Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|||||||||||||
CROESO Estynnodd y
Cadeirydd groeso i gyfarfod Cyngor llawn Cyngor Sir Ddinbych. Estynnwyd croeso
hefyd i Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr newydd y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar y pwynt hwn,
derbyniodd y Cadeirydd ddeiseb gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ar ran nifer
fawr o drigolion o Ddinbych yn dilyn cwympiadau ar rai o’r palmentydd a
achosodd i un trigolyn dorri ei fraich. |
|||||||||||||
DATGANIAD CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr canlynol gysylltiad personol yn Eitem 10 - Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol: Y Cynghorwyr,
Raymond Bartley, Brian Blakeley, Colin Hughes, Martyn Holland, Hugh Carson
Irving, Julian Thompson-Hill, Peter Owen, David Smith, Alice Jones, Jason
McLellan, Paul Penlington, Barry Mellor,
Carys Guy, Robert Murray, Gareth Sandilands, Cheryl Williams, Barbara Smith,
Janet Ann Davies, Huw Williams, Dewi Owens, Bill Tasker, Peter Duffy, Hugh
Evans, Peter Evans, Jeanette Chamberlain Jones, Margaret McCarroll, Patricia
Jones, Joan Butterfield, David Simmons, Ian Armstrong, Richard Davies, Bill
Cowie, Stuart Davies, Bobby Feeley, Merfyn Parry, Joseph Welch, Huw
Hilditch-Roberts, Gwyneth Kensler, Meirick Lloyd Davies, Huw Jones, Cefyn
Williams, Arwel Roberts ac Eryl Williams. Datganodd y
Cynghorwyr Stuart Davies a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn yr
eitemau canlynol hefyd: ·
Eitem
6 – Diwygio’r Polisi Absenoldeb ·
Eitem
7 – Polisi Gweithio Ystwyth ·
Eitem
8 – Datganiad Polisi Cyflog |
|||||||||||||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|||||||||||||
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 38 KB Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Roedd rhestr o
alwadau dinesig a gyflawnwyd gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod
o 20 Chwefror 2014 – 18 Mawrth 2014 wedi cael ei chylchredeg cyn y cyfarfod. Diolchodd y
Cadeirydd i’r canlynol: ·
yr
Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Blakeley am fynychu rhai achlysuron ar ei ran.
·
Aelodau
a oedd yn bresennol yng Nghinio’r Cadeirydd yn Nhŷ Oriel, Llanelwy ar 28
Mawrth 2014. ·
Staff
yn y Gwasanaethau Democrataidd am eu digwyddiadau codi arian llwyddiannus a
oedd wedi codi dros £1650.00 i Hosbis Plant Tŷ Gobaith, Conwy. ·
Gwraig
y Cynghorydd Cefyn Williams am wneud a gwerthu cacenni cri ar Ddydd Gŵyl
Dewi a oedd wedi codi dros £100. Estynnodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler longyfarchiadau i’r Cadeirydd am lwyddiant y Cinio
yn Nhŷ Oriel a hefyd i’r côr a berfformiodd. PENDERFYNWYD
derbyn y rhestr o alwadau dinesig a gyflawnwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd
a’r Is-gadeirydd a nodi sylwadau’r Cadeirydd. |
|||||||||||||
Derbyn Cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 25 Chwefror 2014 (copy ynghlwm). Cofnodion: Cafodd Cofnodion
cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2014 eu cyflwyno. Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, mewn perthynas ag Eitem 10 (tudalennau 12 ac
13) “Polisi Ymddeoliad Hyblyg”, gan fod y cynnig gan y Cynghorydd Colin Hughes
wedi methu, y dylid dangos y bleidlais o fewn y cofnodion. Gan fod yr
aelodau wedi gofyn am ddangos yr wybodaeth cytunwyd y byddai hon yn cael ei
hychwanegu fel a ganlyn: Pleidleisiau a
fwriwyd - O blaid - 16 Yn
erbyn - 21 Yn
ymatal - 1 PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 25 Chwefror
2014 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||
DIWYGIO'R POLISI ABSENOLDEB PDF 86 KB Ystyried adroddiad
gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol (copi ynghlwm) sydd
yn cyflwyno i'r Cyngor llawn
y weithdrefn newydd Presenoldeb mewn Gwaith ar gyfer
ei mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, Y Cynghorydd Barbara Smith,
yr adroddiad ar y Weithdrefn Presenoldeb yn y Gwaith (a gafodd ei gylchredeg yn
flaenorol) a oedd wedi’i nodi yn yr Agenda dan y teitl Diwygio’r Polisi
Absenoldeb. Byddai cyflwyno
gweithdrefn Presenoldeb yn y Gwaith newydd yn galluogi’r Cyngor i reoli
absenoldeb mewn ffordd fwy rhagweithiol. Y nod fyddai gostwng nifer cyfartalog
y diwrnodau sy’n cael eu colli am bob cyflogai ar draws y sefydliad a hefyd,
felly, cynyddu cynhyrchiant a’r gwasanaethau a gyflenwir ar gyfer cwsmeriaid. Roedd adolygiad
sylweddol o reoli absenoldeb wedi cael ei gwblhau dros y deuddeng mis diwethaf.
Roedd y weithdrefn newydd wedi canolbwyntio ar ymdrin â phryderon rheolwyr ac
roedd yn cyflwyno proses eglur a strwythuredig i reolwyr ei dilyn ac i
gyflogeion ei deall. Cyfeiriwyd at y
prif newidiadau fel a ganlyn: ·
cyflwyno
trothwyon – pedwar prif drothwy sy’n achosi i gyflogai gael ei roi mewn proses
gallu i weithio oherwydd absenoldeb ·
mwy o
annibyniaeth wrth wneud penderfyniadau i wasanaethau trwy ddileu’r Panel Rheoli
Iechyd a chyflwyno proses archwilio fewnosodedig ·
cyflwyno
tri cham eglur ar gyfer gallu i weithio oherwydd absenoldeb gan ei gwneud yn
bosib pennu targedau presenoldeb a’u monitro am gyfnod diffiniedig ·
adolygiad
o’r ddarpariaeth Iechyd Galwedigaethol gyda strwythur newydd a diffiniad o
rolau i gefnogi presenoldeb yn y gwaith a rhoi cymorth i ddeall achosion
absenoldeb, tueddiadau a sut i atal neu leihau absenoldeb. Roedd y Polisi
wedi cael ei gyflwyno yn y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol ar 2 Ebrill 2014.
Roedd y polisi wedi cael cefnogaeth ar y cyfan, ac eithrio materion sy’n
ymwneud ag anabledd. Yn y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol, roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol wedi cytuno i gynnwys y Polisi
Anabledd fel rhan o’r adolygiad o Bolisïau Adnoddau Dynol allweddol ac adrodd
yn ôl wrth y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol ar hynny. Argymhellodd yr
Aelod Arweiniol fod y Cyngor yn mabwysiadu’r weithdrefn. Cafwyd trafodaeth
fanwl ac fe godwyd y pwyntiau canlynol: ·
sut
fyddai dioddefwyr cam-drin domestig yn cael ystyriaeth dan y Polisi? Eglurodd y
Partner Busnes Adnoddau Dynol fod y Polisi Absenoldeb wedi’i fwriadu’n gyfan
gwbl i ymdrin â salwch a bod Polisïau eraill yn bodoli o fewn yr Awdurdod Lleol
ar gyfer pobl ac arnynt angen amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau eraill.
Roedd y Polisi’n canolbwyntio ar bobl a oedd yn absennol o’r gwaith oherwydd
salwch a rhoi cymorth i reolwyr ddeall y rheswm dros yr absenoldeb. ·
Roedd
wedi cael ei gadarnhau y byddai’r Awdurdod Lleol yn monitro absenoldeb yn
fisol. Byddai data ar absenoldeb hefyd yn cael ei gyflwyno i Aelodau’n
rheolaidd i roi gwybodaeth gyson iddynt am ystadegau. PENDERFYNWYD
y byddai’r Cyngor Llawn yn cytuno i fabwysiadu’r Weithdrefn Presenoldeb yn y
Gwaith. |
|||||||||||||
POLISI GWEITHIO YSTWYTH PDF 83 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Adnoddau Dynol & Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol (copi ynghlwm) ar gyfer
cytundeb y Cyngor llawn i fabwysiadu'r Datganiad Polisi Gweithio Ystwyth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, Y Cynghorydd Barbara Smith,
gyflwyno’r Datganiad Polisi Gweithio Ystwyth (a gafodd ei gylchredeg yn
flaenorol). Byddai
penderfyniad yn cael ei geisio gan y Cyngor Llawn ar fabwysiadu’r Datganiad
Polisi Gweithio Ystwyth. Roedd y Datganiad
Polisi Gweithio Ystwyth wedi’i fwriadu i fod y polisi trosfwaol ynghylch sut y
byddai cyflogeion yn gweithio yn y Cyngor wrth edrych tua’r dyfodol. Roedd yn
cynnwys gweithio hyblyg, cyfathrebu, swyddfeydd, cymarebau desgiau, diogelwch
gwybodaeth a thechnoleg a fyddai’n helpu’r Cyngor i weithio mewn ffordd fwy
ystwyth a hyblyg. Yng ngoleuni
pryderon a godwyd yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol ar 2 Ebrill
ynghylch cadernid yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn gyffredinol,
cytunwyd y dylid trosglwyddo’r mater i’r Cynghorydd Hugh Evans fel yr Aelod
Arweiniol sy’n gyfrifol am Gydraddoldebau. Cafwyd trafodaeth
ynghylch newid y teitl o “Polisi Gweithio Ystwyth” i “Polisi Gweithio
Hyblyg”. PENDERFYNWYD: ·
Y byddai’r Polisi Gweithio Ystwyth yn cael
ei ailenwi, ac mai’r enw o hyn allan fyddai “Polisi Gweithio Hyblyg”. ·
Y byddai’r Datganiad Polisi Gweithio
Hyblyg yn cael ei gytuno a’i fabwysiadu gan y Cyngor Llawn. |
|||||||||||||
DATGANIAD POLISI CYFLOG PDF 76 KB Ystyried adroddiad gan
Bennaeth AD (copi ynghlwm) ar gyfer
y Cyngor llawn i gymeradwyo'r Datganiad Polisi Cyflog er
mwyn sicrhau fod y Cyngor yn
cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Lleoliaeth
2011. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, Y Cynghorydd Barbara Smith,
gyflwyno’r Adroddiad ar y Datganiad Polisi Cyflog (a gafodd ei gylchredeg yn
flaenorol). Roedd yr
adroddiad wedi cael ei baratoi i gwrdd â rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor
mewn perthynas â Deddf Lleoliaeth 2011. Roedd
cymeradwyaeth yn cael ei cheisio i’r Datganiad Polisi Cyflog a oedd wedi cael
ei ddrafftio’n unol â gofynion 38(1) Deddf Lleoliaeth 2011 ac yn cynnwys yr
holl drefniadau presennol o ran cyflog ar gyfer grwpiau’r gweithlu o fewn y
Cyngor, gan gynnwys Prif Swyddogion a’r cyflogeion â’r cyflogau isaf. Roedd y Polisi
Cyflog yr un fath â’r flwyddyn flaenorol i raddau helaeth ond roedd yn
adlewyrchu’r codiad cyflog o 1% ar gyfer Staff y Cydgyngor Cenedlaethol, Soulbury
ac Ieuenctid a’r codiad o 0% ar gyfer Prif Swyddogion. Nid oedd y setliad
cyflog ar gyfer 2014/15 wedi cael ei gytuno eto. Cafwyd trafodaeth
a gofynnwyd am wybodaeth gymharol am gyflogau sy’n cael eu talu i weision sifil
yng Nghaerdydd a San Steffan gan y byddai’n ddefnyddiol at ddibenion cymharu.
Cytunwyd, gan fod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n genedlaethol, y byddai’r
wybodaeth yn cael ei chydosod a’i dosbarthu i’r aelodau. PENDERFYNWYD
y byddai’r Cyngor yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Cyflog i gydymffurfio â’i
rwymedigaeth gyfreithiol dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 |
|||||||||||||
Ystyried adroddiad gan
y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm)
i ddarparu Cyngor llawn gyda'r diweddaraf
ynglŷn â'r Cynllun Cyfalaf, gan gynnwys prosiectau
mawr a'r Cynllun Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
gyflwyno’r Cynllun Cyfalaf 2013/14 – 2016/17 ac argymhellion y Grŵp
Buddsoddi Strategol (a gafodd eu cylchredeg yn flaenorol). Roedd
diweddariadau misol ar y Cynllun yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ac roedd y
Cynllun Cyfalaf amcangyfrifiedig yn £36.468 miliwn ar hyn o bryd. Roedd y
Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ychydig ers cyflwyno adroddiad arno i’r Cabinet
ym mis Mawrth 2014. Roedd y Grŵp
Buddsoddi Strategol wedi adolygu cynigion cyfalaf ac wedi gwneud argymhellion
ar gyfer cynnwys prosiectau yn y Cynllun Cyfalaf o 2014/15 ymlaen. Roedd prosiectau
wedi cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion Corfforaethol y
Cyngor. Byddai angen
cwblhau ffurflen Achos Busnes ar gyfer pob prosiect newydd a byddai unrhyw
oblygiadau penodol yn cael eu trafod ar y cam hwnnw. Nid oedd yr un
prosiect cyfalaf heb risg; serch hynny byddai’r holl gynlluniau’n cael eu
hadolygu gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac yn destun gweithgarwch monitro
ac adrodd misol parhaus. Mewn ymateb i
gwestiynau a godwyd gan aelodau, cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
yr isod: ·
Roedd
y Cyngor wedi gofyn am gyllid i atgyweirio pont Rhuddlan. Gan fod y bont yn
adeiledd rhestredig, byddai astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal a
chyllid yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru a CADW. ·
Byddai
angen sicrhau bod prosiectau cyfalaf newydd wedi’u diogelu at y dyfodol ac yn
gallu addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi
bod yn paratoi datganiad gan nad oedd Polisi Amgylcheddol gan Gyngor Sir
Ddinbych. Roedd cynlluniau mwy a oedd yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru
yn mynd i gynnwys elfennau amgylcheddol. ·
Roedd
gwaith ar Strategaeth Gaffael yn mynd rhagddo. Roedd model rhwng tair sir yn
cael ei archwilio gan Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd. Roedd llawer o
waith wedi cael ei wneud gyda’r tîm caffael dros y 12 mis blaenorol. Roedd gwaith
i ddatblygu tîm ar y cyd gyda Sir y Fflint, i wneud Sir Ddinbych yn fwy gwydn,
wedi bod yn digwydd. O fewn y 2 fis nesaf, byddai system gaffael newydd wedi’i
sefydlu. Wedi hynny, byddai’r holl gontractau’n mynd trwy un broses. ·
Roedd
Cam 3 o’r elfen amddiffynfeydd môr arfordirol yn y Rhyl bron yn barod i
ddechrau. Bu cais i ddod o hyd i fwy o gyllid i alluogi’r amddiffynfeydd môr i
fod yn fwy cain e.e. gyda goleuadau a mannau eistedd. Roedd yr Aelodau’n
cefnogi’r cynnig i wneud amddiffynfeydd môr yn flaenoriaeth. ·
Nid
oedd yr adroddiad yn manylu ar gynlluniau amrywiol a oedd yn costio llai na
£30,000. Dywedodd yr aelodau yr hoffent i fanylion yr holl gynlluniau gael eu
cylchredeg iddynt. ·
Roedd
Cefndy Enterprises wedi cael buddsoddiad i ddisodli peiriannau a oedd wedi
dyddio. Byddai’r cymhorthdal yr oedd Sir Ddinbych yn ei dalu i Cefndy
Enterprises yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol ar gais Cefndy. O 2015/2016, ni
fyddai cymhorthdal yn cael ei dalu mwyach.
Symudodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid ac Asedau ymlaen at y crynodeb o Argymhellion y Grŵp
Buddsoddi Strategol (Cynllun Cyfalaf 2014/15) a oedd wedi’u nodi yn Atodiadau
5, 6 a 7. Roedd setliad
cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15 £22,000 yn is nag ar gyfer 2013/14.
Gyda’r diffyg buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, nid oedd dewis gan y
Cyngor ond dibynnu ar ei adnoddau ei hun i fuddsoddi mewn prosiectau
allweddol. Roedd y Grŵp
Buddsoddi Strategol wedi cytuno i wahodd cynigion gan adrannau yn unol â’r
dyraniadau bloc a oedd wedi’u cytuno’n flaenorol. Cafwyd trafodaeth fanwl ac mewn ymateb i gwestiynau pellach a ofynnwyd ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|||||||||||||
Ar y pwynt hwn (12.20 p.m.) cafwyd egwyl am 20
munud. Fe ailgynullwyd y cyfarfod am 12.40 p.m. |
|||||||||||||
Cytunodd y
Cadeirydd i amrywio’r eitemau a oedd yn weddill ar yr Agenda. |
|||||||||||||
TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR PDF 64 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn
argymell bod Cyngor yn cytuno ar
y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd arfaethedig am y flwyddyn ddinesig 2014 i'w hethol yn
ffurfiol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 13 Mai 2014. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg
yn flaenorol) a oedd yn ceisio cytundeb i Gadeirydd ac Is-gadeirydd arfaethedig
y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014/15 gael eu hethol yn ffurfiol yng
nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 13 Mai 2014. Roedd enwebiadau wedi cael eu
ceisio ar gyfer y ddwy swydd. Ethol Cadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, gyda’r
Cynghorydd Win Mullen-James yn eilio, fod y Cynghorydd Brian Blakeley yn cael
ei enwebu i fod yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014/15. Ni chafwyd
unrhyw enwebiadau pellach. Diolchodd y Cynghorydd Blakeley i’r aelodau am eu
cefnogaeth a chafodd ei longyfarch ar ei enwebiad. Ethol Is-gadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
gyda’r Cynghorydd Martyn Holland yn eilio, fod y Cynghorydd Dewi Owens yn cael
ei enwebu i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014/15. Cynigiodd y
Cynghorydd Eryl Williams, gyda’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn eilio, fod
y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn cael ei henwebu i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer
blwyddyn y Cyngor 2014/15. Cadarnhaodd y Cynghorydd Joan Butterfield na
fyddai’r Grŵp Llafur yn cyflwyno enwebiad. Yn unol â
Chyfansoddiad y Cyngor, cafwyd pleidlais gudd i ddewis yr Is-gadeirydd
arfaethedig a chafodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei henwebu i fod yn Is-gadeirydd
arfaethedig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014/15. Diolchodd y Cynghorydd Kensler
i’r aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei llongyfarch ar ei henwebiad. PENDERFYNWYD
mai’r Cynghorydd Brian Blakeley fyddai Cadeirydd arfaethedig y Cyngor ac mai’r
Cynghorydd Gwyneth Kensler fyddai
Is-gadeirydd arfaethedig y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2014/15
i gael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 13 Mai 2014. |
|||||||||||||
PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 84 KB Ystyried adroddiad gan
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm) sydd
yn hysbysu Aelodau o adroddiad y Panel, ac i
alluogi Aelodau i fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad
ac i benderfynu ar lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer
y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014/2015. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, Y Cynghorydd Barbara Smith,
gyflwyno Adroddiad Panel Annibynnol
Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2014/15 (a gafodd ei gylchredeg yn
flaenorol) i hysbysu’r Aelodau ynghylch adroddiad y Panel. Hefyd i Aelodau
fabwysiadu’r argymhellion o fewn yr adroddiad a phenderfynu ar lefel y
gydnabyddiaeth i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol
2014/15. Roedd Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011 (y Mesur) yn amodi bod yn rhaid i’r Panel gyhoeddi adroddiad
ar gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol. Roedd y Panel
wedi ymweld â phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ganfod safbwyntiau Aelodau
a swyddogion, yn ystod haf 2013. Nid oedd y Panel
wedi newid lefel y gydnabyddiaeth ers 2011. Yn flaenorol roedd y Panel wedi bod
yn alinio’r Cyflog Sylfaenol a oedd yn cael ei dalu ag enillion gros canolrifol
cyflogeion llawn-amser yng Nghymru. Yn y tair blynedd ddiwethaf, roedd
gostyngiad wedi bod yn y cyllid i awdurdodau lleol ac roedd cyflogau yn y
sector cyhoeddus wedi cael eu rhewi. Roedd y Panel wedi penderfynu yn ystod y
cyfnod hwnnw na fyddai’n cadw’r aliniad ag enillion canolrifol a oedd wedi
arwain at ostyngiad yn lefel y Cyflog Sylfaenol mewn termau real. O ystyried bod y
cyfyngiadau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus wedi cael eu llacio ychydig,
roedd y Panel wedi penderfynu cynyddu’r Cyflog Sylfaenol lai nag 1% o £13,175 i
£13,300 ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15. Roedd y Panel
wedi penderfynu y dylai pob awdurdod lleol bennu lefel y cyflog sy’n daladwy i
Benaethiaid a Dirprwyon Cynghorau (Cadeirydd ac Is-gadeirydd) o blith tair
lefel yr oedd y Panel wedi penderfynu eu bod yn daladwy. Nid oedd y lefelau hyn
yn gysylltiedig â maint y boblogaeth a lle’r awdurdod lleol oedd pennu’r lefel
yn ôl y llwyth gwaith a’r cyfrifoldebau disgwyliedig. Roedd y lefelau
cyflog a oedd ar gael fel a ganlyn:
Y lefelau
cyfredol a oedd yn daladwy i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd oedd £19,035 ac
£14,805 yn y drefn honno. Awgrymodd y Cynghorydd
Barbara Smith wrth yr Aelodau y dylid ymdrin â lefelau cyflog y Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd ar wahân. Cytunwyd ar hyn. Yn dilyn
trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cynigiodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Fand c) £19,000 ar gyfer y Cadeirydd. Eiliwyd
gan y Cynghorydd Peter Owen. ·
Cynigiodd
y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies Fand b) £21,500 ar gyfer y Cadeirydd. Eiliwyd
gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones. Cafwyd pleidlais
ar lefel Cyflog y Cadeirydd fel a ganlyn: ·
Pleidleisiodd
20 aelod o blaid £21,500 ·
Pleidleisiodd
18 aelod o blaid £19,000 ·
Gofynnodd
y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei fod yn cael ei nodi ei bod hi wedi ymatal o’r
bleidlais. Felly derbyniwyd
y cynnig y byddai Cyflog Cadeirydd y Cyngor ar gyfer 2014/15 yn £21,500. Cynigiodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill Fand c) £14,000 ar gyfer yr Is-gadeirydd.
Eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland Cafwyd pleidlais
ar lefel cyflog yr Is-gadeirydd fel a ganlyn a phleidleisiodd 33 aelod o blaid
Band c) £14,000 ac fe bleidleisiodd 4 yn erbyn. Felly derbyniwyd
y cynnig y byddai Cyflog Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2014/15 yn £14,000. Ar y pwynt hwn,
mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts wrthwynebiad. Argymhellodd y Cynghorydd Roberts
na ddylid talu cyflogau ychwanegol i Gadeiryddion Pwyllgorau oherwydd yr
hinsawdd economaidd sydd ohoni a’r ffaith y byddai’n arbediad ariannol i’r
Cyngor. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd wedi’i gyflwyno gerbron y Cyngor yn berthnasol i swyddi a oedd yn denu uwch gyflogau. Roedd y ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|||||||||||||
Ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler: “Rydym yn galw ar y Cyngor i wahardd ‘Lanterni’r awyr’ rhag cael eu rhyddhau o dir yn eiddo Cyngor Sir Ddinbych. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler y Rhybudd o Gynnig canlynol i’r Cyngor Llawn ei
ystyried. “rydym yn galw ar
y Cyngor i wahardd yr arfer o ryddhau llusernau awyr o dir sy’n eiddo i Gyngor
Sir Ddinbych”. Cafwyd trafodaeth
ac argymhellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a phenderfyniad yn cael ei
wneud wedi hynny gan y Cabinet. Cytunodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler â’r cynnig hwn. PENDERFYNWYD
y byddai adroddiad ar lusernau awyr yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
ac yn cael ei ystyried wedi hynny gan y Cabinet. |
|||||||||||||
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 153 KB Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Raglen Gwaith i’r Dyfodol y
Cyngor (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) Sesiwn
Briffio’r Cyngor 28 Ebrill 2014 Heddlu Gogledd
Cymru – Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu (FCC) i gael ei ohirio tan 13 Mai 2014. Atgoffodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Aelodau am y gweithdai ar y gyllideb a oedd
yn mynd i fod yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn. Roedd 14 Gorffennaf 2014
yn debygol o fod yn ddigwyddiad dros ddiwrnod cyfan. Byddai dyddiad dros dro,
sef 1 Gorffennaf 2014, yn cael ei gadarnhau maes o law. |
|||||||||||||
Daeth y cyfarfod i ben am 1.40 p.m. |