Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Y Cynghorwyr Peter Duffy, Barry Mellor, Bill
Tasker a Cefyn Williams |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol na buddiant a fyddai’n rhagfarnu. |
|
CADEIRYDD I'R CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd i’r Cyngor Sir am y flwyddyn ddinesig 2012/13. Cofnodion: Fe draddododd y
Cadeirydd sy’n ymddeol, y Cynghorydd William Cowie, araith ac ynddi fe
edrychodd yn ôl ar ei amser fel Cadeirydd gan amlygu nifer o ddigwyddiadau’r oedd wedi eu mynychu yn y
deuddeng mis diwethaf. Y digwyddiad a
roddodd y balchder mwyaf iddo oedd rhoi rhyddfraint Sir Ddinbych i’r Ffiwsilwyr
Cymreig. Manteisiodd y Cadeirydd a oedd
yn ymddeol ar y cyfle i ddiolch i’w gyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth ynghyd â’r
Prif Weithredwr a’i staff. Rhoddodd
deyrnged i waith y cyn Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans a’r Cabnet ar eu
cyflawniadau. Rhoddwyd diolch arbennig
i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones, ei Gymar, Denise
Hodgkinson ac Eleri Woolford, Rheolwr
Cymorth a Datblygu Aelodau. Yn olaf
diolchodd i’r tîm cyfieithu am eu gwaith caled. Cyflwynodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol
sieciau am arian a godwyd yn ystod ei amser fel Cadeirydd i’w elusennau dewisol
– Hosbis Sant Cyndeyrn a Chanolfan Ganser Llanelwy a Gogledd Cymru yn Ysbyty
Glan Clwyd. Cyflwynodd roddion hefyd i’w
Gaplan, y Parchedig Val Rowlands, ei Gymar a’r Rheolwr Cymorth a Datblygu
Aelodau i gydnabod eu cefnogaeth yn y deuddeng mis diwethaf. Yma gofynnodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol am
enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir yn 2012/13. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i’w hethol yn Gadeirydd gan amlinellu’r
priodweddau personol a’r profiad y byddai’n eu dwyn i’r swydd. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Raymond
Bartley gan ychwanegu y byddai’n llysgennad ardderchog i Sir Ddinbych. Gan na chafwyd unrhyw enwebiadau pellach ac
yn dilyn pleidlais gudd cafodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones ei
hethol yn unfrydol yn Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn ddinesig 2012/13. Mynegodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol ei
ddymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol i’r Cadeirydd a oedd yn ei olynu ac fe’i
hurddodd â Chadwyn Swydd y Cadeirydd ac yna fe gwblhaodd hithau ei Datganiad yn
Derbyn y Swydd. Fe urddodd Cymar y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol Gymar y Cadeirydd newydd â Chadwyn y Swydd. Rhoddodd y Cadeirydd a oedd yn olynu deyrnged
i’r gwaith a wnaethpwyd gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, ac fe’i cyflwynodd â
bathodyn y Cyn-gadeirydd, plac ac anrheg ar ran y Cyngor. Fe enwodd y Cadeirydd a oedd yn dod i mewn y
Canon John Glover yn Gaplan iddi am y flwyddyn a dywedodd beth oedd ei
helusennau dewisol – Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy; Vision Support, a Bad
Achub y Rhyl. I gloi rhoddodd ei
llongyfarchion i’r cynghorwyr a oedd yn dychwelyd a’r cynghorwyr newydd ar eu llwyddiant
yn yr etholiadau diweddar gan ddweud ei bod yn edrych ymlaen at weithio efo nhw
i gyd yn ystod y flwyddyn i ddod. |
|
IS-GADEIRYDD I'R CYNGOR SIR Penodi Is-Gadeirydd i’r Cyngor Sir am y flwyddyn ddinesig 2012/13. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer
penodi Is-gadeirydd. Cynigiodd y
Cynghorydd Hugh Evans bod y Cynghorydd Raymond Bartley yn cael ei ethol yn
Is-gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn ddinesig 2012/13. Cyfeiriodd at brofiad eang y Cynghorydd
Bartley a’i waith diflino yn y gymuned.
Fe eiliwyd yr enwebiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gan
ychwanegu y byddai’n llysgennad ardderchog i Sir Ddinbych. Gan na chafwyd unrhyw enwebiadau pellach ac
yn dilyn pleidlais gudd, cafodd y Cynghorydd Raymond Bartley ei enwebu’n
unfrydol yn Is-gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn ddinesig 2012/13. Fe urddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bartley â
Chadwyn Swydd yr Is-gadeirydd ac yna fe gwblhaodd ei Ddatganiad yn Derbyn y
Swydd. Yma rhoddodd Arweinyddion Grwpiau deyrnged i
waith y Cadeirydd a oedd yn ymddeol yn y deuddeng mis diwethaf a llongyfarchion
i’r Cynghorwyr Chamberlain-Jones a Bartley ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac
Is-gadeirydd yn ôl eu trefn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100(B)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
ETHOL ARWEINYDD Y CYNGOR SIR I ystyried enwebiadau ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor Sir. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod un enwebiad wedi ei
dderbyn ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac fe eiliodd y Cynghorydd Eryl
Williams y Cynghorydd Hugh Evans i’w
ethol yn Arweinydd y Cyngor. Cyfeiriodd
y ddau at y Cynghorydd Evans fel Arweinydd eithriadol gan amlygu ei
gyflawniadau yn ystod y weinyddiaeth flaenorol a’u hyder y byddai’n arwain yr
awdurdod i lwyddiant pellach. Diolchodd y Cynghorydd Evans i’w gyd-gynghorwyr
am ei gynnig yn Arweinydd gan ddweud y byddai’n gweithio i barhau i wella ac
ymgyrraedd tuag at ragoriaeth drwy arloesi a chymhwysiad ymarferol cyflenwad
gwasanaeth. Fe adlewyrchodd ar waith yr
awdurdod yn y blynyddoedd diwethaf ac amlygu ei lwyddiannau mewn meysydd fel
addysg, priffyrdd ac ailgylchu. Wrtho
fynegi ei weledigaeth ar gyfer yr awdurdod yn y dyfodol, dywedodd y Cynghorydd
Evans fod yna le i wella er bod Sir Ddinbych wedi mwynhau cymaint o lwyddiant
yn y blynyddoedd diwethaf. Fe
ymhelaethodd ar y tri maes cyfrifoldeb allweddol i ganolbwyntio arnyn nhw yn y
dyfodol ynghyd â nifer o gynigion i sicrhau’r gwelliant hwnnw o ran – (1)
Ymrwymiad
a Dealltwriaeth Rhanbarthol a Chenedlaethol (2)
Ffyrdd
Mewnol o Weithio (3)
Disgwyliadau’r
Gymuned – dod yn nes at ein cymunedau Fe glodd y Cynghorydd Evans ei gyflwyniad drwy
ddweud y byddai’r awdurdod yn wynebu llawer o sialensiau ond roedd mewn
sefyllfa dda i ddelio â’r sialensiau hynny a chynnal safle’r Cyngor fel
awdurdod sy’n perfformio’n dda. Wrth
derfynu ei anerchiad rhoddodd y Cynghorydd Evans beth gwybodaeth gefndir
bersonol yn amlygu ei gysylltiadau cryf â Sir Ddinbych a cheisiodd gefnogaeth
aelodau i’w etholiad yn Arweinydd. Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor cynhaliwyd
pleidlais gudd ac fe etholwyd y Cynghorydd Hugh Evans yn unfrydol yn Arweinydd
y Cyngor. Diolchodd yr Arweinydd i’r
aelodau am eu cefnogaeth gan ddweud y byddai’n gweithio’n galed iawn ar eu
rhan. |
|
I dderbyn cofnodion o’r cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ddinbych: i) Cyfarfod a gynhaliwyd ar y 28 Chwefror 2012 (copi’n amgaeëdig) ii) Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar y 27 Mawrth 2012 (copi’n amgaeëdig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar Chwefror 28, 2012. Materion yn Codi – Tudalen 8 - Eitem
Rhif 9 Hysbysiad o Gynnig - roedd Aelodau wedi gofyn yn flaenorol am geisio
cefnogaeth Aelodau’r Cynulliad i ddarpariaeth dai’r Cyngor fel y’i nodir o fewn
y Cynllun Datblygu Lleol a mynegodd y Cynghorydd Eryl Williams ei bryder
ynglŷn â’r oedi gyda chael ymateb i’r mater pwysig hwn. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd i ganfod a gafwyd cefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad ac fe
ymddiheurodd am yr oedi ynglŷn â hynny.
Gofynnodd y Cynghorydd Williams am ymateb erbyn diwedd yr wythnos. Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor
a gynhaliwyd ar Fawrth 27, 2012. Materion yn Codi
- Tudalen 18 – Eitem Rhif 6 Cyfeiriodd y Cynghorydd
Meirick Davies at gyfeiriad yn y penderfyniad i gytuno ar opsiwn a oedd wedi ei
osod allan yn yr adroddiad a theimlai na fyddai’r wybodaeth ar gael yn rhwydd
gan ei bod wedi ei chynnwys mewn dogfen ar wahân. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd fod cyfeirio dogfennau a oedd ar gael yn rhwydd yn digwydd yn
arferfol gan fod y cofnodion ar wefan y Cyngor. Tudalen 19 – Eitem Rhif 7 Cynllun Cyfalaf
2011/12 – 2014/15 – O ran ei sylwadau blaenorol ynglŷn â chaffael eiddo ar
Bromenâd y Rhyl, roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn cefnogi’r angen i
ddymchwel yr adeilad dan sylw oherwydd ei stad adfeiliedig ond rhybuddiodd fod
yn rhaid i’r Cyngor sicrhau y byddai unrhyw adeilad yn ei le’n cydweddu â’r
ardal gadwraeth o’i gwmpas. Tudalen 15 – Eitem Rhif 5 Adolygiad o’r
Cyfansoddiad – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley cadarnhaodd
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddid yn gwneud gwaith i
ymhelaethu ar ddisgrifiadau swydd Pencampwyr o fewn cyfansoddiad y Cyngor. PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar Chwefror 28 2012
a Mawrth 27 2012 yn gofnod cywir a’u harwyddo gan y Cadeirydd. |
|
MESUR LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) 2011 PDF 92 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor yn sgîl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n cynnwys creu Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a threfniadau ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd (P:GC&D) ei adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol)
ynglŷn â newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a oedd yn ofynnol yn ôl
darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys sefydlu Pwyllgor
Archwilio, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a threfniadau i benodi
Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Esboniodd y P:GC&D fod yr adroddiad yn
delio â nifer o ddarpariaethau gorfodol i aelodau eu hystyried ac roedd yna
ddisgwyliad y byddid yn eu gweithredu yng nghyfarfod y Cyngor Blynyddol. Fe ystyriwyd y canllawiau statudol drafft
lle’r oedd yn gyson â’r Mesur. Ond, os
oedd y canllawiau drafft yn sylweddol wahanol i’r drafft mae’n bosib y byddai
angen adolygiad pellach. Fe ymhelaethodd
y P:GC&D ar adrannau perthnasol y Mesur a’r oblygiadau i’r Cyngor o
ymgymryd â’r gofynion gorfodol hynny yr oedd angen eu hadlewyrchu yng
nghyfansoddiad y Cyngor. Yn ystod
cyflwyniad yr adroddiad fe fanteisiodd aelodau ar y cyfle i godi cwestiynau ac
egluro materion arbennig efo’r P:GC&D a’r cyfreithlondebau sy’n ymwneud â
gweithredu’r darpariaethau statudol. Fe
ystyriwyd pob un o’r materion canlynol yn eu tro - Sefydlu Pwyllgor Archwilio Fe ystyriodd y Cyngor enw, maint a chyfansoddiad y pwyllgor a’i delerau gorchwyl. Nododd Aelodau fod swyddogaethau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol presennol yn debyg iawn i’r rheiny a oedd yn ofynnol gan y Mesur ar gyfer Pwyllgor Archwilio. O ystyried hynny ac effeithiolrwydd y pwyllgor presennol, ac er mwyn effeithlonrwydd fe gytunwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol barhau (gan ymgymryd â’r swyddogaethau sy’n ofynnol gan y Mesur) a’i fod yn cael ei ddynodi’n Bwyllgor Archwilio i’r diben hwnnw. Yn unol â’r rheol gyffredinol mewn cyfraith llywodraeth leol fe gytunodd y Cyngor â’r argymhelliad i’r pwyllgor fod â chydbwysedd gwleidyddol. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i gynyddu maint y pwyllgor a ymddangosai’n fychan o’i gymharu â’r Cyngor llawn, efallai hyd at un ar ddeg o aelodau’n unol ag aelodaeth pwyllgorau craffu. Fodd bynnag, y consensws oedd y byddai’r aelodaeth bresennol o chwech o gynghorwyr yn ddigonol i ymgymryd â’r dyletswyddau sy’n ofynnol yn y Mesur ynghyd â’r aelod lleyg annibynnol gorfodol. Cefnogai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill ymarfer disgresiwn i gynnwys Aelod Arweiniol perthnasol y Cabinet fel aelod wrth ystyried y swyddogaethau gofynnol sydd wedi eu nodi yn y Mesur. Fe ystyriodd y Cyngor rinweddau’r cynnig hwnnw ond yn gyffredinol, er mwyn bod yn gwbl annibynnol, ni ddylai’r pwyllgor gynnwys unrhyw aelodau craffu nac aelodau cabinet o fewn ei aelodaeth. Mewn ymateb i gwestiynau fe nododd y P:GC&D y broses recriwtio ar gyfer yr aelod lleyg a chadarnhaodd y dylai’r aelod lleyg fod yn annibynnol ar y Cyngor heb unrhyw deyrngarwch gwleidyddol hysbys ac ni ddylai fod yn gyn Gynghorydd na Swyddog y Cyngor. Roedd Aelodau’n gefnogol o aelod lleyg annibynnol ar y pwyllgor ac o ystyried y penderfyniad i ddynodi’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn Bwyllgor Archwilio i ddibenion y Mesur cafwyd peth trafodaeth ynglŷn ag a ddylai aelod lleyg gael hawliau pleidleisio ar swyddogaethau eraill y bydd y pwyllgor yn ymgymryd â nhw ac a oedd y tu allan i’r rheiny sy’n ofynnol gan y Mesur. Roedd y Cynghorydd Alice Jones yn dadlau’n arbennig o blaid hawliau pleidleisio llawn gan y teimlai y byddai’n ymrannol pe na fyddai gan yr aelod lleyg statws cyfartal ag aelodau eraill y pwyllgor. Fod bynnag, barn y mwyafrif oedd y dylid cyfyngu ar hawliau pleidleisio’r aelod lleyg i’r swyddogaethau hynny a nodwyd yn y Mesur a bod materion eraill i’w neilltuo ar gyfer y cynghorwyr hynny a etholwyd i’r safle hwnnw. Fe eglurodd y P:GC&D y safle cyfreithiol o ran hawliau pleidleisio gan ddweud y gall holl aelodau’r Pwyllgor Archwilio, yn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER AELODAU PDF 148 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Aelodau ac i awdurdodi cynllun cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2012 / 13. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (P:GC&D) adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth aelodau i lefel cydnabyddiaeth
ariannol aelodau am y flwyddyn ariannol 2012/13 yn dilyn argymhellion Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran y symiau sydd i’w talu fel
Cyflog Sylfaenol, Cyflogau Uwch-swyddogion a Chyflogau Dinesig. Hysbyswyd Aelodau
fod yn rhaid i’r Cyngor weithredu gofynion y Panel dan S153 Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011. Yn unol â hynny mae’n
rhaid i’r Cyngor dalu Cyflog Sylfaenol i bob aelod a gall dalu Cyflogau
Uwch-swyddogion a Chyflogau Dinesig i’r swyddi a nodwyd a’r symiau a bennwyd
gan y Panel. Roedd uchafrif o ddau ar
hugain o Gyflogau Uwch-swyddogion wedi eu pennu ar gyfer Sir Ddinbych. Roedd manylion y Cyflogau Sylfaenol, Uwch a
Dinesig wedi eu nodi yn yr adroddiad ynghyd â phedair ar ddeg o swyddi a
fyddai’n gymwys ar gyfer Cyflog Uwch.
Byddai cymhwysedd unrhyw swyddi eraill ar gyfer Cyflog Uwch yn dibynnu
ar benodiad aelodau’r pedair swydd ar ddeg a oedd wedi eu nodi. Wrth dywys aelodau drwy’r adroddiad fe
amlygodd y P:GC&D y canlynol - ·
y ffioedd
y mae’n rhaid i’r Cyngor eu talu i aelodau cyfetholedig ·
y taliadau uchaf sy’n daladwy am ofal plant
neu ddibynyddion tra bod aelodau/aelodau cyfetholedig yn ymgymryd â’u
dyletswyddau ·
treuliau
teithio a chynhaliaeth sy’n daladwy ·
yr angen i
gynnal a chyhoeddi rhestr flynyddol o gydnabyddiaeth i aelodau ac i gyhoeddi’r
cyfanswm a delir i bob aelod/aelod cyfetholedig. Yn ystod yr
ystyriaeth o’r adroddiad fe geisiodd aelodau eglurhad ar nifer o faterion ac
ymateb y P:GC&D i gwestiynau aelodau oedd - ·
yn ôl S153
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 roedd gweithredu gofynion y Panel yn
orfodol ·
os na
fyddai’r Cyngor yn gweithredu gofynion y Panel roedd gan y Gweinidogion Cymreig
rym i gyfarwyddo’r Cyngor i gydymffurfio â’r gofynion a gallent orfodi
cyfarwyddyd felly drwy wneud cais am orchymyn gorfodi ·
mae’n rhaid i bob cynghorydd dderbyn Cyflog
Sylfaenol ac mae’r Cyngor â disgresiwn i
ddyfarnu hyd at ddau ar bymtheg o Gyflogau Uwch-swyddogion a dau Gyflog Dinesig
sy’n rhaid eu dyrannu’n unol ag argymhellion y Panel fel y’u nodir yn yr
adroddiad ·
gellid
talu costau gweithredu argymhellion y Panel o gyllidebau presennol ·
cadarnhau fod y Cyngor yn flaenorol wedi talu
Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig i ddeunaw o swyddi ond yng ngoleuni argymhellion
y Panel dim ond i ddwy ar bymtheg o swyddi y gellir talu Cyflogau
Uwch-swyddogion. Roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn croesawu’r ffaith fod y Panel yn gosod cyfraddau penodedig gan y teimlai fod y Cyngorwyr wedi bod mewn sefyllfa anodd yn pennu eu lwfansau eu hunain. Nododd y Cyngor y gofyniad statudol i fabwysiadu argymhellion y Panel ac fe ystyriodd ymhellach ddyraniad y swyddi a fyddai’n denu Swyddogion Cyflogau Uwch yn Sir Ddinbych. Mynegwyd safbwyntiau cymysg ynglŷn ag a ddylid talu’r ddau ar bymtheg o Gyflogau Uwch-swyddogion yn llawn gyda rhai aelodau o blaid talu dim ond y pedair ar ddeg o swyddi a ddynodwyd ac eraill yn amlygu’r gwaith ychwanegol a wneir gan rai aelodau ac a allai gyfiawnhau mwy o gydnabyddiaeth. Yn ystod dadl cytunodd aelodau y dylid talu Cyflogau Uwch-Swyddogion i’r pedair swydd ar ddeg a oedd wedi eu dynodi yn yr adroddiad ynghyd â dau Gyflog Dinesig ond teimlwyd nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth ar hyn o bryd i wneud penderfyniad cwbl wybodus ynglŷn ag a ddylid dyrannu’r tri Chyflog Uwch-swyddogion a oedd ar ôl. Fe amlygwyd hefyd yr angen i roi cyfle i aelodau ymgynghori o fewn eu grwpiau ac i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol swyddi efo’r cynghorwyr a oedd newydd eu hethol, ynghyd â’r angen ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH Y CYNGOR AT Y DYFODOL PDF 51 KB I ystyried Rhaglen Waith y Cyngor at y dyfodol (copi’n amgaeëdig) Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Flaenraglen Waith y cyngor gan
ddweud fod eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod y Cyngor yr wythnos nesaf yn
cynnwys adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ac adroddiad blynyddol y
pwyllgorau craffu. Gofynnodd y
Cynghorydd David Smith am i’r adroddiad ar gydbwysedd gwleidyddol fod ar gael i
Arweinwyr Grwpiau cyn y cyfarfod. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill dywedodd y P:GC&D y byddai nifer y Cadeiryddion Craffu a oedd
ar gael i grwpiau arbennig yn hysbys unwaith y byddai dyraniad seddi pwyllgor a
oedd yn wleidyddol gytbwys wedi ei gadarnhau.
Yna gellid penodi’r Cadeiryddion gan y grwpiau arbennig hynny. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Rhys Hughes at yr eitem ar gyfer y Cyngor ar Orffennaf 10 a oedd yn
delio â’r canllawiau cynllunio atodol ar y cyd ar Safle Treftadaeth y Byd
Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Gan fod aelod newydd wedi ei ethol ar gyfer ward Llangollen, gofynnodd y
Cynghorydd Hughes am ohirio’r eitem er mwyn rhoi cyfle i aelodau newydd gael eu
briffio’n llawn ar y mater cyn ystyriaeth ffurfiol. Cytunai’r Cynghorydd Stuart Davies gan ddweud
ei fod wedi gofyn am i’r ystyriaeth o’r mater gael ei gohirio oddi ar agenda’r
Pwyllgor cynllunio nes y byddai aelodau’n gwbl ymwybodol o’r sefyllfa. Yn olaf,
cyflwynodd y Cynghorydd Alice Jones ei hymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod y
Cyngor yr wythnos nesaf oherwydd y byddai’n mynychu gwrandawiadau’r Cynllun
Datblygu Lleol a mynegodd ei siomedigaeth ynglŷn â’r gwrthdaro cyfarfodydd
a theimlai y gellid bod wedi osgoi hynny gyda chynllunio gwell. Wrth gydymdeimlo â’i sefyllfa cytunai’r
Cadeirydd fod y gwrthdaro cyfarfodydd yn anffodus. PENDERFYNWYD, yn amodol
ar sylwadau’r aelodau uchod, derbyn a nodi Blaenraglen Waith y Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am |