Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Neuadd Y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd, aelodau a swyddogion eu dymuniadau gorau i’r Cynghorydd P.W. Owen yn dilyn ei salwch diwethar.

 

2.

DATGANIADAU BUDDIANT

Yr Aelodau’n datgan unrhyw fuddiant personol neu fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Nodwyd y buddiannau canlynol mewn eitemau busnes i’w hystyried yn y cyfarfod.             

 

Datganodd y Cynghorwyr T.R. Hughes, E.A. Jones, H.Ll. Jones ac E.W. Williams fuddiant personol yn Eitem 6 ar yr Agenda, sef Penderfyniad Cynllun Datblygu Lleol mewn Ymateb i Arolygydd.        

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD

Rhoi gwybod am eitemau y dylid eu hystyried, ym marn y Cadeirydd, yn y cyfarfod ar frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod ar frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

DYLETSWYDD Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 35 KB

Nodi’r ymrwymiadau dinesig a fodlonwyd gan Gadeirydd y Cyngor (mae copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Roedd rhestr o ymrwymiadau dinesig a fodlonwyd i’r Cyngor gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, yn y cyfnod rhwng 23 Hydref 2012 a 20 Tachwedd 2012, wedi’i chylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod.                                   

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at effaith drychinebus y llifogydd ar gynifer o bobl a’u heiddo, a hynny’n arbennig yn ardaloedd Llanelwy a Rhuthun. Amlygodd y natur benderfynol, yr ysbryd a’r cadernid a ddangoswyd gan y cymunedau yn yr ardaloedd dan sylw a diolchodd i aelodau’r gwasanaethau brys, yr RSPCA, gweithwyr post a phob asiantaeth arall a gymerodd ran am eu hymdrechion. Nodwyd gwerthfawrogiad arbennig i swyddogion ac Aelodau etholedig y Cyngor Sir am yr ymdrech tîm a’r gwaith rhagorol a wnaethpwyd yn ystod yr amgylchiadau eithafol.                                           

 

Eglurodd y Cadeirydd y byddai adroddiad gwybodaeth yn cael ei ddarparu gan y Tîm Gweithredol Corfforaethol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y digwyddiad, ac i roi manylion y gwaith adfer ymatebol sy’n cael ei wneud. Cadarnhaodd y byddai Sir Ddinbych yn dal i roi cymorth, cyngor a chefnogaeth yn ystod y broses adfer.                                      

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D.I. Smith at y cynigion o gymorth a gafwyd o bob rhan o’r DU a thramor a diolchodd i bawb a fu’n gwneud y gwaith gwych a wnaethpwyd.  Cadarnhaodd y farn a fynegwyd gan y Cadeirydd fod y Cyngor Sir a’i asiantaethau partner wedi cydweithio’n dda i ymateb i’r digwyddiad.                           

 

Amlygodd y Cynghorydd W.L. Cowie effaith drychinebus y llifogydd a diolchodd i bawb am y gefnogaeth a roddwyd. Cefnogodd y cydymdeimlad a fynegwyd i deulu a ffrindiau Mrs Margaret Hughes a gollodd ei bywyd yn drasig yn ystod y llifogydd yn Llanelwy.                     

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R.L. Feeley at y profiad ofnadwy a gafodd llawer o breswylwyr, ac eglurodd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i nodi’r rhesymau dros fethiant yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y safle Glasdir yn Rhuthun.             

 

Amlygodd y Cynghorydd J.A. Davies yr effeithiau ar deuluoedd yn y cymunedau llai yr effeithiodd y llifogydd arnynt, gan gyfeirio’n arbennig at ardal Rhuddlan. Cyfeiriodd y Cynghorwyr A. Roberts, H.Ll. Jones, M.Ll. Davies a J.R. Bartley at lifogydd yn eu hardaloedd priodol gan bwysleisio bod angen sicrhau bod yr un cymorth yn cael ei roi i holl ddioddefwyr y llifogydd ledled y Sir.                   

 

PENDERFYNWYD

 

(a)    derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fodlonwyd i’r Cyngor gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, a’i nodi, a                     

(b)    derbyn datganiad y Cadeirydd mewn perthynas â’r llifogydd yn Sir Ddinbych a’i nodi.                                   

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 168 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2012 (mae copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2012.         

 

PENDERFYNWYD – cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2012 yn gofnod cywir.                              

 

 

6.

PENDERFYNIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR YMATEB I’R AROLYGYDD pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth (mae copi ynghlwm) am yr ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol a pholisi fesul cyfnod drafft.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth, am yr ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol a’r polisi fesul cyfnod drafft, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai penderfyniad yn cael ei geisio gan yr Aelodau o ran cyflwyno’r rhestr o’r 21 safle tai ychwanegol, ynghyd â’r polisi fesul cyfnod cysylltiedig yn benodol i’r safleoedd tai ychwanegol hynny, i Arolygydd Cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol. Byddai penderfyniad y Cyngor yn cael ei gyflwyno i’r Arolygwyr a fyddai’n penderfynu a oes gan y Cyngor Gynllun Datblygu Lleol cadarn ai peidio. Pe byddai’r Cyngor yn penderfynu peidio â chyflwyno safleoedd ychwanegol, byddai’n methu â mynd i’r afael â chanfyddiadau’r Arolygwyr a byddai’r Arolygwyr yn canfod bod y Cynllun yn ‘ansicr’, er gwaethaf y ffaith mai’r unig achos pryder wedi’i nodi gan yr Arolygwyr fyddai cyflenwad tai.                           

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at arwyddocâd strategol ehangach y Cynllun Datblygu Lleol, cynllun statudol, a fyddai’n chwarae rhan uniongyrchol mewn cyflawni blaenoriaethau ‘Datblygu’r Economi Leol’ a ‘Sicrhau Bod Tai o Safon Ar Gael’ drwy ei bolisïau a’i gynigion. Byddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu gweledigaeth i’r Sir am y blynyddoedd i ddod ac yn dylanwadu ar ddyfodol Sir Ddinbych drwy feithrin hyder yn y sector preifat, annog buddsoddiad a gwella rhagolygon cyflogaeth.                                

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Datblygu Lleol wedi’i ddatblygu gan Sir Ddinbych a bod y cyngor wedi cytuno ar y ffigur o 7500 o gartrefi newydd sydd yn y Cynllun yn 2008.  Cyfeiriodd at y polisi fesul cyfnod ac eglurodd mai ffigur cynllunio oedd y ffigur o 7500 ac nad oedd yn nodi nifer y tai y mae’n rhaid eu hadeiladu. Ni fyddai gweithredu’r 21 safle i’r cyfnod olaf yn y Cynllun yn caniatáu i’w dwyn ymlaen heblaw bod y cyflenwad tir tai cyflenwadwy yn syrthio islaw pum mlynedd, a byddai hyn yn cael ei bennu gan y farchnad a’r economi. Awgrymwyd hwyrach y byddai’r Aelodau, wrth ffurfio eu penderfyniad, am ystyried pwysigrwydd Cynllun Datblygu Lleol i Sir Ddinbych, tebygolrwydd defnyddio’r safleoedd a rhoi ystyriaeth i bob un safle.                                                           

 

Bu’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd yn crynhoi’r adroddiad a oedd yn disgrifio’r hanes a’r cyfnodau allweddol ers dechrau’r Cynllun Datblygu Lleol yn 2006.  Roedd yr adroddiad yn amlygu’r broses a fabwysiadwyd, y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi fesul cyfnod drafft a gyflwynwyd mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygwyr Cynllunio ynghylch yr angen a’r cyflenwad tai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012.

 

Roedd dwy brif swyddogaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys dyrannu safleoedd am ddatblygiad posibl, a darparu polisïau penodol i arwain a rheoli’r ffordd y dylai datblygiad gael ei wneud. Byddai felly’n ddogfen allweddol i hwyluso datblygiad economaidd ledled y Sir drwy ddyrannu tir i fodloni anghenion y Sir o ran denu defnyddiau cyflogaeth newydd, darparu tai newydd, sefydlu cyfleusterau hamdden a chymunedol, gwella ffyrdd a seilwaith arall. Byddai cyflenwi dwy o flaenoriaethau’r Cyngor yn llwyddiannus, sef sicrhau bod tai o safon ar gael a datblygu’r economi leol, hefyd yn dibynnu’n helaeth ar gael Cynllun Datblygu Lleol wedi’i fabwysiadu.                                                       

 

Roedd Strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol y cytunwyd arni yn 2008 yn cynnwys twf tai posibl o 7500.  Byddai mwyafrif helaeth y twf posibl yn digwydd ar dir llwyd ac yn rhan o aneddiadau presennol. Fodd bynnag, bu’r lefel hon o dwf islaw rhagamcaniadau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sir, sef 8500.  Roedd gwybodaeth am boblogaeth wedi’i chynnwys yn Atodiadau 5 a 6 i’r adroddiad.                                                         

 

Ar ôl cytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mai 2011, cyflwynwyd y Cynllun Datblygu Lleol yn ffurfiol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DATGANIAD DIWYGIEDIG O EGWYDDORION DAN DDEDDF GAMBLO 2005 pdf eicon PDF 121 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (mae copi ynghlwm) am y Datganiad o Egwyddorion diwygiedig o dan Ddeddf Gamblo 2005.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, am y Datganiad diwygiedig o Egwyddorion dan Ddeddf Gamblo 2005, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad ac eglurodd fod Adran 349 o Ddeddf Gamblo 2005 yn gofyn i’r Awdurdod Trwyddedu baratoi Datganiad o Egwyddorion.  Roedd y Datganiad yn nodi’r ffordd yr oedd y Cyngor yn cynnig arfer ei swyddogaethau a rheoleiddio a rheoli gweithgareddau gamblo yn y Sir.  Byddai’n cael ei adolygu ar ôl tair blynedd a byddai Datganiad newydd yn cael ei gyhoeddi a byddai Cyngor Llawn yn cytuno arno. Mae Adran 154(1)(c) o’r Ddeddf yn nodi na allai’r swyddogaeth hon gael ei dirprwyo gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi cymeradwyo’r Datganiad o Egwyddorion drafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus. Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol wedi’u cynnig i’r Datganiad o Egwyddorion, Atodiad 1 i’r adroddiad, ac ni chafwyd unrhyw ymatebion i’r broses ymgynghori, a gynhaliwyd yn unol â’r gofynion statudol a nodir yn y Ddeddf Gamblo.                                             

 

Amlygwyd y gofyniad bod angen i’r Cyngor sicrhau cydymffurfiad â Rheoliadau Deddf Gamblo 2005 (Datganiad Polisi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru a Lloegr) 2006 (O.S. 636 o 2006). Roedd y Rheoliadau’n llywodraethu’r ffurf y mae’n rhaid i Ddatganiadau eu cymryd, gweithdrefnau paratoi, a’r prosesau adolygu neu ddiwygio a chyhoeddi. Roedd y Rheoliadau’n gofyn bod Datganiad yn cael ei gyhoeddi drwy ei wneud ar gael am gyfnod o 4 wythnos o leiaf cyn y dyddiad pan ddaw i rym.                      

 

Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd fod y Ddeddf yn caniatáu i Awdurdodau Lleol wneud penderfyniad polisi ynghylch caniatáu i geisiadau gael eu gwneud am gasinos ai peidio. Nid oedd y Datganiad presennol yn caniatáu ceisiadau am gasinos. Fodd bynnag, byddai’r mater hwn yn cael ei ailystyried ac unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor am benderfyniad ffurfiol.

 

Roedd yr Aelodau’n cefnogi cynnig gan y Cynghorydd M.Ll. Davies sef newid geiriad yr argymhelliad yn yr adroddiad i egluro na fu unrhyw newidiadau sylweddol yn y rheolau yn y Datganiad o Egwyddorion. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

(a)     mabwysiadu’r Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Deddf Gamblo 2005, fel y’i nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn.      

(b)     bod y Cyngor yn ailddatgan peidio â chyhoeddi trwydded safleoedd casino. Fodd bynnag, bod y mater hwn yn cael ei adolygu gan Swyddogion Trwyddedu ac Adfywio cyn gynted â phosibl, yn rhan o flaenoriaeth uchelgais economaidd corfforaethol, a      

(c)     newid geiriad yr argymhelliad yn yr adroddiad i egluro na fu unrhyw newidiadau sylweddol yn y rheolau yn y Datganiad o Egwyddorion.                               

 

 

8.

PENODI HYRWYDDWYR pdf eicon PDF 74 KB

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (mae copi ynghlwm) a oedd yn gofyn am benodi Aelodau i fod yn hyrwyddwyr drwy gydol y tymor hwn o swydd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig am benodi hyrwyddwyr, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod.                 

 

Gofynnwyd i’r Cyngor benodi Aelodau i fod yn Hyrwyddwyr yn y meysydd canlynol yn ystod y tymor swydd hwn:-                       

 

·        Hyrwyddwr Pobl Hŷn      

·        Hyrwyddwr Digartrefedd

·        Hyrwyddwr Gofalwyr

·        Hyrwyddwr Anableddau Dysgu       

 

Roedd Llywodraeth Cymru’n gofyn bod Hyrwyddwyr yn cael eu penodi mewn meysydd penodol ac roedd y rolau a nodir uchod wedi’u cydnabod yn ffurfiol gan Gyfansoddiad y Cyngor.                         

 

Roedd rôl Hyrwyddwyr yn Sir Ddinbych wedi esblygu o benodiHyrwyddwr Pobl Hŷn’ a oedd yn deillio o’r canllawiau yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cymru, i’r sefyllfa lle dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru gael Hyrwyddwr felly. Roedd Sir Ddinbych ers hynny wedi cynyddu’r amrywiaeth o Hyrwyddwyr i feysydd eraill ac, wrth adolygu ei Chyfansoddiad, roedd wedi cydnabod yn ffurfiol, dan baragraff 2.6 o Erthygl 2, bwysigrwydd rôl Hyrwyddwyr mewn meysydd penodol a chynnwys y rôl yn y Cyfansoddiad.                                           

 

Roedd y broses o benodi Hyrwyddwyr wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, a dull Sir Ddinbych oedd sicrhau bod yr Aelod mwyaf priodol yn cael ei benodi i rôl yr Hyrwyddwr priodol. Cytunwyd ar ddisgrifiad clir o rôl Hyrwyddwyr a’i fabwysiadu, ac roedd disgrifiadau drafft ar gyfer y rolau a nodwyd yn y Cyfansoddiad wedi’u cynnwys fel Atodiadau i’r adroddiad. Cymeradwywyd y rolau priodol gan y Cyngor ar 6 Tachwedd 2012, gan ofyn am gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb a CVs erbyn 16 Tachwedd 2012.                                                                               

 

Roedd Arweinwyr Grŵp wedi mynegi eu cefnogaeth i benodi’r pedwar Hyrwyddwr a nodwyd. Roeddent hefyd yn cefnogi’r farn y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried yn fanwl a fyddai’n briodol penodi Hyrwyddwyr ar gyfer buddiannau eraill. Roedd yr Uwch Dîm Arwain wedi mynegi pryder ynghylch posibilrwydd dryswch a dyblygu rhwng rolau’r Hyrwyddwyr a’r Aelodau Lleol lle’r oedd y mater i’w hyrwyddo’n perthyn i gylch gwaith Aelod Lleol unigol.                                                        

 

Roedd CVs yr Aelodau etholedig canlynol a ddymunai gael eu hystyried i’w penodi wedi’u cylchredeg i’r Aelodau:-

 

Y Cynghorydd R.L. FeeleyHyrwyddwr Pobl Hŷn.        

Y Cynghorydd J.R. Bartley – Hyrwyddwr Anableddau Dysgu.    

Y Cynghorydd J.A. Davies – Hyrwyddwr Gofalwyr.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig, am nad oedd enwebiad wedi’i gael am Hyrwyddwr Digartrefedd, y gellid cynnwys y penodiad hwn yn yr adroddiad am Ddyfodol Hyrwyddwyr a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i’w ystyried.                 

 

Ar ôl ystyried y CVs priodol:-                           

 

PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cytuno i’r penodiadau canlynol:-

 

(a)   Penodi’r Cynghorydd R.L. Feeley yn Hyrwyddwr Pobl Hŷn.                        

(b)   Penodi’r Cynghorydd J.A. Davies yn Hyrwyddwr Gofalwyr.                   

(c)   Penodi’r Cynghorydd J.R. Bartley yn Hyrwyddwr Anableddau Dysgu, a                       

(d)   cynnwys penodiad Hyrwyddwr Digartrefedd yn yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am Ddyfodol Hyrwyddwyr.         

 

 

9.

BLAEN RAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried blaenraglen waith y Cyngor (mae copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig flaen raglen Waith y Cyngor, a gylchredwyd yn flaenorol, a chytunodd yr Aelodau i gynnwys yr eitemau newydd canlynol yn y blaen raglen Waith:-          

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T.R. Hughes at broblemau a gafwyd mewn perthynas â chyflwyno fesul dipyn gynllun biniau olwyn x2 yn Ne’r Sir, ac awgrymodd gynnwys eitem mewn perthynas â’r mater hwn yn y blaen raglen waith i’w hystyried yn y Cyngor Sir. Cefnogodd y Cynghorydd C.H. Williams y pryderon a fynegwyd a gofynnodd am ddarparu manylion costau sy’n ymwneud â chynllun x2.

 

Eglurodd y Cynghorydd C. Hughes fod y mater hwn wedi’i godi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad, ar 29 Tachwedd 2012, ac y penderfynwyd cyflwyno’r mater hwn i Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion i ystyried ei gynnwys ym Mlaen raglen Waith y Pwyllgor Craffu priodol. Roedd wedi trafod y mater ers hynny gyda Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau a chytunwyd yn gyffredinol y dylid gohirio’r mater a’i gyfeirio at y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’w ystyried.    

 

Bu’r Prif Weithredwr yn sicrhau’r Aelodau ei fod yn ffyddiog fod y pennaeth gwasanaeth a’i dîm wrthi’n mynd i’r afael â’r problemau dan sylw. Cadarnhaodd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal ac y byddai adroddiad, gan gynnwys manylion costau, yn cael ei ddarparu am y problemau a gafwyd. Byddai’r Pwyllgor Craffu’n cael y cyfle i archwilio’r mater yn llawn a gellid cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyngor Sir ei ystyried, pe byddai’r Aelodau’n gofyn am hynny. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr mai’r flaenoriaeth fyddai mynd i’r afael â’r problemau a gafwyd i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn bodloni anghenion a disgwyliadau’r preswylwyr.                    

 

Amlygodd y Cynghorwyr H.H. Evans a H. Hilditch-Roberts fod angen cylchredeg manylion y trefniadau casglu sbwriel ar gyfer pob ardal yn y dyfodol agos. Dywedodd y Cynghorydd D. Smith wrth yr Aelodau y byddai’n cyfarfod â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid a Phennaeth yr Amgylchedd ar 5 Rhagfyr 2012, i drafod dechrau’r ymchwiliadau, ac i archwilio’r broses i’w mabwysiadu i fynd i’r afael â’r problemau a gafwyd.                                                     

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D.I. Smith at Sesiwn Wybodaeth y Cyngor ar 21 Ionawr 2013 ac amlygodd bwysigrwydd Sesiwn Wybodaeth y Cynghorwyr ar y Broses Cynllunio at Argyfwng, yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo a nodi blaen raglen waith y Cyngor.                             

 

Daeth y cyfarfod i ben am 14.40 p.m.