Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Joan Butterfield, Meirick
Davies, Peter Evans, Alice Jones a David Simmons. |
|
Datgan Cysylltiad Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni
ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un. |
|
Materion brys y cytunodd y cadeirydd â nhw Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 57 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Roedd
rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a'r
Is-Gadeirydd, ar gyfer cyfnod 30 Mai 2013 nes 24 Mehefin 2013 wedi'u cylchredeg
gyda phapurau’r cyfarfod. Darparodd
y Cadeirydd grynodeb o’r digwyddiadau canlynol:- 23 Medi 2013 - Ymweliad â Tŷ Gobaith. Eglurodd y Cadeirydd ei
fod wedi ymweld â Tŷ Gobaith yng Nghonwy a chyfeiriodd at y gwaith
rhagorol a wneir yno gan y staff. 26 Medi 2013 - Gweithdy Cerddoriaeth ar gyfer Ysgolion Arbennig, Gŵyl
Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru. Hysbyswyd yr aelodau o
safon ac ansawdd uchel y gerddoriaeth a gafodd ei gwerthfawrogi gan yr Ysgolion
Arbennig a phawb oedd wedi mynychu. Cadarnhaodd y Cadeirydd y cynhelir Gwasanaeth Carolau Blynyddol y Cyngor
Sir yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 10 Rhagfyr 2013. Hysbyswyd yr
Aelodau y cynhelir Cinio Elusennol y Cadeirydd yn Oriel House, Llanelwy ar 28
Mawrth 2014 ac y bydd y rhoddion yn cael eu cyflwyno i Hosbis Cyndeyrn Sant a
Hosbis Plant Tŷ Gobaith. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn y rhestr
o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ac y dylid nodi sylwadau’r Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 10 Medi 2013 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2013. Materion yn codi: - Adroddiad Ymchwiliad
Llifogydd Glasdir, Rhuthun – cyfeiriodd y Cynghorydd D.I. Smith at Adroddiad yr
Adolygiad Annibynnol a gynhaliwyd i'r llifogydd yn Glasdir a oedd wedi argymell
y dylid gwella’r amddiffyniad rhag llifogydd drwy godi uchder y bwnd o tua 1
metr. Byddai cost y gwaith oddeutu £300k a gallai fod wedi ei gwblhau erbyn
mis Mawrth 2014. Roedd Taylor Wimpey, datblygwyr Stad Glasdir, wedi gwneud ymrwymiad
cyhoeddus i dalu am un rhan o dair o'r gwelliannau a byddai'r Cyngor yn gwneud
cyfraniad cyfatebol. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymateb i gais tebyg. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Smith yn
gobeithio y byddai Cyngor Sir Ddinbych dros y cyfnod interim yn barod i
gyfrannu tuag at y gwelliannau ac yn ymdrechu i dawelu meddwl trigolion
Glasdir. Mae’r gwaith sydd i’w gwblhau yn Glasdir yn y cam dylunio
ar hyn o bryd a disgwylir y bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2014.
Mynegodd bryder nad oedd cadarnhad y deuai cyllid gan
Lywodraeth Cymru a theimlai y dylai Cyngor Sir Ddinbych barhau â’r gwaith ar eu
risg ariannol eu hunain ac y dylid cytuno ar y trefniadau ariannu terfynol yn
hwyrach. PENDERFYNWYD –
cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Medi 2013. |
|
BUDDIANNAU CYMUNEDOL, CAFFAEL A’R STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL Derbyn cyflwyniad
gan Caffael Strategol ar Fanteision Cymunedol a sut y maent yn cysylltu â
Chaffael a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan yr
Uned Caffael Strategol ynglŷn â Buddiannau Cymunedol a sut maent yn
cysylltu â Chaffael a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol. Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint cafwyd crynodeb manwl
ynglŷn â’r Buddion Cymunedol a Sicrhau'r Gwerth Gorau ar gyfer Arian Cymru
gan y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro a Chynrychiolydd Gwerth Cymru, Adran
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys y
pwyntiau a'r meysydd amlwg canlynol: - Diffinio Caffael a Buddion Cymunedol -
Polisi
Cymunedol, Manteision/Dull Gweithredu Polisi Buddion Ysgogwyr Buddion Cymunedol -
Rhaglen Lywodraethu 2011-2016 -
Cynllun Gweithredu Gwrth-dlodi Cymru -
Datganiad Polisi Caffael Cymru (Rhagfyr 2012) Beth yw Buddion Cymunedol -
Datblygu’r cyswllt gyda'r Uchelgais Economaidd a
Chymunedol Strategaeth -
Datblygu'r Strategaeth Gymunedol a’r broses ymgynghori -
Prif Ffocws Polisi -
Cyfraniad tuag at Addysg -
Effeithiau Amgylcheddol -
Cynllun Rhannu Prentisiaeth Gogledd Cymru Prif Declynnau gogyfer â chael Buddion Cymunedol -
Teclyn Mesur Buddion Cymunedol -
Caffael Cynaliadwy, Contractau a Gweithdrefnau Tendro Blaenoriaethau
Economaidd -
Busnesau: - Isadeiledd, Hyrwyddo, Trefi a Chymunedau, Twf a Gweithlu Medrus. Caffael Cynaliadwy -
Beth Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud Llwyddiannau Buddion
Cymunedol a Beth Nesaf -
Llwyddiant Buddion Cymunedol hyd yma: Ystadegau -
Canlyniadau / Deilliannau erbyn mis Medi 2013 -
Astudiaeth Achos - Yolo Y Hendry – Gwobr Adeiladu
Arbenigrwydd yng Nghymru 2013 – Enillydd Gwobr Gwerth Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Aelodau holi cwestiynau a chafwyd yr
ymatebion canlynol gan swyddogion:- - Cyfeiriodd y Cynghorydd J.M. McLellan at bolisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael moesegol.
Eglurodd y Rheolwr Caffael
Strategol Dros Dro fod y Cyngor yn cael ei arwain gan reoliadau caffael y
Deyrnas Unedig ac Ewrop, a chadarnhaodd y byddai Datganiad Polisi Caffael
Llywodraeth Cymru yn gorfodi ac yn sicrhau y cedwir at brosesau a gweithdrefnau
teg, a fyddai'n cynnwys gwneud defnydd o gytundebau dim oriau. Rhoddodd
amlinelliad o’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd er mwyn monitro contractwyr
anaddas neu rai sydd wedi eu cosbrestru a hysbysodd yr Aelodau fod swyddogion,
o ganlyniad i reoli contractau’n effeithiol, yn gweithio'n agos gyda
chontractwyr a chyflenwyr i sicrhau y cedwir at bolisïau a thelerau ac amodau. - Darparwyd manylion ynglŷn ag achosion o
weithio ar y cyd gydag Awdurdodau cyfagos. Eglurwyd
bod canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â rheoliadau ariannol wedi cael eu
defnyddio i gynhyrchu dogfen y gellir ei haddasu a'i defnyddio gan bob un o’r
Awdurdodau. - Cyflwynodd Cynrychiolydd Gwerth Cymru, Adran
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru fanylion cymhwyso’r
Polisi Buddion Cymunedol i gontractau sydd werth llai na £2m. Cyfeiriodd
at y ffaith fod Fframwaith Gogledd Cymru yn faes allweddol mewn perthynas â
busnesau llai, ac yn benodol mewn perthynas â chyflwyno cyfrifon banc prosiect
sydd wedi mynd i’r afael â materion sy'n ymwneud â thalu oddi fewn i’r gadwyn
gyflenwi. -
Cafwyd
cadarnhad y byddai rhaglen o hyfforddiant yn cael ei darparu i Aelodau
Etholedig ac i swyddogion. - Byddai datblygwyr yn y sector preifat yn cael eu
hannog i gwmpasu gofynion Buddion Cymunedol o fewn unrhyw ddatblygiadau i’r
dyfodol. -
Sicrhawyd
yr Aelodau bod Cyngor Sir Ddinbych yn cydymffurfio â thelerau’r contractau y
cytunwyd iddynt mewn perthynas â gwneud taliadau am gyflenwi o fewn cyfnod
penodedig o 30 diwrnod. -
Cadarnhaodd
y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro fod Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n agos
gyda Busnes Cymru i ddarparu cymorth i fusnesau bach. -
Eglurodd
y Prif Weithredwr y gallai busnesau fod yn sicr y byddai Llywodraeth Cymru yn
setlo anfonebau, ond ni fedrai roi sicrwydd y byddai taliadau'n cael eu gwneud
o fewn yr amserlen y cytunwyd iddi.
- Amlygodd y Cynghorydd E.W. Williams y problemau a wynebir ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2012-13 PDF 55 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi wedi’i atodi)
ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2012-13. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad ynglŷn â fersiwn
ddrafft Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2012-13 wedi cael ei
gylchredeg ynghyd â phapurau’r cyfarfod.
Roedd diweddariad yn ymwneud
ag Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13 wedi cael ei gylchredeg cyn y
cyfarfod. Eglurodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad fod gofyn i’r Cyngor
gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Bu angen gwneud
penderfyniad er mwyn cymeradwyo fersiwn ddrafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol
2012-13, Atodiad I yr adroddiad. Roedd Cynllun Corfforaethol 2012/17 y Cyngor yn nodi cyfeiriad strategol y
Cyngor a’i flaenoriaethau dros gyfnod o bum mlynedd. Roedd manylder
ynglŷn â’r hyn yr oedd y Cyngor yn bwriadu ei wneud bob blwyddyn i
gynorthwyo gyda chyflawni’r blaenoriaethau wedi eu nodi yn y Cynlluniau
Gwasanaethau Blynyddol ac yn Nogfen Gyflawni Flynyddol y Cynllun Corfforaethol. Roedd gan y
Cyngor nifer o amcanion cydraddoldeb yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol,
ynghyd â nifer o Gytundebau Canlyniadau gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn darparu
gwerthusiad ôl-syllol o lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni’r ymrwymiadau hynny yn
ystod 2012-13, ac yn rhoi arwydd p’un ai y cyflawnwyd y rhwymedigaeth gogyfer â
gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn llwyddiannus ai peidio. Atgoffwyd yr Aelodau mai blwyddyn gyntaf y
Cynllun oedd hon ac y gellir defnyddio ffigyrau’r flwyddyn nesaf at ddibenion
cymharu. Nid oedd angen cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb gogyfer â’r
adroddiad hwn gan mai darparu gwerthusiad ôl-syllol o berfformiad y Cyngor a
wnâi, a chan na fyddai’r penderfyniad i gymeradwyo’r adroddiad yn effeithio ar
bobl y mae’r nodweddion a ddiogelir yn gyffredin iddynt. Fodd bynnag,
cafodd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad 1, ei gynnal ar y Cynllun
Corfforaethol ei hun ac roedd hwnnw wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn dilyn
ei gymeradwyo ym mis Hydref 2012. Roedd yr adroddiad wedi cael ei ddatblygu gan y Tîm Gwella Corfforaethol,
mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Roedd yr wybodaeth ynglŷn â pherfformiad a
oedd wedi ei chynnwys yn y ddogfen wedi cael ei darparu gan y gwasanaethau, ac
wedi cael eu dwyn ynghyd yn defnyddio system rheoli perfformiad Ffynnon. Ymgynghorwyd
â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ym mis Medi 2013
cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor Sir i’w gymeradwyo. Mewn ymateb i gwestiynau’r Cynghorydd H.Ll. Jones, eglurwyd y gallai
cyflwyno ffigyrau canran mewn perthynas â Chynghorwyr benywaidd yn Sir Ddinbych
ac yn Genedlaethol fod yn fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr. Cadarnhawyd fod
gwaith i ddatblygu strategaeth ar gyfer cyrbiau isel yn cael ei ddatblygu ar
hyn o bryd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron y Cyngor wedi i’r
gwaith fod wedi ei orffen. Eglurodd y Cynghorydd H.H. Evans fod materion y mae angen eglurhad yn eu
cylch ac y byddai darlun cliriach yn dod i’r amlwg yn sgil y datblygiadau
economaidd arfaethedig a ddaw wedi i’r Grŵp Tasg a Gorffen ystyried
effaith y blaenoriaethau. Cadarnhaodd y byddai gwybodaeth fanwl mewn
perthynas â datblygu dull gweithredu strategol yn cael ei gyflwyno ger bron y
Cyngor. Hysbyswyd yr Aelodau fod y targedau a osodwyd wedi
bod yn fwy heriol a bod hynny wedi cynhyrchu disgwyliadau uwch a gwell lefel o
berfformiad. Ymatebodd y Prif Weithredwr i gwestiwn gan y Cynghorydd C. Hughes ynghylch y setliad llai a ragwelir oddi wrth Lywodraeth Cymru gan gyfeirio at y ffaith i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol. Eglurodd bod disgwyliadau’r Cyngor wedi codi a’i fod wedi ymbellhau oddi wrth dargedau traddodiadol a theimlwyd y byddai'r gyllideb arfaethedig sy’n cael ei chyflwyno i'r Aelodau o gymorth wrth ddiogelu ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL PDF 92 KB Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi wedi’i
amgáu) sy’n cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel
Diogelu Corfforaethol Aelodau/Swyddogion ar y cyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd yn cynnig
mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Cyd-banel Diogelu
Corfforaethol o blith aelodau/swyddogion, wedi ei ddosbarthu gyda phapurau’r
cyfarfod. Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles yr adroddiad ac eglurodd fod dull
gweithredu rhagweithiol Cyngor Sir Ddinbych o sicrhau cydymffurfiaeth â’r
cyfrifoldebau diogelu wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Er gwaethaf bod ag
ystod o ddulliau gweithredu, ni allai Cyngor Sir Ddinbych fod yn hyderus fod
arferion diogelu cadarn wedi gwreiddio ar draws holl swyddogaethau’r Cyngor. Manylwyd ar sut y
datblygwyd y dulliau gweithredu a fabwysiadwyd er mwyn cynnal proffil corfforaethol
a chadw trosolwg dros faterion diogelu. Esboniwyd na
chafwyd erioed unrhyw eglurder nac adnoddau penodedig gogyfer â’r prif
gyfrifoldeb yr oedd angen ei weithredu ledled sefydliad amlswyddogaeth
cymhleth. Mae sawl adroddiad awdurdodol o’r bron, gan gynnwys rhai
Waterhouse, Laming a Sir Benfro, wedi ei gwneud yn gwbl glir fod heriau i
gadernid trefniadau diogelu wedi esblygu mewn amryw o wahanol lefydd, a bod
rhaid i ddiogelu fod yn "Fater i Bawb”. Yn ystod y deng
mlynedd ddiwethaf, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi datblygu sawl dull gweithredu
gogyfer â chynnal proffil corfforaethol a chadw trosolwg dros faterion diogelu
a manylwyd ar y rhain yn yr adroddiad. Ynghyd â’r
adroddiad, cylchredwyd fersiwn ddrafft o Bolisi a Chanllawiau Diogelu Corfforaethol
a oedd wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr hyn a fabwysiadwyd yng Ngwynedd yn
ddiweddar yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil y gofynion a amlinellwyd gan yr
Arolygiaeth. Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn rhoi datblygiad
rhesymegol i’r gwaith yr ydym eisoes wedi’i wneud ar y Fframwaith Atebolrwydd
Corfforaethol ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Nod y polisi a’r
canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig o sicrhau fod diogelu yn fater y
mae pob gwasanaeth yn y Cyngor a phob aelod etholedig yn mynd i’r afael ag o. Hysbyswyd yr
Aelodau gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai rheolwr
dynodedig ym mhob gwasanaeth a fyddai'n gyfrifol am gydlynu gweithgareddau
diogelu ac am ddarparu cyngor i staff y gwasanaeth. Roedd prif
agweddau’r polisi a’r canllawiau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad ac roedd rhagor
o fanylion yn yr Atodiadau mewn perthynas â:- - gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag arwyddion
o gamdriniaeth a llwybrau atgyfeirio – a fyddai’n cysylltu â gweithdrefnau
diogelu plant ac oedolion. - adran ddefnyddiol ynglŷn â Chod
Ymddygiad ac arferion Gweithio Diogel. - adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran
hyfforddiant y byddid yn ei chynnig ar y dechrau, ac y byddai angen ei datblygu
dros amser. - croesgyfeirio gyda Pholisïau Recriwtio
Diogel, yr Adran Adnoddau Dynol. - canllawiau i Gynghorwyr ynglŷn â
chyswllt diogel. - ymdrin â honiadau o gamdriniaeth
broffesiynol, gan gynnwys cysylltiadau â gweithdrefnau diogelu plant ac
oedolion. Esboniodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai’r pecyn yn cynnig dull
credadwy o sicrhau fod diogelu yn ystyriaeth gorfforaethol, ac yn meithrin dull
gweithredu cyson ac atebolrwydd ac y byddai wedi ei deilwra i’r materion sy'n
wynebu gwasanaethau penodol. Byddai’r prif oblygiadau o ran cost yn
driphlyg a chawsant eu hamlinellu yn yr adroddiad. Cafwyd cadarnhad y
gall fod goblygiadau cadarnhaol o fabwysiadu’r Polisi a’r trefnau Panel, yn
enwedig gogyfer â phobl hŷn a phobl anabl, ac nid oedd unrhyw oblygiadau
negyddol wedi eu dynodi. Er bod y canllawiau’n brin ar hyn o bryd, roedd yr Adran Adnoddau Dynol yn gweithio i gynhyrchu polisi ynglŷn â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol. Cafwyd cadarnhad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai cylch gorchwyl y gwaith pellach a wneir yn y maes hwn yn cael ei ymgorffori o fewn cylch gorchwyl y Bartneriaeth Diogelwch ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 108 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor, a gafodd ei chylchredeg yn flaenorol, a chytunodd yr Aelodau i gynnwys
yr eitemau newydd canlynol yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol:- 5 Tachwedd 2013 -
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod yr eitem yn
ymwneud ag Achos Busnes Datblygiad
Cyfleusterau Arfordirol y Rhyl / Prestatyn wedi cael ei ohirio. 21 Hydref 2013 -
Hysbyswyd yr Aelodau y byddai Gweithdy Cyllideb y Cyngor yn sesiwn drwy'r dydd
sydd i ddechrau am 9.30 am. 3 Rhagfyr 2013 -
Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill pam y dylai "Diweddariad ar y
Gyllideb Ddrafft 2014/15" gael ei newid i "Cynigion ar gyfer Cyllideb
2014/15" ac y byddai angen penderfyniad gan y Cyngor. Hysbyswyd y
Cyngor gan y Cynghorydd DI Smith y byddai Gweithdy i Aelodau ar Briffyrdd ac
Isadeiledd yn cael ei gynnal ddydd Iau 10 Hydref 2013. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. Daeth
y cyfarfod i ben am 12.05 pm |