Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun Ll15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr J.
Chamberlain-Jones (Cadeirydd), J.M. Davies, P.A. Evans, E.A. Jones, W.M.
Mullen-James, B. Mellor, D. Owens, T.M. Parry, A.G. Pennington, D. Simmons a
D.I. Smith. |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nodwyd y buddiannau isod yng nghyswllt
eitemau busnes i’w hystyried yn y cyfarfod.
Gwnaeth y Cynghorwyr Raymond Bartley, Brian Blakeley, Janet
Ann Davies, T. Rhys Hughes, Bill Tasker a Geraint Lloyd-Williams ddatgan budd
personol yn Eitem Agenda 9 – Ymateb y Cyngor i Adolygiadau Gwasanaeth Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol, 1972. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw eitemau a ddylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 51 KB Cydnabod yr ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y
Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Dosbarthwyd
rhestr o ddigwyddiadau ac achlysuron dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd ar ran y Cyngor yn ystod y cyfnod 3 Awst i 20 Medi â phapurau’r
cyfarfod. PENDERFYNWYD – derbyn a
nodi’r rhestr o ddigwyddiadau ac achlysuron dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd
a’r Is-gadeirydd ar ran y Cyngor. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 11eg
Medi 2012 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2012. Cywirdeb:- 6. Adolygiadau Gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd
Gwladol – esboniodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts ei fod wedi cyflwyno
cwestiwn yn gofyn am fanylion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y
dystiolaeth a ddarparwyd yng nghyswllt y penderfyniad i ddewis Inffyrmari
Dinbych yn hytrach nag Ysbyty Rhuthun fel canolfan darparu gwasanaethau. PENDERFYNWYD – yn amodol
ar yr uchod, gadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2012
fel cofnodion cywir. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2011/2012 PDF 71 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol
(copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol
drafft y Cyngor ar gyfer 2011-12. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol, a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffurf
drafft Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2011-12 y Cyngor, â phapurau’r cyfarfod.
Mae’n ofynnol i’r Cyngor
gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, ac
roedd angen penderfyniad i gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol
2011-12, a gynhwyswyd fel Atodiad I i’r adroddiad. Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr
Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd B.A. Smith, ac
esboniodd bod Cynllun Corfforaethol 2009-12 yn gosod
cyfeiriad strategol yr Awdurdod a bod cyhoeddi’r Ddogfen Cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol 2011-12 yn amlinellu sut y bwriedir cyfrannu at gyflawni’r
Cynllun Corfforaethol yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw. Gwnaeth pob
gwasanaeth yn y Cyngor gynhyrchu cynllun gwasanaeth ar gyfer 2011-12 yn
disgrifio sut roedd yn bwriadu cyfrannu at gyflawni’r deilliannau cytunedig ar
gyfer cymunedau Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad Perfformiad Blynyddol yn darparu
gwerthusiad yn edrych yn ôl ar lwyddiant y Cyngor yn cyflawni yn erbyn y
cynlluniau yn ystod 2011-12, ac yn dangos a wnaeth y Cyngor lwyddo i gyflawni
ei ymrwymiad i wneud trefniadau i sicrhau gwella parhaus. Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys gwerthusiad
penodol o lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol.
Arfarnwyd y perfformiad mewn perthynas â dangosyddion perfformiad a mesuryddion
perfformiad allweddol, gan nodi sut roedd y blaenoriaethau corfforaethol wedi
cael effaith yn lleol yn chwe ardal Sir Ddinbych. Roedd y Cyngor wedi gwireddu
ei addewid i fod yn Gyngor sy’n perfformio ar lefel uchel, yn agos at ei
gymuned, ac esboniodd y Cynghorydd Smith y llwyddwyd â’r nod o ddarparu
trosolwg gonest a chytbwys o berfformiad y Cyngor. Roedd nifer o heriau’n
parhau, ac roedd y rhain wedi ffurfio sylfaen datblygu’r Cynllun Corfforaethol
newydd. Cynhwyswyd manylion am yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn yr
adroddiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd na chynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar
Gydraddoldeb yng nghyswllt yr adroddiad hwn.
Darparwyd yr ymatebion a ganlyn i gwestiynau a
materion gan yr Aelodau:- ·
Tudalen 22
– cytunodd y swyddogion i sicrhau y byddai’r adran yn cyfeirio at ieithoedd yn
yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei diwygio gyda’r Gymraeg wedi ei gosod o flaen
y Saesneg, yn unol â pholisi’r Cyngor. ·
Tudalen
24, Ffyrdd a chynlluniau Atal rhag Llifogydd – cytunodd y swyddogion gael
eglurhad a darparu manylion ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru i gynlluniau
lleddfu llifogydd yn y Rhyl a Chorwen. ·
Tudalen
25, Meysydd Blaenoriaeth, Priffyrdd – Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y
byddai argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a’r
Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â chyfuno Adrannau Priffyrdd Sir Ddinbych a
Chonwy. Cadarnhaodd na fyddai hyn yn effeithio ar y buddsoddiad a wnaed gan Sir
Ddinbych, a sicrhaodd yr Aelodau y byddai’r prosiect dan sylw yn ddiogel.
Ymatebodd y Prif Weithredwr i bryderon a fynegwyd gan yr Aelodau, ac esboniodd
na ddylid cyfleu’r sefyllfa fel cydweithredu’n methu, ond yn hytrach edrych
arno fel Sir Ddinbych wedi bod yn rhagweithiol wrth asesu ac ymateb i’r
opsiynau ar gael. ·
Tudalen
63, Ardal Dinbych – cytunwyd y byddai swyddogion yn cael eglurhad ac yn darparu
manylion ynghylch cyllid Tai Clwyd ar gyfer y datblygiad yn ymwneud ag
adleoli’r Gwasanaeth Ieuenctid. Cadarnhaodd y Cynghorydd C.L. Hughes nad oedd y
cyllid wedi ei sicrhau hyd yma. · Tudalen 25, Maes blaenoriaeth, Priffyrdd – Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd safbwynt y Llywodraeth o ran cyflwyno cydweithredu wedi newid, ac onibai ei fod yn cael ei ddatblygu’n wirfoddol gellid gorfodi hyn mewn ffyrdd eraill. Diben y cydweithredu oedd cyflawni arbedion sylweddol. Fodd bynnag, byddai goblygiadau ariannol ynghlwm â chyfuno i ddechrau, ac yn achos yr adrannau Priffyrdd ystyriwyd bod y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012-2017 PDF 77 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol
(copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo fersiwn drafft terfynol y Cynllun
Corfforaethol 2012/17. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol, a oedd yn gofyn am gymeradwyo fersiwn
ddrafft Cynllun Corfforaethol 2012-17 y Cyngor, â phapurau’r cyfarfod. Hysbyswyd yr Aelodau
ei bod yn ofynnol cael penderfyniad i gymeradwyo fersiwn ddrafft derfynol
Cynllun Corfforaethol 2012-17, ynghlwm fel Atodiad I yr adroddiad. Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd H.H. Evans, yr adroddiad ac
esboniodd, er nad oedd y gwaith o wella Sir Ddinbych wedi’i gwblhau eto, roedd
y sylfeini yn eu lle yn awr a gellid gwireddu’r dyheadau. Amlinellwyd
llwyddiannau o Gynllun Corfforaethol 2008/12 a chyfeiriwyd at yr Awdurdod yn
cyrraedd y nod o fod yn Gyngor sy’n perfformio ar lefel uchel, ac roedd
cyfleoedd i wella wedi eu hadnabod hefyd. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ddwy her
ymarferol yn y Cynllun, sef yr angen i fonitro a mesur effeithlonrwydd y
blaenoriaethau, a sicrhau bod y Cynllun Corfforaethol yn ymateb i anghenion
trigolion. Pwysleiswyd gwerthoedd allweddol Sir Ddinbych - Undod, Parch,
Uniondeb a Balchder - wrth yr Aelodau. Esboniodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen
strategol lefel uchel a ddatblygwyd i lywio cyfeiriad y Cyngor am y pum mlynedd
nesaf, gyda’r buddsoddiad o £134m i gyflawni’r blaenoriaethau allweddol, yn
cynnwys buddsoddiad sylweddol o £97 miliwn mewn addysg. Paratowyd y Cynllun
Corfforaethol yn unol â’r polisi a’r cyd-destun ariannol i Awdurdodau Lleol
Cymru, ac roedd yn diffinio prif flaenoriaethau strategol y Cyngor ac yn nodi
ei uchelgais i’r dyfodol yn glir. Roedd y Cyngor wedi’i weddnewid yn ystod y
pum mlynedd ddiwethaf, a bellach yn cael ei ystyried yn rhagweithiol yn hytrach
nag adweithiol, ac eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn
hyderus y byddai’r Uwch Dîm Rheoli yn cynnal y safonau uchel sy’n cael eu cyflawni
yn awr, gydag arweinyddiaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth swyddogion yn elfen
hanfodol bwysig ar gyfer sicrhau llwyddiant.
Hysbyswyd yr Aelodau
y byddai’r Cynllun Corfforaethol drafft yn edrych ar y meysydd allweddol a
ganlyn:- · Gwella perfformiad ym maes addysg a gwella ansawdd adeiladau ysgolion · Datblygu’r economi leol · Gwella ffyrdd · Diogelu pobl fregus a’u galluogi i fyw mor annibynnol ag y bo modd · Strydoedd glân a thaclus · Sicrhau mynediad i dai ansawdd da · Moderneiddio’r cyngor er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwella’r
gwasanaethau i gwsmeriaid. Byddai’r prif
gynigion buddsoddi yn ystod y cyfnod pum mlynedd yn cynnwys:- · £97 miliwn i wella adeiladau ysgolion, cynnal adolygiadau ardal,
ailwampio a gwelliannau eraill i ysgolion · buddsoddi £10.4 miliwn yn y ffyrdd · buddsoddi £21 miliwn mewn tri cynllun gofal ychwanegol yn y sir · buddsoddi £2 filiwn i roi hwb i’r economi · buddsoddi £4 miliwn mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a
swyddfeydd. Rhagwelir y bydd
grantiau gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo â chyllido gwaith cynlluniedig i
wella ysgolion a ffyrdd, gyda phartneriaid eraill yn debygol o gyfrannu at y
prosiectau tai gofal ychwanegol cynlluniedig. Byddai cyfanswm o £78 miliwn yn
dod o ystod o ffynonellau, yn cynnwys cyllid wedi’i sicrhau trwy fenthyca
darbodus. Esboniodd y Prif
Weithredwr bod y Cynllun Corfforaethol yn canolbwyntio’n glir ar wella
gwasanaethau i gwsmeriaid, gyda’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn fwy ymatebol i
anghenion cwsmeriaid. Byddai cyflawni’r Cynllun Corfforaethol yn gweddnewid
bywydau pobl yn Sir Ddinbych ac yn creu gwaddol i’r dyfodol. Cadarnhaodd y
bwriedir ymdrin â phob un o’r blaenoriaethau mewn ffordd wahanol, ag amserlenni
gwahanol a gwahanol ofynion o ran buddsoddiad ariannol. Byddai gan y
blaenoriaethau sy’n canolbwyntio ar yr economi ac addysg amserlen sy’n mynd y
tu hwnt i bum mlynedd y Cynllun. Disgwylir cynnydd go iawn yn y meysydd
blaenoriaeth hyn, gyda’r budd llawn i’w gweld y tu hwnt i 2017. Byddai’r angen i fod yn fwy cost effeithiol yn hanfodol trwy ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Polisi Cynllunio (copi’n
amgaeëdig) ar yr Ymgynghoriad ar Ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol Safle
Treftadaeth y Byd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio, ynghylch yr
ymgynghoriad ar y ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd,
â phapurau’r cyfarfod. Cyflwynwyd crynodeb manwl o’r adroddiad gan yr Aelodau Arweiniol
Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid, y Cynghorydd H.L. Jones, ac esboniodd bod
Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol, â’r nod
o esbonio polisïau yn y Cynllun Datblygu Unedol yn fanylach. Roedd Nodyn
Canllawiau Cynllunio Atodol Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn ceisio ehangu ar
bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd, petai’r cynllun yn cael ei ystyried yn
un ‘cadarn’ gan yr Arolygiaeth Gynllunio a’i fabwysiadu’n ffurfiol yn lle’r
Cynllun Datblygu Unedol. Gofynnwyd am
benderfyniad ar fabwysiadu’r Canllawiau
Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd er mwyn galluogi ei ddefnyddio fel
ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Byddai’r Canllawiau Cynllunio Atodol
Safle Treftadaeth y Byd yn cynorthwyo’r cyhoedd,
datblygwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Cynghorwyr a swyddogion i ddeall y
goblygiadau ynghlwm â datblygu yn ardal Safle
Treftadaeth y Byd a’r ‘llain glustogi’ amgylchynol. Esboniodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y penderfynwyd ar Safle Treftadaeth
y Byd a’r Llain Glustogi, a’u dynodi yn ddiweddarach, yn 2009 ac na ellid ei
newid. Ers 2009 roedd yr effaith y byddai datblygiad yn ei gael ar Safle
Treftadaeth y Byd a’r Llain Glustogi wedi bod yn ystyriaeth berthnasol wrth
benderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid oedd wedi effeithio ar y datblygiadau y
gellid eu gwneud heb yr angen am ganiatâd cynllunio, na chyflwyno’r angen am
Ddatganiadau Mynediad a Dylunio a oedd yn ofyniad cenedlaethol a gyflwynwyd yn 2009. Dyfarnwyd statws
Safle Treftadaeth y Byd i Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte gan UNESCO (United
Nations Educational Scientific and Cultural Organisation) ym mis Mehefin 2009,
yn dilyn cydnabod ei Werth Cyffredinol Eithriadol arwyddocaol i’r ddynoliaeth gyfan. Sefydlwyd
y ‘Llain Glustogi’ i ddiffinio’r ardal amgylcheddol sy’n cyfrannu at ‘Werth Cyffredinol Eithriadol’ y safle. Mewn ymateb i
sylwadau gan y Cynghorydd T.R. Hughes am arwyddocâd Dyfrbont
Pontcysyllte i’r Canllawiau
Cynllunio Atodol, pwysleiswyd bod y cais wedi’i
ehangu i gynnwys y Gamlas a Rhaeadr y Bedol (Horseshoe Falls) i gynnwys eu
cyfraniad i’r Dyfrbont. Cadarnhawyd bod y
Canllawiau Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd wedi eu paratoi ar y cyd
rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Swydd Amwythig.
Amcan yr Awdudodau Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am
ddiogelu’r Safle Treftadaeth
oedd rheoli datblygu mewn modd cadarnhaol, a oedd yn cefnogi’r weledigaeth a amlinellir yn
y Cynllun Rheoli. Cytunwyd ar gynnwys
y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’r cwmpas a’r bwriad i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis Awst 2011. Rhoddwyd crynodeb o’r materion yn y 10 ymateb a
dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori, a gynhaliwyd rhwng 26 Medi a 16
Rhagfyr 2011, yn yr adroddiad. Roedd ymatebion ymgynghori manwl wedi eu crynhoi
a’u cynnwys yn Atodiad 1, ac
roedd y rhain hefyd yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw newidiadau dilynol i’r Canllawiau Cynllunio Atodol.
Mewn ymateb i awgrym gan Gyngor Tref Llangollen, lluniwyd rhestr wirio
anffurfiol Safle Treftadaeth y Byd i ymgeiswyr, ac roedd copi yn Atodiad 2.
Cynhwyswyd crynodeb o’r prif newidiadau i’r ddogfen yn yr adroddiad,
ynghyd â chopi terfynol o’r Canllawiau Cynllunio Atodol
yn Atodiad 3. Mynegodd Aelodau ward Llangollen bod Safle Treftadaeth y Byd a’r llain glustogi gysylltiedig yn cyflwyno a chreu cyfyngiadau cynllunio ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
YMATEB Y CYNGOR I ADOLYGIADAU GWASANAETHAU BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR PDF 77 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi’n amgaeëdig) a oedd yn argymell ymateb terfynol y
Cyngor i’r ymgynghoriad “Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd yn argymell ymateb
terfynol y Cyngor i’r ymgynghoriad cyhoeddus ‘Mae Gofal Iechyd yng ngogledd
Cymru yn newid’, â phapurau’r cyfarfod.
Dosbarthwyd copi yn cynnwys diweddariad o’r newidiadau i ymateb y Cyngor
yn y cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelodau
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd R.L. Feeley, a
diolchodd i amryw o unigolion a chyrff am eu cymorth yn llunio’r ymateb. Esboniodd
y Cynghorydd Feeley bod “Mae Gofal
Iechyd yng ngogledd Cymru yn newid” ac Adolygiadau Gwasanaeth eraill sy’n cael
eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngorffennaf 2012,
yn cynnwys cynigion ar gyfer newidiadau arwyddocaol i wasanaethau iechyd ar
draws gogledd Cymru. Cynhaliwyd proses ymgynghori ffurfiol ar y cynigion rhwng
20 Awst a 28 Hydref a bod cais i’r Cyngor gytuno’n ffurfiol ar yr ymateb
arfaethedig yn Atodiad I i’r adroddiad. Roedd manylion am y saith prif faes a adolygwyd
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn
yr adroddiad. Cyflwynwyd adroddiad ar adolygiadau “Mae Gofal Iechyd yng
ngogledd Cymru yn newid: adroddiad ar gynigion newid gwasanaeth” wedi’i
gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 19 Gorffennaf 2012. Roedd y Cyngor wedi derbyn gwybodaeth
gefndir, crynodeb y cynigion, copi o’r ddogfen ymgynghori ac ymateb drafft i’r
cynigion a luniwyd gan Weithgor o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn
flaenorol. Roedd yr Aelodau wedi cael cyflwyniad gan gynrychiolwyr y Bwrdd
Iechyd hefyd, a chyfle i ofyn cwestiynau ar faterion allweddol. Yn dilyn
trafodaethau yn y Grwpiau Aelodau Ardal, cyfarfodydd Clwstwr Cynghorau Tref a
Chymuned, cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a gweithgareddau ymgynghori a drefnwyd gan y Cyngor Iechyd
Cymuned roedd yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad wedi’i ddiwygio yn dilyn
cyfarfod arall o Weithgor y Pwyllgor Craffu Partneriaethau. Darparodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles grynodeb o’r prif
newidiadau, fel a ganlyn, a nodwyd yn yr adroddiad:- ·
yr angen am Grŵp Strategol ar gyfer Sir Ddinbych i alluogi
trafodaeth am fanylion gweithredu’r cynigion (paragraff 1.4) ·
cryfhau’r geiriad o ran yr angen i sicrhau bod gwasanaethau amgen yn eu
lle cyn cau’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes (paragraffau 1.5, 1.6.4, 1.8.2,
2.3) a datblygu gwasanaethau ar gyfer gofalwyr (paragraff 1.9.2) ·
cynnig bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried datblygu Inffyrmari Dinbych ac
Ysbyty Rhuthun fel ‘cyd-ganolfan ysbyty’ a’r swyddogaethau cysylltiedig
(paragraff 1.7) ·
cefnogaeth benodol i ddarparu Gwasanaeth Mân Anafiadau yn Llangollen
(paragraff 1.8.3) Cadarnhawyd bod gweithio agos ac integredig â
gwasanaethau iechyd, yn enwedig mewn ardaloedd lleol, yn ffurfio rhan allweddol
o waith y Cyngor i ymateb i newid demograffig, a bod y Cynllun MAWR wedi nodi’r
amcanion ar gyfer cydweithio effeithiol i gefnogi teuluoedd. Roedd manylion am y costau potensial i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’u cynnwys ym mharagraff 4.7 yr adroddiad
i’r Cyngor ar 11 Medi. Esboniwyd, yn y broses o newid, yn enwedig wrth i
wasanaethau gael eu trosglwyddo i’r gymuned, gallai’r cynnydd mewn costau gael
ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Cyfeiriwyd yn benodol at ofal cymdeithasol i
oedolion a’r goblygiadau posibl o ran darpariaeth cludiant. Roedd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnal proses sgrinio Asesu’r Effaith ar
Gydraddoldeb ar eu cynigion, a byddai’n gwneud rhagor o waith cyn cyflwyno’r
cynigion terfynol i’r Bwrdd. Eglurwyd, oherwydd nad oedd costau’r newidiadau arfaethedig wedi eu cyfrifo’n llawn, nad oedd yr effaith ar wasanaethau’r Cyngor yn glir. Byddai angen ystyried materion fel darparu cludiant, a byddai risg y byddai cost ychwanegol darparu mwy o wasanaethau yn y gymuned yn syrthio’n anochel ar dimau gofal cymdeithasol y Cyngor. Byddai camau gweithredu allweddol i ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
BLAEN RAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR PDF 91 KB I ystyried Rhaglen Waith y cyngor at y dyfodol (cpi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Gyfreithiwr Flaen Raglen Waith y Cyngor,
a ddosbarthwyd yn flaenorol, a chytunodd yr Aelodau i gynnwys yr eitemau newydd
isod yn y Rhaglen Waith:- 6 Tachwedd 2012:- ·
Diwygio Budd-daliadau Lles ·
Rôl Hyrwyddwyr 11 Rhagfyr 2012:- ·
Gweithdy ar y Gyllideb PENDERFYNWYD – yn amodol
ar yr uchod, gymeradwyo a nodi blaen raglen waith y Cyngor. Gorffennodd y cyfarfod am |