Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau
am absenoldeb. |
|
DATGANIADAU BUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau
sy’n rhagfarnu unrhyw eitemau a nodwyd fel rhai
i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod
y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2012 (copi’n amgaeëdig). |
|
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL PDF 111 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi’n amgaeëdig) sy’n amlinellu ymateb y Cyngor i Adroddiad Gwella
Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Y DRETH GYNGOR 2012/13 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 138 KB Ystyried adroddiad
gan y Prif Swyddog Cyllid (copi’n amgaeëdig) i ystyried y praespetau
a dderbynnir gan Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a’r
Cynghorau Tref / Gymuned a datgan lefelau’r Dreth Gyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2012 /
2013.
Dogfennau ychwanegol: |
|
ARGYMHELLION Y GRWP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 103 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi i ddilyn)
sy’n cynnwys gwybodaeth yn yr adroddiad ac mewn atodiad cyfrinachol ar y bidiau cyfalaf a dderbyniwyd i’w cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf y Cyngor 2012/13.
Dogfennau ychwanegol:
|
|
ADOLYGU'R SYSTEM GRAFFU NEWYDD PDF 183 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi’n amgaeëdig) sy’n amlinellu casgliadau adolygiad o’r system graffu newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym
mis Mai 2011.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Egwyl Gysur |
|
ADOLYGU’R CYFANSODDIAD PDF 109 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeëdig) yn hysbysu’r Aelodau
o ganlyniad y broses ymgynghori
hyd yma a meysydd lle’r awgrymir
newid i Gyfansoddiad
y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) sy’n dangos sut
bydd y Cyngor yn rheoli ei
fuddsoddiadau a’i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod a gofyn
am gymeradwyaeth i bolisïau o fewn y rhain y mae
swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys yn gweithredu.
Dogfennau ychwanegol: |
|
AMSERLEN CYFARFODYDD Y CYNGOR A'R PWYLLGORAU AR GYFER 2012/13 PDF 214 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi i ddilyn) i’r
Cyngor Sir gymeradwyo’r
amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2012 / 2013 fel y manylir yn
atodiad 1 i’r adroddiad.
|
|
Rhybudd o Gynnig Ystyried y Cynnig
canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley: "Bod
y Cyngor yn cydnabod gyda phryder
y ffaith bod Arolygydd y Cynllun Datblygu Lleol wedi dod
i gasgliad rhagarweiniol bod y Cyngor Sir wedi gwneud darpariaeth annigonol ar gyfer
tai. Bod y Cyngor hwn
yn dymuno atgoffa aelodau’r Cabinet a’r swyddogion o gwmpas yr awdurdod a ddirprwywyd iddynt a chydnabod mai mater i’r Cyngor llawn
yw penderfynu ar unrhyw newidiadau
i gynlluniau a newidiadau sy’n cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol. Bod y Cyngor hwn yn dymuno hysbysu’r
Arolygydd bod angen hysbysu holl
Aelodau’r Cyngor o unrhyw newid i
bolisi, cynigion neu strategaeth a drafodir gan y swyddogion, mewn cyfarfodydd esbonio, ar ran Cyngor Sir Ddinbych, eu bod
yn faterion sydd angen yn
gyntaf eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn." |
|
RHAGLEN WAITH Y CYNGOR I'R DYFODOL PDF 80 KB Ystyried rhaglen waith
y Cyngor i’r dyfodol (copi’n amgaeëdig). |