Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn Cofnodion: Ni ddatganodd
unrhyw un gysylltiad. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD: DATGANIAD DULYN PDF 67 KB Llofnodi
Datganiad Dulyn yn swyddogol. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth i'r Cyngor llawn am
Ddatganiad Dulyn a oedd wedi cael ei gymeradwyo a'i dderbyn yn y Cabinet ar 29 Ebrill
2014. Byddai'r Datganiad yn cael ei lofnodi gan Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Hugh Evans, yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau
Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley a Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Raymond
Bartley. Drwy lofnodi'r ddogfen, roedd Cyngor Sir Ddinbych yn addo mynd rhagddo â
gwaith a oedd yn seiliedig ar egwyddorion Sefydliad Iechyd y Byd a'r
Cenhedloedd Unedig i wneud ei gymunedau'n fwy cyfeillgar i oed. Roedd yr addewid, a elwir yn Ddatganiad Dulyn gan fod arlywyddiaeth yr UE o
dan law Iwerddon, yn tynnu sylw at yr angen i greu lleoedd sy'n gyfeillgar i
oed, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo ymwybyddiaeth o bobl hŷn, eu hawliau, eu
hanghenion a'u potensial, yn ogystal â'u cyfraniad cymdeithasol, economaidd a
diwylliannol cadarnhaol. Eglurodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol,
Gwasanaethau Oedolion a Phlant, a hefyd yr Eiriolwr dros Bobl Hŷn wrth
Aelodau'r Cyngor fod pobl yn byw yn hirach yn y gymuned, a bod angen ymateb i
hynny mewn modd cadarnhaol. Roedd yn
golygu galluogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, yn ogystal â
dathlu a gwrando ar safbwyntiau'r boblogaeth sy'n heneiddio ynglŷn â'r
mathau o gyfleoedd y dylid ymchwilio iddynt i'w cadw'n heini ac yn brysur, a
chymryd rhan ym mywyd y gymuned leol. Wrth i nifer y bobl sy'n byw'n hirach gynyddu, byddai'n bwysig i'r cyngor
ystyried dulliau o addasu amgylcheddau ac adeiladau er mwyn adlewyrchu
anghenion poblogaeth sy'n heneiddio. Ar y pwynt hwn, llofnododd y Cynghorwyr Hugh Evans, Bobby Feeley a Raymond
Bartley y Datganiad. |
|
CADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd
y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2014/15. Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Raymond Bartley, anerchiad a oedd yn
cynnwys myfyrdod ar ei gyfnod fel Cadeirydd a chyfeiriadau at sawl digwyddiad
lle bu'n bresennol dros y deuddeg mis diwethaf. Roedd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a'i gydymaith, ei wraig Dorothy, wedi
cael blwyddyn brysur iawn yn ymweld â thros 200 o ddigwyddiadau. Y digwyddiad mwyaf cofiadwy oedd Eisteddfod
Genedlaethol Dinbych, fu'n llwyddiant ysgubol.
Roedd y Cynghorydd Bartley a'i wraig wedi bod i'r Eisteddfod bob dydd ac
roedd cannoedd o bobl wedi dod atynt i'w llongyfarch am lwyddiant yr
Eisteddfod, neu'n canmol y Sir am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i'r
digwyddiad. Mynegodd y Cynghorydd
Bartley ddiolch i bob un aelod o staff fu'n ymwneud ag unrhyw un o'r
trefniadau, o'r uwch reolwyr hyd at y rhai a chwaraeodd eu rhan arbennig ac
amhrisiadwy eu hunain yn y llwyddiant.
Bu'n enghraifft wych o waith tîm a oedd wedi rhoi Sir Ddinbych ar y map
mewn modd ffafriol, a byddai hynny'n destun balchder arbennig i'r Cynghorydd
Bartley hyd weddill ei oes. Bu hefyd yn
anrhydedd arbennig gallu cynnig £2,000 o nawdd i Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru
yn Llanelwy. Defnyddiwyd yr arian hwn i
ddarparu gweithdy cerddorol i ddisgyblion yn ysgolion arbennig y sir. Byddai peth o'r nawdd hefyd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer cludiant ysgol, er mwyn galluogi disgyblion o sawl ysgol i
ddod i amrywiaeth o weithdai a oedd wedi'u trefnu ar eu cyfer. Dyma rai o'r
uchafbwyntiau eraill: ·
Cystadleuaeth
barddoniaeth a baner Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion
cynradd Sir Ddinbych. Bu'r digwyddiad
hwn mor llwyddiannus, byddai'n cael ei gynnal bob blwyddyn o hyn allan. ·
Ymweliadau
gan ysgolion â Siambr y Cyngor ·
Cyngherddau
Ysgolion Sir Ddinbych ·
Bod
yn bresennol ym mhenblwyddi dinasyddion Sir Ddinbych yn 100 oed Mynegwyd diolch i
bawb a oedd wedi cefnogi neu ddod i'r digwyddiadau a gynhaliwyd i godi arian er
budd dwy elusen y Cynghorydd Bartley. Mynegodd y
Cynghorydd Bartley hefyd ddiolch i staff y Gwasanaethau democrataidd a oedd
wedi cynnal digwyddiadau er mwyn codi arian i elusen Tŷ Gobaith, a
llwyddwyd i godi £1,724.00 a anfonwyd ymlaen i'r elusen. Mynegodd y Cynghorydd Bartley ddiolch i bawb
am eu caredigrwydd a'u parodrwydd i feddwl am eraill, a dywedodd ei fod yn
ymfalchïo yng ngwaith ei staff. Cyflwynodd y
Cynghorydd Bartley sieciau am yr arian a godwyd yn ystod ei gyfnod fel
Cadeirydd (cyfanswm o £4,000) i'r elusennau a ddewiswyd ganddo: (i)
Derbyniodd
Eluned Yaxley, Rheolwr Codi Arian, y siec am £2,000 ar ran hosbis Tŷ
Gobaith (ii)
Derbyniodd
Ian Bellingham, Prif Weithredwr, y siec am £2,000 ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn,
Llanelwy Yna, aeth y
Cynghorydd Bartley yn ei flaen i gyflwyno anrhegion i'w Gaplan, y Parchedig
Wayne Roberts, ei Gydymaith, Rheolwr Cefnogi a Datblygu'r Aelodau, y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd,
Swyddog Cefnogi'r Aelodau, Cydgysylltydd Busnes: Swyddfa'r Arweinydd, Gweinyddwyr
Pwyllgorau a'r Cydgysylltydd Craffu er mwyn cydnabod eu cefnogaeth dros y
deuddeg mis diwethaf. Mynegodd y
Cynghorydd Bartley ddiolch arbennig i'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol a'r Pennaeth Cyllid ac Asedau am eu cymorth a'u cefnogaeth dros y
flwyddyn ddiwethaf. Diolchodd hefyd i
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans, am ei gyngor, ac am rannu ei
wybodaeth a'i brofiad. Yn olaf, mynegodd
y Cynghorydd Bartley ddiolch i'w wraig, Dorothy, am ei chefnogaeth ddiwyro a'i
gwasanaeth ymroddedig i Gyngor Sir Ddinbych ar hyd y blynyddoedd. Wedyn, gwahoddodd y Cynghorydd Bartley enwebiadau er mwyn penodi Cadeirydd newydd y Cyngor Sir ar gyfer 2014/15. Cynigiodd Joan Butterfield y dylid ethol y Cynghorydd Brian Blakeley yn ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
IS-GADEIRYDD Y CYNGOR Penodi Is-Gadeirydd
y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2014/15. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer penodi Is-gadeirydd. Cynigiodd Eryl Williams y dylid ethol y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn Is-gadeirydd
y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2014/15 y Cyngor.
Cyfeiriodd at brofiad helaeth y Cynghorydd Kensler a'i hymroddiad i'r
sir. Eiliodd Hugh
Evans yr enwebiad gan gyfeirio at waith diflino'r Cynghorydd Kensler er budd y
gymuned. Gan nad oedd unrhyw
enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi llaw, cafwyd penderfyniad
unfryd i ethol y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer
blwyddyn 2014/15 y Cyngor. Gwisgodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Kensler â Chadwyn Swydd yr Is-gadeirydd, wedyn cwblhaodd
hithau ei Datganiad Derbyn Swydd. Dywedwyd mai
cydymaith yr Is-gadeirydd newydd fyddai Gaynor Morgan Rees, nad oedd, yn
anffodus, wedi gallu dod i gyfarfod llawn y Cyngor oherwydd ymrwymiadau
blaenorol. Talodd Arweinwyr y Grwpiau deyrnged i waith y Cadeirydd a oedd yn ymddeol
dros y deuddeg mis diwethaf, a llongyfarch y Cynghorydd Brian Blakeley ar gael
ei ethol yn Gadeirydd a Gwyneth Kensler ar gael ei hethol yn Is-gadeirydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 8 Ebrill 2014 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2014. Dywedodd Joe
Welch nad oedd ei bresenoldeb yng nghyfarfod 8 Ebrill 2014 wedi'i nodi ar y
cofnodion. Mewn perthynas ag
eitem 9, Y Cynllun Cyfalaf, dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod
wedi cyfeirio at gaffael, ac nad oedd hynny wedi'i nodi ar y cofnodion. Mewn perthynas ag
eitem 11, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, dywedodd y
Cynghorydd Arwel Roberts ei fod wedi gofyn am welliant ac nad oedd wedi mynegi
gwrthwynebiad. Materion yn Codi - Mewn perthynas ag eitem 9, Y Cynllun Cyfalaf, holodd y
Cynghorydd Rhys Hughes a oedd Polisi Amgylcheddol bellach wedi'i lunio. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd y byddai'n cadarnhau hyn ac yn adrodd yn ôl wrth yr
aelodau. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cyngor, a
gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2014, yn gywir. |
|
HEDDLU GOGLEDD CYMRU - CANOLFAN GYFATHREBU’R HEDDLU Bydd yr
Uwcharolygydd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi cyflwyniad ar lafar i
gynyddu gwybodaeth yr Aelodau am swyddogaeth a hygyrchedd Canolfan Gyfathrebu’r
Heddlu. Cofnodion: Ar ran Heddlu
Gogledd Cymru, cymeradwyodd yr Uwch-arolygydd Alex Goss y Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd ar gael eu penodi, a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y 12 mis
nesaf. Rhoddodd yr
Uwch-arolygydd Alex Goss, Pennaeth y Gyd-ganolfan Gyfathrebu, Llanelwy, Heddlu
Gogledd Cymru, ynghyd â Paul Shea, Rheolwr Canolfan Gyfathrebu'r Heddlu (CGH)
gyflwyniad er mwyn cynyddu gwybodaeth yr Aelodau am swyddogaeth a hygyrchedd
Canolfan Gyfathrebu'r Heddlu (CGH), a hefyd i gyfeirio at y galwadau a gafwyd,
gan gynnwys galwadau 999 amhriodol. Aeth Paul Shea
drwy'r cyflwyniad. Roed y cyflwyniad yn
trafod: ·
Nifer
y galwadau a dderbyniwyd ·
Y dull
o drin galwadau ·
Rhifau
cyswllt a ffyrdd eraill o gysylltu ·
Beth
fyddai’n digwydd wrth dderbyn galwad ·
Sut i
reoli digwyddiad difrifol ·
Galwadau
999 amhriodol Cafwyd
trafodaeth, a gofynnodd yr aelodau gwestiynau.
Trafodwyd y materion canlynol: ·
Yr
hyfforddiant a gaiff staff cyn dechrau eu swydd, ynghyd â hyfforddiant parhaus ·
Y gosb am wneud defnydd amhriodol o 999 ac am wastraffu
amser yr Heddlu. Roedd gan Heddlu
Gogledd ddyletswydd gofal i bawb yng Ngogledd Cymru, ac roedd angen cadw'r
llinellau ffôn 999 ar gyfer galwadau brys hanfodol. ·
Byddai
unrhyw gymorth posib gan gynghorwyr a chymunedau i gael gwared â'r galwadau
ffôn 999 amhriodol yn cael ei groesawu. ·
Gwybodaeth
ddilynol ar ôl riportio trosedd. Roedd
opsiynau'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ac un o'r datrysiadau posib oedd
"olrhain fy nhrosedd", a fyddai ar gael ar y rhyngrwyd. ·
Cau
ffyrdd o ganlyniad i ddamweiniau. Roedd
y penderfyniad i gau ffordd ai peidio yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd y
ddamwain. Byddai'r Heddlu'n osgoi cau
ffyrdd onid oedd gwir angen gwneud hynny.
O benderfynu cau ffordd, byddai Heddlu Gogledd Cymru wedyn yn cysylltu
ag Adran Briffyrdd yr awdurdod lleol i weithredu'r penderfyniad hwnnw. ·
Roedd
gwybodaeth leol gan staff wedi'i chynnwys yn y broses recriwtio. Roedd hi'n
bryd uwchraddio'r systemau teleffoni i system ffôn seiliedig ar sgiliau. Crybwyllwyd hefyd y byddai timau'n cael eu
rhannu yn y dyfodol er mwyn gwella gwybodaeth leol ·
Cafwyd
cynnydd yn nifer y galwadau iechyd meddwl ac roedd hynny wedi achosi problemau. Canlyniad y galwadau yn aml fyddai anfon
swyddog allan. Cadarnhaodd yr
Uwch-arolygydd Goss nad mater i'r Heddlu oedd problemau iechyd meddwl, ac nad y
ddalfa oedd y lle priodol i rywun â phroblemau iechyd meddwl. Pobl broffesiynol ddylai fod yn delio â'r
achosion hyn, nid Heddlu Gogledd Cymru. Os oedd yr
aelodau’n dymuno ymweld â Chanolfan Gyfathrebu'r Heddlu, dywedodd yr
Uwch-arolygydd Goss y dylent gysylltu ag ef ac y byddai'n trefnu'r ymweliad. PENDERFYNWYD
y dylai'r aelodau nodi ac ystyried y cyflwyniad, a chysylltu â'r Uwch-arolygydd
Alex Goss os oeddent yn dymuno ymweld â Chanolfan Gyfathrebu'r Heddlu. |
|
Yn y fan hon (11.50am) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuwyd y cyfarfod am 12.10pm |
|
DOGFEN GYFLENWI FLYNYDDOL AR GYFER Y CYNLLUN CORFFORAETHOL PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol a'r Cydlynydd busnes: Swyddfa’r
Arweinydd (copi ynghlwm) i'r Aelodau gymeradwyo fersiwn derfynol y ddogfen
gyflenwi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Barbara Smith ac
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans, adroddiad (a gylchredwyd yn
flaenorol) i hysbysu'r Aelodau am Ddogfen Gyflenwi Blwyddyn 3 (2014/15) ar
gyfer Cynllun Corfforaethol 2012/17 a Blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol yr
Aelodau Cabinet i'w cyflawni erbyn 2017. Roedd angen penderfynu cymeradwyo fersiwn ddrafft derfynol Dogfen Gyflenwi
Blwyddyn 3 y Cynllun Corfforaethol.
Roedd Dogfen Gyflenwi wedi cael ei llunio ar gyfer pob blwyddyn o'r
Cynllun Corfforaethol. Pwrpas y Ddogfen
Gyflenwi oedd amlinellu rhai o'r prosiectau allweddol a fyddai'n cael eu
dechrau ac/neu eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol ar gyfer pob
blaenoriaeth, gyda'r bwriad o ddangos sut oedd y Cynllun Corfforaethol yn
effeithio ar y gwaith a oedd yn cael ei gyflawni. Mewn perthynas â
blaenoriaethau Aelodau'r Cabinet ar gyfer 2017, gofynnwyd i'r Cyngor nodi'r
Dulliau o Fesur Llwyddiant a bennwyd gan Aelodau'r Cabinet yn eu portffolios er
mwyn cyflawni yn erbyn holl flaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol. Cafwyd
trafodaeth, a gofynnodd yr aelodau gwestiynau.
Codwyd y materion canlynol: ·
Roedd
y ddogfen yn cynnwys llawer o fyrfoddau.
Byddai'r ddogfen yn cael ei hail-lunio i fod yn haws ei darllen a
byddai'r swyddogion yn sicrhau bod yr wybodaeth wedi'i chyfleu'n glir. ·
Sicrhau
gostyngiad o 20% i amser teithio staff.
Byddai gweithio symudol, gan gynnwys Skype a mynediad o bell, yn
lleihau’r amser y byddai'n rhaid i'r staff ei dreulio'n teithio. ·
Dewis rhieni o ran ysgol a ffafrir. Roedd yna ddogfen meini prawf cymhwysedd ar
gyfer pob ymgeisydd y byddai'n ofynnol i bob rhiant ei llofnodi Pe bai’r rhieni'n dewis peidio anfon eu
plentyn i'r ysgol agosaf at eu cartref, byddai'n ofynnol iddynt dalu i ddarparu
cludiant i'r ysgol. ·
Arolwg
Preswylwyr. Cafwyd cadarnhad bod yr
arolwg preswylwyr, yn y gorffennol, wedi cael ei rannu ar hap ymhlith
preswylwyr gan gwmni proffesiynol ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Yn 2014, roedd yr arolwg preswylwyr wedi
cael ei gynnal yn fewnol. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams at safon y ffyrdd
yn Sir Ddinbych. Dywedodd y Cynghorydd
Williams fod safon gwaith cynnal y ffyrdd wedi dirywio, ac y gallai felly
achosi damwain ddifrifol yn y dyfodol.
Roedd safon y gwaith a gwblhawyd ar y priffyrdd yn wael iawn gan y
byddai tyllau'n ymddangos unwaith eto cyn pen deunaw mis ar ôl y gwaith
trwsio. Roedd y ffaith nad oedd digon o
gyllid ar gael i gwblhau gwaith ar yr holl ffyrdd yr oedd angen eu gwella o
fewn y sir wedi'i gadarnhau. Roedd
cyllideb wedi'i neilltuo bob blwyddyn ar gyfer gwelliannau priffyrdd. Cyflwynwyd y cynlluniau gwella ffyrdd yng
nghyfarfodydd Grŵp Ardal yr Aelodau i'w cymeradwyo neu eu diwygio. Dywedodd y Cynghorydd David Smith, os oedd yr
aelodau'n gwybod am unrhyw ffyrdd mewn cyflwr gwirioneddol ddrwg, y dylent
gysylltu ag ef ac y byddai'n trosglwyddo'r wybodaeth i'r Adran Briffyrdd. Argymhellodd y Cynghorydd Hugh Evans y dylid
trafod cyflwr gwael priffyrdd y sir mewn Pwyllgor Archwilio, er mwyn cynnal
trafodaeth fanylach ar hynny. ·
Gwella amodau byw yn nhai'r sector preifat. Bwriedir addasu 320 o anheddau mewn meddiant
preifat er mwyn galluogi pobl anabl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu
hunain. Roedd y Cynghorydd Joan
Butterfield wedi gofyn am ddadansoddiad o'r wybodaeth ynghylch pwy fyddai'n
derbyn y cyllid o fewn y sector preifat. PENDERFYNWYD: (i)
Yn amodol ar unrhyw newidiadau a gytunir,
y dylai'r Aelodau gymeradwyo drafft terfynol y ddogfen Gyflenwi fel bo modd ei
chyfieithu a'i chyhoeddi. (ii)
Y dylai'r Cyngor nodi cynnwys Atodiad 2
mewn perthynas â phortffolio pob Aelod Cabinet. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU ARCHWILIO’R CYNGOR PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2013/2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Archwilio'r
Cyngor (a gylchredwyd yn flaenorol) i'w ystyried gan yr Aelodau. I gydymffurfio ag
Erthygl 6.3.7 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, rhaid i Bwyllgorau Archwilio roi
adroddiad blynyddol i'r Cyngor llawn ar eu gwaith, a gwneud argymhellion
ynghylch rhaglenni gwaith i'r dyfodol a dulliau gweithio diwygiedig os yw'n
briodol. Ar ôl trafodaeth
hir, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
presenoldeb aelodau Archwilio mewn Grwpiau Herio Gwasanaethau ac ar gyrff
eraill allanol yn hynod bwysig, ac anogwyd
aelodau Archwilio i fod yn bresennol.
Os nad oedd aelodau Archwilio yn gallu bod yn bresennol am unrhyw reswm,
gofynnwyd iddynt anfon aelod arall yn eu lle os oedd modd. ·
Mae Aelodau Arweiniol y Cabinet bellach yn mynychu'r
Pwyllgor Archwilio, sydd o gymorth mawr i'r Aelodau Archwilio. ·
Roedd eitem sefydlog wedi'i chynnwys ar Raglen y Cabinet
i drafod eitemau wedi'u cyfeirio o'r Pwyllgorau Archwilio. ·
Pe
bai cais yn dod i law i ychwanegu eitem at raglen cyfarfod Pwyllgor Archwilio,
byddai'n cael ei gyflwyno gerbron y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio a fyddai wedyn yn penderfynu pa Bwyllgor Archwilio fyddai'n briodol i
drafod y mater. Fel arall, byddai'r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio weithiau'n penderfynu nad
oedd y mater yn briodol i'w ystyried gan Bwyllgor Archwilio. Mynegodd y
Cynghorydd Joan Butterfield ddiolch i Grŵp y Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio ac i'r swyddogion cefnogi am lunio adroddiad mor
fanwl a chlir. PENDERFYNWYD
y dylai'r Cyngor dderbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Archwilio'r Cyngor
2013/14 |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 97 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Raglen Gwaith y Cyngor i'r
Dyfodol (a gylchredwyd yn flaenorol). Cyfeiriodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau at ddyddiadau'r gweithdai a oedd i ddod ar y
Gyllideb, a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf 2014. Dyma'r dyddiadau: ·
9
Gorffennaf 2014 (drwy'r dydd) ·
14
Gorffennaf 2014 (drwy'r dydd) ·
30
Gorffennaf 2014 (hanner diwrnod – sesiwn y prynhawn) PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith y Cyngor i'r
Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm |