Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
GWEDDI Cyflwynodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd J.R. Bartley y
weddi ar ddechrau’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau a allai ragfarnu unrhyw faterion i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhai a oedd yn
rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol, 1972. Cofnodion: NI chodwyd unrhyw faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel rhai brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. |
|
ADOLYGU CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL AC AELODAETH PWYLLGOR PDF 83 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) ar
adolygiad statudol cydbwysedd gwleidyddol ac ystyried gofynion aelodaeth
pwyllgorau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn
hwyluso adolygiad statudol cydbwysedd gwleidyddol ac yn ystyried gofynion
aelodaeth Pwyllgor, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo’r Cyngor
a’r grwpiau gwleidyddol i ddyrannu seddau ar amrywiol bwyllgorau, yn unol â
darpariaethau statudol cydbwysedd gwleidyddol Deddf Llywodraeth Leol a Thai
1989 a’r Rheoliadau. Yr ymrwymiad statudol yw gweithredu, cyn belled ag y bo’n
ymarferol yn rhesymol, y bedair egwyddor yn y Ddeddf gyda’r nod o osgoi
pwyllgorau un blaid tra'n caniatáu i blaid sydd â mwyafrif gael mwyafrif y
seddau ar y pwyllgor. Roedd manylion Pwyllgorau a Phaneli’r Cyngor, a chyfanswm nifer y
seddau a “oedd ar gael” ac angen eu dosbarthu ar sail cydbwysedd gwleidyddol,
wedi eu cynnwys yn Atodiad 2. Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn
gofyn am sefydlu dau bwyllgor newydd: Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd, Roedd y Mesur hefyd yn pennu sut dylid dyrannu
swyddi Cadeiryddion y Pwyllgor Craffu, yn adlewyrchu sefyllfa o blaid cael
cadeiryddion craffu a oedd, cyn belled ag y bo modd, yn annibynnol o
arweinyddiaeth y Cyngor ac yn gysylltiedig â chydbwysedd gwleidyddol. Roedd crynodeb o’r materion i’r Grwpiau eu hystyried wrth benodi eu
Haelodau i Bwyllgorau wedi ei amlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys:- ·
Ni allai Aelodau’r Cabinet fod yn Aelodau Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol neu’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. ·
Aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd newydd fydd 11
Cynghorydd, ac ni ddylai gynnwys Aelod Cabinet, a chyda’r Pwyllgor yn
wleidyddol gytbwys. ·
Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fydd y Pwyllgor Archwilio newydd,
yn cynnwys 6 Chynghorydd etholedig, a heb gynnwys Aelod Cabinet, ac aelod
lleyg, pob un i’w penodi gan y Cyngor llawn. Aelodaeth i gynnwys Is-gadeirydd y
Cyngor ac ni ddylai Aelodau Llywodraethu Corfforaethol fod yn Aelodau Pwyllgor
Craffu. ·
Y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol i gynnwys 1 Aelod Cabinet, yr Aelod
Cabinet gyda chyfrifoldeb am faterion Adnoddau Dynol fyddai orau. ·
Y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol i gynnwys 8
Cynghorydd, wedi eu penodi gan y grwpiau gwleidyddol, ac 8 cynrychiolydd
undebau llafur. ·
Aelod i’w benodi i’r Panel Maethu a’r Cyd-Banel Mabwysiadu. ·
Aelodau’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Addysg Grefyddol (CYSAAG)
i gynnwys 8 Cynghorydd a chynrychiolwyr o enwadau crefyddol, cymdeithasau athrawon
ac aelodau cyfetholedig. ·
Aelodaeth y Pwyllgor Safonau i gynnwys 2 Gynghorydd Sir. Cyfeiriodd y Cynghorydd J
Butterfield at y gwaith rhagorol a wnaed gan y Cynghorydd J Chamberain-Jones
fel aelod o’r Panel Maethu a’r Cyd-banel Mabwysiadu a chefnogodd ei phenodiad
i’r swydd. Heriodd ddyraniad seddau ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a
gofynnodd bod y ffigurau’n cael eu hadolygu a bod y Grŵp Llafur yn cael 3
sedd a’r Grŵp Annibynnol yn cael 1 sedd ar sail y ffaith mai’r Grŵp
Llafur oedd y Grŵp mwyaf ar y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd D.I. Smith ar ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu, esboniodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod y mater wedi ei drafod
gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd wedi cadarnhau bod Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011 wedi pennu sut i benderfynu ar nifer y Cadeiryddion Pwyllgor
Craffu y gallai’r Grwpiau eu dyrannu, ond nad oedd yn pennu proses ar gyfer
dyrannu Pwyllgorau i Grwpiau. Byddai hyn yn fater i’r Grwpiau gwleidyddol ei
benderfynu ac nid oedd yn fater i’w benderfynu gan y Cyngor. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, cyn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, y byddai angen i’r Aelodau ystyried y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Butterfield, bod y ffigurau a oedd yn ymwneud â dosbarthu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGORAU CRAFFU PDF 93 KB Ystyried adroddiad
gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu / Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) i’r Cyngor
ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2011/12. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd
copi o’r cyd-adroddiad gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
a’r Cydgysylltydd Craffu, a oedd wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn unol â
Chyfansoddion Sir Ddinbych, sef adroddiad blynyddol ar eu gweithgareddau yn
ystod 2011/12, wedi ei gyflwyno gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Esboniodd y Cydgysylltydd Craffu y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn
cynorthwyo gyda chyflwyno gwaith y Pwyllgorau Craffu a’r rôl i’r holl Aelodau
etholedig. Roedd yr adroddiad yn cynnwys canlyniadau’r ymarfer hunanwerthuso a
ymgymerwyd i fesur effeithiolrwydd y swyddogaeth graffu. Y llynedd, roedd yr
hunanwerthusiad wedi nodi rhai meysydd lle’r oedd angen gwaith pellach er mwyn
eu cryfhau. Roedd y meysydd hyn wedi eu gwerthuso eto mewn perthynas â
darganfyddiadau ymarfer eleni ac roedd y casgliad wedi ei gynnwys ar dudalennau
6 a 7 yr Adroddiad Blynyddol. Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi mynegi
pryderon ynglŷn â phroblem cael cworwm yng nghyfarfodydd Pwyllgorau
Craffu. Tra nad oedd tystiolaeth bod hyn wedi amharu ar effeithiolrwydd craffu,
teimlwyd bod posibilirwydd y byddai gwaith craffu a’r broses ddemocrataidd yn
cael eu tanseilio yn y pen draw. O ganlyniad, roedd y Grŵp wedi argymell
bod cofnod presenoldeb pob Aelod unigol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor, ar ddiwedd
blwyddyn ddinesig 2012/13, yn cael ei gofnodi yn yr Adroddiad Blynyddol. Byddai
cofnodion cyfarfod yn nodi ymddiheuriadau a gyflwynwyd, os byddant wedi eu
cyflwyno cyn cynnal y cyfarfod. Roedd strwythur newydd y Pwyllgorau Craffu wedi ei gyflwyno yn
2011/12 gyda phedwar Pwyllgor Craffu gweithredol yn cael eu disodli gan dri
Phwyllgor thematig. Roedd manylion adolygiad o’r strwythur newydd wedi ei
werthuso a’i gynnwys yn yr Adroddiad. Y casgliad cyffredinol, yn amodol ar
ychydig o fân addasiadau, oedd bod y strwythur newydd yn addas i’w bwrpas. Roedd manylion y pwerau a’r dyletswyddau newydd i’w rhoi i
Bwyllgorau Craffu Awdurdod Lleol, ar ôl gweithredu darpariaethau Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai
gwybodaeth bellach ar y darpariaethau, a’r opsiynau a gynigir ganddynt, yn cael
ei chyflwyno i’r Aelodau ar ôl cyhoeddi’r canllaw statudol terfynol. Cyfeiriodd y Cynghorydd H Ll
Jones at benodi Aelodau newydd i’r Cyngor a phwysigrwydd nodi’r newidiadau a’r
gwaith a wnaed gan y swyddogaeth graffu yn ystod flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd
yr angen i sicrhau bod cworwm yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu a
chadarnhawyd y bydd cofnodion presenoldeb yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad
Blynyddol 2012/13. Roedd pamffled ar waith craffu wedi ei gyhoeddi i ysgogi
diddordeb trigolion yn y gwaith craffu a byddai hyn yn cael ei wneud eto i
grynhoi gwaith craffu 2012/13. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at baragraff 4.8
yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r pwerau a’r dyletswyddau newydd a ddaeth i
ran Pwyllgorau Craffu dan ddarpariaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ac
Atodiad 7, y Siart Cyfeirio a Rhyngwneb Craffu, a oedd yn amlinellu rôl a
statws craffu o fewn y Cyngor. Esboniodd y Cynghorydd D I
Smith bod bod yn Aelod o’r Pwyllgor Craffu yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar
agweddau gweithredol y Cyngor Cyfeiriodd at nifer o faterion a ystyriwyd gan y
Pwyllgor Craffu Cymunedau, ac esboniodd ei fod yn falch o’r gwaith a wnaed gan
y Pwyllgor a’r canlyniadau a ddeilliodd. Cyfeiriodd y Cynghorydd R L
Feeley at effeithiolrwydd gwaith craffu a oedd wedi ei gymeradwyo gan Adroddiad
Archwilio Estyn, fel y nodwyd ar dudalen 39 yr Adroddiad Blynyddol. Esboniodd
bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi cysylltu Aelodau’n llwyddiannus â heriau
effeithlonrwydd gwasanaeth a oedd wedi cynorthwyo o ran dosbarthu baich gwaith
a chyfrifoldebau. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r aelodau a’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a’r hunanwerthusiad mewn perthynas â’r broses graffu a phwysleisiodd y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU PDF 120 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi i ddilyn) yn ymwneud â chynllun cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau. Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democraidd, a oedd
yn manylu’r opsiynau i ddyrannu Uwch Gyflogau yn unol ag argymhelliad Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/13, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Yn ei gyfarfod ar 15fed Mai,
2012, ystyriodd y Cyngor adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau a oedd yn
nodi’r darpriaethau yn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol. Dyrannodd y Cyngor 14 Uwch Gyflog a mynegi dymuniad i ystyried
opsiynau mewn perthynas â sut dylid dyrannu’r 3 Uwch Gyflog posibl arall. Rhoddodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democraidd grynodeb o’r adroddiad a oedd yn rhoi
manylion: ·
Talu Uwch Gyflogau. ·
Talu Cyflogau Dinesig i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor. ·
Nifer yr Uwch Gyflogau y caiff y Cyngor eu dyrannu wedi eu cyfyngu i 17. ·
Swyddi a bennwyd gan y Panel i’r rhain y gellid dyrannu Uwch Gyflog. Esboniwyd y caiff y Cyngor, ond
nad oedd yn rhai iddo, ddyrannu 3 Uwch Gyflog arall. Roedd y Cyngor wedi
penderfynu na fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn denu
Uwch Gyflog gan fod y Pwyllgor ond yn debygol o gyfarfod unwaith y flwyddyn. Y
swyddi eraill a oedd ar gael ar gyfer Uwch Gyflog oedd Band 3 – Arweinydd yr
Wrthblaid Fwyaf a Band 4 – Arweinwyr Grwpiau gwleidyddol eraill. Atgoffwyd yr
Aelodau bod 4 Grŵp Gwleidyddol ar y Cyngor, a dim ond 3 Uwch Gyflog a
gaiff eu dyrannu. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democraidd grynodeb o’r 4 opsiwn posibl i’w hystyried gan y
Cyngor, a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â’r costau perthnasol
a’r effaith bosibl ar wasanaethau eraill. Mynegodd y Cynghorydd S A Davies
yr angen i gadw’r lwfansau a chefnogodd yr egwyddor a ymgorfforwyd yn Opsiwn 3,
ac awgrymodd y dylid ystyried opsiynau eraill, megis y posibilrwydd o gynnwys
taliadau i Hyrwyddwyr, ar gyfer y 2 Uwch Gyflog a oedd ar ôl. Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fanylion y Mesur a oedd yn
gofyn i’r Cyngor weithredu argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd yn nodi’r uwch gyflogau y gellid eu talu, fel y
nodwyd yn 4.5 yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorwyr C. Hughes
a G.M. Kensler at benodi Arweinwyr Grwpiau i’r Cabinet, yr amserlen ar gyfer
adolygu cydnabyddiaeth ariannol Aelodau mewn perthynas â chydbwysedd
gwleidyddol a monitro perfformiad
Arweinwyr Grwpiau. Amlygodd y Cynghorydd J.
Thompson-Hill ddau beth y teimlai y dylid eu hystyried, sef elfen cyfiawnhad
dyrannu cyflogau i Arweinwyr Grwpiau ac ystyried sefyllfa lle byddai Arweinydd
Grŵp, sydd hefyd yn Aelod Cabinet, yn hepgor cyflog Aelod Cabinet os yw’n
gadael y swydd. Esboniodd ei fod yn teimlo mai Opsiwn 1 fyddai’r Opsiwn gorau,
a cyfyngu nifer Uwch Gyflogau i 14. Cefnogodd y Cynghorydd T.R.
Hughes Opsiwn 1 gyda’r awgrym y gellid defnyddio’r arian a arbedwyd i ddarparu
bagiau hel baw cŵn, yn hytrach na darparu hyfforddiant ychwanegol i
Aelodau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Councillor E.W. Williams at y costau a oedd yn
gysylltiedig â delio â phroblem baw cŵn ac awgrymodd bod hyn yn cael ei
ystyried ar wahân. Esboniwyd gan y Cynghorydd H.H. Evans mai un o brif broblemau’r Cyngor blaenorol oedd cyfathrebu aneffeithiol rhwng y grŵp gweithredol a’r Aelodau. Teimlai y byddai penodi Arweinwyr Grwpiau ar y Cabinet yn rhoi arweiniad gwleidyddol cryfach a gwella atebolrwydd. Cyfeiriodd at Gyfansoddiad y Cyngor a oedd yn cyfeirio at gyfyngu taliadau i Arweinwyr Grwpiau gyda llai na 5 Aelod, ac awgrymodd y byddai Opsiwn 3 yn cynorthwyo gyda delio â’r broblem trwy ddarparu datblygiad Aelodau y gellid ei ddiffinio ... view the full Cofnodion text for item 6. |