Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Brian
Blakeley, Ann Davies, Carys Guy Davies, Martyn Holland, Win Mullen-James Merfyn
Parry, Peter Owen, Eryl Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Jason McLellan fod ganddo ddiddordeb personol yn Sinema a Chanolfan
Celfyddydau Scala, Prestatyn – ceir
cyfeiriad o fewn Cyllideb 2013/14 (Eitem Agenda 5). Datganodd y
Cynghorwyr Ray Bartley, Jeanette Chamberlain-Jones, Hugh Evans, Huw
Hilditch-Roberts, Geraint Lloyd-Williams, Bill Tasker a Cefyn Williams fod ganddynt ddiddordeb personol yn yr eitem
ar Benderfyniadau “Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid ” (Eitem Agenda
6). |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar
Ionawr 8, 2013 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor
a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 8 2013. PENDERFYNWYD y
dylid cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2013
yn gywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.
|
|
I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn
ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyllideb 2013/14 a’r cynnydd canlyniadol yn
lefel Treth Gyngor ar gyfer 2013/14. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2013/14
a’r cynnydd dilynol yn lefel y Dreth Gyngor. Roedd y canlynol ynghlwm wrth yr
adroddiad: Cynigion Arbedion y Gyllideb ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1); Grantiau
a drosglwyddwyd i’r Setliad Cyffredinol 2013/14 (Atodiad 2); Cyllideb Sir
Ddinbych 2013/14 (Atodiad 3) a’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb (Atodiad 4). Hysbyswyd yr Aelodau o setliad
terfynol is na’r disgwyl o Lywodraeth Cymru gan gynnwys toriad yn y cyllid
cyfalaf a oedd yn golled arwyddocaol. Tynnwyd sylw at y goblygiadau i’r Cynllun
Ariannol Tymor Canolig (MTFP) ynghyd â’r
arbedion fyddai eu hangen dros y dair blynedd nesaf a’r rhagolygon diweddaraf
yn nhermau’r pwysau oedd wedi’u hadnabod yn flaenorol. Cyfeiriwyd at - · disgwyliad Llywodraeth Cymru y byddai cyllidebau
ysgolion a gofal cymdeithasol yn cael eu hamddiffyn rhag arbedion a fyddai’n
rhoi straen pellach ar wasanaethau eraill wrth iddynt orfod chwilio am arbedion
pellach i wneud iawn [ar gyfer 2013/14 roedd oddeutu 56% o’r gyllideb wedi’i
gylch ffensio a’i amddiffyn] · goblygiadau
ariannol yn codi o Gynllun Cymorth y Dreth Gyngor, yn enwedig yng ngoleuni
newidiadau diweddar i’r rheoliadau sy’n arwain at dderbyniadau annisgwyl sydd o
leiaf werth £300k i’r flwyddyn ynghyd ag opsiynau posibl ar gyfer dyrannu’r swm
yma · diweddariad ar ganlyniadau gweithdai’r gyllideb a
gynhaliwyd i aelodau yn Nhachwedd a Rhagfyr
2012 (ynghylch arbedion, blaenoriaethau a’r dreth gyngor) ynghyd â’r sesiwn ar ariannu’r Cynllun Corfforaethol · yn seiliedig ar gynigion cyfredol, 2% o gynnydd ar
y mwyaf fyddai yn y Dreth Gyngor a’r dybiaeth sylfaenol ar gyfer y dyfodol oedd
y byddai’r Dreth Gyngor yn parhau i godi oddeutu 2%. Byddai gofyn i’r Cyngor gymeradwyo lefel y
Dreth Gyngor yn ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei
bod yn flwyddyn ariannol heriol arall ond bod y gyllideb arfaethedig yn
realistig ac yn un y gellid ei gwireddu o ran buddsoddi mewn blaenoriaethau ac
amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag gostyngiadau sylweddol. Cymerodd y
cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau (H:FA) a’i dîm am eu holl waith caled. Roedd aelodau hefyd
wedi chwarae rhan bwysig ym mhroses gosod y gyllideb a diolchodd y H:FA iddynt
am eu cyfraniad a’u llywio gwleidyddol. Wrth ystyried y cynigion ar gyfer
arbed, cododd yr aelodau gwestiynau ynghylch y targedau arbed yn gysylltiedig â gwasanaethau unigol. Roeddynt eisiau
sicrwydd ynghylch diddymu lwfans defnyddiwr car hanfodol a chanlyniad pleidlais
y staff, ac na fyddai gwasanaethau gofal dydd yn cael eu heffeithio o ganlyniad
i’r arbedion yn y gwasanaethau gofal. Wrth ymateb, fe wnaeth y Cynghorydd
Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau – -
nodi bod y cynigion gwreiddiol ar gyfer
arbedion wedi cynnwys darpariaeth gofal dydd ond bod yr elfen hon wedi’i diddymu
yn ddiweddarach yng ngoleuni pryderon aelodau
-
rhoi gwybodaeth i’r aelodau ar y trafodaethau
gydag Undebau Llafur i ddiddymu’r lwfans defnyddiwr car hanfodol a oedd i fod
i’w gyflwyno dros y flwyddyn -
rhoi gwybodaeth ar y cynllun lleihau carbon gan
nodi y byddai’r Cyngor yn cael ei asesu yn 2014/15 a bod disgwyl canlyniad
ffafriol -
manylion am brosiectau sy’n cyfrannu at
foderneiddio’r Cyngor gan gynnwys rhesymoli argraffyddion, gwell defnydd o
ofod, lleihau’r milltiroedd a deithir a’r defnydd o offer swyddfa, caffael,
absenoldeb salwch gan gadarnhau y byddai’r agenda moderneiddio yn nodwedd gref
dros yr ychydig flynyddoedd nesaf -
rhoi gwybodaeth am feddwl systemau yn cael ei
ddefnyddio i wella prosesau a symud o systemau llaw i rai electronig -
nodi bod arbediad o £100k wedi bod yn bosibl
ar gyfer parciau ailgylchu yn dilyn ail-drafod y cytundeb rheoli gyda
chontractwr preifat - manylu ar ad-drefniant ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
MAE GOFAL IECHYD YNG NGOGLEDD CYMRU YN NEWID” - PENDERFYNIADAU PDF 399 KB Ystyried cyd-adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, yn crynhoi’r penderfyniadau a gymerwyd gan Fwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 18 Ionawr 2013 a’r goblygiadau i’r Cyngor, a derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
dros Foderneiddio a Lles (CD:MW) yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn
crynhoi’r penderfyniadau a wnaethpwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) ar 18 Ionawr 2013 yn dilyn ymgynghoriad ar adolygiadau’r
gwasanaeth iechyd. Roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y penderfyniadau a oedd yn ymwneud â chyfleusterau a gwasanaethau yn Sir Ddinbych
ynghyd ag amserlenni ar gyfer gweithredu a materion a phryderon oedd yn parhau
i’r Cyngor. Yn nhermau gwneud penderfyniadau, atgoffwyd aelodau mai’r Cyngor
Iechyd Cymuned (CIC) oedd yr unig gorff a allai atgyfeirio penderfyniad y Bwrdd
yn ffurfiol i’r Gweinidog, a bod angen ymateb y Cyngor hwnnw erbyn 3 Mawrth
2013. Gofynnwyd am safbwyntiau’r Aelodau
ynghylch y datblygiadau diweddaraf a’r camau nesaf gan ystyried argymhellion yr
adroddiad a diweddariad llafar gan y Prif Weithredwr. Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad
llafar o’r cyfarfod rhwng Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a
BIPBC a gynhaliwyd ar 1 Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw, trafodwyd pedwar maes
eang a oedd yn achosi pryder – Costau ychwanegol yn gysylltiedig â
chynnydd mewn gofal yn y gymuned - gallai datblygiad ardaloedd lleol a
gwasanaeth gofal gwell arwain at gynnydd yn y galw ar wasanaethau cymdeithasol
a chostau. Ystyriwyd bod gofal yn y
cartref yn gam positif ond nid oedd digon o fanylion ar y cynigion a’r materion
yn ymwneud â fforddiadwyedd, gweithrediad ac adnoddau. Roedd BIPBC wedi rhoi
sicrwydd llafar na fyddai costau yn cael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol ac
roedd cynghorau wedi gofyn am weld model ariannol yn cael ei ddatblygu a
fyddai’n rhoi manylion ar gostau ariannol a phroses eglur ar gyfer gweithredu’r
newidiadau. Buddsoddi Cyfalaf -
roedd y cynlluniau yn cynnwys oddeutu £40m o fuddsoddi cyfalaf yn y
ddarpariaeth newydd, ac roedd oddeutu £27m o’r swm o fewn Sir Ddinbych. Nid
oedd yr arian angenrheidiol wedi’i sicrhau hyd yma ac roedd cynlluniau yn
ddibynnol ar ansawdd yr achos busnes a Llywodraeth Cymru yn darparu’r
arian. Gan fod hwn yn faes risg
sylweddol, roedd cais wedi’i wneud am gael sicrwydd bod arian ar gael ar gyfer
cyfleusterau newydd cyn i unrhyw gyfleusterau sy’n bodoli eisoes gael eu cau
fel y cynlluniwyd. Trefniadau Cludiant -
roedd hi’n amlwg y byddai’n rhaid i fwy o bobl, gan gynnwys pobl fregus,
deithio ar gyfer darpariaeth gofal iechyd. Roedd teimlad bod cyfrifoldeb ar y
sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol i ddatblygu cynllun cludiant ac roedd
BIPBC wedi ymrwymo i wario £80k ar ymateb i anghenion teithio. Er mwyn symud
ymlaen, byddai’n rhaid i bartneriaid perthnasol ddatblygu cynllun cludiant i’r
bobl hynny sydd wedi’u heffeithio. Rheoli Trefniadau Trosglwyddo – roedd cynlluniau i gau gwasanaethau
a chyfleusterau cyn i’r cyfleusterau newydd gael eu sefydlu hefyd yn achosi
cryn bryder. Roedd BIPCB wedi egluro na fyddai’r un claf heb wasanaethau pan
fyddai angen y rheiny ac y byddai’r bobl a oedd yn cael eu heffeithio yn cael
cefnogaeth hyd nes byddai’r trefniadau newydd yn eu lle. Roedd angen sicrwydd
bod cynlluniau trosglwyddo effeithiol wedi cael eu datblygu. Talodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant deyrnged i staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau ansicr ac anodd. Tra’n cytuno bod yr adolygiad wedi bod yn angenrheidiol, roedd yn teimlo y gellid fod wedi rheoli’r broses yn fwy effeithiol. Roedd y Cyngor wedi craffu’n ofalus ar y cynlluniau a byddai sefydlu Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol Strategol yn sicrhau bod trafodaethau yn parhau. Wrth roi sylwadau ar y cynlluniau, mynegodd ei siom gyda’r ffaith y bydd Ysbyty Rhuthun yn colli ei uned mân anafiadau a gwasanaethau pelydr-x a hefyd gyda’r cynlluniau i gau gwelyau cleifion mewnol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR PDF 94 KB I ystyried blaenraglen waith y Cyngor (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd (H:LDS) Flaenraglen Waith y Cyngor yn cadarnhau y
byddai adborth o’r cyfarfod gyda BIPBC fel y cytunwyd yn yr eitem agenda
blaenorol yn cael ei ychwanegu i’r rhaglen waith i’r cyfarfod nesaf. Adroddodd y Cynghorydd Hugh Evans bod Bwrdd
Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cytuno i gyhoeddi datganiad yn cefnogi’r
egwyddor o garchar yng Ngogledd Cymru, a bod angen ychwanegu eitem i’r rhaglen
waith i drafod sefyllfa Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD
yn amodol ar y newidiadau uchod, y dylid nodi Blaenraglen Waith y Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 2.00 y.p. |