bod yn ofyniad bod y Datganiad
Polisi Disgresiwn yn cael ei gytuno a'i gyhoeddi erbyn 1 Gorffennaf 2014. Roedd y prif
newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o fis Ebrill 2014 wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Roedd y
newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi eu cyflwyno yn ddiweddar
yn y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol, lle penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn
i'w fabwysiadu. Yn dilyn
trafodaeth fer: PENDERFYNWYD bod
y disgresiwn a nodwyd yn yr adroddiad a'r polisi yn cael ei fabwysiadu gan y
Cyngor Llawn. Ar y pwynt hwn,
hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau o ymddeoliad y Pennaeth Adnoddau Dynol
Strategol, Linda Atkin. Diolchwyd i Linda am ei gwaith caled a
wnaed ar ran Cyngor Sir Ddinbych a dymunwyd Pob Lwc iddi yn ei hymddeoliad. |
|
PENODIADAU PWYLLGOR A CHYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) er mwyn i’r
Cyngor Llawn allu penodi Cadeirydd a deg o aelodau eraill i'r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer 2014/2015. Mae’r adroddiad hefyd yn manylu ar sefyllfa’r
Pwyllgorau eraill er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau am y camau sydd eu hangen eu
cymryd i gynnal cydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgorau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r
Cyngor Llawn benodi’r Cadeirydd a deg aelod arall i'r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer 2014/2015. Hefyd yn manylu ar newidiadau i aelodaeth
Pwyllgorau'r Cyngor. Roedd Adran 11 o
Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor benodi
Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Nid
oedd unrhyw aelodau cyfetholedig.
O dan y Mesur, ni allai fod
dim mwy nag un aelod o'r Cabinet ar y Pwyllgor (nad oedd yn gallu bod yn
Arweinydd). Yng nghyfarfod y
Cyngor ym mis Mai 2012, cytunwyd na fyddai'r aelodaeth yn cynnwys aelodau o'r
Cabinet. Cafodd y
Cynghorydd Barry Mellor ei enwebu fel Cadeirydd, a gafodd ei gynnig a'i eilio. Cytunwyd bod
yr aelodaeth bresennol yn aros. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn penodi'r Cadeirydd, y Cynghorydd Barry Mellor, a deg aelod arall
i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2014/2015. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 308 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Tynnwyd sylw at y
dyddiadau ar gyfer y Gweithdai’r Gyllideb sydd ar ddod ac anogwyd aelodau i
fynychu. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 1.30 P.M. |