Agenda and minutes

Agenda and minutes

Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Raymond Bartley, Brian Blakeley, Jeanette Chamberlain Jones, Janet Ann Davies a Geraint Lloyd-Williams fod ganddyn nhw ddiddordeb personol yn eitem agenda 6 – Adolygiadau’r GIG.

Datganodd y Cynghorydd Win Mullen-James bod ganddi ddiddordeb personol a rhagfarnol yn eitem agenda 10 – Pwyllgor Safonau – Telerau Swyddi Aelodau Annibynnol.

 

 

3.

MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYN NHW GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 65 KB

Cydnabod yr ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi’n amgaeëdig).

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y digwyddiadau sifig yr oedd hi a’r Is-Gadeirydd wedi ymgymryd â hwy ar ran y Cyngor yn y cyfnod 10/07/2012 – 10/09/2012 (roedd y dyddiadur wedi’i ddosbarthu o flaen llaw).

 

Roedd y noson Pimms and Pictures a gynhaliwyd ar 27/07/2012 wedi codi £1500 i Hosbis St. Kentigerns.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 175 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10fed Gorffennaf 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2012.

 

Cywirdeb:-

Eitem Rhif 6, Tudalen 9 – Gwnaeth y Cynghorydd Alice Jones gais am newid yn y darn “Diweddariad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych”.  Roedd y Cynghorydd Jones wedi dweud bod y Cynghorydd Joan Butterfield wedi cyfeirio at lythyr a ddosbarthwyd i Gynghorwyr gan Gyngor Tref Bodelwyddan, lle teimlai’r Cynghorydd Butterfield bod awgrym bod Cyngor Sir Ddinbych yn euog o ryw “ddrwgweithredu”. Nid oedd y Cynghorydd Butterfield wedi cyfeirio at “brosesau anghywir” fel y cofnodwyd yn y cofnodion.  Eglurodd y Cynghorydd Jones ei bod mewn ymateb i’r Cynghorydd Butterfield, wedi nodi nad oedd wedi cyfrannu mewn unrhyw fodd i’r llythyr ac felly nad oedd wedi nodi bod y Cyngor wedi gwneud unrhyw beth o’i le.  Roedd hyn o fewn y cyd-destun o gynnig sylwadau ar y llythyr. Nododd y Cynghorydd Jones nad oedd yn cyflwyno ei safbwyntiau neu farn bersonol ac nad oedd y dehongliad o “ddrwgweithredu” fel “prosesau anghywir” yn y cofnodion yn cyd-fynd â’r hyn a ddywedodd. Nododd y Cynghorydd Jones hefyd petai’r Cynghorydd Butterfield wedi sôn am “brosesau anghywir” y byddai wedi’i sbarduno i ymateb yn wahanol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones, ar y sail bod ei sylwadau wedi’u camddehongli, bod y Cyngor yn derbyn ei fersiwn a’i heglurhad ac yn cywiro’r anghywirdeb trwy newid y cofnodion fel ag sy’n briodol.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2012  yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

 

6.

ADOLYGIADAU GWASANAETH GIG pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol ar Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) i’r Cyngor ystyried cynigion i ad-drefnu cyflwyniad gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru ac i alluogi i’r Cyngor ymateb yn ffurfiol i broses ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Demograffeg, Lles a Chynllunio (CD:DWP) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a oedd yn gofyn am fewnbwn y Cyngor i’r ymateb drafft i broses ymgynghori BIP Betsi Cadwaladr.

 

Rhoddodd CD:DWP gyflwyniad byr i’r cynrychiolwyr o BIP  Betsi Cadwaladr (BCUHB) gan eu croesawu i’r cyfarfod. Roedd y cyfnod  ymgynghori i redeg am 10 wythnos o 20 Awst, 2012 hyd 28 Hydref, 2012. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, at y ffaith bod newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd yn anochel ond bod y anodd deall y rhesymeg wrth wraidd rhai mesurau. Hysbysodd y Cynghorydd Feeley gynrychiolwyr BCUHB o Weithgor y Pwyllgor Craffu Partneriaeth a oedd wedi’i sefydlu ac oedd, gyda swyddogion, wedi bod yn gweithio drwy’r mesurau. Roedd y gweithgor i gwrdd ar ddiwedd Medi i gwblhau’r ymateb a fyddai’n dod i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 9 Hydref, 2012.  

 

Cyflwynodd Geoff Lang, BCUHB, “Healthcare in North Wales is changing”.  Roedd copïau o’r cyflwyniad ar gael i bawb yn mynychu’r cyfarfod ynghyd â’r ddogfen ymgynghori er gwybodaeth. 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnwyd cwestiynau a rag baratowyd i gynrychiolwyr BCUHB.  Roedd holl aelodau wedi derbyn copi o’r daflen gwestiynau ac roedd y  CD:DWP hefyd wedi anfon copi o’r daflen gwestiynau o flaen llaw i gynrychiolwyr BCUHB.

 

Cwestiwn 1 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley.  Problemau gyda chiwiau Ambiwlans tu allan Glan Clwyd, gwelyau wedi’u blocio, llawdriniaethau’n cael eu canslo, staff yn cael eu hanfon adref a thargedau amserau aros yn cael eu methu. Sut fydd y newidiadau arfaethedig yn datrys y problemau hyn? 

Ymatebodd Geoff Lang bod gwaith ar y gweill mewn perthynas â Damweiniau ac Achosion Brys o ran recriwtio staff. Roedd Ysbyty Glan Clwyd i gael Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys newydd. Roedd BCUHB yn gweithio gyda’r gwasanaeth ambiwlans i leddfu’r broblem o giwiau ambiwlans. Byddai gofal gwell yn y cartref yn cyfrannu at leddfu’r pwysau ar welyau gan y byddai modd osgoi’r angen i anfon rhai cleifion i’r ysbyty; byddai hynny hefyd yn lleddfu’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans. 

 

Roedd gwaith ar y gweill gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i osgoi defnyddio ambiwlans mewn achosion nad oeddynt yn rhai brys. Ar hyn o bryd, nid oes opsiynau eraill heblaw am fynd â phobl i’r uned achosion brys. Yn dilyn adolygu’r gwasanaethau, yn y dyfodol, byddai modd mynd ag achosion nad oeddynt yn rhai brys i uned mân anafiadau.   

 

Cwestiwn  2 - cyflwynwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Sut mae BCUHB yn bwriadu rheoli a chyflawni’r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i roi’r cynlluniau hyn ar waith o gofio’r diffyg cyllidol sydd yno eisoes (oddeutu £65m)?

Ymatebodd Geoff Lang bod pwysau cyffredinol ar gyllidebau. Roedd BCUHB wedi bod yn asesu meysydd i arbed adnoddau, ac adnoddau sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaethau rheng flaen, a chaffael ayyb. Roedd y cynllun hwn i newid y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Mae’n bwysig sylweddoli y gallai’r sefyllfa ariannol waethygu yn hytrach na gwella pe na fyddai BCUHB yn gwneud y newidiadau hyn. Nid dyma’r ateb i holl faterion ariannol gofal iechyd.

 

Cwestiwn 3 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James.  Pa mor hyderus yw BCU o sicrhau’r buddsoddiad cyfalaf a refeniw angenrheidiol i agor y cyfleuster cymunedol newydd i wasanaethu’r Rhyl a  Phrestatyn a’r cyfleuster newydd yn Llangollen?  A dderbyniwyd sicrwydd bod yr achosion busnes yn gadarn? Pa mor debygol ydyn nhw o fod wedi’u cwblhau a’u hagor erbyn 2015?  Pa sicrwydd a roddir y bydd gwasanaethau presennol yn dal i weithredu hyd nes y bydd y cyfleusterau a’r gwasanaethau newydd yn agor? 

Ymatebodd Geoff Lang na fyddai  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

CYFLWYNIADAU

 

Cyflwynodd y Cadeirydd dystysgrif i’r Prif Weithredwr am gyflawni Tystysgrif Mynediad Cymraeg Ail Iaith CBAC.   Roedd wedi bod yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg Llanllawen wythnosol yn Ninbych ers Chwefror 2010 a bellach wedi cyflawni’r cymhwyster ym Mehefin eleni. Byddai nawr yn symud ymlaen i’r cam nesaf. 

 

Dangosodd y Cadeirydd Raymond Bartley dlws i Aelodau a oedd wedi’i gyflwyno’n wreiddiol i’r Eisteddfod gan Garcharorion Rhyfel Eidalaidd i ddiolch i bobl Cymru am y caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu carchariad. 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Cymunedol newydd i’w chyfarfod Cyngor Sir cyntaf.

 

 

7.

DATGANIAD POLISI TÂL pdf eicon PDF 74 KB

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol ar Foderneiddio a Pherfformiad (copi’n amgaeëdig) i gymeradwyo’r Datganiad Polisi Cyflog sydd wedi ei ddrafftio yn unol â gofynion Adran 38(1) Deddf Lleoliaeth 2011.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad (LM:M&P) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i gael cymeradwyaeth y Cyngor i’r Datganiad Polisi Tâl er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’i rwymedigaethau cyfreithiol dan Ddeddf Lleoliaeth 2011. 

 

Penderfynwyd - bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl. 

 

 

8.

CYFAMOD CYMUNEDOL GYDA’R LLUOEDD ARFOG pdf eicon PDF 106 KB

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol ar Gwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeëdig) i fabwysiadu’n ffurfiol gyfamod yn diffinio perthynas Sir Ddinbych gyda chymuned y lluoedd arfog.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (LM:C&C) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i gael cymeradwyaeth y Cyngor i’r cyfamod a chytuno y dylid gwneud trefniadau ar gyfer lansio’r cyfamod yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol gyda chynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog a chynrychiolwyr perthnasol o’r gymuned yn bresennol.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol (CEM) y cyfamod i’r Pwyllgor. Nid oedd y cyngor am wahaniaethu yn erbyn y gwasanaethau arfog ac nid oedd y cyngor ychwaith yn rhoi unrhyw flaenoriaeth iddynt o ran gwasanaethau.  Byddai modd ystyried yr awgrym o gynnig taliadau gostyngol ar gyfer defnyddio gwasanaethau hamdden.

 

Gofynnwyd y cwestiwn sut oedd gwasanaethau cymdeithasol yn delio gyda dynion a gwragedd a oedd yn dioddef o Anhwylder Straen wedi Trawma. 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Demograffeg, Lles a Chynllunio bod gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda BCU ond nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol i bobl sy’n dioddef o’r anhwylder.  Roedd meddygon teulu yn gyfrifol am atgyfeirio cleifion.

 

Nododd y Prif Weithredwr bod hwn yn fater difrifol.  Gallai Aelodau dderbyn dadleuon o grwpiau eraill pe byddai teimlad bod y Cyngor yn gwahaniaethu’n bositif ac yn ffafrio cyn-aelodau o’r lluoedd arfog. Rhaid bod yn ofalus i beidio â chyfleu neges bod rhai pobl yn bwysicach nag eraill. Mae’n bosibl y byddai’n rhaid i Sir Ddinbych wneud penderfyniadau i sicrhau nad oedd cyn-aelodau o’r lluoedd arfog yn dioddef unrhyw anfantais, ond ni fyddai modd gwahaniaethu o’u plaid mewn unrhyw fodd. Argymhellodd y Prif Weithredwr na ddylai’r Cyngor wneud unrhyw benderfyniadau heddiw ynghylch materion polisi penodol. 

 

Cafwyd cais am adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau gan fod natur y drafodaeth ynghylch materion polisi penodol yn gofyn am ystyriaeth bellach.

 

Penderfynwyd – bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cyfamod ac yn cytuno y dylid  gwneud trefniadau ar gyfer lansio’r cyfamod yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol gyda chynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog a chynrychiolwyr perthnasol o’r gymuned yn bresennol.

 

9.

PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL pdf eicon PDF 129 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn unol â Rheoliadau Ariannol a Methodoleg Prosiectau Cyngor Sir Ddinbych.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans (Arweinydd) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i gael cymeradwyaeth y Cyngor i Brosiect Gwella Tai Gorllewin Y Rhyl ac i ddirprwyo pwerau i’r Bwrdd Prosiect. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Hugh Evans bod y prosiect yn bartneriaeth weithredol yn cynnwys Pennaf/Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru oedd yn arwain y prosiect ac yn darparu’r cyllid.

 

Mae’r prosiect wedi’i rannu’n flociau:-

 

Bloc 1 – adeiladau i’w dymchwel i greu’r man gwyrdd. 

Bloc 2 – roedd y cyngor wedi caffael pob un, heblaw am un neu ddau, o’r adeiladau a fyddai’n cael eu hadnewyddu gan Pennaf/Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a’u marchnata fel eiddo “Cymorth Prynu”, lle y byddai preswylwyr yn berchen ar fwyafrif yr ecwiti yn y cartref. 

Bloc 3 – 6 fel ag yn yr adroddiad.

 

Cafwyd trafodaeth bellach, ac ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn:-

 

Ø      Roedd rhaglenni sector cyhoeddus a chynlluniau grant wedi methu ag adfywio’r ardal, ac mae dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yng ngorllewin Y Rhyl. Byddai’r prosiect yn cyflawni cydbwysedd o ran tai gan fod gormod o breswylwyr un llofft yn yr ardal.  Roedd y prosiect yn gweithio tuag at sicrhau gwell cydbwysedd trwy greu man gwyrdd, ailfodelu tai a’u gwneud yn ddeniadol i deuluoedd. Byddai ymdrin â’r problemau hir sefydlog hefyd yn cynorthwyo at greu argraff fwy positif o’r dref yn ei chyfanrwydd, ac felly’n cael buddion adfywio mwy pellgyrhaeddol.

Ø      Roedd llawer o’r adeiladau wedi’u caffael fel rhan o Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru ac roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i barhau â’r rhaglen gaffael.  Byddai Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio caffael adeiladau trwy gytundeb, ond yn rhagweld y byddai’n rhaid defnyddio pwerau prynu gorfodol i gaffael lleiafrif o’r adeiladau sy’n angenrheidiol i’r prosiect.

Ø      Byddai Swyddog Adsefydlu yn cael ei benodi, a’i rôl fyddai cynorthwyo trigolion i adnabod ac yna adleoli i gartrefi newydd, naill ai o fewn Sir Ddinbych neu hyd yn oed mewn sir arall. O’r trigolion sydd wedi’u hadleoli, roedd mwyafrif yn dymuno parhau i fyw yn Y Rhyl.   Hyd yma, roedd 23 achos o adleoli wedi digwydd - 20 o fewn Y Rhyl a 3 o fewn Prestatyn.

Ø      Hyd yma, nid oes unrhyw ddyluniadau wedi’u cymeradwyo i’r man gwyrdd.  Mae’r Cyngor yn awyddus i gyfyngu ar y gost o gynnal a chadw’r man gwyrdd gyda’r posibiliad o greu menter gymunedol a fyddai’n cynnal y man hwn. 

Ø      Byddai adeiladau newydd ac adeiladau a adnewyddwyd yn dangos safon uchel iawn o effeithlonrwydd ynni.

Ø      Mae risg ariannol posibl i’r cyngor yn nhrydedd flwyddyn y prosiect hwn. Prosiect Llywodraeth Cymru ydy hwn, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly mae cyfrifoldebau risg ariannol yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru ac nid Cyngor Sir Ddinbych. 

Ø      Mae Prosiect Gwella Tai Gorllewin Y Rhyl yn cael ei redeg fel Prosiect Methodoleg Prince 2.  Roedd uwch swyddog wedi’i benodi a oedd yn Ymarferwr Prince 2 i weithredu fel Rheolwr Prosiect.

Ø      Awgrymwyd gan Aelodau y dylai Archwilio Mewnol ymgysylltu â’r prosiect yn gynnar yn y broses.  Byddai Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen yn edrych i mewn i hyn. Dywedodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai’n cyfarfod gydag Archwilio Mewnol ymhen ychydig o wythnosau ac y byddai’n trafod y prosiect bryd hynny.

Ø      Dywedodd Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar, a bod y map sydd ynghlwm wrth y dogfennau wedi newid rhyw ychydig. Roedd y Gorchymyn Prynu Gorfodol bellach yn cynnwys Stryd Gronant ac adeiladau eraill, ond na fyddai hynny’n newid hyd a lled y prosiect mewn unrhyw fodd.  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

PWYLLGOR SAFONAU – TELERAU SWYDDI AELODAU ANNIBYNNOL pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeëdig) i’r Cyngor gytuno trefniadau ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Cyngor gytuno ar drefniadau ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd bod Cyngor Tref y Rhyl wedi enwebu aelod ers cyhoeddi’r adroddiad fel aelod Cyngor Tref a Chymuned.

 

Mynegodd y Cynghorydd Win Mullen James ddiddordeb personol a rhagfarnol yn yr eitem hon gan mai ei gŵr hi oedd wedi’i enwebu gan Gyngor Tref y Rhyl. Gadawodd y Cynghorydd Mullen James y Siambr i’r eitem hon.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid ail-ethol y cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned presennol sef David Jones, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Raymond Bartley.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Colin Hughes gynnig, sef yn hytrach nag ail-ethol David Jones, y dylid cael proses ddethol.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.  Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig, ond methodd y cynnig.

 

Gofynnwyd am enwebiadau am dri Chynghorydd Sir i wasanaethu ar Banel Penodiadau Arbennig y Pwyllgor Safonau.  Mae Rheoliadau’r Pwyllgor Safonau yn sefydlu Panel Penodiadau, a gwaith y panel hwnnw yw ystyried ceisiadau am unrhyw swyddi gwag i’r aelodau annibynnol (h.y. nad ydynt yn aelodau o’r cyngor) ac i gynnig argymhellion i’r Cyngor llawn. Bydd y Panel yn cynnwys dim mwy na 5 aelod Panel. Mae’n rhaid i un aelod Panel fod yn berson lleyg, un yn aelod o Gyngor Cymuned ac mae’n rhaid i hyd at dri fod yn Gynghorwyr Sir. Bydd y Panel yn ymgynnull yn achlysurol pan fydd swydd wag.  Mae’r Cynghorwyr Colin Hughes a Bill Cowie yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau ar hyn o bryd.  Cynigiodd y Cynghorydd David Simmons ac eiliodd y Cynghorydd David Smith y dylid penodi’r Cynghorwyr Colin Hughes a Bill Cowie i’r Panel. 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Cynghorydd Martyn Holland fel y trydydd Cynghorydd Sir, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Jones.

 

Penderfynwyd:-

(a)               y dylid ail-benodi David Jones am dymor pellach yn y swydd

(b)               y dylid ail-benodi Paula White am dymor terfynol o bedair blynedd.

(c)               y dylid penodi’r Cynghorwyr Colin Hughes, Bill Cowie a Martyn Holland i wasanaethu ar Banel Penodiadau Arbennig y Pwyllgor Safonau. 

 

 

11.

BLAEN-RAGLEN WAITH Y CYNGOR pdf eicon PDF 77 KB

I ystyried Rhaglen Waith y Cyngor at y dyfodol (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Flaen-raglen Waith y Cyngor (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan adrodd y bydd Adolygiadau Gwasanaeth y GIG yn cael eu cynnwys yn Hydref 2012.  

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.25 y.p.