Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
CROESO Estynnodd y
Cadeirydd groeso i gyfarfod Cyngor llawn o Gyngor Sir Ddinbych. Yn y fan hon,
derbyniodd y Cadeirydd ddeiseb gan y Cynghorydd Huw Williams, ar ran plant a
rhieni ysgol Llanbedr. Aeth y Cadeirydd
ymlaen i dalu teyrnged i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CC:
Moderneiddio a Lles), Sally Ellis sy’n ymddeol ddiwedd mis Chwefror 2014. Dyma
bedwar arweinydd y grwpiau gwleidyddol a'r Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yn talu teyrnged i'r CC: Moderneiddio a Lles. Gwnaed
gyflwyniad a chafwyd araith o ddiolch gan y CC: Moderneiddio a Lles. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd Williams gysylltiad personol ar gyfer Eitem 9, Polisïau Cam-drin Domestig a Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd. Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ar gyfer eitem 10, Polisi
Ymddeol Hyblyg. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 70 KB Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Dosbarthwyd
rhestr o ddigwyddiadau dinesig a gynhaliwyd ar gyfer y Cyngor gan y Cadeirydd
a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 22 Ionawr 2014 a 18 Chwefror 2014 cyn
y cyfarfod. Hysbysodd y
Cadeirydd yr Aelodau o "Marsh Tracks" yn y Rhyl a pha mor anhygoel
oedd y cyfleuster hwn. Estynnodd y Cadeirydd ddiolch i'r holl
swyddogion a staff sy'n ymwneud â'r cyfleuster. Trefnwyd
cystadleuaeth ar gyfer plant ysgol gynradd i ddylunio baner sy’n nodi ystyr
Dydd Gŵyl Dewi iddyn nhw. Gofynnwyd iddynt farddoni cerdd hefyd. Roedd
y ddau a oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth wedi mynychu Neuadd y Sir gyda'u
rhieni. Bu’r faner yn chwifio tan ar ôl Dydd Gŵyl
Dewi, ac ar ôl hynny’n cael ei gyflwyno i enillydd y gystadleuaeth. Cafodd
y Gerdd ei hargraffu a'i fframio a'i chyflwyno i'r enillydd. PENDERFYNWYD – y
dylid derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ac y dylid
nodi sylwadau’r Cadeirydd. |
|
Derbyn Cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 27 Ionawr 2014. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2014. Dywedodd y
Cynghorydd Gareth Sandilands ei fod wedi datgan cysylltiad personol yn Eitem 7,
Cyllideb ar gyfer 2014/15, ond nid oedd hyn wedi'i gynnwys yn y cofnodion. Byddai'r
cywiriad yn cael ei nodi. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2014 fel cofnod cywir. |
|
CYMERADWYO ACHOS BUSNES AR GYFER PROSIECT YSGOL NEWYDD Y RHYL PDF 304 KB Ystyried adroddiad gan
y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod
Arweiniol dros Addysg (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran cyflwyniad y Cyngor
o'r Achos Busnes Terfynol fro Ysgol
Newydd Rhyl i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg ei adroddiad (copi'n
amgaeedig) yn hysbysu'r Cabinet o'r sefyllfa bresennol gyda’r Cyngor yn
cyflwyno'r Achos Busnes Terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer Ysgol Newydd y
Rhyl. Yn y fan hon,
dangosodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (PCaChA) gyflwyniad o gynllun
yr Ysgol Newydd yn y Rhyl. Nid oedd y fideo wedi’i gwblhau eto ond
cafodd yr Aelodau syniad o’r cynllun a'r dyluniad. Byddai prosiect
Ysgol Newydd Y Rhyl yn golygu ysgol gymunedol a fyddai’n darparu adeilad ysgol
newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl ar gyfer hyd at 1200 o ddisgyblion mewn
addysg prif ffrwd yn ogystal â chartref i tua 45 o ddisgyblion o Ysgol Tir
Morfa, yr ysgol arbennig gymunedol yn y Rhyl. Cafodd yr Achos
Busnes ei atodi i’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Byddai'r
Achos Busnes yn ceisio am gyllid o 50%
gan Lywodraeth Cymru. Byddai hynny’n golygu fod angen i Gyngor
Sir Ddinbych ddod o hyd i £12,293,050.
Byddai'r swm yn cael ei
gynnwys o fewn y Cynllun Corfforaethol cyffredinol a'r Cynllun Cyfalaf. Ar ôl derbyn canlyniad
arolwg cyflwr adeilad, cytunwyd y byddai'r Ganolfan Hamdden presennol yn parhau
i gael ei ddefnyddio i ddysgu Addysg Gorfforol i ddisgyblion Ysgol Uwchradd y
Rhyl ac Ysgol Tir Morfa. Byddai hynny’n golygu bod modd
canolbwyntio ar wella cyfleusterau presennol yn hytrach nag adeiladu ased
arall. Bu ymgynghori
helaeth gyda chymunedau Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa yn natblygiad
y prosiect. Roedd hynny wedi cynnwys nifer o gyfarfodydd
ymgynghori yn y gymdogaeth i drafod y cynlluniau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer
adeiladau’r ysgol newydd. Mae Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl a
Chyngor Tref y Rhyl hefyd wedi cyfrannu at gynnydd y prosiect. Dyma'r Aelodau’n
diolch i'r Aelod Arweiniol dros Addysg, y PCaChA a'i thîm, am eu holl waith
caled. ARGYMELL bod
y Cyngor yn cymeradwyo'r Achos Busnes ar gyfer Ysgol Newydd Y Rhyl cyn i
Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniad terfynol. |
|
TRETH Y CYNGOR 2014/15 A MATERION CYSYLLTIEDIG. PDF 65 KB Ystyried adroddiad gan
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau (copi'n atodol) i Aelodau i
basio penderfyniadau pellach mewn ffurf
penodol i sicrhau bod y
Cyngor Tx a'i faterion cysylltiedig
yn gyfreithiol ddilys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer
2014/2015. Wrth fabwysiadu
penderfyniadau cyfarfod cyllideb y Cyngor ar y 27 Ionawr 2014, roedd yn
angenrheidiol i'r Cyngor basio penderfyniadau pellach mewn ffurf penodol i
sicrhau bod Treth y Cyngor a'i faterion cysylltiedig yn gyfreithiol ddilys. Yn dilyn
trafodaethau, cytunodd yr Aelodau ar yr argymhellion yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD fod: (i)
Y Cyngor Sir fel yr Awdurdod Bilio yn ystyried
y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer
Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref / Cymuned a datgan lefelau Treth y Cyngor ar
gyfer blwyddyn ariannol 2014/2015. (ii)
Y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2014/2015, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau
Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A. (iii)
Y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2014/2015, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel adran 4 Atodiad A. (iv)
Y symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn
ariannol 2014/2015 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau wedi eu dangos yn
Atodiad C. (v)
Lefel y disgownt ar gyfer Dosbarth A, B ac
C fel a ragnodir o dan y Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarth Rhagnodedig ar
Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael eu gosod ar sero ar gyfer blynyddoedd ariannol
2014/2015, 2015/2016 a 2016/2017 sef tymor y Cyngor hwn gyda'r cafeat, a bod
hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i Ddeddfwriaeth neu amodau lleol. |
|
Ystyried adroddiad gan
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau (copi'n atodol) i'r Aelodau eu cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r
Trysorlys 2014/15 a'r Dangosyddion Darbodus 2014/15 to 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Aelodau i gymeradwyo Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys 2014/2015 a'r Dangosyddion Darbodus 2014/2015 i 2016/2017. Mae Rheoli
Trysorlys yn ymwneud ag edrych ar ôl symiau sylweddol o arian parod y Cyngor
sydd wedi bod yn rhan hanfodol o waith y Cyngor. Mae'n gofyn am strategaeth gadarn a
rheolaethau priodol i ddiogelu arian y Cyngor er mwyn sicrhau enillion rhesymol
ar fuddsoddiadau a bod dyled yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn ddoeth. Mabwysiadodd y
Cyngor y Cod Ymarfer diwygiedig SSCCCh ar RhT (Tachwedd 2011) yn ei gyfarfod ar
28 Chwefror 2012. Mae'n ofyniad y Cod hwnnw i gymeradwyo DSRhT pob blwyddyn
ariannol. Mae'r Cyngor wedi
cymeradwyo Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol a allai weld buddsoddiad
sylweddol o ran cyflawni ei flaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf. Roedd
yn hanfodol bod gan y Cyngor swyddogaeth Rheoli Trysorlys cadarn ac effeithiol
sy'n sail i'r buddsoddiad ym mhob gweithgaredd arall. Wrth fuddsoddi,
blaenoriaethau'r Cyngor oedd: ·
cadw
arian yn ddiogel (diogelwch) ·
Gwneud
yn siŵr y gellid cael mynediad at yr arian pan fo angen (hylifedd), a ·
gwneud
yn siŵr bod cyfradd dychwelyd da (arenillion). Dywedodd y
Cynghorydd Eryl Williams bod yna weledigaeth lle gellir cychwyn proses yn y
flwyddyn neu ddwy nesaf i Sir Ddinbych adeiladu tai eu hunain. Cynigiodd
y Cynghorydd Williams fod Fforwm yn cael ei sefydlu i alluogi trafodaeth manwl
ar y mater hwn. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai angen gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth
Cymru cyn cychwyn y Fforwm. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo: (i)
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (ii)
Lleoliad y Dangosyddion Darbodus ar gyfer
2014/2015, 2015/2016 a 2016/2017 (iii)
Y Datganiad Isafswm Darpariaeth Refeniw, a (iv)
Gofyn i bob un o’r saith Aelod Cynulliad
ar gyfer Sir Ddinbych lobïo dros newid teg i'r system cyllid Cyfrif Refeniw Tai
sy’n sicrhau nad yw awdurdodau lleol sydd wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru
yn cael eu cosbi o ran y symiau y gallent eu buddsoddi yn y dyfodol. |
|
POLISI CAM-DRIN DOMESTIG A PHOLISI GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD PDF 79 KB Ystyried adroddiad gan
y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad (copi ynghlwm) cyflwyno'r Polisi a
Datgelu Cam-drin
Domestig a Pholisi Gwahardd ar
gyfer eu mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Barbara Smith, y Polisi Cam-drin Domestig a’r Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Polisi
Cam-drin Domestig Comisiynodd Llywodraeth Cymru’r Prosiect 10,000 o Fywydau Mwy Diogel i sicrhau bod pob darparwr gwasanaeth a sefydliad perthnasol yn gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig ac yn gallu cefnogi unigolion sy'n dioddef o gam-drin domestig yn effeithiol. Cododd yr Aelodau y mater bod y polisi ddim yn cynnwys aelodau gwrywaidd o staff. Roedd ystadegau ar gael a oedd yn nodi fod 1 o bob 6 o ddynion yn dioddef trais gan eu partneriaid. Awgrymwyd a chytunwyd y dylid cynnwys dynion hefyd yn y Polisi. Mae'r polisi yn nodi sut y mae Cyngor Sir Ddinbych yn condemnio unrhyw fath o gam-drin domestig, trais yn erbyn merched a thrais rhywiol ac yn cydnabod ei bod yn drosedd ac yn annerbyniol. Mae'r polisi yn manylu ar gyfrifoldeb Rheolwyr, AD a gweithwyr eraill, ynghyd â pha gymorth y gall y dioddefydd/ goroeswr ei ddisgwyl gan y Cyngor. Roedd yn darparu arweiniad clir i Reolwyr ar yr hyn y dylent ei wneud os bydd gweithiwr yn datgelu eu bod wedi bod yn destun cam-drin domestig, trais neu drais rhywiol. Rhan ddefnyddiol iawn o'r ddogfen hon yw'r cymorth ymarferol y gall y Cyngor ei gynnig i weithiwr a fydd yn sicrhau bod y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu gweithio mewn gweithle diogel sy’n eu cefnogi. Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Gall cael gafael ar gyngor cyfreithiol i’r dioddefydd / goroesydd fod yn broses hirfaith a'r gobaith ymysg yr Aelodau oedd bod AD yn cymryd barn drugarog ar Aelod staff sy'n gofyn am amser i ffwrdd i fynychu apwyntiadau â Chyfreithiwr neu Lys. · Gan ei fod yn fater problemus a sensitif, gallai fod yn anodd i aelod staff ddatgelu manylion am eu bywyd preifat. Disgwylir i Reolwyr ymgymryd â hyfforddiant eang. Awgrymwyd y dylai person penodedig fod ar waith, lle byddai gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus i siarad â nhw. Cytunwyd y byddai rhaid edrych i mewn ar un pwynt cyswllt er nad oedd angen cynnwys hynny yn y Polisi, byddai'n dod yn rhan o'r hyfforddiant a ddarperir. ·
Yr ac dros Alyn a Glannau
Dyfrdwy, roedd Carl Sargeant yn gwahodd
awdurdodau lleol i fod yn
gefnogwyr corfforaethol o'r ymgyrch rhuban gwyn. Cytunwyd
y byddai gwybodaeth ynglŷn â'r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn cael ei rannu gydag
Arweinyddion y Grŵp ac ni fyddai angen adrodd yn ôl i'r Cyngor Sir. Polisi
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi disodli’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a'r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) ac mae'r polisi hwn wedi’i ddatblygu i adlewyrchu’r newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i'r uno hwn. Mae'r polisi newydd yn cydymffurfio â Chod Ymarfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. PENDERFYNWYD –fod
y Cyngor Sir yn:- ·
Mabwysiadu’r Polisi Cam-drin Domestig a
Thrais Rhywiol, ac yn cytuno cyflwyno hyfforddiant priodol ar y Polisi i'r holl
Reolwyr o fewn yr awdurdod ·
Cytuno mewn egwyddor i gefnogi'r Ymgyrch
Rhuban Gwyn yn ddibynnol fod swyddogion yn ymchwilio i’r ymrwymiadau sydd eu
hangen ar y Cyngor fel cefnogwr corfforaethol o’r ymgyrch ac adrodd yn ôl i
Arweinwyr y Grŵp, a ·
Mabwysiadu’r Polisi Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd |
|
POLISI YMDDEOL HYBLYG PDF 92 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad (copi i ddilyn) cyflwyno'r Polisi Ymddeol Hyblyg i fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar Foderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Barbara Smith, yr
adroddiad Ymddeol Hyblyg (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Mae gan Aelodau
o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr hawl i wneud cais am ymddeoliad hyblyg.
Mae hyn yn golygu y gall gweithiwr dros 55 oed wneud cais i newid natur a
dwyster eu gwaith a derbyn eu pensiwn tra’n parhau i weithio a derbyn cyflog. Pwrpas
ymddeoliad hyblyg yw hwyluso’r symudiad graddol tuag at ymddeoliad. Mae trafodaethau
ar Bolisi Ymddeoliad Hyblyg wedi bod yn mynd ymlaen ers dros 12 mis. Mae'r
Undebau Llafur a Rheolwyr yn cytuno ar argymhelliad a) bod gostyngiad lleiaf
mewn oriau neu gyflog o 20% yn cael ei gyflwyno. Fodd bynnag, ni fu'n bosibl dod i gytundeb ar
elfen b) ynglŷn ag uchafswm hyd amser rhwng caniatáu ymddeoliad hyblyg ac
ymddeol. Mae’r Cydbwyllgor
Ymgynghorol Lleol (CBYLl) wedi ystyried y cynigion yn ffurfiol ar dri achlysur
ac er gwaethaf trafodaethau manwl ni fu’n bosibl dod i gytundeb gyda
chynrychiolwyr yr Undebau Llafur.
Cytunodd cyfarfod diwethaf y
CBYLl i gyfeirio'r cynigion i'r Cyngor gydag argymhelliad i fabwysiadu er
gwaethaf y methiant hwn i gytuno. Cynigiodd y
Cynghorydd Colin Hughes gynnig y dylai'r dyddiad ymddeol diffiniol ddim fod yn
fwy na 36 mis o’r dyddiad ymddeoliad hyblyg gyda 12 mis pellach mewn
amgylchiadau eithriadol. Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan
Butterfield Cynhaliwyd
pleidlais i aelodau gytuno neu anghytuno i’r diwygiad. Collwyd y bleidlais ac ni chafodd y diwygiad
ei weithredu. Fe bleidleisiodd
yr Aelodau ar yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, a PHENDERFYNWYD bod
y Cyngor Sir yn mabwysiadu’r canlynol: (a)
Cyflwyno gostyngiad lleiaf – dylai’r
gostyngiad hwn gyfateb i leiafswm o 20% o ostyngiad naill ai mewn oriau neu
dâl. (b)
Cyflwyno cynllun ymddeol gyda'r gweithiwr
a fydd yn rhoi dyddiad pendant lle bydd y gweithiwr yn ymddeol yn llwyr. Dylai’r dyddiad ymddeol pendant fod o fewn
24 mis i ddyddiad yr ymddeoliad hyblyg gyda’r dewis i adolygu hwn ar ddiwedd y
cyfnod ac ymestyn am 12 mis arall mewn amgylchiadau eithriadol os yw hyn yn
bodloni anghenion y busnes a'r unigolyn. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu
fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
PROSIECT TRIN GWASTRAFF GWEDDILLIOL GOGLEDD CYMRU (PTGGGC) PDF 92 KB Ystyried adroddiad gan
y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol
ar gyfer Tir y Cyhoedd (copi ynghlwm) i
gael ei awdurdodi Aelodau am y camau sy'n
weddill yn y broses i gael ei chwblhau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, yr adroddiad Prosiect
Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol fod yr adroddiad PTGGGC wedi’i gyflwyno’n flaenorol i’r
Cabinet, cyfarfod Briffio'r Cyngor a'r Pwyllgor Craffu. Cytunwyd
ar yr argymhellion ym mhob cyfarfod. Cafwyd
trafodaeth, a, PHENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn (a) cymeradwyo
dyfarnu statws Cynigydd o Ddewis i Wheelabrator Technologies Inc (WTI)
oherwydd, yn dilyn trafodaethau gyda'r WTI, bod eu Cais am Dendr Terfynol yn
werth am arian ar gyfer y bartneriaeth ac, yn dilyn gwerthusiad ariannol,
cyfreithiol a thechnegol manwl o’u cais, bod y bartneriaeth yn fodlon ar y
cydbwysedd risg arfaethedig gyda'r contract 'Cytundeb Prosiect'; (b) rhoi
caniatâd i Gydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gymryd yr holl
gamau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r broses gyda WTI - o’r Cynigydd o Ddewis
hyd at Gau’n Ariannol, a dyfarnu’r contract. (c) ymrwymo
i'r Bartneriaeth a'r prosiect drwy fabwysiadu, ynghyd â’r pedwar Cyngor arall,
yr egwyddorion yn yr Ail Gytundeb Rhyng-Awdurdod sy'n adlewyrchu prif delerau’r
Cytundeb Prosiect a fydd yn cael ei sefydlu gan y Cyngor Arweiniol a’r Cynigydd
a Ffafrir wrth Ddyfarnu’r Contract. (d) dirprwyo
awdurdod i Brif Weithredwr Arweiniol Sir y Fflint i gwblhau'r Ail Gytundeb
Rhyng-Awdurdod sydd i’w lofnodi gan yr awdurdodau cyfansoddol, ac i ystyried
safbwyntiau’r holl awdurdodau cyfansoddol ac i gyfeirio'n ôl at y Cydbwyllgor
er mwyn iddynt gymeradwyo unrhyw wyriad o’r egwyddorion y cytunwyd arnynt. (e) cytuno
i lofnodi'r Ail Gytundeb Rhyng-Awdurdod unwaith y bydd wedi ei gwblhau yn unol
â'r drefn uchod. (f) cymeradwyo'r
gyllideb arfaethedig ar gyfer prosiect 2013/14 o £595,558, ynghyd â'r gwariant
arfaethedig o £321,066 ar gyfer 2014/15, i fynd â'r broses gaffael i'r cam
terfynol o Gau’n Ariannol (y ddau fel y nodir yn atodiad 5). (g) dirprwyo
awdurdod o ofynion cyllidebol parhaus i'r Cyd-Bwyllgor PTGGGC. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl gorffen
trafod y materion uchod, parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
Ystyried adroddiad gan
y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi'n atodol) yn gofyn am benderfyniadau ar faterion sy'n ymwneud pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a gafodd ei ddosbarthu’n
flaenorol) yn gofyn i'r Cyngor wneud penderfyniad ynglŷn â’r nifer o
faterion yn ymwneud â threfniadaeth cyfarfodydd y Cyngor Sir. Mae'n ofynnol i'r
Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2014/15 er mwyn gallu cadarnhau mannau
cyfarfod ac adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau. Gan
fod y flwyddyn ddinesig newydd yn dechrau ym mis Mai mae hefyd yn briodol i'r
Cyngor ystyried newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol a bod yn ymwybodol o sut
mae trefniadau cadeirio Archwilio yn gweithio. Mynegodd rhai
aelodau awgrymiadau y byddai ymestyn yr amserlen i gwmpasu cyfnod hirach yn
ddefnyddiol. Cafwyd trafodaeth a chytunwyd y byddai cael
amserlen dros gyfnod o 18 mis ar sail dreigl yn well. Awgrymodd yr
Aelodau bod y Pwyllgorau canlynol hefyd yn cael eu cynnwys o fewn yr Amserlen
Pwyllgorau: ·
Maethu
a Mabwysiadu, a ·
Rhianta
Corfforaethol PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen ddrafft, a chytunwyd ar y budd o ymestyn yr
amserlen i 18 mis ar sail dreigl. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 100 KB Ystyried rhaglen gwaith I’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ‘Raglen Gwaith i'r Dyfodol’
y Cyngor (dosbarthwyd yn flaenorol). Panel Annibynnol
Cymru ar Gydnabyddiaeth i gael ei ychwanegu at RhGD y Cyngor ar gyfer 8 Ebrill
2014. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm. |