Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Members to declare any personal or prejudicial interests in any business identified to be considered at this meeting. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Notice of items which, in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act, 1972. Cofnodion: N chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR PDF 101 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (copi’n atodol) i fabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2013. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar Gynllun Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor. Atgoffodd yr aelodau bod y Cyngor wedi mabwysiadu cynllun newydd
i roddi cymorth y dreth gyngor ar 8 Ionawr 2013. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth
Cymru yna wedi newid eu rheoliadau ar 22 Ionawr ac yn rhyddhau £22 miliwn i fod
ar gael i awdurdodau yng Nghymru i gynyddu amddiffyniad i drigolion a effeithir
o amddiffyniad 90% i 100%. Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod angen i’r Cyngor
fabwysiadu’r cynllun newydd erbyn diwedd Ionawr os oedd yn dymuno manteisio ar
yr elfenau dewisol a oedd yn cynnig amddiffyniad uwch i drigolion. Hysbysodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau yr aelodau y byddai
Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn £840k i ariannu’r elfennau dewisol. Cadarnhaodd
bod y newidiadau hefyd yn golygu na fyddai’n rhaid i’r Cyngor anfon hysbysiadau
galw am dalu i drigolion am symiau a fyddai wedi bod yn daladwy gan drigolion a
effeithir, gyda'r tebygolrwydd cysylltiedig na fyddai pob swm dyledus yn cael
ei adennill. Atebodd y Swyddog Monitro gwestiwn a chadarnhaodd y sefyllfa
gyfreithiol a chyfansoddiadol i’r Cyngor ailystyried penderfyniad a gymerodd yn
gynharach yn y mis. Holodd nifer o aelodau a fyddai’r cyllid ychwanegol yn
ddigon i ganiatáu i’r Cyngor ostwng ei dreth gyngor y flwyddyn nesaf. Adroddodd
y Pennaeth Cyllid ac Asedau na fyddai’r symiau dan sylw yn cyfateb i ostyngiad
o 1% yn y Dreth Gyngor ond bod y gyllideb ddrafft yn cael ei hadolygu o
ganlyniad i’r incwm ac oherwydd bod costau casglu yn cael eu hosgoi.
Ychwanegodd nad oedd yn sicr a fyddai Llywodraeth Cymru yn medru ariannu
amddiffyniad 100% am fwy na blwyddyn, ond bod y Cyngor yn ddarbodus yn ei
ystyried fel cyllid un flwyddyn yn unig. Trafododd yr aelodau benderfyniad Llywodraeth y DU i leihau
amddiffyniad yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y disgwylid y byddai’n
barhaol. Pe byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â pharhau i ariannu’r
diffyg am fwy na blwyddyn yna byddai angen i awdurdodau lleol yng Nghymru
ystyried a fyddai’r toriadau yn cael eu trosglwyddo i drigolion a effeithid. Ystyriodd y Cyngor hefyd y 4 elfen ddewisol yn y cynllun
newydd fesul un. PENDERFYNWYD - (i) Bod y Cyngor yn mabwysiadu Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012, fel
y’i diwygiwyd gan Reoliadau 2013; (ii) Mabwysiadu rhoi cyfnod talu estynedig
safonol 4 wythnos i bobl ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith, pan fyddant wedi
derbyn budd-dal cymhwyso perthnasol am o leiaf 26 wythnos; (iii) Bod y Cyngor yn manwysiadu’r
darpariaethau dewisol i ddiystyru rhan neu’r cyfan o swm pensiynau anabledd
rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel wrth gyfrifo incwm; (iv) Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r
darpariaethau dewisol i ddarparu mwy na’r wybodaeth leiaf a ragnodir fel rhan o
weithdrefnau hysbysu penderfyniadau; (v) Pennu’r cyfnod pan ellir ystyried
hawliadau Cymorth y Dreth Gyngor wedi eu hôl-ddyddio ar gyfer cwsmeriaid mewn
oedran gwaith i 3 mis cyn hawlio, a (vi) Bod grŵp gorchwyl a gorffen, yn
cynnwys Arweinwyr Grwpiau, yn adolygu goblygiadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor i’r dyfodol. |