Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Hugh Irving, Anton Sampson ac Elfed Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Holodd y Cynghorydd Rhys Thomas a ddylai ddatgan cysylltiad oherwydd ei rôl fel cyfarwyddwr ar fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Dywedodd y Swyddog Monitro y dylai’r Cynghorydd Thomas ddatgan cysylltiad ond nad oedd y cysylltiad hwnnw’n cael ei ystyried yn un sy’n rhagfarnu oherwydd iddo gael ei benodi i’r bwrdd gan y Cyngor, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Caniatawyd i Gynghorydd a oedd wedi datgan cysylltiad personol yn unig gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater. Datganodd y Cynghorydd Thomas gysylltiad personol ag eitem rhif 3 ar y rhaglen ‘Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig’ oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr ar fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Datganodd y Cynghorwyr Paul Keddie a Diane King gysylltiad personol ag eitem rhif 3 ar y rhaglen ‘Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig’ oherwydd yr oeddent yn arfer bod yn gyfarwyddwyr ar fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem rhif 3 ar y rhaglen, ‘Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig’ oherwydd yr oedd yn arfer bod yn gyfarwyddwr ar fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Datganodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Peter Scott gysylltiad personol ag eitem rhif 3 ar y rhaglen, ‘Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig’ oherwydd bod aelodau o’u teuluoedd yn cael eu cyflogi gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Crynhodd y Swyddog Monitro’r rhesymau dros argymell
gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’u bod yn ystyried eitem rhif 3 ar
y rhaglen, ‘Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig’. Ystyriodd y Swyddog Monitro bod y
budd i’r cyhoedd o ran trin y wybodaeth yn eithriedig, a oedd yn cynnwys
gwybodaeth fusnes ac ariannol sensitif yn ymwneud â Hamdden Sir Ddinbych yn
ogystal â gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion, yn drech na’r budd i’r cyhoedd
o gynnal y drafodaeth yn gyhoeddus. Cynigodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis fod yr eitem yn cael ei hystyried mewn sesiwn agored ac ar ôl sicrhau cefnogaeth dros un rhan o chwech o’r aelodau a oedd yn bresennol, cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi ynghylch gwahardd y wasg a’r cyhoedd. O blaid gwahardd y wasg a’r cyhoedd: Y Cynghorwyr Butterfield, Chamberlain-Jones, Pauline Edwards, Chris Evans, Hugh Evans, Feeley, Heaton, Hilditch-Roberts, James, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Metri, Roberts, Scott, Thomas, Tomlin a Cheryl Williams. Yn erbyn gwahardd y wasg a’r cyhoedd: Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Chard, Davies, Ellis, Elson, Justine Evans, Harland, Hughes, Brian Jones, Delyth Jones, Mendies, Parry, Price, Sandilands, Huw Williams, Wynne ac Young. Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio: Y Cynghorwyr Karen Edwards, Hogg a Holliday. PENDERFYNWYD o dan Adran 100A
Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12, 13 a 14 Rhan 4
Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
HAMDDEN SIR DDINBYCH CYF Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yr adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar strwythur amgen ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Adolygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yr heriau ariannol sylweddol yr oedd y Cyngor wedi eu hwynebu yn 2019 a oedd wedi’i arwain i adolygu’r ffordd yr oedd gweithgareddau hamdden yn cael eu darparu, gan arwain at greu cwmni cyfyngedig drwy warant o’r enw Hamdden Sir Dinbych Cyfyngedig a oedd wedi bod yn masnachu ers 2020 ac mae'n eiddo llwyr i'r Cyngor. Dywedodd wrth yr aelodau bod y Cyngor wedi cyflawni ei amcanion yn cynnwys sicrhau twf a chynaliadwyedd o fewn y gwasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol o safon yr oedd HSDd yn eu darparu ar gyfer y Cyngor heb unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor. Cynghorwyd y Cyngor bod HSDd wedi ysgwyddo’r costau rhedeg cynyddol a achosir gan chwyddiant a dyfarniadau cyflog ers 2020 ac nid oedd wedi ceisio nac wedi derbyn unrhyw gynnydd mewn cyllid gan y Cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae HSDd wedi cyflawni hyn drwy dyfu rhannau penodol o’i fusnes mewn modd masnachol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes sut y byddai’r strwythur newydd arfaethedig ar gyfer HSDd yn gweithio, drwy greu cwmni newydd a fyddai wedi’i gyfyngu gan gyfranddaliadau sy’n eiddo i’r Cyngor drwy HSDd. Byddai busnes HSDd yn cael ei drosglwyddo i gwmni newydd a’r cyfranddaliadau yn y cwmni newydd wedi hynny’n cael eu trosglwyddo i bryniant rheolwr wedi’i ariannu gan gronfa ecwiti preifat. Byddai’r cwmni newydd yn cadw’r contract am wasanaethau gyda’r Cyngor. Byddai'r Cyngor yn derbyn un taliad am y cyfranddaliadau yn y cwmni newydd. Yn ogystal, byddai'r contract a roddir i'r cwmni newydd yn darparu’r un gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd am yr un gost ym mlwyddyn 1 â'r contract presennol gyda gofyniad i'r gost flynyddol honno leihau canran sefydlog ym mhob blwyddyn ddilynol. Hysbyswyd yr aelodau bod effaith ar staff yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor. Byddai staff yn gweithio i HSDd ar adeg y trosglwyddiad yn trosglwyddo i’r cwmni newydd ar eu telerau a’u hamodau presennol yn cynnwys eu haelodaeth o’r cynllun pensiwn llywodraeth leol. Fe allai staff newydd a gyflogir ar ôl trosglwyddo gael eu cyflogi ar delerau ac amodau gwahanol, ar yr amod nad ydynt yn ‘llai ffafriol’. Ni fyddai’n rhaid i’r cwmni newydd gynnig aelodaeth i’r cynllun pensiwn llywodraeth leol ar gyfer staff newydd ond byddai’n rhaid iddo gynnig trefniadau pensiwn addas yn unol â deddfwriaethau pensiynau. Nododd yr aelodau y byddai’r Cyngor yn cadw perchnogaeth rhydd-ddaliad o’r holl gyfleusterau a weithredir gan HSDd ar hyn o bryd. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes at wybodaeth yn yr adroddiad am y dewisiadau ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer darparu swyddogaethau hamdden, ac i’r darpariaethau i’w cynnwys mewn contract diwygiedig ar gyfer gwasanaethau hamdden. Nodwyd nad oedd y rhestr o ddarpariaethau’n gyflawn ac y byddai’n cynnwys elfennau eraill megis defnydd o gyfleusterau’r cwmni arfaethedig at ddibenion etholiad. Adroddodd y Pennaeth Cyllid (y Swyddog Adran 151 hefyd) ynghylch canlyniadau gwiriadau’r Cyngor ar y cwmni ecwiti preifat a oedd wedi cael statws risg isel. Fel Cadeirydd Bwrdd HSDd, dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas wrth yr aelodau ei fod wedi bod yn amheus o’r cynlluniau i greu HSDd 5 mlynedd yn ôl, ond ei fod bellach yn ei ystyried fel y dewis cywir ac roedd wedi gweld HSDd yn datblygu’n gwmni llwyddiannus iawn. Y broblem yn awr oedd bod HSDd wedi tyfu’n rhy fawr i’w strwythur presennol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at e-byst staff HSDd a oedd yn cefnogi’r strwythur newydd arfaethedig a dangoswyd clipiau fideo ... view the full Cofnodion text for item 3. |