Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

YSGOL UWCHRADD Y RHYL – CLUDWYR Y FFLAM OLYMPAIDD

Croesawodd y Cadeirydd ddisgyblion o Ysgol Uwchradd y Rhyl a oedd wedi eu dewis yn Gludwyr y Fflam Olympaidd yn rhan o raglen Dilynwyr Fflam Taith Gyfnewid Gemau Olympaidd Llundain 2012

 

Fe anerchwyd y Cyngor gan y disgyblion a adroddodd fod yr ysgol wedi ei dewis oherwydd iddi ddefnyddio Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 i godi ymwybyddiaeth o’r gwerthoedd Olympaidd.  Fe ganfu noddwyr y rhaglen Cludwyr Fflam fod llwyddiannau chwaraeon Ysgol Uwchradd y Rhyl a nifer y myfyrwyr a oedd wedi cyflawni llwyddiannau unigol mewn chwaraeon - ynghyd â llwyddiant ag hyfforddi a datblygu, yn eu gwneud yn gyfranogwyr haeddiannol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd a’r cynghorwyr, yn cynnwys yr aelod a oedd yn cynrychioli De Ddwyrain y Rhyl, y Cynghorydd Blakeley, deyrnged i’r Prifathro, y staff a’r disgyblion am y gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd gan yr ysgol.

 

 

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Tynnwyd sylw Aelodau gan y Cadeirydd at ddigwyddiad ‘Cyflenwi Blaenoriaethau Aelodau’ ar Orffennaf 31, 2012 a fyddai’n helpu i lunio blaenoriaethau’r Cyngor yn y dyfodol; ac at lwyddiant Côr Ieuenctid Sir Ddinbych yn cael eu dyfarnu â ‘Gwobr Côr Ieuenctid Ysgol Roc’ yn yr Ŵyl Gerdd Genedlaethol ar gyfer Ieuenctid yn Neuadd Symffoni Birmingham ddoe.

 

Fe arweiniodd y Cynghorydd Eryl Williams yr aelodau mewn teyrnged dawel i Mr Phil Rafferty, Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddiol Cyngor Conwy a oedd hefyd wedi darparu cyngor a chefnogaeth i Bwyllgor Trwyddedu Sir Ddinbych.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd Alice Jones fuddiant anniweidiol, personol yn eitem agenda 6 – Diweddariad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych.  Dywedodd y byddai’n siarad ar faterion y Cynllun Datblygu Lleol yn ei rôl fel aelod ward Bodelwyddan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd yna unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 159 KB

Derbyn cofnodion –

 

(a)     Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 15 Mai 2012 (copi'n amgaeëdig), a

 

(b)     Cyfarfod arferol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 22 Mai 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar Fai 15, 2012 a chyfarfod y Cyngor ar Fai 22, 2012 yn gofnodion cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Penderfynwyd, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol gan y byddai’n debygol i wybodaeth eithriedig gael ei datgelu fel y’i nodir ym mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

5.

PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol. Bydd y Panel Penodi Arbennig, ar 9 Gorffennaf 2012, yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld.

 

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth AD Strategol ac ymgynghorydd recriwtio’r Cyngor ar y broses recriwtio yr ymgymerwyd â hi lle’r oedd 31 o geisiadau a 6 ymgeisydd wedi mynd drwy broses o asesu.  Hysbyswyd Aelodau fod Panel Penodiadau Arbennig o gynghorwyr wedi barnu dau o’r ymgeiswyr i fod â photensial o fod yn addas i’w penodi.

 

Rhoddodd y ddau ymgeisydd gyflwyniadau i’r Cyngor ac ymateb i gwestiynau penodedig.

 

Amlinellodd yr ymgynghorydd recriwtio ganlyniadau’r profion a gynhaliwyd yn rhan o’r broses o asesu.

 

PENDERFYNWYD – penodi Rebecca Maxwell i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol.

 

 

RHAN I – FE AILDDECHREUWYD Y CYFARFOD MEWN SESIWN AGORED

6.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar y Cynllun Datblygu Lleol ac yn gofyn am awdurdod i Arweinwyr Grwpiau oruchwylio a monitro gwaith a ymgymerir mewn ymateb i Ddarganfyddiadau’r Arolygydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio, Adfywio a Gwasanaethau Rheoleiddiol adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth a ddiweddarwyd ar y Cynllun Datblygu Lleol ac a oedd yn ceisio awdurdodiad i Arweinwyr Grŵp oruchwylio a monitro gwaith a wneir mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygwr o’r Arolygiaeth Gynllunio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at broses hir y CDLl, rhoddodd gymeradwyaeth i’r cynghorwyr a oedd wedi cyfrannu tuag at ddatblygiad y cynllun a gofynnodd am eglurhad ar safle’r Arolygwr a’r broses i ddod.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cynllunio, Adfywio a Gwasanaethau Rheoleiddiol at nodiadau’r Arolygwr ar yr angen am dai a’u cyflenwad a oedd yn atodol fel atodiadau i’r adroddiad.  Dywedodd fod yr Arolygwr wedi derbyn amcangyfrif y Cyngor fod ar Sir Ddinbych angen adeiladu 7,500 o gartrefi newydd yn ystod oes y CDLl ond credai o hyd y byddai angen safleoedd ychwanegol i gyflenwi’r cartrefi hynny.  Felly, gofynnid i’r Cyngor nodi safleoedd ychwanegol ar gyfer datblygu tai.  Cadarnhaodd y byddid yn ymgynghori â chynghorwyr lleol ac â Grwpiau Aelodau Ardal ar gynigion o fewn eu hardaloedd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod rhai cynghorwyr wedi derbyn llythyr gan Gyngor Tref Bodelwyddan a oedd yn awgrymu fod y prosesau a ddilynwyd yn anghywir.

 

Roedd y Cynghorydd Alice Jones wedi datgan buddiant personol yn yr eitem yma’n flaenorol.  Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd wedi bod yn ymglymedig â’r llythyr y cyfeiriwyd ato ac nad oedd yn awgrymu fod prosesau amhriodol wedi eu dilyn.  Roedd, fodd bynnag, yn bryderus fod y CDLl fel yr oedd yn anhydrin, roedd â gormod o’r dyraniad angen tai mewn un safle (Bodelwyddan) a dylid tynnu’r cynllun presennol yn ôl a’i ail-ddrafftio.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Jones anghymeradwyaeth ei hetholwyr i’r dyraniadau tai mawr arfaethedig ym Modelwyddan.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones ddiwygiad i argymhelliad 2 yr adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes, a fyddai’n awdurdodi Grŵp Llywio Gweithrediad y CDLl a gyfansoddwyd yn flaenorol, i oruchwylio a monitro gwaith y CDLl o ran canfyddiadau’r Arolygwr, yn hytrach na’r Arweinwyr Grŵp.

 

O bleidleisio fe gollwyd y diwygiad.

 

PENDERFYNWYD – fod y Cyngor yn:

 

(i)                 Nodi cynnwys yr adroddiad;

(ii)               Awdurdodi’r Arweinwyr Grŵp i oruchwylio a monitro’r gwaith a wneir mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygwyr;

(iii)             Cytuno fod canlyniadau ymgynghoriad ar unrhyw safleoedd ychwanegol ar gyfer datblygu tai’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ym mis Tachwedd ac i’r Cyngor ystyried a ddylid cyflwyno safleoedd ychwanegol i’r Arolygwyr sy’n cynnal Archwiliad y CDLl.

 

 

7.

ALLDRO REFENIW TERFYNOL 2011/12 pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r alldro refeniw terfynol ar gyfer 2011/12 a thriniaeth cronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Arweiniol dros Gyllid) adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i’r safle alldro refeniw terfynol ar gyfer 2011 / 2012 a thriniaeth cronfeydd wrth gefn a gweddillion fel y’u nodir yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.

 

Adroddodd y Cynghorydd Thompson-Hill  fod y sefyllfa alldro’n dda’n gyffredinol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan fod gwasanaethau’n gyffredinol wedi gwario llai na’u cyllidebau a ddyrannwyd ac roedd incwm o’r Dreth Gyngor wedi cynyddu.  Dywedodd fod cryn waith wedi ei wneud â’r ysgolion hynny a oedd yn profi anawsterau ariannol.

 

Cynigiodd y dylid caniatáu i wasanaethau gario eu tanwariant ymlaen yn llawn i gyflenwi strategaeth cyllideb 2012 / 2013 ac y byddai’n mynd ag adroddiad i’r Cabinet ar y ffordd yr oedden nhw’n argymell gwario’r arian hwnnw.  Cynigiodd y Cynghorydd Thompson-Hill hefyd y dylid defnyddio £600K o’r cronfeydd nad oedden nhw wedi eu dyrannu i gyfrannu tuag at raglen cyfalaf Moderneiddio Addysg/Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Yn y drafodaeth ganlynol fe ystyriodd yr Aelodau’r pwyntiau canlynol:

 

  • Cronfeydd ariannol Statws Sengl wrth gefn a graddfeydd amser ar gyfer penderfyniad
  • Gweddillion ysgolion a oedd wedi codi o £223K. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwahanol ysgolion â gwahanol weddillion ac na ellid yn gyfreithlon gymryd gweddill dros ben un ysgol i gymorthdalu diffyg gweddill ysgol arall.
  • Ansicrwydd presennol ynglŷn â lefelau ariannu cyfatebol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith cyfalaf i ysgolion.
  • Amlygodd y Cynghorydd Brian Blakeley ei bryderon dwfn ynglŷn â lefelau cyllid ar gyfer darpariaeth canolfannau gofal dydd y Cyngor a oedd yn darparu gwasanaethau ardderchog i’r oedrannus.
  • Unrhyw acronymau mewn adroddiadau yn y dyfodol i’w hesbonio’n llawn.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn:

 

(i)                 Cymeradwyo safle alldro refeniw terfynol ar gyfer 2011 / 2012;

(ii)               Cymeradwyo’r driniaeth o gronfeydd wrth gefn a gweddillion fel y’i nodir yn yr adroddiad ac yn atodiad 2 i’r adroddiad.

 

 

8.

PENODI AELOD LLEYG I’R PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 57 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) ar benodi aelod lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn  â phenodi aelod lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod angen o leiaf un aelod lleyg ar gyfer y Pwyllgor gan mai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol oedd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor i ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  Amlinellodd y broses recriwtio a chyfweld a ddefnyddiwyd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Martyn Holland ar y cyfweliadau yr oedd o a’r Cynghorydd David Simmons wedi cyfranogi ynddyn nhw’n rhan o’r panel cyfweld o gynghorwyr a swyddogion a oedd wedi arwain at roi argymhelliad i’r Cyngor heddiw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi Mr Paul Whitham yn aelod lleyg y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn ôl cymeradwyaeth y panel cyfweld, am dymor i ddod i ben ar ddyddiad yr etholiad llywodraeth leol nesaf yn 2017.

 

 

9.

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL CYMRU - PAPUR YMGYNGHORI AR BOLISI MAINT CYNGHORAU pdf eicon PDF 76 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo ymateb ymgynghorol drafft i gynigion polisi’r Comisiwn i gyflwyno maint cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno ymateb i ymgynghoriad drafft ar nifer yr aelodau etholedig ym mhob awdurdod unedol yng Nghymru.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y papur ymgynghorol wedi ei gylchredeg i arweinwyr grŵp er mwyn cynnwys barn eu haelodau yn ymateb y Cyngor.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Colin Hughes cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod adolygiad ffiniau blaenorol wedi ei sgrapio a’i ddisodli gan yr adolygiad hwn.  Ychwanegodd fod yr adolygiad yn gosod lefelau isaf a lefelau uchaf ar gyfer maint y cyngor (30 a 75 o gynghorwyr yn ôl eu trefn) ac mai’r ffigwr a roddwyd i Sir Ddinbych oedd 43 o gynghorwyr, ond roedd y Comisiwn wedi nodi y gellid altro eu ffigurau o 3 chynghorydd un ffordd neu’r llall.  Dyma fyddai’r man cychwyn ar gyfer yr adolygiad a byddai’r Comisiwn yn ymweld â phob awdurdod wrth i’r ymgynghoriad fynd yn ei flaen.

 

Gan fod ffigurau’r Comisiwn yn seiliedig ar gymhareb o un cynghorydd i bob 1,750 o etholwyr gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a oedd effaith y 7,500 o gartrefi newydd a gynigiwyd dan ganfyddiadau Cynllun Datblygu Lleol yr Arolygiaeth Gynllunio wedi eu hystyried gan y Comisiwn.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar gynnwys cyfeiriadau i effaith y datblygiadau tai newydd a gynigiwyd dan y Cynllun Datblygu Lleol drafft i’w hystyried gan y Comisiwn, bod y Cyngor yn cymeradwyo cyflwyniad yr ymateb i’r ymgynghoriad a ddangosir yn atodiad 4 i’r adroddiad.

 

 

10.

ADRODDIAD CYNGOR BLYNYDDOL: GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2011/2012 pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo blaenoriaethau asesu a gwella’r Cyfarwyddwr ar gyfer 2012/13.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles a oedd yn ceisio cefnogaeth y Cyngor i asesiad a blaenoriaethau gwella’r Cyfarwyddwr ar gyfer 2012 / 2013.

 

Crynhodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes yr asesiad fod Gwasanaethau Sir Ddinbych, yn gyffredinol, wedi parhau i berfformio’n dda ac amlinellodd y prif sialensiau a oedd yn wynebu’r gwasanaeth ac roedd y rheiny’n cynnwys newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru a oedd angen sylw.

 

Cefnogai’r Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant) sylwadau’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes a’r adroddiad a mynegodd ei gobeithion y byddai bylchau mewn darpariaeth yn cael eu cau wrth i Wasanaethau Cymdeithasol a’r GIG weithio’n effeithiol â’i gilydd.

 

Yn ystod y drafodaeth cyfeiriodd Aelodau at:

 

Ø      Y gwasanaethau buddiol a gyflenwir drwy’r cynlluniau tai gofal ychwanegol

Ø      Gwerthfawrogiad o’r gwasanaethau a ddarperir drwy ganolfannau gofal dydd a mynegwyd pryderon ynglŷn â dyfodol ansicr rhai canolfannau yn y Rhyl a Dinbych gan y Cynghorwyr Blakeley, Bartley a Colin Hughes

Ø      Y problemau a brofir gan rai pobl sydd angen help i wybod pa wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol sydd ar gael a sut i’w cyrchu

 

Fe anogwyd Aelodau gan y Cynghorydd Feely i fynd i ddigwyddiad gosod Blaenoriaethau Corfforaethol ar Orffennaf 31, 2012 i sicrhau fod blaenoriaethau’r dyfodol yn adlewyrchu blaenoriaethau cynghorwyr o ran gwasanaethau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cefnogi asesiad a blaenoriaethau gwella’r Cyfarwyddwr ar gyfer 2012 / 2013 fel y’u nodir yn yr adroddiad.

 

 

 

11.

RHAGLEN WAITH Y CYNGOR AT Y DYFODOL pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried Rhaglen Waith y Cyngor at y dyfodol (copi’n amgaeedig).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Flaenraglen Waith y Cyngor (a gylchredwyd yn flaenorol) ac adroddodd yr eitemau canlynol i’w cynnwys ym Medi 2012:

 

Ø      Cyfamod Cymunedol â’r Lluoedd Arfog

Ø      Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl

Ø      Pwyllgor Safonau – Cyfnod Swydd Aelodau Annibynnol

 

PENDERFYNWYD nodi’r flaenraglen waith.